Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

Gwranda ar Lais Jehofa

Gwranda ar Lais Jehofa

“Fy Mab annwyl i ydy hwn . . . Gwrandwch arno!”—MATH. 17:5.

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

CIPOLWG *

1-2. (a) Sut mae Jehofa wedi cyfathrebu â bodau dynol? (b) Beth fyddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

MAE Jehofa wrth ei fodd yn cyfathrebu â ni. Yn y gorffennol, defnyddiodd broffwydi, angylion, a’i Fab, Iesu Grist, i gyflwyno ei feddyliau inni. (Amos 3:7; Gal. 3:19; Dat. 1:1) Heddiw, mae’n cyfathrebu â ni drwy ei Air, y Beibl. Rhoddodd y Beibl inni fel ein bod ni’n gallu dysgu am ei feddyliau ef a deall ei ffyrdd.

2 Pan oedd Iesu ar y ddaear, siaradodd Jehofa o’r nefoedd ar dri achlysur. Gad inni ystyried beth ddywedodd Jehofa, beth gallwn ni ei ddysgu o’i eiriau, a sut rydyn ni’n elwa ar yr hyn a ddywedodd ef.

“TI YDY FY MAB ANNWYL I”

3. Wrth inni ddarllen Marc 1:9-11, beth ddywedodd Jehofa pan gafodd Iesu ei fedyddio, a pha wirioneddau roedd y geiriau hynny’n eu cadarnhau?

3 Mae Marc 1:9-11 yn sôn am yr achlysur cyntaf pan siaradodd Jehofa o’r nefoedd. (Darllen.) Dywedodd: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.” Mae’n siŵr fod Iesu wedi cael ei gysuro pan glywodd ei Dad yn mynegi ei gariad tuag ato a’i hyder ynddo! Gwnaeth geiriau Jehofa gadarnhau tri pheth pwysig am Iesu. Yn gyntaf, Mab Duw ydy Iesu. Yn ail, mae Jehofa’n caru ei Fab. Ac yn drydydd, mae Jehofa wedi cymeradwyo ei Fab. Gad inni edrych yn fanylach ar bob un.

4. Pa berthynas newydd rhwng Duw ac Iesu a ddechreuodd pan gafodd Iesu ei fedyddio?

4 “Ti ydy fy Mab.” Gyda’r geiriau hyn, dangosodd Jehofa fod ei Fab annwyl, Iesu, wedi dechrau perthynas newydd ag Ef. Tra oedd Iesu yn y nefoedd, roedd yn un o ysbryd feibion Duw. Ond, ar adeg ei fedydd, cafodd ei eneinio â’r ysbryd glân. Bryd hynny, dangosodd Duw fod gan Iesu, fel Mab eneiniog iddo, y gobaith o ddychwelyd i’r nefoedd i gael ei benodi gan Dduw yn Frenin ac yn Archoffeiriad. (Luc 1:31-33; Heb. 1:9; 2:17) Felly, ar adeg bedydd Iesu, roedd gan ei Dad reswm da dros ddweud: “Ti ydy fy Mab.”—Luc 3:22.

Rydyn ni’n ffynnu wrth gael cymeradwyaeth ac anogaeth (See paragraph 5) *

5. Sut gallwn ni efelychu esiampl Jehofa o ran dangos cariad a chymeradwyaeth?

5 “Ti ydy fy Mab annwyl i.” Mae esiampl Jehofa o ran dangos ei gariad a’i gymeradwyaeth yn ein hatgoffa i edrych am gyfleoedd i annog eraill. (Ioan 5:20) Rydyn ni’n blodeuo pan fydd rhywun sy’n annwyl inni yn dangos cariad tuag aton ni ac yn ein canmol am y pethau da rydyn ni’n eu gwneud. Yn yr un ffordd, mae angen i’n brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa, ac aelodau ein teulu, deimlo ein cariad a’n hanogaeth. Pan fyddwn ni’n eu canmol nhw, rydyn ni’n cryfhau eu ffydd ac yn eu helpu i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon. Mae angen mawr i rieni galonogi eu plant. Pan fydd rhieni yn rhoi canmoliaeth ddiffuant a chariad i’w plant, byddan nhw’n helpu eu plant i ffynnu.

6. Pam gallwn ni roi ein hyder yn Iesu Grist?

6 “Rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.” Mae’r geiriau hyn yn dangos bod Jehofa yn hyderus y byddai Iesu yn gwneud ewyllys ei Dad yn ffyddlon. Dyna’r fath hyder oedd gan Jehofa yn ei Fab, a gallwn ninnau fod yn hollol hyderus y bydd Iesu yn cyflawni pob un o addewidion Jehofa. (2 Cor. 1:20) Pan ydyn ni’n ystyried esiampl Iesu, rydyn ni’n fwy penderfynol byth o ddysgu oddi wrtho ac o gerdded yn ôl traed Iesu. Mae Jehofa yr un mor hyderus y bydd ei weision, fel grŵp, yn parhau i ddysgu oddi wrth ei Fab.—1 Pedr 2:21.

“GWRANDWCH ARNO!”

7. Yn ôl Mathew 17:1-5, ar ba achlysur gwnaeth Jehofa siarad o’r nefoedd, a beth ddywedodd ef?

7 Darllen Mathew 17:1-5. Yr ail dro y gwnaeth Jehofa siarad o’r nefoedd oedd pan gafodd Iesu “ei drawsnewid.” Roedd Iesu wedi gwahodd Pedr, Iago, ac Ioan i fynd gydag ef i fyny mynydd mawr. Tra oedden nhw yno, gwelon nhw weledigaeth ryfeddol. Roedd wyneb a dillad Iesu yn disgleirio. Dechreuodd dau ffigwr, yn cynrychioli Moses ac Elias, siarad â Iesu am ei farwolaeth a’i atgyfodiad a fyddai’n digwydd yn fuan. Er bod ei dri apostol “wedi bod yn teimlo’n gysglyd iawn,” gwelon nhw’r weledigaeth ryfeddol hon pan oedden nhw wedi deffro’n llwyr. (Luc 9:29-32) Nesaf, daeth cwmwl disglair i lawr o’u cwmpas, a chlywon nhw lais yn dod o’r cwmwl—llais Duw! Fel y digwyddodd ar adeg bedydd Iesu, dangosodd Jehofa ei fod yn cymeradwyo ei Fab ac yn ei garu, drwy ddweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr.” Ond, y tro hwn, ychwanegodd Jehofa: “Gwrandwch arno!”

8. Pa effaith gafodd y weledigaeth ar Iesu a’i ddisgyblion?

8 Rhoddodd y weledigaeth gipolwg o ysblander a nerth Iesu fel Brenin Teyrnas Dduw yn y dyfodol. Yn sicr, cafodd Iesu ei galonogi a’i gryfhau ynglŷn â’r dioddefaint a’r farwolaeth boenus y byddai’n eu profi. Gwnaeth y weledigaeth gryfhau ffydd y disgyblion hefyd a’u hatgyfnerthu nhw ar gyfer y profion ar eu ffyddlondeb y byddan nhw’n eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod. Tua 30 mlynedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd yr apostol Pedr at y weledigaeth o’r trawsnewid, a oedd yn dangos bod y weledigaeth honno’n dal yn fyw yn ei gof.—2 Pedr 1:16-18.

9. Pa gyngor ymarferol roddodd Iesu i’w ddisgyblion?

9 “Gwrandwch arno!” Roedd Jehofa yn dangos yn gwbl eglur ei fod eisiau inni wrando ar eiriau ei Fab a bod yn ufudd iddo. Beth ddywedodd Iesu pan oedd ar y ddaear? Dywedodd lawer o bethau sy’n werth gwrando arnyn nhw! Er enghraifft, dysgodd ei ddilynwyr mewn ffordd gariadus am sut i bregethu’r newyddion da, a’u hatgoffa dro ar ôl tro i gadw’n wyliadwrus. (Math. 24:42; 28:19, 20) Hefyd, gwnaeth eu hannog i wneud eu gorau glas ac i ddal ati. (Luc 13:24) Pwysleisiodd Iesu bwysigrwydd dangos cariad tuag at ei gilydd, aros yn unedig, a dilyn ei orchmynion. (Ioan 15:10, 12, 13) Dyna gyngor ymarferol oddi wrth Iesu! Mae’r cyngor hwnnw yr un mor addas heddiw ag yr oedd yr adeg honno.

10-11. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwrando ar Iesu?

10 Dywedodd Iesu: “Mae pawb sydd ar ochr y gwir yn gwrando arna i.” (Ioan 18:37) Dangoswn ein bod yn gwrando ar ei lais pan ydyn ni’n dilyn ei gyngor: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai.” (Col. 3:13; Luc 17:3, 4) Rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni’n gwrando ar ei lais drwy bregethu’r newyddion da yn selog “os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio.”—2 Tim. 4:2.

11 Dywedodd Iesu: “Mae fy nefaid i yn fy nilyn am eu bod yn nabod fy llais i.” (Ioan 10:27) Mae dilynwyr Crist yn dangos eu bod nhw’n gwrando ar Iesu nid yn unig drwy dalu sylw i’w eiriau ond hefyd drwy weithredu arnyn nhw. Dydyn nhw ddim yn gadael i “bethau materol” dynnu eu sylw. (Luc 21:34) Yn hytrach, maen nhw’n canolbwyntio ar ufuddhau i orchmynion Iesu, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd. Mae llawer o’n brodyr yn dioddef treialon mawr, gan gynnwys ymosodiadau gan wrthwynebwyr, tlodi enbyd, a thrychinebau naturiol. Trwy hyn i gyd, maen nhw’n aros yn ffyddlon i Jehofa, ni waeth beth fo’r gost. Iddyn nhw, rhoddodd Iesu’r anogaeth hon: “Y rhai sy’n derbyn beth dw i’n ddweud ac yn gwneud hynny ydy’r rhai sy’n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy’n fy ngharu i.”—Ioan 14:21.

Mae ein gweinidogaeth yn ein helpu i wrando ar lais Iesu (Gweler paragraff 12) *

12. Ym mha ffordd arall gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwrando ar Iesu?

12 Dyma ffordd arall o ddangos ein bod ni’n gwrando ar Iesu: drwy gydweithio â’r rhai y mae ef wedi eu penodi i’n harwain. (Heb. 13:7, 17) Mae cyfundrefn Duw wedi gwneud llawer o newidiadau yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys tŵls a dulliau newydd ar gyfer y weinidogaeth, trefn ein cyfarfodydd canol wythnos, a’r ffordd rydyn ni’n adeiladu, yn atgyweirio, ac yn cynnal ein Neuaddau. Rydyn ni’n wir yn gwerthfawrogi’r arweiniad cariadus ac ymarferol hwn! Gallwn fod yn sicr y bydd Jehofa yn bendithio ein hymdrechion i ddilyn cyfarwyddyd amserol y gyfundrefn.

13. Beth ydy’r buddion o wrando ar Iesu?

13 Rydyn ni’n cael budd o wrando ar bopeth a ddysgodd Iesu. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion y byddai ei ddysgeidiaethau yn eu hadfywio nhw. “A chewch chi orffwys,” meddai. “Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.” (Math. 11:28-30) Mae Gair Duw, sy’n cynnwys y pedair Efengyl am fywyd a gweinidogaeth Iesu, yn ein hadfywio, yn rhoi nerth ysbrydol inni, ac yn ein gwneud ni’n ddoeth. (Salm 19:7; 23:3) Dywedodd Iesu: “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!”—Luc 11:28.

BYDDAF YN GOGONEDDU FY ENW

14-15. (a) Beth oedd y trydydd achlysur y gwnaeth Jehofa siarad o’r nefoedd, sydd i’w weld yn Ioan 12:27, 28? (b) Pam byddai geiriau Jehofa wedi cysuro a nerthu Iesu?

14 Darllen Ioan 12:27, 28. (BCND) Mae Efengyl Ioan yn sôn am y trydydd tro y gwnaeth Jehofa siarad o’r nefoedd. Ychydig o ddyddiau cyn ei farwolaeth, roedd Iesu yn Jerwsalem yn dathlu’r Pasg am y tro olaf. “Mae fy enaid mewn cynnwrf,” meddai. Wedyn, gweddïodd: “O Dad, gogonedda dy enw.” Ymateb ei Dad oedd siarad o’r nefoedd a dweud: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe’i gogoneddaf eto.”

15 Roedd wedi cynhyrfu oherwydd y cyfrifoldeb mawr ar ei ysgwyddau i aros yn ffyddlon i Jehofa. Roedd Iesu’n ymwybodol y byddai’n cael ei boenydio ac yn marw mewn ffordd erchyll. (Math. 26:38) Uwchben popeth arall, roedd Iesu eisiau gogoneddu enw ei Dad. Cafodd Iesu ei gyhuddo o gablu, ac roedd yn poeni y byddai ei farwolaeth yn dwyn gwarth ar Dduw. Mor galonogol oedd geiriau Jehofa i Iesu! Roedd yn gallu teimlo’n sicr y byddai enw Jehofa yn cael ei ogoneddu. Mae’n rhaid bod geiriau ei Dad wedi cysuro Iesu’n fawr a’i gryfhau ar gyfer yr hyn a oedd am ddigwydd. Efallai Iesu oedd yr unig un a oedd yn deall gwir ystyr geiriau ei Dad ar y pryd, ond sicrhaodd Jehofa fod Ei eiriau’n cael eu cofnodi ar gyfer pob un ohonon ni.—Ioan 12:29, 30.

Bydd Jehofa yn gogoneddu ei enw ac yn achub ei bobl (Gweler paragraff 16) *

16. Pam rydyn ni efallai’n pryderu am enw Duw yn cael ei sarhau?

16 Fel Iesu, gallwn ninnau hefyd bryderu am enw Jehofa yn cael ei sarhau. Efallai ein bod ni’n cael ein trin yn annheg, fel roedd Iesu. Neu, efallai fod straeon celwyddog ein gwrthwynebwyr yn ein cynhyrfu. Gallwn feddwl am y gwarth mae’r adroddiadau hynny’n ei ddwyn ar enw Jehofa a’i gyfundrefn. Ar adegau o’r fath, gall geiriau Jehofa ein cysuro’n fawr. Does dim rhaid inni bryderu’n ddiangen. Gallwn fod yn sicr bydd yr “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg—yn gwarchod [ein] calonnau [a’n] meddyliau wrth i [ni] ddilyn y Meseia Iesu.” (Phil. 4:6, 7) Bydd Jehofa yn wastad yn gogoneddu ei enw. Drwy gyfrwng y Deyrnas, bydd yn dad-wneud yr holl niwed y mae Satan a’i fyd wedi ei achosi i’w weision ffyddlon.—Salm 94:22, 23; Esei. 65:17.

ELWA AR LAIS JEHOFA HEDDIW

17. Yn unol ag Eseia 30:21, sut mae Jehofa yn siarad â ni heddiw?

17 Mae Jehofa’n dal yn siarad â ni heddiw. (Darllen Eseia 30:21.) Dydyn ni ddim yn clywed llais Duw yn siarad â ni o’r nefoedd heddiw. Ond, mae wedi darparu ei Air ysgrifenedig, y Beibl, sy’n rhoi arweiniad inni. Ar ben hynny, mae ysbryd Jehofa yn ysgogi’r “rheolwr doeth” i fwydo Ei weision yn rheolaidd. (Luc 12:42) Rydyn ni’n derbyn digonedd o fwyd ysbrydol printiedig, ac ar lein, fel fideos a chyhoeddiadau sain!

18. Sut mae geiriau Jehofa yn cryfhau dy ffydd ac yn rhoi dewrder iti?

18 Gad inni gadw mewn cof y geiriau a ddywedodd Jehofa pan oedd ei Fab ar y ddaear! Gad i eiriau Duw ei hun, sydd yn y Beibl, roi hyder inni fod Jehofa yn rheoli popeth ac y byddai’n dad-wneud unrhyw niwed mae Satan a’i fyd drygionus wedi ei achosi inni. A gad inni fod yn benderfynol o wrando’n astud ar lais Jehofa. Os gwnawn ni, byddwn ni’n gallu ymdopi, pa bynnag broblemau rydyn ni’n eu hwynebu nawr, ac unrhyw heriau yn y dyfodol. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi ei addo i chi!”—Heb. 10:36.

CÂN 4 Jehofa Yw Fy Mugail

^ Par. 5 Pan oedd Iesu ar y ddaear, siaradodd Jehofa o’r nefoedd dair gwaith. Ar un o’r achlysuron hynny, gwnaeth Jehofa annog disgyblion Crist i wrando ar ei Fab. Heddiw, mae Jehofa’n siarad â ni drwy ei Air ysgrifenedig, sy’n cynnwys dysgeidiaethau Iesu, a thrwy ei gyfundrefn. Bydd yr erthygl hon yn ystyried sut rydyn ni’n elwa ar wrando ar Jehofa ac Iesu.

^ Par. 52 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Henuriad yn sylwi ar was gweinidogaethol yn helpu i gynnal Neuadd y Deyrnas ac yn gweithio ar y ddesg lenyddiaeth. Mae’r henuriad yn rhoi canmoliaeth ddiffuant.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Cwpl yn Sierra Leone yn rhoi gwahoddiad i bysgotwr lleol i ddod i’r cyfarfodydd.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Tystion mewn gwlad lle mae ein gwaith yn gyfyngedig yn cyfarfod mewn tŷ preifat. Maen nhw’n gwisgo’n anffurfiol i osgoi denu sylw atyn nhw eu hunain.