Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 18

Cariad a Chyfiawnder yn y Gynulleidfa Gristnogol

Cariad a Chyfiawnder yn y Gynulleidfa Gristnogol

“Cariwch feichiau eich gilydd, ac felly fe gyflawnwch Gyfraith Crist.”—GAL. 6:2, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa

CIPOLWG *

1. Pa ddau beth gallwn ni fod yn sicr ohonyn nhw?

MAE Jehofa Dduw yn caru ei addolwyr. Y mae’n wastad wedi eu caru, ac fe fydd yn wastad yn eu caru. Y mae hefyd yn caru cyfiawnder. (Salm 33:5) Felly, gallwn fod yn sicr o ddau beth: (1) Mae’n torri calon Jehofa i weld ei weision yn cael eu trin yn annheg. (2) Bydd yn gwneud yn siŵr fod ei bobl ffyddlon yn cael cyfiawnder. Yn yr erthygl gyntaf o’r gyfres hon, * dysgon ni fod y Gyfraith a roddodd Duw i Israel drwy Moses wedi ei seilio ar gariad. Roedd yn hyrwyddo cyfiawnder—cyfiawnder i bawb, hyd yn oed y rhai mwyaf bregus. (Deut. 10:18) Dangosodd y Gyfraith honno gymaint y mae Jehofa yn gofalu am ei addolwyr.

2. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

2 Daeth Cyfraith Moses i ben yn 33 OG pan gafodd y gynulleidfa Gristnogol ei sefydlu. A fyddai Cristnogion heb fuddion cyfraith sy’n seiliedig ar gariad ac sy’n hyrwyddo cyfiawnder? Dim o gwbl! Roedd gan Gristnogion gyfraith newydd. Yn yr erthygl hon, byddwn yn gyntaf yn trafod beth ydy’r gyfraith honno. Wedyn, byddwn yn ateb y cwestiynau hyn: Pam gallwn ni ddweud fod y gyfraith hon wedi ei seilio ar gariad? Pam gallwn ni ddweud ei bod hi’n hyrwyddo cyfiawnder? O dan y gyfraith hon, sut dylai’r rhai sydd ag awdurdod drin pobl eraill?

BETH YDY CYFRAITH CRIST?

3. Yn ôl Galatiaid 6:2, beth mae ‘Cyfraith Crist’ yn ei gynnwys?

3 Darllen Galatiaid 6:2. (BCND) Mae Cristnogion yn byw o dan “Gyfraith Crist.” Ni wnaeth Iesu ysgrifennu rhestr o ddeddfau ar gyfer ei ddilynwyr, ond fe wnaeth roi cyfarwyddiadau, gorchmynion, ac egwyddorion i’w dilyn. Mae ‘Cyfraith Crist’ yn cynnwys popeth a ddysgodd Iesu. Er mwyn deall y gyfraith hon yn well, ystyria’r canlynol.

4-5. Sut gwnaeth Iesu ddysgu, a phryd?

4 Ym mha ffyrdd y gwnaeth Iesu ddysgu? Yn gyntaf, fe ddysgodd bobl drwy’r hyn a ddywedodd ef. Roedd ei eiriau’n bwerus oherwydd roedden nhw’n cyfleu’r gwirionedd am Dduw, yn dangos gwir ystyr bywyd, ac yn dangos y bydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar ein holl ddioddefaint. (Luc 24:19) Dysgodd Iesu drwy ei esiampl hefyd. Yn ei ffordd o fyw, dangosodd Iesu i’w ddilynwyr sut y dylen nhwythau fyw.—Ioan 13:15.

5 Pryd roedd Iesu’n dysgu? Roedd yn dysgu yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear. (Math. 4:23) Fe wnaeth hefyd ddysgu ei ddilynwyr yn fuan ar ôl iddo gael ei atgyfodi. Er enghraifft, ymddangosodd i grŵp o ddisgyblion—efallai dros 500 ohonyn nhw—a rhoddodd y gorchymyn i “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion.” (Math. 28:19, 20; 1 Cor. 15:6) Fel pen y gynulleidfa, parhaodd Iesu i arwain ei ddisgyblion ar ôl iddo ddychwelyd i’r nefoedd. Er enghraifft, tua’r flwyddyn 96 OG, gorchmynnodd Iesu i’r apostol Ioan roi anogaeth a chyngor i Gristnogion eneiniog.—Col. 1:18, BCND; Dat. 1:1.

6-7. (a) Yn lle mae dysgeidiaethau Iesu wedi eu cofnodi? (b) Sut rydyn ni’n ufudd i gyfraith Crist?

6 Yn lle mae dysgeidiaethau Iesu wedi eu cofnodi? Mae’r pedair Efengyl yn disgrifio llawer o’r pethau a ddywedodd ac a wnaeth Iesu ar y ddaear. Mae gweddill yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol—a ysgrifennwyd o dan ddylanwad ysbryd glân Duw gan ddynion â meddwl Crist—hefyd yn ein helpu i ddeall safbwynt Iesu ar bethau.—1 Cor. 2:16.

7 Gwersi: Mae dysgeidiaethau Iesu yn ymwneud â phob rhan o fywyd. Felly, mae cyfraith Crist yn effeithio ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud gartref, yn y gweithle neu’r ysgol, ac yn y gynulleidfa. Rydyn ni’n dysgu’r gyfraith hon drwy ddarllen yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol a myfyrio arnyn nhw. Rydyn ni’n ufudd i’r gyfraith hon drwy fyw yn unol â’r cyfarwyddiadau, y gorchmynion, a’r egwyddorion sydd yn y cofnod ysbrydoledig hwnnw. Pan ydyn ni’n ufudd i gyfraith Crist, rydyn ni’n ufudd i’n Duw cariadus, Jehofa, sef Ffynhonnell popeth a ddysgodd Iesu.—Ioan 8:28.

CYFRAITH WEDI EI SEILIO AR GARIAD

8. Beth yw sylfaen cyfraith Crist?

8 Mae tŷ sydd wedi cael ei adeiladu ar sylfaen gadarn yn gwneud i’r rhai sy’n byw ynddo deimlo’n ddiogel. Mewn ffordd debyg, mae cyfraith dda sydd wedi ei seilio ar sylfaen gadarn yn gwneud i’r bobl sy’n byw odani deimlo’n ddiogel. Mae cyfraith Crist wedi ei seilio ar y sylfaen orau posib—cariad. Pam gallwn ni ddweud hynny?

Pan ydyn ni’n delio ag eraill mewn ffordd gariadus, rydyn ni’n ufuddhau i “gyfraith Crist” (Gweler paragraffau 9-14) *

9-10. Beth sy’n dangos mai cymhelliad Iesu oedd cariad, a sut gallwn ni ei efelychu?

9 Yn gyntaf, cariad oedd yn ysgogi Iesu ym mhopeth a wnaeth. Mae tosturi, neu drugaredd, yn rhan o ddangos cariad. Oherwydd ei dosturi, gwnaeth Iesu ddysgu’r tyrfaoedd, iacháu’r rhai sâl, bwydo’r rhai llygredig, a chodi’r meirw. (Math. 14:14; 15:32-38; Marc 6:34; Luc 7:11-15) Er bod gwneud pethau o’r fath wedi cymryd llawer o’i amser a’i egni, roedd Iesu’n fodlon rhoi anghenion pobl eraill o flaen ei anghenion ei hun. Yn fwy na hynny, dangosodd ei gariad drwy aberthu ei fywyd ar ran pobl eraill.—Ioan 15:13.

10 Gwersi: Gallwn efelychu Iesu drwy roi anghenion pobl eraill o flaen ein hanghenion ein hunain. Gallwn hefyd ei efelychu drwy feithrin tosturi tuag at y bobl yn ein tiriogaeth. Pan fydd tosturi o’r fath yn ein hysgogi i bregethu ac i ddysgu’r newyddion da, byddwn yn ufuddhau i gyfraith Crist.

11-12. (a) Beth sy’n dangos gofal Jehofa amdanon ni? (b) Sut gallwn ni efelychu cariad Jehofa?

11 Yn ail, datgelodd Iesu gariad ei Dad. Yn ystod ei weinidogaeth, dangosodd Iesu gymaint mae Jehofa yn gofalu am ei addolwyr. Ymhlith pethau eraill, dysgodd Iesu’r canlynol i eraill: Mae pob un ohonon ni’n werthfawr i’n Tad nefol. (Math. 10:31) Mae Jehofa yn awyddus i groesawu’n ôl unrhyw ddafad goll sy’n dod yn ôl i’r gynulleidfa. (Luc 15:7, 10) Profodd Jehofa ei gariad tuag aton ni drwy roi ei Fab yn bridwerth droson ni.—Ioan 3:16.

12 Gwersi: Sut gallwn ni efelychu cariad Jehofa? (Eff. 5:1, 2) Mae pob un o’n brodyr a’n chwiorydd yn werthfawr inni, ac rydyn ni’n hapus i groesawu “dafad oedd ar goll” sy’n troi’n ôl at Jehofa. (Salm 119:176) Rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru ein brodyr a’n chwiorydd drwy wneud pethau ar eu cyfer a’u helpu pan fyddan nhw mewn angen. (1 Ioan 3:17) Pan ydyn ni’n trin eraill mewn ffordd gariadus, rydyn ni’n ufudd i gyfraith Crist.

13-14. (a) Yn ôl Ioan 13:34, 35, beth oedd gorchymyn Iesu i’w ddisgyblion, a pham mae’n orchymyn newydd? (b) Sut rydyn ni’n ufuddhau iddo?

13 Yn drydydd, gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr ddangos cariad hunanaberthol. (Darllen Ioan 13:34, 35.) Mae gorchymyn Iesu yn newydd oherwydd mae’n gofyn inni ddangos math o gariad nad oedd yn ofynnol o dan y Gyfraith a roddodd Duw i Israel: Câr dy gyd-addolwyr fel y gwnaeth Iesu dy garu di. Mae hynny’n gofyn am gariad hunanaberthol. Mae’n rhaid inni garu ein brodyr a’n chwiorydd yn fwy nag yr ydyn ni’n caru ni’n hunain. Dylen ni eu caru gymaint nes inni fod yn barod i roi ein bywydau drostyn nhw, fel y gwnaeth Iesu droson ni. *

14 Gwersi: Sut rydyn ni’n ufuddhau i’r gorchymyn newydd? Yn syml, drwy aberthu pethau ar gyfer ein brodyr a’n chwiorydd. Rydyn ni’n fodlon, nid yn unig i wneud yr aberth mwyaf—sef ein bywydau—ond hefyd i wneud aberthau bychain. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n gwneud ymdrech arbennig yn rheolaidd i helpu brawd neu chwaer sydd mewn oed i fynychu’r cyfarfodydd, neu’n fodlon aberthu rhywbeth rydyn ni’n ei hoffi er mwyn gwneud rhywun annwyl yn hapus, neu pan ydyn ni’n defnyddio ein gwyliau i helpu i roi cymorth ar ôl trychineb, rydyn ni’n ufuddhau i gyfraith Crist. Rydyn ni hefyd yn helpu pob unigolyn i deimlo’n ddiogel.

CYFRAITH SY’N HYRWYDDO CYFIAWNDER

15-17. (a) Sut roedd gweithredoedd Iesu yn dangos cyfiawnder? (b) Sut gallwn efelychu Iesu?

15 Mae “cyfiawnder,” yn y Beibl, yn golygu gwneud yr hyn mae Duw’n ei ystyried yn iawn a hynny heb ragfarn. Pam gallwn ni ddweud bod cyfraith Crist yn hyrwyddo cyfiawnder?

Roedd Iesu’n barchus ac yn garedig tuag at fenywod, gan gynnwys rhai roedd eraill yn eu dilorni (Gweler paragraff 16) *

16 Yn gyntaf, ystyria sut roedd gweithredoedd Iesu yn dangos ei fod yn gyfiawn. Yn oes Iesu, roedd yr arweinwyr crefyddol Iddewig yn casáu’r rhai nad oedden nhw’n Iddewon, yn meddwl eu bod nhw’n well nag Iddewon cyffredin, ac yn amharchus tuag at fenywod. Ond, roedd Iesu’n deg ac yn ddiragfarn wrth ddelio â phawb. Os oedd pobl nad oedden nhw’n Iddewon yn rhoi ffydd ynddo, roedd Iesu yn gadael iddyn nhw ei ddilyn. (Math. 8:5-10, 13) Pregethodd i bawb heb ragfarn, y cyfoethog a’r tlawd. (Math. 11:5; Luc 19:2, 9) Doedd byth yn trin menywod yn gas nac yn greulon. I’r gwrthwyneb, roedd yn barchus ac yn garedig tuag at fenywod, gan gynnwys rhai roedd pobl eraill yn eu dirmygu.—Luc 7:37-39, 44-50.

17 Gwersi: Gallwn efelychu Iesu drwy ddelio ag eraill yn ddiragfarn a thrwy bregethu i bawb sy’n fodlon gwrando—beth bynnag yw eu cefndir cymdeithasol neu grefyddol. Mae dynion Cristnogol yn dilyn ei esiampl drwy drin menywod yn barchus. Pan wnawn ni’r pethau hyn, rydyn ni’n ufuddhau i gyfraith Crist.

18-19. Beth ddysgodd Iesu am gyfiawnder, a pha wersi rydyn ni’n eu dysgu o hynny?

18 Yn ail, ystyria’r hyn a ddysgodd Iesu am gyfiawnder. Dysgodd egwyddorion a fyddai’n helpu ei ddilynwyr i drin eraill yn deg. Meddylia, er enghraifft, am y Rheol Aur. (Math. 7:12) Rydyn ni i gyd eisiau cael ein trin yn deg. Felly, dylen ni ymddwyn yn deg tuag at eraill. Os gwnawn ni hynny, efallai y byddan nhw’n cael eu cymell i’n trin ninnau’n deg. Ond, beth os ydyn ni wedi cael ein trin yn annheg? Gwnaeth Iesu ddysgu ei ddilynwyr i ymddiried yn Jehofa i “amddiffyn y bobl . . . sy’n galw arno ddydd a nos!” (Luc 18:6, 7) I bob pwrpas, addewid yw’r datganiad hwnnw: Mae ein Duw cyfiawn yn ymwybodol o’r treialon rydyn ni’n eu hwynebu yn y dyddiau diwethaf, ac fe fydd yn sicrhau ein bod ni’n cael cyfiawnder ar yr amser iawn.—2 Thes. 1:6.

19 Gwersi: Pan fyddwn ni’n dilyn yr egwyddorion roedd Iesu’n eu dysgu, byddwn ni’n trin eraill mewn ffordd deg. Ac, os ydyn ni wedi dioddef anghyfiawnder ym myd Satan, gallwn deimlo cysur o wybod y bydd Jehofa yn darparu cyfiawnder ar ein rhan.

SUT DYLAI RHAI MEWN AWDURDOD DRIN ERAILL?

20-21. (a) Sut dylai’r rhai sydd ag awdurdod drin pobl eraill? (b) Sut gall gŵr ddangos cariad hunanaberthol, a sut dylai tadau drin eu plant?

20 O dan gyfraith Crist, sut dylai’r rhai sydd ag awdurdod drin pobl eraill? Gan mai cariad ydy sail y gyfraith honno, dylai’r rhai mewn awdurdod anrhydeddu’r rhai yn eu gofal a’u trin mewn ffordd gariadus. Mae’n rhaid iddyn nhw gofio bod Crist eisiau inni ddangos cariad ym mhob dim rydyn ni’n ei wneud.

21 Yn y teulu. Dylai gŵr garu ei wraig “fel mae’r Meseia wedi caru’r eglwys.” (Eff. 5:25, 28, 29) Mae angen i wŷr efelychu cariad hunanaberthol Crist drwy roi anghenion a dymuniadau ei wraig o flaen ei rai ef ei hun. Mae’n anodd i rai dynion ddangos cariad o’r fath, efallai oherwydd na chawson nhw eu magu mewn diwylliant lle mae trin eraill yn deg ac yn gariadus yn bwysig. Efallai ei bod hi’n anodd iddyn nhw gywiro arferion drwg, ond mae’n rhaid iddyn nhw wneud y newidiadau hyn er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Crist. Pan fydd gŵr yn dangos cariad hunanaberthol bydd ei wraig yn ei barchu. Ni fyddai tad sydd yn wir yn caru ei blant yn eu brifo mewn gair na gweithred. (Eff. 4:31) Yn hytrach, mae’n mynegi ei gariad a’i gymeradwyaeth mewn ffyrdd sy’n helpu ei blant i deimlo’n ddiogel. Mae tadau o’r fath yn ennill cariad a hyder eu plant.

22. Yn ôl 1 Pedr 5:1-3, i bwy mae’r defaid yn perthyn, a sut dylen nhw gael eu trin?

22 Yn y gynulleidfa. Pwysig yw i henuriaid gofio nad ydy’r defaid yn perthyn iddyn nhw. (Ioan 10:16; darllen 1 Pedr 5:1-3.) Mae’r ymadroddion “bobl Dduw,” “dyna mae Duw eisiau,” ac “y bobl sy’n eich gofal chi” yn atgoffa’r henuriaid fod y defaid yn perthyn i Jehofa. Mae Duw eisiau i’r defaid gael eu trin â chariad a thynerwch. (1 Thes. 2:7, 8) Mae henuriaid sy’n dangos cariad wrth iddyn nhw ofalu am eu cyfrifoldebau yn cael cymeradwyaeth Jehofa. Mae’r henuriaid hynny hefyd yn ennill cariad a pharch eu brodyr a’u chwiorydd.

23-24. (a) Beth yw rôl yr henuriaid wrth ddelio â drwgweithredu difrifol? (b) Beth sy’n rhaid i’r henuriaid ei gadw mewn cof?

23 Pa rôl sydd gan yr henuriaid wrth ddelio ag achosion o ddrwgweithredu difrifol? Mae eu rôl nhw yn wahanol i’r barnwyr a’r henuriaid o dan y Gyfraith a roddodd Duw i Israel. O dan y Gyfraith honno, roedd dynion apwyntiedig yn delio ag achosion ysbrydol ond hefyd ag achosion sifil a throseddol. Ond, o dan gyfraith Crist, rôl yr henuriaid ydy delio â’r ochr ysbrydol o ddrwgweithredu. Maen nhw’n cydnabod bod Duw wedi rhoi’r cyfrifoldeb i’r awdurdodau seciwlar i ddelio ag achosion sifil a throseddol. Mae hynny’n cynnwys yr hawl i gosbi, dirwyo, neu garcharu rhywun.—Rhuf. 13:1-4.

24 Sut mae henuriaid yn delio â’r ochr ysbrydol o ddrwgweithredu? Maen nhw’n defnyddio’r Ysgrythurau i bwyso a mesur ac i wneud penderfyniadau. Maen nhw’n cadw mewn cof mai cariad ydy sail cyfraith Crist. Mae cariad yn ysgogi’r henuriaid i ystyried: Beth sydd angen cael ei wneud i helpu unrhyw un yn y gynulleidfa sydd wedi dioddef oherwydd y drwgweithredu? Ynglŷn â’r drwgweithredwr, mae cariad yn ysgogi’r henuriaid i ystyried: A yw’n edifeiriol? A allwn ni ei helpu i adfer ei berthynas â Jehofa?

25. Beth fydd yr erthygl nesaf yn ei drafod?

25 Mor ddiolchgar ydyn ni i fyw o dan gyfraith Crist! Pan fydd pawb yn gweithio’n galed i ufuddhau i’r gyfraith hon, rydyn ni’n helpu i sicrhau bod pawb yn y gynulleidfa yn cael eu caru, eu gwerthfawrogi, a’u bod nhw’n teimlo’n ddiogel. Er hynny, rydyn ni’n byw mewn byd lle mae “pobl ddrwg . . . yn mynd o ddrwg i waeth.” (2 Tim. 3:13) Mae’n rhaid inni aros yn effro. Sut gall y gynulleidfa Gristnogol efelychu cyfiawnder Duw wrth ddelio â cham-drin plant yn rhywiol? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

^ Par. 5 Mae’r erthygl hon, a’r ddwy sy’n dilyn, yn rhan o gyfres sy’n trafod pam y gallwn ni fod yn hyderus fod Jehofa yn Dduw cariadus a chyfiawn. Mae eisiau i’w bobl gael eu trin mewn ffordd gyfiawn, ac mae’n cysuro’r rhai sydd wedi dioddef anghyfiawnder yn y byd drwg hwn.

^ Par. 1 Gweler yr erthygl “Cariad a Chyfiawnder yn Israel Gynt” yn rhifyn Chwefror 2019 o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 13 ESBONIAD: Mae cariad hunanaberthol yn ein cymell i roi anghenion a lles pobl eraill o flaen ein rhai ni. Rydyn ni’n barod i aberthu rhywbeth er mwyn helpu eraill.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Iesu yn ei dosturi yn atgyfodi unig fab gwraig weddw.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Iesu yn cael bwyd yn nhŷ’r Pharisead, Simon. Mae dynes, putain efallai, newydd olchi traed Iesu â’i dagrau, eu sychu â’i gwallt, a thywallt olew arnyn nhw. Anghytunodd Simon ag ymddygiad y ddynes, ond mae Iesu’n ei hamddiffyn hi.