Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Sut roedd rhywun yn nyddiau’r Beibl yn trefnu i deithio ar y môr?

YN GYFFREDINOL, nid bodoli ar gyfer teithwyr yn unig yr oedd llongau yng nghyfnod Paul. Er mwyn teithio ar long, roedd yn rhaid i deithwyr fel arfer ofyn i eraill a oedden nhw’n gwybod am long fasnach (cargo) a oedd yn mynd i’r cyfeiriad cywir ac yn fodlon cario teithwyr. (Act. 21:2, 3) Hyd yn oed os nad oedd y llong yn mynd yn union i le roedd y teithiwr eisiau mynd, pan oedd y llong yn stopio mewn gwahanol borthladdoedd ar hyd y fordaith, byddai’n gallu chwilio am long arall a fyddai’n mynd ag ef yn nes at ddiwedd ei daith.—Act. 27:1-6.

Roedd mordeithio ar y cyfan yn dymhorol, a doedd llongau ddim yn glynu wrth amserlen dynn. Heblaw tywydd drwg, gallai morwyr ofergoelus ohirio’r hwylio pe bydden nhw’n teimlo bod pethau’n argoeli’n ddrwg fel, er enghraifft, cigfran yn crawcian yn y rigin, neu long ddrylliedig ar y lan. Byddai’r morwyr yn manteisio ar wyntoedd teg, felly pan oedd y gwyntoedd yn ffafriol, byddan nhw’n codi hwyliau. Ar ôl i deithiwr ddod o hyd i long a oedd yn fodlon ei gario, byddai’r teithiwr yn mynd i gyffiniau’r harbwr gyda’i fagiau, a disgwyl am gyhoeddiad a fyddai’n dweud bod y llong ar fin hwylio.

“Roedd Rhufain yn cynnig gwasanaeth a oedd yn arbed pobl rhag llusgo cerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd y cei,” meddai’r hanesydd Lionel Casson. “Roedd y porthladd wedi ei leoli wrth ymyl aber afon Tiber. Yn y dref gyfagos Ostia roedd piazza mawr a swyddfeydd o’i amgylch. Roedd llawer o’r rhain yn perthyn i longwyr a oedd yn cynrychioli porthladdoedd eraill: roedd gan longwyr Narbonne [Ffrainc heddiw] un o’r swyddfeydd hynny, ac roedd gan longwyr Carthag [Tiwnisia heddiw] un arall, . . . ac yn y blaen. Byddai rhywun a oedd yn chwilio am long ond yn gorfod holi yn swyddfeydd y dinasoedd a oedd ar lwybr ei daith.”

Roedd teithio ar y môr yn arbed amser i’r teithwyr, ond roedd peryglon hefyd. Roedd Paul mewn sawl llongddrylliad ar ei deithiau cenhadu.—2 Cor. 11:25.