Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 20

Cysuro’r Rhai Sydd Wedi Dioddef Camdriniaeth

Cysuro’r Rhai Sydd Wedi Dioddef Camdriniaeth

“Fe ydy’r . . . Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.”—2 COR. 1:3, 4.

CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant

CIPOLWG *

1-2. (a) Pa esiampl sy’n dangos bod angen cysur ar bawb a bod gan bawb y gallu i gysuro eraill? (b) Sut mae rhai plant yn cael eu brifo?

MAE angen cysur ar bawb, ac mae gan bawb y gallu arbennig i roi cysur i eraill. Er enghraifft, pan fydd plentyn bach yn cwympo ac yn brifo ei ben-glin wrth iddo chwarae, mae’n rhedeg at ei fam neu at ei dad yn llefain. Nid yw’r rhieni’n gallu mendio’r briw, ond maen nhw’n gallu cysuro’r plentyn. Efallai bydden nhw’n gofyn beth ddigwyddodd, yn sychu ei ddagrau, yn ei dawelu â geiriau caredig a rhoi cwtsh iddo, ac efallai rhoi moddion neu blastr ar y briw. Mewn byr o dro, mae’r plentyn yn stopio llefain ac efallai’n dechrau chwarae eto. Ymhen amser, bydd y briw yn mendio.

2 Ond, weithiau mae plant yn cael eu brifo mewn ffyrdd llawer gwaeth. Mae rhai yn cael eu cam-drin yn rhywiol. Gall y gamdriniaeth ddigwydd unwaith, neu gall ddigwydd lawer o weithiau dros gyfnod hir. Yn y ddwy sefyllfa, gall y gamdriniaeth adael poen emosiynol parhaol. Mewn rhai achosion, mae’r camdriniwr yn cael ei ddal a’i gosbi. Weithiau mae’n ymddangos bod y camdriniwr wedi osgoi cosb. Ond hyd yn oed os yw’n cael ei gosbi’n syth, gall y gamdriniaeth gael effaith niweidiol parhaol, hyd yn oed pan fydd y dioddefwr yn oedolyn.

3. Yn ôl 2 Corinthiaid 1:3, 4, beth yw ewyllys Duw, a pha gwestiynau y byddwn ni’n eu hystyried?

3 Os ydy Cristion a gafodd ei gam-drin yn ystod ei blentyndod yn dal i ddioddef poen emosiynol fel oedolyn, pa help sydd ar gael? (Darllen 2 Corinthiaid 1:3, 4.) Yn amlwg, ewyllys Duw ydy bod ei ddefaid yn cael y cariad a’r cysur sydd eu hangen arnyn nhw. Felly gad inni ystyried tri chwestiwn: (1) Pam efallai bydd angen cysur ar y rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth? (2) Pwy sy’n gallu rhoi’r cysur maen nhw ei angen? (3) Sut gallwn ni eu cysuro yn effeithiol?

PAM MAE ANGEN CYSUR?

4-5. (a) Pam y mae’n bwysig i sylweddoli bod plant yn wahanol i oedolion? (b) Sut gall camdriniaeth effeithio ar allu plentyn i ymddiried mewn eraill?

4 I rai oedolion sydd wedi dioddef camdriniaeth fel plant, gallan nhw fod angen cysur o hyd, er bod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio. Pam? Er mwyn deall, mae’n rhaid inni yn gyntaf sylweddoli bod plant yn wahanol iawn i oedolion. Yn aml, mae plentyn yn cael ei effeithio mewn ffordd sy’n wahanol iawn i’r ffordd y mae oedolyn yn ymateb i gamdriniaeth. Ystyria rhai esiamplau.

5 Mae angen i blant gael perthynas agos â’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, a medru ymddiried yn llwyr ynddyn nhw. Mae perthynas o’r fath yn gwneud i blant deimlo’n ddiogel ac yn eu helpu i ymddiried yn y rhai sy’n eu caru nhw. (Salm 22:9) Yn drist iawn, mae camdriniaeth yn aml yn digwydd yn y cartref, ac aelodau’r teulu a ffrindiau i’r teulu ydy’r camdrinwyr yn y rhan fwyaf o achosion. Gall bradychu hyder plentyn fel hyn ei gwneud hi’n anodd i’r plentyn hwnnw ymddiried mewn eraill, hyd yn oed am flynyddoedd wedyn.

6. Pam mae camdriniaeth rywiol yn greulon a niweidiol?

6 Dydy plant ddim yn gallu eu hamddiffyn eu hunain, ac mae camdriniaeth rywiol yn greulon a niweidiol. Mae gorfodi plant i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol flynyddoedd cyn iddyn nhw fod yn barod yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn feddyliol ar gyfer rhyw o fewn y briodas yn gallu gwneud niwed mawr. Gall camdriniaeth gamliwio eu hagwedd tuag at ryw, tuag atyn nhw eu hunain, a thuag at unrhyw un sy’n ceisio bod yn agos atyn nhw.

7. (a) Pam y gallai fod yn hawdd i gamdriniwr cyfrwys dwyllo plentyn, a sut gallai’r camdriniwr wneud hynny? (b) Beth efallai fydd canlyniadau’r celwyddau hyn?

7 Dydy plant ddim wedi meithrin y gallu i feddwl yn glir, i resymu, ac i gydnabod ac osgoi peryglon. (1 Cor. 13:11) Felly mae’n hawdd iawn i gamdrinwyr cyfrwys dwyllo plant. Mae camdrinwyr yn dweud celwyddau peryglus wrth blant, fel y syniad mai’r plentyn sydd ar fai, bod rhaid cadw’r gamdriniaeth yn gyfrinach, bod neb yn mynd i wrando ar neu helpu’r plentyn petai’n dweud wrth rywun am y gamdriniaeth, neu fod gweithredoedd rhywiol rhwng oedolyn a phlentyn yn ffordd hollol normal o ddangos eu bod nhw’n caru ei gilydd. Bydd hi’n cymryd nifer o flynyddoedd i’r plentyn ddeall bod yr holl syniadau hyn yn gelwyddau. Gall y plentyn hwn fynd trwy fywyd yn meddwl ei fod yn ddiffygiol, yn fudr, ac yn annheilwng o gariad a chysur.

8. Pam gallwn fod yn sicr bod Jehofa’n gallu cysuro’r rhai sydd wedi cael eu brifo?

8 Nid yw’n syndod, felly, fod camdriniaeth rywiol yn gallu achosi niwed parhaol. Mae’n drosedd mor greulon! Mae’r pla byd-eang hwn yn dystiolaeth glir ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, lle mae llawer o bobl “yn ddiserch” a lle “bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth.” (2 Tim. 3:1-5, 13) Mae tactegau Satan yn hollol greulon, ac mae’n drist pan fydd bodau dynol yn gweithredu mewn ffordd sy’n plesio’r Diafol. Fodd bynnag, mae Jehofa’n llawer cryfach na Satan a’i weision ef. Mae’n gwbl ymwybodol o dactegau Satan. Gallwn fod yn sicr bod Jehofa’n gwybod faint o boen rydyn ni’n ei theimlo, ac mae’n gallu rhoi’r cysur rydyn ni ei angen. Rydyn ni’n falch ein bod ni’n gwasanaethu’r ‘Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dyn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill’ yn ystod unrhyw dreial oherwydd i ninnau gael ein cysuro gan Dduw. (2 Cor. 1:3, 4) Ond pwy mae Jehofa’n ei ddefnyddio i roi cysur?

PWY SY’N GALLU RHOI CYSUR?

9. Yn ôl geiriau’r Brenin Dafydd yn Salm 27:10, beth fydd Jehofa yn ei wneud ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu gwrthod gan eu teulu?

9 Mae angen cysur yn enwedig ar y rhai y mae eu rhieni wedi gwrthod eu hamddiffyn, neu’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin gan bobl sy’n agos atyn nhw. Roedd y salmydd Dafydd yn gwybod ein bod ni wastad yn gallu dibynnu ar Jehofa am gysur. (Darllen Salm 27:10.) Roedd gan Dafydd ffydd bod Jehofa’n gwarchod y rhai sydd wedi cael eu gwrthod gan eu teulu. Sut mae Jehofa’n gwneud hynny? Mae’n defnyddio ei weision ffyddlon ar y ddaear. Mae ein cyd-addolwyr yn deulu ysbrydol inni. Er enghraifft, dywedodd Iesu fod y rhai a oedd yn addoli Jehofa gydag ef yn frodyr, yn chwiorydd, ac yn fam iddo.—Math. 12:48-50.

10. Sut gwnaeth yr apostol Paul ddisgrifio ei waith fel henuriad?

10 Ystyria sut gall y gynulleidfa Gristnogol fod fel teulu. Roedd yr apostol Paul yn henuriad gweithgar a ffyddlon. Gosododd esiampl wych, a chafodd hyd yn oed ei ysbrydoli i annog eraill i’w efelychu fel yr oedd yntau yn efelychu Crist. (1 Cor. 11:1) Ystyria sut gwnaeth Paul ddisgrifio ei waith fel henuriad: “Buon ni’n addfwyn gyda chi, fel mam yn magu ei phlant ar y fron.” (1 Thes. 2:7) Yn yr un modd heddiw, gall henuriaid ffyddlon ddefnyddio geiriau tyner a charedig wrth iddyn nhw ddefnyddio’r Ysgrythurau i gysuro’r rhai mewn angen.

Mae chwiorydd Cristnogol aeddfed yn aml yn gallu rhoi cysur effeithiol (Gweler paragraff 11) *

11. Beth sy’n dangos nad yr henuriaid yn unig sy’n gallu rhoi cysur?

11 Ai’r henuriaid yw’r unig rai sy’n gallu rhoi cysur i ddioddefwyr camdriniaeth? Nage. Mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i galonogi ein gilydd. (1 Thes. 4:18) Gall chwiorydd Cristnogol aeddfed fod yn arbennig o galonogol i chwiorydd sydd angen cysur. Yn briodol iawn, mae Jehofa wedi ei gymharu ei hun â mam sy’n cysuro ei mab. (Esei. 66:13) Mae’r Beibl yn cynnwys esiamplau o fenywod a oedd yn rhoi cysur i’r rhai mewn angen. (Job 42:11) Mae’n codi calon Jehofa i weld menywod Cristnogol heddiw yn cysuro chwiorydd eraill sy’n dioddef poen emosiynol! Mewn rhai achosion, gall yr henuriaid ofyn i chwaer aeddfed yn breifat a ydy hi mewn sefyllfa i helpu chwaer sy’n dioddef yn y ffordd honno. *

SUT GALLWN NI GYSURO ERAILL?

12. Beth rydyn ni’n ofalus i beidio â’i wneud?

12 Wrth gwrs, rydyn ni’n ofalus i beidio â busnesu ynglŷn â materion mae cyd-Gristion eisiau eu cadw’n breifat. (1 Tim. 5:13, BCND) Ond, beth gallwn ni ei wneud ar gyfer y rhai sydd angen help a chysur? Gad inni ystyried pum ffordd Ysgrythurol o roi cysur.

13. Yn ôl 1 Brenhinoedd 19:5-8, beth wnaeth angel Jehofa ar gyfer Elias, a sut gallwn ni efelychu’r angel hwnnw?

13 Cynigia help ymarferol. Pan oedd y proffwyd Elias yn rhedeg am ei fywyd, teimlodd mor ddigalon nes iddo fod eisiau marw. Anfonodd Jehofa angel grymus i ymweld â’r dyn digalon hwnnw. Gwnaeth yr angel roi help ymarferol iawn. Rhoddodd bryd o fwyd twym iddo ac anogodd ef i fwyta. (Darllen 1 Brenhinoedd 19:5-8.) Mae’r hanes hwnnw yn pwysleisio gwirionedd pwysig: Weithiau bydd un weithred garedig ac ymarferol yn gwneud llawer o ddaioni. Efallai byddai pryd o fwyd, anrheg fach, neu gerdyn calonogol yn rhoi sicrwydd i rywun digalon ein bod ni’n ei garu ac yn gofalu amdano. Hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo’n anghyfforddus yn trafod pethau sy’n bersonol neu’n boenus iawn, gallwn ni ddal i roi help ymarferol.

14. Pa wers yr ydyn ni’n ei dysgu o hanes Elias?

14 Helpa’r rhai gofidus i deimlo’n saff ac yn gyfforddus. Gallwn ddysgu rhywbeth arall o’r hanes am Elias. Trwy wyrth, rhoddodd Jehofa yr help roedd y proffwyd ei angen i gerdded yr holl ffordd i Fynydd Horeb. Efallai yn y man anghysbell hwnnw, lle roedd Jehofa wedi gwneud cyfamod â’i bobl ganrifoedd ynghynt, roedd Elias yn teimlo’n saff. Efallai iddo deimlo ei fod, o’r diwedd, yn ddiogel rhag y bobl oedd eisiau ei ladd. Beth allwn ni ei ddysgu o hyn? Os ydyn ni eisiau rhoi cysur i ddioddefwyr camdriniaeth, efallai bydd rhaid inni eu helpu i deimlo’n ddiogel yn gyntaf. Er enghraifft, dylai’r henuriaid gadw mewn cof y gallai chwaer ofidus deimlo’n fwy diogel a chyfforddus yn cael dishgled o de yn ei chartref nag y byddai hi yn yr ail ysgol yn Neuadd y Deyrnas. Gallai rhywun arall deimlo yn wahanol.

Gallwn iacháu rhywun drwy wrando’n amyneddgar, gweddïo o’r galon, a dewis geiriau cysurlon (Gweler paragraffau 15-20) *

15-16. Beth mae’n ei olygu i fod yn wrandawr da?

15 Bydda’n wrandawr da. Mae’r Beibl yn rhoi’r cyngor clir hwn: “Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll.” (Iago 1:19) A ydyn ni’n wrandawyr da? Efallai ein bod ni’n tueddu meddwl mai dim ond edrych ar y person sy’n siarad y mae gwrandawr da yn ei wneud, heb ddweud gair. Ond mae’n cynnwys mwy na hynny. Er enghraifft, yn y diwedd, gwnaeth Elias fynegi ei deimladau poenus i Jehofa, ac roedd Jehofa wir yn gwrando arno. Roedd Jehofa’n deall bod Elias yn teimlo’n ofnus, yn unig, ac yn meddwl bod ei holl waith yn ddiwerth. Yn ei garedigrwydd, gwnaeth Jehofa ei helpu gyda phob un o’i bryderon. Dangosodd ei fod wedi gwrando ar Elias.—1 Bren. 19:9-11, 15-18.

16 Sut gallwn ni ddangos cydymdeimlad a thosturi—sy’n ffyrdd o fynegi ein cariad—wrth inni wrando? Ar adegau, gall ychydig o eiriau llawn tact a chynhesrwydd ddangos sut rydyn ni’n teimlo. Gallet ti ddweud: “Mae’n wir ddrwg gen i fod hynny wedi digwydd iti. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei drin fel ’na!” Gallet ti ofyn un neu ddau o gwestiynau i wneud yn siŵr dy fod ti’n deall beth mae dy ffrind yn ei ddweud. Cwestiwn da yw, “A elli di fy helpu i ddeall beth rwyt ti’n ei feddwl?” neu “Pan ddywedaist ti hynny, des i i’r casgliad . . . Ydw i wedi deall yn iawn?” Drwy ddweud pethau fel hyn, gelli di wneud i’r person deimlo’n sicr dy fod ti wir yn gwrando, ac yn ceisio gwneud yn siŵr dy fod ti’n deall.—1 Cor. 13:4, 7.

17. Pam y dylen ni fod yn amyneddgar a pheidio â “siarad yn fyrbwyll”?

17 Bydda’n ofalus, fodd bynnag, i beidio â “siarad yn fyrbwyll.” Paid â thorri ar draws i roi cyngor neu i gywiro’r person. A bydda’n amyneddgar! Pan wnaeth Elias fynegi ei deimladau i Jehofa, defnyddiodd eiriau cryf i fynegi ei deimladau o dristwch. Yn hwyrach ymlaen, ar ôl i Jehofa gryfhau ffydd Elias, gwnaeth y dyn hwnnw fynegi ei deimladau eto, yn defnyddio union yr un geiriau. (1 Bren. 19:9, 10, 13, 14) Y wers? Weithiau mae angen i’r rhai gofidus siarad am eu teimladau fwy nag unwaith. Yn debyg i Jehofa, rydyn ni eisiau gwrando’n amyneddgar. Yn lle ceisio datrys eu problemau, rydyn ni’n dangos cydymdeimlad a thosturi.—1 Pedr 3:8.

18. Sut gall gweddïo gyda rhywun mewn angen fod yn gysur iddo?

18 Gweddïa o’r galon gyda’r un mewn angen. Gallai’r rhai sy’n isel eu hysbryd deimlo nad ydyn nhw’n gallu gweddïo. Gall rhywun deimlo nad yw’n ddigon da i siarad â Jehofa. Os ydyn ni eisiau cysuro rhywun o’r fath, gallwn ni weddïo gyda nhw, gan ddefnyddio enw’r unigolyn. Gallwn fynegi i Jehofa gymaint rydyn ni a’r gynulleidfa yn caru’r unigolyn hwnnw. Gallwn ni hefyd ofyn i Jehofa dawelu ysbryd ei ddafad werthfawr a’i chysuro. Gall gweddïau o’r fath fod yn llawn cysur.—Iago 5:16.

19. Beth sy’n gallu ein helpu i baratoi ar gyfer rhoi cysur i rywun?

19 Dewisa eiriau sy’n iacháu a chysuro. Meddylia cyn iti siarad. Gall siarad heb feddwl frifo rhywun. Ond gall geiriau caredig iacháu rhywun. (Diar. 12:18) Felly, gweddïa ar Jehofa am help i ddefnyddio geiriau caredig a chysurlon. Cofia nad oes yr un gair sy’n fwy pwerus na geiriau Jehofa sydd yn y Beibl.—Heb. 4:12.

20. Beth mae rhai a gafodd eu cam-drin yn ei gredu amdanyn nhw eu hunain, ac o beth rydyn ni eisiau eu hatgoffa?

20 Mae rhai brodyr a chwiorydd a gafodd eu cam-drin yn credu eu bod nhw’n frwnt, yn dda i ddim, ac nad oes neb yn eu caru—neu hyd yn oed nad ydyn nhw’n haeddu cael eu caru. Am gelwydd ofnadwy! Felly defnyddia’r Ysgrythurau i’w hatgoffa bod Jehofa yn eu caru’n fawr iawn. (Gweler y blwch “ Cysur o’r Ysgrythurau.”) Meddylia am sut gwnaeth angel gryfhau’r proffwyd Daniel pan oedd yn teimlo’n wan ac isel ei ysbryd. Roedd Jehofa eisiau i’r dyn annwyl hwnnw wybod ei fod yn werthfawr. (Dan. 10:2, 11, 19) Yn yr un modd, mae ein brodyr a’n chwiorydd gofidus yn werthfawr i Jehofa!

21. Beth fydd yn digwydd i’r holl bechaduriaid diedifar, ond beth ddylen ni fod yn benderfynol o’i wneud yn y cyfamser?

21 Pan ydyn ni’n cysuro eraill, rydyn ni’n eu hatgoffa o gariad Jehofa. Ac ni ddylen ni byth anghofio fod Jehofa yn Dduw cyfiawn. Mae Jehofa’n gwybod am bob unigolyn sydd wedi cael ei gam-drin. Mae’n gweld popeth, ac ni fydd yn gadael i bechaduriaid diedifar fynd heb eu cosbi. (Num. 14:18) Yn y cyfamser, gad inni wneud popeth a fedrwn ni i ddangos cariad tuag at y rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth. Ar ben hynny, cawn ein cysuro drwy feddwl am sut bydd Jehofa yn iacháu am byth bawb sydd wedi cael eu cam-drin gan Satan a’r byd hwn! Cyn bo hir, fydd y pethau poenus hyn ddim yn croesi’r meddwl byth eto.—Esei. 65:17.

CÂN 109 Carwch o Waelod Eich Calon

^ Par. 5 Bydd pobl sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yn ystod eu plentyndod efallai’n gorfod wynebu heriau, hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i ddeall pam. Byddwn ni hefyd yn ystyried pwy all gysuro’r rhai hyn. Yn olaf, byddwn yn trafod rhai ffyrdd effeithiol o gysuro dioddefwyr.

^ Par. 11 Penderfyniad personol yr unigolyn sydd wedi cael ei gam-drin yw ceisio help proffesiynol neu ddim.

^ Par. 76 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer aeddfed yn cysuro chwaer arall sy’n dioddef poen emosiynol.

^ Par. 78 DISGRIFIAD O’R LLUN: Dau henuriad yn ymweld â chwaer ofidus. Mae hi wedi gofyn i’r chwaer aeddfed fod yn bresennol.