Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Dy “Amen” yn Werthfawr i Jehofa

Mae Dy “Amen” yn Werthfawr i Jehofa

MAE Jehofa yn gwerthfawrogi ein haddoliad, yn gwrando arnon ni, ac yn cymryd sylw o bopeth rydyn ni’n ei wneud i’w foli, hyd yn oed y pethau bach. (Mal. 3:16) Er enghraifft, meddylia am air mae’n debyg y bydden ni wedi ei ddweud droeon. Y gair yw “amen.” Ydy Jehofa yn gwerthfawrogi’r ymadrodd syml hwnnw? Ydy! I ddysgu pam, gad inni edrych ar ystyr y gair hwnnw a’i ddefnydd yn y Beibl.

“BYDD PAWB YN YMATEB, ‘AMEN!’”

Mae’r gair “amen” yn golygu “felly y byddo,” neu “felly y mae yn wir.” Mae’n dod o air Hebraeg sy’n golygu “bod yn ffyddlon,” “bod yn ddibynadwy.” Weithiau roedd yn cael ei ddefnyddio mewn sefyllfaoedd cyfreithiol. Ar ôl i rywun dyngu llw, byddai’n dweud “amen” er mwyn cadarnhau bod yr hyn a ddywedodd yn gywir ac y byddai’n derbyn canlyniadau ei ddatganiad. (Num. 5:22) Pan oedd rhywun yn dweud “amen” yn gyhoeddus fel hyn, roedd ganddo reswm pellach dros gadw ei air.—Neh. 5:13.

Cofnodwyd defnydd arbennig o’r gair “amen” yn Deuteronomium pennod 27. Ar ôl i’r Israeliaid gyrraedd Gwlad yr Addewid, roedd rhaid ymgynull rhwng Mynydd Ebal a Mynydd Garisim i glywed y Gyfraith yn cael ei hadrodd. Roedden nhw yno i wrando a hefyd i ddatgan eu bod nhw wedi derbyn y Gyfraith. Gwnaethon nhw hyn drwy ddweud “Amen!” wrth i ganlyniadau anufudd-dod gael eu darllen. (Deut. 27:15-26) Dychmyga sŵn miloedd o ddynion, merched, a phlant yn gweiddi eu hateb yn uchel! (Jos. 8:30-35) Mae’n debyg na wnaethon nhw byth anghofio’r geiriau a ddywedon nhw y diwrnod hwnnw. A gwnaeth yr Israeliaid hynny gadw at eu gair, oherwydd bod yr hanes yn dweud: “Tra oedd Josua’n fyw roedd pobl Israel yn addoli’r ARGLWYDD. A dyma nhw’n dal ati i’w addoli tra oedd yr arweinwyr eraill o’r un genhedlaeth yn dal yn fyw—y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD i bobl Israel.”—Jos. 24:31.

Hefyd, defnyddiodd Iesu “amen” i gadarnhau gwirionedd ei eiriau, ond gwnaeth hyn mewn ffordd arbennig. Yn lle dweud “amen” (a gyfieithir i’r Gymraeg “credwch chi fi” neu “yn wir”) ar ôl datganiad rhywun arall, dywedai Iesu “amen” cyn iddo ef ei hun ddweud rhywbeth, i ddangos ei fod yn wir. Weithiau, roedd yn ailadrodd y gair, drwy ddweud “amen amen.” (Math. 5:18; Ioan 1:51) Trwy wneud hynny, roedd yn sicrhau ei wrandawyr fod ei eiriau yn hollol wir. Gallai Iesu siarad gyda’r fath sicrwydd gan mai ef oedd yr un a gafodd yr awdurdod i wireddu pob un o addewidion Duw.—2 Cor. 1:20; Dat. 3:14.

“DYMA’R BOBL I GYD YN DWEUD, ‘AMEN! HALELIWIA!’”

Defnyddiai’r Israeliaid hefyd “amen” wrth foli Jehofa a gweddïo arno. (Neh. 8:6; Salm 41:13) Drwy ddweud y gair ar ôl gweddi, roedden nhw’n dangos eu bod nhw’n cytuno â’r hyn a ddywedwyd. Felly, roedd pawb yn gallu cymryd rhan, a mwynhau addoli Jehofa fel hyn. Dyna beth ddigwyddodd pan ddaeth y Brenin Dafydd ag Arch Jehofa i Jerwsalem. Yn ystod y dathliad a ddilynodd, dyma’n rhoi gweddi daer ar ffurf cân a gofnodwyd yn 1 Cronicl 16:8-36. Cafodd ei eiriau gymaint o effaith ar y bobl nes iddyn nhw i gyd ddweud; “‘Amen! Haleliwia!’” Roedd pawb yn hapus i addoli Jehofa gyda’i gilydd y diwrnod hwnnw.

Roedd Cristnogion y ganrif gyntaf hefyd yn defnyddio “amen” wrth iddyn nhw foli Jehofa. Roedd ysgrifenwyr y Beibl yn aml yn ei gynnwys yn eu llythyrau. (Rhuf. 1:25; 16:27; 1 Pedr 4:11) Mae hyd yn oed llyfr Datguddiad yn disgrifio ysbryd greaduriaid yn y nefoedd yn gogoneddu Jehofa drwy ddweud: “Amen! Haleliwia!” (Dat. 19:1, 4) Roedd y Cristnogion cynnar fel arfer yn dweud “amen” ar ôl i weddïau gael eu dweud yn eu cyfarfodydd. (1 Cor. 14:16) Ond, doedd hynny ddim yn air roedden nhw’n ei ddweud heb feddwl amdano.

PAM MAE DY “AMEN” YN BWYSIG?

Ar ôl edrych ar ei gefndir a’i hanes, gallwn weld pam mae’n bwysig i adrodd y gair “amen” ar ôl i weddi orffen. Pan fyddwn ni’n ei ddweud ar ddiwedd ein gweddïau personol, dangoswn ein bod ni’n golygu’r hyn a ddywedon ni. A phan gawn ein hysgogi i ddweud “amen,” hyd yn oed yn ein calonnau, yn dilyn gweddi gyhoeddus, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n cefnogi’r hyn sydd wedi cael ei ddweud. Ystyria reswm arall pam mae ein “amen” yn bwysig.

Rydyn ni’n talu sylw ac yn effro wrth addoli. Rydyn ni’n addoli Jehofa wrth weddïo nid yn unig trwy ein geiriau ond hefyd trwy ein hymddygiad. Mae ein dymuniad i fod yn ddiffuant wrth ddweud “amen” yn gallu ein helpu i gadw’r agwedd gywir ac i ganolbwyntio ar y weddi.

Rydyn ni’n unedig fel addolwyr. Mae gweddïau cyhoeddus yn gwneud inni ganolbwyntio ar beth mae gweddill y gynulleidfa yn ei glywed. (Act. 1:14; 12:5) Pan gawn ni ein hysgogi i ymateb ynghyd â’n brodyr a’n chwiorydd, rydyn ni’n dod yn fwy unedig byth. Pan ydyn ni’n dweud “amen” gyda’n gilydd, yn uchel neu yn ein calon, gall ein gweddi ysgogi Jehofa i wneud beth rydyn ni’n ei ofyn.

Mae ein “amen” yn cyfrannu at foli Jehofa

Rydyn ni’n moli Jehofa. Mae Jehofa yn sylwi ar bopeth rydyn ni’n ei wneud i’w addoli ef. (Luc 21:2, 3) Mae’n gweld beth sy’n ein cymell ni a beth sydd yn ein calon. Hyd yn oed pan fydd rhaid inni wrando ar gyfarfod drwy’r teleffon, gallwn fod yn sicr na fydd Jehofa yn anghofio am ein “amen” gostyngedig. Rydyn ni’n ymuno â’r rhai sydd yn y cyfarfod i foli Jehofa.

Gall ein “amen” ymddangos yn ddibwys, ond mae’n hynod o werthfawr. Dywed un gwyddoniadur Beiblaidd: “Drwy ddefnydd o’r gair hwn,” gall gweision Duw fynegi’r “hyder, y gymeradwyaeth, a’r gobaith sydd yn eu calonnau.” Gad i bob “amen” rydyn ni’n ei ddweud blesio Jehofa.—Salm 19:14.