Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

“Peidiwch Gadael i Unrhyw un Eich Rhwymo”!

“Peidiwch Gadael i Unrhyw un Eich Rhwymo”!

“Peidiwch gadael i unrhyw un eich rhwymo chi gyda rhyw syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag—syniadau sy’n dilyn traddodiadau dynol.”—COL. 2:8.

CÂN 96 Llyfr Duw—Trysor Yw

CIPOLWG *

1. Yn ôl Colosiaid 2:4, 8, sut mae Satan yn ceisio caethiwo ein meddyliau?

BWRIAD Satan ydy ein troi ni yn erbyn Jehofa. Er mwyn cyrraedd ei nod, mae’n ceisio dylanwadu ar ein meddwl er mwyn ein caethiwo ni, fel petai, a gwneud inni feddwl fel y mae ef eisiau inni feddwl. Mae’n ceisio ein perswadio ni neu ein twyllo ni i’w ddilyn drwy apelio at ein dymuniadau.—Darllen Colosiaid 2:4, 8.

2-3. (a) Pam dylen ni wrando ar y rhybudd yn Colosiaid 2:8? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Ydyn ni’n wir mewn peryg o gael ein twyllo gan Satan? Ydyn! Cofia, ni wnaeth Paul ysgrifennu’r rhybudd yn Colosiaid 2:8 at anghredinwyr. Ysgrifennodd at Gristnogion a oedd wedi cael eu heneinio â’r ysbryd glân. (Col. 1:2, 5, 6) Roedd y Cristnogion mewn peryg bryd hynny, ac rydyn ninnau mewn mwy o beryg heddiw. (1 Cor. 10:12) Pam? Mae Satan wedi cael ei fwrw i lawr i’r ddaear, ac mae’n canolbwyntio ar dwyllo gweision ffyddlon Duw. (Dat. 12:9, 12, 17) Ar ben hynny, rydyn ni’n byw mewn cyfnod lle mae pobl ddrwg a thwyllwyr “yn mynd o ddrwg i waeth.”—2 Tim. 3:1, 13.

3 Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod sut mae Satan yn defnyddio “nonsens gwag” i ddylanwadu ar ein meddyliau. Byddwn yn trafod tri o’r “triciau slei” mae’n eu defnyddio. (Eff. 6:11) Wedyn, yn yr erthygl nesaf, byddwn yn ystyried sut i gael gwared ar unrhyw effeithiau mae tactegau Satan wedi eu cael ar ein meddyliau. Ond, yn gyntaf, gad inni weld beth allwn ni ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Satan gamarwain yr Israeliaid ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i Wlad yr Addewid.

TEMTASIWN EILUNADDOLIAETH

4-6. Yn ôl Deuteronomium 11:10-15, pa newidiadau roedd rhaid i’r Israeliaid eu gwneud er mwyn ffermio yng Ngwlad yr Addewid?

4 Yn graff iawn, temtiodd Satan yr Israeliaid i droi at eilunaddoliaeth. Sut? Manteisiodd ar eu hangen i ddarparu bwyd iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd. Pan aeth yr Israeliaid i mewn i Wlad yr Addewid, roedd rhaid iddyn nhw newid eu ffordd o dyfu bwyd. Tra oedden nhw yn yr Aifft, roedd yr Israeliaid yn dyfrhau’r tir gan ddefnyddio dŵr o Afon Nîl. Ond, roedd amaethyddiaeth yng Ngwlad yr Addewid yn seiliedig, nid ar ddŵr o afon fawr, ond ar ddŵr o lawogydd tymhorol a gwlith. (Darllen Deuteronomium 11:10-15; Esei. 18:4, 5) Felly, roedd rhaid i’r Israeliaid ddysgu dulliau ffermio newydd. Fyddai hynny ddim yn hawdd oherwydd bod y rhan fwyaf o’r bobl â phrofiad ffermio wedi marw yn yr anialwch.

Sut gwnaeth Satan lwyddo i newid meddylfryd ffermwyr Israel? (Gweler paragraffau 4-6) *

5 Esboniodd Jehofa i’w bobl fod eu hamgylchiadau wedi newid. Wedyn, dyma’n ychwanegu’r rhybudd canlynol, sydd ar yr olwg gyntaf yn ddim byd i’w wneud ag amaethyddiaeth: “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn troi cefn arno [Jehofa] a dechrau addoli duwiau eraill!” (Deut. 11:16, 17) Pam rhoddodd Jehofa rybudd i beidio ag addoli gau dduwiau wrth iddo siarad am ddysgu dulliau ffermio newydd?

6 Roedd Jehofa’n gwybod y byddai’r Israeliaid yn cael eu temtio i ddysgu dulliau ffermio lleol oddi wrth y paganiaid o’u hamgylch. Wrth gwrs, roedd eu cymdogion yn llawer mwy profiadol nag oedd yr Israeliaid, a gallai pobl Dduw ddysgu sgiliau gwerthfawr oddi wrthyn nhw, ond roedd ’na beryg. Roedd y ffermwyr yn Canaan yn addoli Baal, ac roedd hynny’n effeithio ar eu ffordd o feddwl. Roedden nhw’n meddwl mai Baal oedd biau’r awyr ac yn rhoi glawogydd. Doedd Jehofa ddim eisiau i’w bobl gael eu twyllo gan gau ddysgeidiaethau o’r fath. Ond, dro ar ôl tro, dewisodd yr Israeliaid addoli Baal. (Num. 25:3, 5; Barn. 2:13; 1 Bren. 18:18) Sylwa ar sut roedd Satan yn medru caethiwo’r Israeliaid.

TACTEGAU SATAN I GAETHIWO’R ISRAELIAID

7. Pa brawf ar eu ffydd a wynebodd yr Israeliaid ar ôl mynd i mewn i Wlad yr Addewid?

7 Y dacteg gyntaf a ddefnyddiodd Satan oedd apelio at ddymuniad naturiol o eisiau gweld y tir yn cael ei ddyfrio gan y glaw. Roedd ’na fawr ddim glaw yng Ngwlad yr Addewid o ddiwedd mis Ebrill hyd at fis Medi bob blwyddyn. Er mwyn i’r Israeliaid fyw a thyfu bwyd, roedden nhw’n dibynnu ar y glawogydd a oedd yn cychwyn tua mis Hydref. Gwnaeth Satan dwyllo’r Israeliaid i feddwl bod rhaid iddyn nhw fabwysiadu arferion paganaidd eu cymdogion er mwyn llwyddo. Roedd y cymdogion hynny’n credu bod rhai defodau yn angenrheidiol er mwyn gwneud i’w duwiau weithredu a dod â’r glaw. Roedd y rhai â diffyg ffydd yn Jehofa yn credu mai dyna oedd yr unig ffordd o osgoi sychder parhaol, felly, gwnaethon nhw berfformio defodau paganaidd i anrhydeddu’r gau dduw Baal.

8. Beth oedd ail dacteg Satan? Esbonia.

8 Defnyddiodd Satan ail dacteg yn erbyn yr Israeliaid. Apeliodd at chwantau anfoesol. Wrth addoli eu duwiau, roedd y gwledydd paganaidd yn gwneud pethau anfoesol iawn. Roedd yr addoliad anfoesol hwnnw yn cynnwys dynion a merched yn eu puteinio eu hunain yn y deml. Roedd cyfunrhywiaeth a mathau eraill o anfoesoldeb rhywiol yn cael eu hystyried yn normal! (Deut. 23:17, 18; 1 Bren. 14:24) Roedd y paganiaid yn credu bod y defodau hynny’n annog eu duwiau i wneud y tir yn ffrwythlon. Cafodd llawer o’r Israeliaid eu denu gan ddefodau anfoesol y paganiaid a dewison nhw wasanaethu gau dduwiau. Mewn gwirionedd, roedd Satan wedi eu caethiwo nhw.

9. Yn unol â Hosea 2:16, 17, sut gwnaeth Satan achosi i’r Israeliaid anghofio am safbwynt Jehofa?

9 Roedd gan Satan drydedd dacteg. Achosodd i’r Israeliaid anghofio am safbwynt Jehofa. Yn nyddiau’r proffwyd Jeremeia, dywedodd Jehofa fod y gau broffwydi wedi achosi i’w bobl anghofio Ei enw “ac addoli’r duw Baal.” (Jer. 23:27) Mae’n ymddangos bod pobl Dduw wedi stopio defnyddio enw Jehofa a’i ddisodli gyda’r enw Baal, sy’n golygu “Perchennog” neu “Meistr.” Byddai hyn yn ei gwneud hi’n anodd i’r Israeliaid wahaniaethu rhwng Jehofa a Baal, a’i gwneud hi’n haws iddyn nhw gymysgu defodau addoli Baal ag addoli Jehofa.—Darllen Hosea 2:16, 17 a’r troednodyn.

TACTEGAU SATAN HEDDIW

10. Pa dactegau mae Satan yn eu defnyddio heddiw?

10 Mae Satan yn defnyddio’r un tactegau heddiw. Mae’n caethiwo pobl drwy apelio at ddymuniadau naturiol, drwy hyrwyddo anfoesoldeb rhywiol, a thrwy achosi i bobl anghofio am safbwynt Jehofa. Gad inni drafod y dacteg olaf honno yn gyntaf.

11. Sut mae Satan wedi ei gwneud hi’n anodd i bobl adnabod Jehofa?

11 Mae Satan yn achosi i bobl anghofio am safbwynt Jehofa. Ar ôl i apostolion Iesu farw, dechreuodd rhai a oedd yn honni bod yn Gristnogion ledaenu gau ddysgeidiaethau. (Act. 20:29, 30; 2 Thes. 2:3) Roedd y gwrthgilwyr hynny’n ei gwneud hi’n anodd adnabod yr unig wir Dduw. Er enghraifft, stopion nhw ddefnyddio’r enw dwyfol yn eu copïau nhw o’r Beibl gan ffafrio ymadroddion fel “Arglwydd.” Drwy dynnu enw Duw allan o’r Beibl a’i ddisodli â’r gair “Arglwydd,” roedd hi’n anodd i ddarllenwyr y Beibl weld sut mae Jehofa’n wahanol i’r “arglwyddi” eraill yn yr Ysgrythurau. (1 Cor. 8:5) Roedden nhw’n defnyddio’r un term, “Arglwydd,” ar gyfer Jehofa ac Iesu, felly roedd yn anodd deall bod Jehofa ac Iesu yn wahanol unigolion ac yn wahanol o ran safle. (Ioan 17:3) Gwnaeth y dryswch hwnnw gyfrannu at athrawiaeth y Drindod—dysgeidiaeth sydd ddim yn cael ei dysgu yng Ngair Duw. O ganlyniad, mae llawer yn credu nad yw’n bosib dod i adnabod Duw. Am gelwydd ofnadwy!—Act. 17:27.

Sut mae Satan wedi defnyddio gau grefydd i hyrwyddo chwantau anfoesol? (Gweler paragraff 12) *

12. Beth mae gau grefydd wedi ei hyrwyddo, a beth yw’r canlyniadau sy’n cael eu hegluro yn Rhufeiniaid 1:28-31?

12 Mae Satan yn apelio at chwantau anfoesol. Yn nyddiau’r Israeliaid gynt, defnyddiodd Satan gau grefydd i hyrwyddo anfoesoldeb. Heddiw, mae’n gwneud yr un peth. Mae gau grefydd yn derbyn a hyd yn oed yn hyrwyddo ymddygiad anfoesol. O ganlyniad, mae llawer sy’n honni gwasanaethu Duw wedi cefnu ar ei safonau eglur ynglŷn â moesau. Mae’r apostol Paul yn egluro’r canlyniadau yn ei lythyr at y Rhufeiniaid. (Darllen Rhufeiniaid 1:28-31.) Ymhlith y pethau sydd ddim yn dderbyniol y mae pob math o anfoesoldeb rhywiol, gan gynnwys cyfunrhywiaeth. (Rhuf. 1:24-27, 32; Dat. 2:20) Mor bwysig yw inni lynu wrth ddysgeidiaethau eglur y Beibl!

13. Pa dacteg arall mae Satan yn ei defnyddio?

13 Mae Satan yn apelio at ddymuniadau naturiol. Mae gennyn ni ddymuniad naturiol o fod eisiau dysgu sgiliau sy’n gallu ein helpu i ddarparu ar gyfer ni’n hunain a’n teulu. (1 Tim. 5:8) Yn aml, gallwn ddysgu’r sgiliau hynny drwy fynd i’r ysgol a bod yn ddisgybl da. Ond mae’n rhaid inni fod yn ofalus. Mae’r system addysg mewn llawer o wledydd yn dysgu disgyblion, nid yn unig am sgiliau ymarferol, ond hefyd am athroniaeth ddynol. Mae disgyblion yn cael eu hannog i gwestiynu bodolaeth Duw ac i ddiystyru’r Beibl. Maen nhw’n dysgu mai esblygiad ydy’r unig esboniad call ar gyfer dechreuad bywyd. (Rhuf. 1:21-23) Mae dysgeidiaethau o’r fath yn mynd yn groes i ddoethineb Duw.—1 Cor. 1:19-21; 3:18-20.

14. Beth mae athroniaeth ddynol yn ei feithrin?

14 Mae athroniaeth ddynol yn anwybyddu neu’n mynd yn groes i safonau cyfiawn Jehofa. Dydy’r athroniaeth honno ddim yn meithrin ffrwyth ysbryd Duw, ond, yn hytrach, mae’n hyrwyddo’r “natur bechadurus.” (Gal. 5:19-23) Mae’n meithrin balchder, a’r canlyniad yw bod pobl yn “byw i’w plesio nhw eu hunain.” (2 Tim. 3:2-4) Mae’r tueddiadau hynny’n wahanol i’r ysbryd addfwyn a gostyngedig y mae gweision Duw yn cael eu hannog i’w feithrin. (2 Sam. 22:28, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Mae meddyliau rhai Cristnogion sydd wedi mynd ar drywydd addysg yn y brifysgol wedi cael eu mowldio gan feddylfryd dynol yn hytrach na meddylfryd Duw. Gad inni ystyried esiampl o’r hyn sy’n gallu digwydd.

Sut gall ein meddylfryd gael ei wyrdroi gan athroniaeth ddynol? (Gweler paragraffau 14-16) *

15-16. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad un chwaer?

15 Mae chwaer sydd wedi bod mewn gwasanaeth llawn amser am dros 15 mlynedd yn dweud: “Fel Tyst bedyddiedig, roeddwn i wedi darllen a chlywed am beryglon addysg prifysgol, ond gwnes i anwybyddu’r rhybuddion hynny. Doeddwn i ddim yn meddwl bod cyngor o’r fath yn berthnasol i mi.” Pa heriau gwnaeth hi eu hwynebu? Mae hi’n cyfaddef: “Roedd astudio ar gyfer fy ngwersi yn cymryd cymaint o amser ac ymdrech fel fy mod i’n rhy brysur i dreulio amser yn gweddïo ar Jehofa fel roeddwn i wedi arfer gwneud. Roeddwn i wedi blino gormod i fwynhau sgwrsio am y Beibl gydag eraill, ac yn rhy flinedig i baratoi’n dda ar gyfer y cyfarfodydd. Diolch byth, unwaith imi sylweddoli bod ymroi i fy addysg uwch yn niweidio fy mherthynas â Jehofa, roeddwn i’n gwybod bod rhaid imi stopio. A dyna wnes i.”

16 Sut gwnaeth addysg uwch effeithio ar feddylfryd y chwaer hon? Mae hi’n ateb: “Mae cywilydd arnaf ond mae’n rhaid imi gyfaddef bod yr addysg honno wedi fy nysgu i feirniadu eraill, yn enwedig fy mrodyr a’m chwiorydd, i ddisgwyl gormod ganddyn nhw, ac i fy ynysu fy hun oddi wrthyn nhw. Cymerodd gryn dipyn o amser i stopio meddwl fel ’na. Gwnaeth y cyfnod hwnnw yn fy mywyd fy nysgu pa mor beryglus yw anwybyddu rhybuddion oddi wrth ein Tad nefol sy’n dod trwy ei gyfundrefn. Roedd Jehofa yn fy adnabod yn well nag oeddwn i’n fy adnabod fy hun. Dw i’n difaru peidio â gwrando!”

17. (a) Beth rydyn ni’n benderfynol o’i wneud? (b) Beth fyddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Bydda’n benderfynol o beidio byth â chael dy gaethiwo gan fyd Satan a’i “syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag.” Bydda’n effro bob amser i dactegau Satan. (1 Cor. 3:18; 2 Cor. 2:11) Paid byth â gadael iddo wneud iti anghofio am safbwynt Jehofa. Dilyna safonau moesol uchel Jehofa yn dy fywyd. A phaid â gadael i Satan dy dwyllo i anwybyddu cyngor Jehofa. Ond beth os wyt ti’n synhwyro bod meddylfryd y byd yn effeithio arnat ti yn barod? Bydd yr erthygl nesaf yn dangos sut mae Gair Duw yn gallu ein helpu i gywiro hyd yn oed syniadau ac arferion sydd wedi ymwreiddio’n ddwfn.—2 Cor. 10:4, 5.

CÂN 49 Llawenhau Calon Jehofa

^ Par. 5 Mae Satan yn grefftus iawn yn twyllo pobl. Mae wedi twyllo llawer o bobl i gredu eu bod nhw’n rhydd, ond mewn gwirionedd, mae wedi eu caethiwo nhw. Bydd yr erthygl hon yn trafod nifer o’r tactegau mae Satan yn eu defnyddio i dwyllo pobl.

^ Par. 48 DISGRIFIAD O’R LLUN: Israeliaid yn cymdeithasu â’r Canaaneaid ac yn cael eu temtio i addoli Baal a bod yn anfoesol.

^ Par. 51 DISGRIFIAD O’R LLUN: Hysbyseb eglwys sy’n derbyn cyfunrhywiaeth.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer ifanc sydd wedi cofrestru mewn prifysgol. Mae hi a’i chyd-fyfyrwyr wedi cael eu perswadio gan eu darlithydd mai gwyddoniaeth a thechnoleg yw’r ateb i broblemau dynolryw. Yn nes ymlaen, yn Neuadd y Deyrnas, mae hi wedi colli diddordeb ac mae’n feirniadol.