Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 10

Beth Sy’n Fy Stopio i Rhag Cael Fy Medyddio?

Beth Sy’n Fy Stopio i Rhag Cael Fy Medyddio?

“Aeth gyda Philip i lawr i’r dŵr, a dyma Philip yn ei fedyddio yn y fan a’r lle.”—ACT. 8:38.

CÂN 52 Ymgysegru yn Gristion

CIPOLWG *

1. Beth a gollodd Adda ac Efa, a beth oedd y canlyniad?

PWY wyt ti’n meddwl a ddylai osod y safonau ynglŷn â beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg? Pan wnaeth Adda ac Efa fwyta’r ffrwyth o goeden gwybodaeth da a drwg, anfonon nhw neges glir iawn: Doedden nhw ddim yn ymddiried yn Jehofa nac yn ei safonau. Dewison nhw sefydlu eu safonau eu hunain ynglŷn â beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. (Gen. 3:22) Ond meddylia am yr hyn a gollon nhw. Collon nhw eu cyfeillgarwch â Jehofa. Hefyd, collon nhw’r cyfle i fyw am byth, a gwnaethon nhw drosglwyddo pechod a marwolaeth i’w plant. (Rhuf. 5:12) Arweiniodd penderfyniad Adda ac Efa at anhapusrwydd.

Ar ôl iddo dderbyn Iesu, roedd yr eunuch o Ethiopia eisiau cael ei fedyddio ar unwaith (Gweler paragraffau 2-3)

2-3. (a) Sut gwnaeth yr eunuch o Ethiopia ymateb pan wnaeth Philip bregethu iddo? (b) Pa fendithion sy’n dod pan ydyn ni’n cael ein bedyddio, a pha gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried?

2 Meddylia am y gwahaniaeth rhwng y ffordd gwnaeth Adda ac Efa ymddwyn a’r ffordd gwnaeth yr eunuch o Ethiopia ymateb pan wnaeth Philip bregethu iddo. Roedd yr eunuch yn gwerthfawrogi cymaint roedd Jehofa ac Iesu wedi ei wneud ar ei gyfer fel y cafodd ei fedyddio’n syth. (Act. 8:34-38) Pan ydyn ni’n ein cysegru ein hunain i Dduw, ac yn cael ein bedyddio, fel y gwnaeth yr eunuch, rydyn ni’n anfon neges glir. Dangoswn ein bod ni’n gwerthfawrogi beth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droson ni. Dangoswn hefyd ein bod ni’n ymddiried yn Jehofa ac yn cydnabod mai ef yw’r un a ddylai osod y safonau ynglŷn â’r hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.

3 Meddylia am y bendithion rydyn ni’n eu cael pan ydyn ni’n gwasanaethu Jehofa! Un fendith yw bod gennyn ni’r gobaith o gael popeth a gollodd Adda ac Efa yn ôl, gan gynnwys y cyfle i fyw am byth. Oherwydd ein ffydd yn Iesu Grist, mae Jehofa yn maddau ein camgymeriadau inni ac yn rhoi cydwybod lân inni. (Math. 20:28; Act. 10:43) Rydyn ni hefyd yn dod yn un o weision cymeradwy Jehofa â dyfodol disglair o’n blaenau. (Ioan 10:14-16; Rhuf. 8:20, 21) Ond er gwaethaf y bendithion hynny, mae rhai sydd wedi dod i adnabod Jehofa yn dal yn ôl rhag dilyn esiampl yr eunuch o Ethiopia. Beth efallai sy’n eu stopio nhw rhag cael eu bedyddio? A sut gallan nhw drechu’r heriau hyn?

HERIAU SY’N STOPIO RHAI RHAG CAEL EU BEDYDDIO

Heriau y mae rhai yn eu hwynebu cyn penderfynu cael eu bedyddio

Diffyg Hyder (Gweler paragraffau 4-5) *

4-5. Pa heriau a wynebodd dyn ifanc o’r enw Avery a dynes ifanc o’r enw Hannah?

4 Diffyg hyder. Mae rhieni Avery yn Dystion Jehofa. Mae gan ei dad enw da am fod yn dad cariadus a henuriad effeithiol. Ond, gwnaeth Avery ddal yn ôl rhag cael ei fedyddio. Pam? “Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i fod mor dda â ’nhad,” meddai. Hefyd, doedd Avery ddim yn hyderus y byddai’n gallu ysgwyddo cyfrifoldebau a allai ddod iddo yn y dyfodol. “Oeddwn i’n poeni y byddai rhywun yn gofyn imi weddïo’n gyhoeddus, i roi anerchiadau, neu i arwain grŵp yn y weinidogaeth.”

5 Roedd Hannah, 18 oed, yn dioddef yn enbyd o ddiffyg hyder. Cafodd hi ei magu gan rieni sy’n gwasanaethu Jehofa. Er hynny, roedd hi’n amau nad oedd hi’n gallu byw yn ôl safonau Jehofa. Pam? Roedd gan Hannah ddiffyg hunan-werth. Ar adegau, roedd hi’n teimlo mor ddrwg fel y byddai hi’n ei niweidio ei hun yn fwriadol, rhywbeth a oedd ond yn achosi iddi deimlo’n waeth. “Soniais i ddim byd wrth neb am beth wnes i, hyd yn oed fy rhieni,” meddai hi, “ac oeddwn i’n dychmygu na fyddai Jehofa byth eisiau imi fod yn un o’i weision oherwydd beth oeddwn i’n ei wneud i fi fy hun.”

Dylanwad Ffrindiau (Gweler paragraff 6) *

6. Beth oedd yn dal Vanessa yn ôl rhag cael ei bedyddio?

6 Dylanwad ffrindiau. Mae Vanessa, 22 oed, yn dweud: “Roedd gen i ffrind da iawn, rhywun roeddwn i wedi ei adnabod am ddegawd bron.” Ond, doedd ffrind Vanessa ddim yn cefnogi ei nod o gael ei bedyddio. Gwnaeth hynny frifo Vanessa, ac meddai hi, “rydw i’n ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, ac oeddwn i’n poeni na fyddwn i byth yn cael ffrind agos arall petaswn i’n rhoi terfyn ar y cyfeillgarwch hwnnw.”

Ofn Methu (Gweler paragraff 7) *

7. Beth roedd dynes ifanc o’r enw Makayla yn ei ofni, a pham?

7 Ofn methu. Roedd Makayla yn bum oed pan gafodd ei brawd ei ddiarddel. Wrth iddi dyfu i fyny, gwelodd hi’r effaith a gafodd ymddygiad ei brawd ar ei rhieni. Dywed Makayla: “Oeddwn i’n poeni petaswn i’n cael fy medyddio y byddwn i’n gwneud camgymeriad, cael fy niarddel, a gwneud fy rhieni yn dristach byth.”

Ofn Gwrthwynebiad (Gweler paragraff 8) *

8. Beth roedd dyn ifanc o’r enw Miles yn ei ofni?

8 Ofn gwrthwynebiad. Mae tad a llysfam Miles yn gwasanaethu Jehofa, ond dydy ei fam ddim yn Dyst. “Oeddwn i’n byw gyda mam am 18 o flynyddoedd,” meddai Miles, “ac oeddwn i’n ofni dweud wrthi fy mod i eisiau cael fy medyddio. Gwelais ei hymateb pan ddaeth fy nhad yn Dyst. Oeddwn i’n poeni y byddai hi’n gwneud bywyd yn anodd imi.”

SUT GELLI DI DRECHU’R HERIAU?

9. Beth fydd yn debygol o ddigwydd pan fyddi di’n dysgu am amynedd a chariad Jehofa?

9 Dewisodd Adda ac Efa beidio â gwasanaethu Jehofa oherwydd methon nhw ddatblygu cariad dwfn tuag ato. Er hynny, gadawodd Jehofa iddyn nhw fyw yn ddigon hir i gael plant ac i osod eu safonau eu hunain ynglŷn â magu’r plant hynny. Yn fuan iawn, daeth hi’n amlwg mai annoeth iawn oedd penderfyniad Adda ac Efa i fyw yn annibynnol ar Jehofa. Gwnaeth eu mab hynaf lofruddio ei frawd dieuog ac, ymhen amser, daeth trais a hunanoldeb i arglwyddiaethu ar y teulu dynol. (Gen. 4:8; 6:11-13) Fodd bynnag, roedd gan Jehofa gynllun i achub bob un o blant Adda ac Efa sydd eisiau ei wasanaethu. (Ioan 6:38-40, 57, 58) Wrth iti ddysgu mwy am amynedd a chariad Jehofa, mae’n debyg bydd dy gariad tuag ato yn cryfhau. Byddi di eisiau gwrthod dilyn y llwybr a ddewisodd Adda ac Efa ac ymgysegru i Jehofa.

Sut gelli di drechu’r heriau hyn?

(Gweler paragraffau 9-10) *

10. Pam gall myfyrio ar Salm 19:7 dy helpu i wasanaethu Jehofa?

10 Parha i ddysgu am Jehofa. Mwya’n y byd rwyt ti’n dysgu am Jehofa, mwya’n y byd y byddi di’n teimlo’n hyderus dy fod ti’n gallu ei wasanaethu yn llwyddiannus. Dywed Avery, y soniwyd amdano yn gynharach: “Des i’n fwy hyderus drwy ddarllen a myfyrio ar yr addewid yn Salm 19:7.” (Darllen.) Pan welodd Avery sut gwnaeth Jehofa gyflawni’r addewid hwnnw, cryfhaodd ei gariad tuag at Dduw. Mae cariad yn gwneud ni’n fwy hyderus ac yn ein helpu i ganolbwyntio ar Jehofa a beth mae ef eisiau. Dywed Hannah, y soniwyd amdani yn gynharach: “Trwy ddarllen y Beibl ac astudio, sylweddolais fod achosi niwed i fi fy hun yn brifo Jehofa hefyd.” (1 Pedr 5:7) Roedd Hannah yn gwneud beth mae Duw yn ei ddweud. (Iago 1:22) Beth oedd y canlyniad? Mae hi’n dweud: “Pan welais i’r bendithion sy’n dod o ufuddhau i Jehofa, wnes i ddatblygu cariad dwfn tuag ato. Nawr rydw i’n sicr bydd Jehofa wastad yn fy arwain pan ydw i angen ei help.” Roedd Hannah yn gallu trechu’r ysfa i’w niweidio ei hun. Gwnaeth hi ei chysegru ei hun i Jehofa a chael ei bedyddio.

(Gweler paragraff 11) *

11. Beth wnaeth Vanessa er mwyn gwneud ffrindiau da, a beth allwn ni ei ddysgu o hyn?

11 Dewisa dy ffrindiau yn ddoeth. Ymhen amser, gwnaeth Vanessa, y soniwyd amdani yn gynharach, sylweddoli bod ei ffrind yn ei dal hi’n ôl rhag gwasanaethu Jehofa. Felly, gwnaeth hi roi terfyn ar y cyfeillgarwch. Ond gwnaeth Vanessa fwy na hynny. Gweithiodd hi’n galed i wneud ffrindiau newydd, o fewn y gynulleidfa. Mae hi’n dweud bod esiampl Noa a’i deulu wedi ei helpu hi. “Roedden nhw’n byw ymysg pobl nad oedden nhw’n caru Jehofa,” meddai hi, “ond roedden nhw’n cymdeithasu gyda’i gilydd.” Ar ôl iddi gael ei bedyddio, dechreuodd Vanessa arloesi. Nawr mae hi’n dweud: “Mae hyn wedi fy helpu i wneud ffrindiau da, nid yn unig yn fy nghynulleidfa i, ond hefyd mewn cynulleidfaoedd eraill.” Gelli dithau hefyd wneud ffrindiau da drwy fod mor brysur â phosib yn y gwaith mae Jehofa wedi ei roi inni.—Math. 24:14.

(Gweler paragraffau 12-15) *

12. Pa fath o ofn a fethodd Adda ac Efa ei ddangos, a beth oedd y canlyniad?

12 Ofn o’r math cywir. Mae rhai mathau o ofn yn dda inni. Er enghraifft, ofn iach yw ofni digio Duw. (Salm 111:10, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Petai Adda ac Efa wedi datblygu’r math hwnnw o ofn, ni fydden nhw wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa. Ond gwrthryfela a wnaethon nhw. Ac ar ôl gwneud hynny, agorwyd eu llygaid fel eu bod nhw’n hollol ymwybodol o’u pechod. Dim ond pechod a marwolaeth y gallen nhw drosglwyddo i’w plant. Gan eu bod nhw’n gallu gweld, neu’n deall, eu cyflwr, roedden nhw wedi cywilyddio o achos eu noethni a dyma nhw’n eu gorchuddio eu hunain.—Gen. 3:7, 21.

13-14. (a) Yn unol â 1 Pedr 3:21, pam na ddylai marwolaeth godi ofn morbid arnon ni? (b) Pa resymau sydd gennyn ni dros garu Jehofa?

13 Tra bod ofni digio Duw yn iach inni, ni ddylai marwolaeth godi ofn morbid arnon ni. Mae Jehofa wedi gwneud hi’n bosib inni gael bywyd tragwyddol. Os ydyn ni’n pechu ond yn wir edifar, bydd Jehofa yn maddau inni ein camgymeriadau. Bydd ef yn maddau inni oherwydd ein ffydd yn aberth pridwerthol ei Fab. Un o’r ffyrdd mwyaf pwysig rydyn ni’n dangos ein ffydd yw cysegru ein bywyd i Dduw a chael ein bedyddio.—Darllen 1 Pedr 3:21.

14 Mae gennyn ni lawer o resymau dros garu Jehofa. Mae’n rhoi’r pethau da rydyn ni’n eu mwynhau bob dydd inni ac yn dysgu inni’r gwir amdano’i hun a’i bwrpas. (Ioan 8:31, 32) Mae wedi rhoi’r gynulleidfa Gristnogol inni er mwyn ein harwain a’n cefnogi. Mae’n ein helpu ni i ymdopi â’n problemau nawr, ac yn rhoi’r gobaith inni i fyw am byth o dan amgylchiadau perffaith yn y dyfodol. (Salm 68:19; Dat. 21:3, 4) Pan ydyn ni’n myfyrio ar beth mae Jehofa eisoes wedi ei wneud i ddangos ei gariad tuag aton ni, cawn ein hysgogi i’w garu. A phan ydyn ni’n caru Jehofa, mae ofn yn rhywbeth rydyn ni’n edrych arno mewn ffordd gytbwys. Rydyn ni’n ofni brifo’r Un rydyn ni wedi dod i garu gymaint.

15. Sut gwnaeth Makayla drechu ei hofn methu?

15 Gwnaeth Makayla, y soniwyd amdani yn gynharach, drechu ei hofn methu pan ddeallodd hi pa mor faddeugar yw Jehofa. “Sylweddolais fod pawb yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. Ond, deallais hefyd fod Jehofa yn ein caru a bydd ef yn maddau inni ar sail y pridwerth.” Gwnaeth ei chariad tuag at Jehofa ei hysgogi i’w chysegru ei hun iddo a chael ei bedyddio.

(Gweler paragraff 16) *

16. Beth helpodd Miles i drechu ei ofn o gael ei wrthwynebu?

16 Gwnaeth Miles, a oedd yn ofni y byddai ei fam yn gwrthwynebu ei benderfyniad i gael ei fedyddio, ofyn am help gan arolygwr y gylchdaith. “Cafodd yntau hefyd ei fagu mewn teulu lle nad oedd pawb yn addoli Jehofa,” meddai Miles. “Gwnaeth fy helpu i feddwl am beth allwn i ei ddweud er mwyn helpu fy mam i ddeall mai fy mhenderfyniad i oedd cael fy medyddio ac nid penderfyniad fy nhad.” Ni wnaeth mam Miles ymateb yn dda i’w benderfyniad. Ymhen amser, roedd rhaid iddo adael ei thŷ, ond glynodd wrth ei benderfyniad. “Roedd dysgu am bopeth da mae Jehofa wedi ei wneud drosof fi yn cyffwrdd â ’nghalon,” meddai. “Pan feddyliais yn ddwfn am aberth pridwerthol Iesu, sylweddolais gymaint mae Jehofa yn fy ngharu. Gwnaeth hyn fy ysgogi i ymgysegru i Jehofa a chael fy medyddio.”

GLYNA WRTH DY BENDERFYNIAD

Gallwn ddangos ein bod yn gwerthfawrogi beth mae Duw wedi ei wneud ar ein cyfer (Gweler paragraff 17)

17. Pa gyfle sydd gennyn ni?

17 Pan fwytaodd Efa ffrwyth o’r goeden yn Eden, gwnaeth hi wrthod ei Thad. Pan wnaeth Adda ddilyn Efa, dangosodd ddiffyg gwerthfawrogiad difrifol am bopeth da roedd Jehofa wedi ei wneud ar ei gyfer. Mae gan bawb y cyfle i ddangos cymaint rydyn ni’n anghytuno â’r penderfyniad a wnaeth Adda ac Efa. Trwy gael ein bedyddio, dangoswn i Jehofa ein bod ni’n credu mai ef sydd â’r awdurdod i osod y safon ynglŷn â beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg inni. Rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru ein Tad ac yn ymddiried ynddo.

18. Sut gelli di lwyddo wrth iti wasanaethu Jehofa?

18 Yr her rydyn ni’n ei hwynebu ar ôl cael ein bedyddio yw dilyn safonau Jehofa bob dydd, nid ein safonau ein hunain. Mae miliynau o bobl yn byw fel hynny bob blwyddyn. Gelli di wneud yr un peth os wyt ti’n parhau i ddeall Gair Duw, y Beibl, yn well; yn cymdeithasu â dy frodyr a dy chwiorydd yn aml; ac yn pregethu’n selog am beth rwyt ti wedi ei ddysgu am dy Dad cariadus. (Heb. 10:24, 25) Wrth iti wneud penderfyniadau, gwranda ar y cyngor mae Jehofa’n ei roi iti drwy ei Air a thrwy ei gyfundrefn. (Esei. 30:21) Wedyn, bydd popeth rwyt ti’n ei wneud yn llwyddo.—Diar. 16:3, 20.

19. Beth ddylet ti barhau i’w gydnabod, a pham?

19 Pan wyt ti’n parhau i gydnabod faint rwyt ti’n elwa ar arweiniad Jehofa, bydd dy gariad tuag ato ef a’i safonau yn cryfhau. Yna, ni fydd unrhyw beth mae Satan yn ei gynnig iti yn dy berswadio i stopio gwasanaethu Jehofa. Dychmyga dy hun fil o flynyddoedd yn y dyfodol. Byddi di’n edrych yn ôl ar dy benderfyniad i gael dy fedyddio fel y penderfyniad gorau a wnest ti erioed!

CÂN 28 Cael Bod yn Ffrind Jehofa

^ Par. 5 Y penderfyniad pwysicaf y byddi di’n gorfod ei wneud yw a fyddi di’n cael dy fedyddio neu beidio. Pam mae’r penderfyniad hwnnw mor bwysig? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw. Bydd hefyd yn helpu’r rhai sy’n meddwl am gael eu bedyddio i godi uwchlaw unrhyw her a all fod yn eu dal nhw’n ôl.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Hyder: Mae dyn ifanc yn teimlo’n ofnus ynglŷn â rhoi ateb.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ffrindiau: Tyst ifanc yn cerdded gyda ffrind sy’n ddylanwad drwg ac yn teimlo cywilydd wrth weld Tystion eraill.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Methiant: Ar ôl i’w brawd gael ei ddiarddel a gadael y cartref, mae merch ifanc yn pryderu y byddai hithau hefyd yn methu.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwrthwynebiad: Mae bachgen yn ofnus ynglŷn â gweddïo o flaen ei fam anghrediniol.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Hyder: Mae dyn ifanc yn gwneud mwy o astudiaeth bersonol.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ffrindiau: Mae Tyst ifanc yn dysgu bod yn falch o fod yn Dyst.

^ Par. 69 DISGRIFIAD O’R LLUN: Methiant: Mae geneth ifanc yn profi’r gwir iddi hi ei hun ac yn cael ei bedyddio.

^ Par. 71 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwrthwynebiad: Mae bachgen yn esbonio ei ddaliadau i’w fam anghrediniol yn ddewr.