Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

Dibynna ar Jehofa Pan Fyddi Di o Dan Straen

Dibynna ar Jehofa Pan Fyddi Di o Dan Straen

“Mae pryder yn gallu llethu rhywun.”—DIAR. 12:25.

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

CIPOLWG *

1. Pam mae’n bwysig inni wrando ar rybudd Iesu?

YN EI broffwydoliaeth am y dyddiau diwethaf, dywedodd Iesu: “Gwyliwch eich hunain! Peidiwch gwastraffu’ch bywydau . . . a phoeni am bethau materol [neu “bryderon am ennill digon o arian i fyw; pryderon bywyd bob dydd,” tdn nwtsty].” (Luc 21:34) Pwysig yw gwrando ar y rhybudd hwnnw. Pam? Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ni wynebu’r un fath o broblemau heriol ag y mae pawb yn eu hwynebu.

2. Pa broblemau heriol mae ein brodyr a’n chwiorydd yn eu hwynebu?

2 Weithiau, rydyn ni’n gorfod wynebu nifer o broblemau heriol ar yr un pryd. Ystyria’r esiamplau canlynol. Roedd Tyst o’r enw John, * a oedd yn dioddef o sglerosis gwasgaredig, wedi torri ei galon pan wnaeth ei wraig ei adael ar ôl 19 mlynedd o briodas. Yna, stopiodd ei ddwy ferch wasanaethu Jehofa. Roedd Bob a Linda yn wynebu math arall o broblem. Roedden nhw wedi colli eu swyddi, ac yna fe gollon nhw eu cartref. Ar ben hynny, dywedodd y meddyg wrth Linda fod ganddi glefyd ar ei chalon a fyddai’n gallu ei lladd hi, ac afiechyd arall a oedd wedi dechrau difetha ei system imiwnedd.

3. Yn ôl Philipiaid 4:6, 7, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

3 Gallwn fod yn sicr fod ein Creawdwr a’n Tad cariadus, Jehofa, yn deall sut rydyn ni’n teimlo pan fyddwn ni o dan straen. Ac mae eisiau ein helpu ni i ddelio gyda’n problemau. (Darllen Philipiaid 4:6, 7.) Mae Gair Duw yn cynnwys hanesion sy’n egluro sut gwnaeth ei weision ddyfalbarhau yn wyneb problemau. Mae hefyd yn cofnodi sut gwnaeth Jehofa eu helpu nhw i ymdopi â’r sefyllfaoedd anodd hynny. Gad inni ystyried ychydig o esiamplau.

ELIAS—“DYN CYFFREDIN FEL NI”

4. Pa her a wynebodd Elias, a sut roedd yn teimlo am Jehofa?

4 Roedd Elias yn gwasanaethu Jehofa yn ystod cyfnod cythryblus dros ben ac roedd yn wynebu her ddifrifol. Gwnaeth y Brenin Ahab, un o frenhinoedd anffyddlon Israel, briodi Jesebel, dynes ddrwg a oedd yn addoli Baal. Gwnaeth y ddau hyrwyddo addoli Baal drwy’r wlad i gyd a llofruddio llawer o broffwydi Jehofa. Llwyddodd Elias i ddianc. Goroesodd hefyd newyn ofnadwy drwy ddibynnu ar Jehofa. (1 Bren. 17:2-4, 14-16) Yn ogystal, dibynnodd Elias ar Jehofa pan aeth ati i herio proffwydi ac addolwyr Baal. Erfyniodd ar yr Israeliaid i wasanaethu Jehofa. (1 Bren. 18:21-24, 36-38) Roedd Elias wedi gweld dro ar ôl tro sut gwnaeth Jehofa ei amddiffyn a’i helpu yn ystod y dyddiau gofidus hynny.

Jehofa yn anfon angel i helpu Elias i adennill ei nerth (Gweler paragraffau 5-6) *

5-6. Yn ôl 1 Brenhinoedd 19:1-4, sut roedd Elias yn teimlo, a sut dangosodd Jehofa ei fod yn dal i garu Elias?

5 Darllen 1 Brenhinoedd 19:1-4. Daeth Elias yn ofnus, fodd bynnag, pan wnaeth y Frenhines Jesebel fygwth ei ladd. Felly, dyma’n dianc i ardal Beerseba. Daeth yn ddigalon iawn a “gofyn am gael marw.” Beth achosodd iddo deimlo felly? Dyn amherffaith oedd Elias, “dyn cyffredin fel ni.” (Iago 5:17) Efallai yr oedd wedi ei drechu gan y straen a’r blinder llethol. Efallai roedd Elias yn meddwl bod ei ymdrechion i hyrwyddo addoliad pur wedi bod yn ofer, nad oedd unrhyw beth yn Israel wedi gwella, ac mai ef oedd yr unig un a oedd yn dal i wasanaethu Jehofa. (1 Bren. 18:3, 4, 13; 19:10, 14) Efallai fod ymateb y proffwyd ffyddlon hwn yn ein synnu. Ond roedd Jehofa yn deall teimladau Elias.

6 Ni wnaeth Jehofa ddweud y drefn wrth Elias am iddo fynegi ei deimladau. Yn hytrach, helpodd Elias i adennill ei nerth. (1 Bren. 19:5-7) Yn ddiweddarach, helpodd Elias i gywiro ei ffordd o feddwl trwy ddangos iddo Ei nerth rhyfeddol. Wedyn, eglurodd Jehofa fod ’na 7,000 o hyd yn Israel a oedd yn gwrthod addoli Baal. (1 Bren. 19:11-18) Roedd yr esiamplau hyn yn dangos bod Jehofa yn dal i garu Elias.

BYDD JEHOFA YN EIN HELPU

7. Pa hyder a gawn ni o’r ffordd y gwnaeth Jehofa helpu Elias?

7 Wyt ti’n ymdopi â sefyllfa sy’n achosi stres iti? Cysur mawr yw gwybod bod Jehofa wedi deall teimladau Elias! Rydyn ni’n hyderus, felly, fod Jehofa yn deall ein teimladau ninnau hefyd. Mae’n gwybod ein bod ni’n ddiffygiol, ac mae hyd yn oed yn gwybod beth rydyn ni’n ei feddwl ac yn ei deimlo. (Salm 103:14; 139:3, 4) Os efelychwn Elias drwy ddibynnu ar Jehofa, bydd yn ein helpu i ddelio gyda’r problemau sy’n ein rhoi ni o dan straen.—Salm 55:22.

8. Sut bydd Jehofa yn dy helpu i ymdopi â straen?

8 Gall bod o dan straen achosi iti feddwl yn negyddol, ac iti ddigalonni. Os ydy hynny’n digwydd, cofia y bydd Jehofa yn dy helpu i ymdopi â’r straen. Sut bydd ef yn dy helpu? Mae’n dy wahodd di i fwrw dy fol wrtho. A bydd yn rhoi’r help rwyt ti’n gofyn amdano. (Salm 5:3; 1 Pedr 5:7) Felly, gweddïa ar Jehofa yn aml am dy broblemau. Ni fydd yn siarad yn uniongyrchol â ti fel y siaradodd ag Elias, ond fe fydd yn siarad â ti drwy gyfrwng ei Air a’i gyfundrefn. Bydd yr hanesion a ddarlleni di yn y Beibl yn rhoi cysur a gobaith iti. Hefyd, gall dy frodyr a dy chwiorydd dy annog.—Rhuf. 15:4; Heb. 10:24, 25.

9. Sut gall ffrind da ein helpu ni?

9 Pan ofynnodd Jehofa i Elias am drosglwyddo cyfrifoldeb i Eliseus, rhoddodd ffrind da i Elias, un oedd yn ei helpu i gario ei feichiau emosiynol. Mewn modd tebyg, pan fyddwn ni’n dweud wrth ffrind am ein teimladau, gall ef neu hi ein helpu i gario ein beichiau emosiynol. (2 Bren. 2:2; Diar. 17:17) Os nad oes gen ti neb i ymddiried ynddo, gweddïa ar Jehofa am help i ddod o hyd i Gristion aeddfed sy’n gallu dy gefnogi’n emosiynol.

10. Sut mae profiad Elias yn rhoi gobaith inni, a sut gall yr addewid yn Eseia 40:28, 29 ein helpu ni?

10 Gwnaeth Jehofa helpu Elias i ymdopi â straen ac i wasanaethu’n ffyddlon am lawer o flynyddoedd. Mae profiad Elias yn rhoi gobaith inni. Weithiau, gallwn ni fod o dan gymaint o straen fel ein bod ni wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn emosiynol. Ond eto, os dibynnwn ar Jehofa, bydd ef yn rhoi’r nerth sydd ei angen arnon ni er mwyn dal ati i’w wasanaethu.—Darllen Eseia 40:28, 29.

DIBYNNODD HANNA, DAFYDD, AC “ASAFF” AR JEHOFA

11-13. Sut gwnaeth bod o dan straen effeithio ar dri o weision Duw yn y gorffennol?

11 Gwnaeth cymeriadau Beiblaidd eraill wynebu sefyllfaoedd anodd. Er enghraifft, roedd Hanna o dan bwysau ofnadwy oherwydd ei bod hi’n teimlo cywilydd am beidio â chael plant ac am fod gwraig arall ei gŵr yn ei gwawdio hi mewn ffordd greulon. (1 Sam. 1:2, 6) Roedd y straen yr oedd Hanna o dano wedi ei gwneud hi mor chwerw nes iddi grio a pheidio â bwyta.—1 Sam. 1:7, 10.

12 Ar adegau, roedd y Brenin Dafydd yn gwegian o dan straen. Meddylia am yr her a wynebodd yntau. Roedd o dan faich o euogrwydd oherwydd iddo wneud llawer o gamgymeriadau. (Salm 40:12) Gwrthryfelodd ei fab annwyl Absalom yn ei erbyn, ac fe gafodd Absalom ei ladd yn ddiweddarach. (2 Sam. 15:13, 14; 18:33) Hefyd, fe gafodd Dafydd ei fradychu gan un o’i ffrindiau agosaf. (2 Sam. 16:23–17:2; Salm 55:12-14) Mae llawer o’r salmau a ysgrifennodd Dafydd yn disgrifio ei ddigalondid ynghyd â’i hyder cadarn yn Jehofa.—Salm 38:5-10; 94:17-19.

Beth helpodd y salmydd i wasanaethu Jehofa yn llawen unwaith eto? (Gweler paragraffau 13-15) *

13 Yn nes ymlaen, dechreuodd un o’r salmwyr fod yn genfigennus o’r ffordd roedd pobl ddrwg yn byw. Efallai ei fod yn un o ddisgynyddion y Lefiad Asaff, ac roedd yn gwasanaethu yn ‘nheml Duw.’ Roedd y salmydd hwn o dan straen enbyd, ac roedd yn drist ac yn anfodlon ei fyd. Dechreuodd hyd yn oed amau a oedd y bendithion sy’n dod o wasanaethu Jehofa yn ddigon.—Salm 73:2-5, 7, 12-14, 16, 17, 21.

14-15. Beth a ddysgwn ni o’r tair esiampl hyn yn y Beibl ynglŷn â throi at Jehofa am help?

14 Gwnaeth y tri gwir addolwr hyn i gyd ddibynnu ar Jehofa am help. Roedden nhw’n gweddïo ar Jehofa am eu pryderon. Roedden nhw’n siarad yn agored ag ef am beth oedd yn achosi iddyn nhw deimlo o dan gymaint o straen. Ac roedden nhw’n parhau i fynd i gysegr Duw i addoli.—1 Sam. 1:9, 10; Salm 55:22; 73:17; 122:1.

15 Yn ei drugaredd, gwnaeth Jehofa ateb gweddïau pob un ohonyn nhw. Cafodd Hanna heddwch meddwl. (1 Sam. 1:18) Ysgrifennodd Dafydd: “Mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion, ond bydd yr ARGLWYDD yn eu hachub nhw drwy’r cwbl.” (Salm 34:19) Ac, yn nes ymlaen, teimlodd y salmydd Jehofa yn “gafael yn dynn” ynddo ac yn ei arwain drwy roi cyngor cariadus iddo. Canodd: “Dw i’n gwybod mai cadw’n agos at Dduw sydd orau. Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy nghadw’n saff.” (Salm 73:23, 24, 28) Beth a ddysgwn ni o’r esiamplau hyn? Weithiau, bydd ein problemau yn feichus ac yn achosi straen. Ond fe allwn ni ymdopi os byddwn ni’n myfyrio ar sut mae Jehofa wedi helpu eraill, dibynnu arno drwy weddïo, ac ufuddhau iddo.—Salm 143:1, 4-8.

DIBYNNU AR JEHOFA A LLWYDDO

Yn y dechrau, roedd un chwaer eisiau bod ar ei phen ei hun, ond newidiodd pethau er gwell wrth iddi edrych am ffyrdd i helpu eraill (Gweler paragraffau 16-17)

16-17. (a) Pam na ddylen ni ein neilltuo ein hunain? (b) Sut gallwn ni adennill ein nerth?

16 Mae’r tair esiampl hyn yn dysgu gwers bwysig arall inni—ddylen ni ddim ymbellhau oddi wrth Jehofa a’i bobl. (Diar. 18:1) Mae Nancy, a oedd o dan bwysau aruthrol pan adawodd ei gŵr yn dweud: “Lawer gwaith, doeddwn i ddim eisiau gweld na siarad efo neb. Ond y mwyaf unig yr oeddwn i, y mwyaf trist yr oeddwn i.” Newidiodd pethau pan edrychodd Nancy am ffyrdd i helpu eraill a oedd yn dioddef problemau. Dywedodd: “Gwrandewais ar eraill yn sôn am eu trafferthion a dyma fi’n sylwi fy mod i’n canolbwyntio llai ar fy mhroblemau fy hun pan oeddwn i’n cydymdeimlo ag eraill.”

17 Gallwn ni adennill ein nerth wrth fynd i’r cyfarfodydd. Yno, rydyn ni’n rhoi cyfleoedd ychwanegol i Jehofa i’n helpu a’n cysuro. (Salm 86:17) Yn y cyfarfodydd, mae’n ein cryfhau ni drwy ei ysbryd glân, ei Air, a’i bobl. Mae’r cyfarfodydd yn rhoi’r cyfle inni i gael “ein calonogi” ac i ninnau galonogi eraill. (Rhuf. 1:11, 12) Mae chwaer o’r enw Sophia yn dweud: “Gwnaeth Jehofa a’n brawdoliaeth fy helpu i ddyfalbarhau. Y peth pwysicaf i mi oedd ein cyfarfodydd. Os ydw i’n cadw’n brysur yn y weinidogaeth ac yn y gynulleidfa, dw i’n gallu ymdopi’n well â’r straen a’r pryderon.”

18. Os ydyn ni’n ddigalon, beth gall Jehofa ei roi inni?

18 Pan fyddwn ni’n ddigalon, mae’n bwysig inni gofio bod Jehofa, nid yn unig yn addo dileu popeth sy’n achosi straen inni yn y dyfodol, ond mae hefyd yn ein helpu i ymdopi â straen heddiw. Mae’n ‘creu’r awydd ynon ni ac yn ein galluogi ni’ i drechu digalondid ac anobaith.—Phil. 2:13.

19. Pa gysur mae Rhufeiniaid 8:37-39 yn ei roi inni?

19 Darllen Rhufeiniaid 8:37-39. Mae’r apostol Paul yn dweud na all unrhyw beth ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw. Sut gallwn ni helpu ein brodyr a’n chwiorydd sy’n ceisio ymdopi â straen bywyd? Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwn ni efelychu Jehofa drwy ddangos trugaredd a thrwy gefnogi ein brodyr a’n chwiorydd pan fyddan nhw o dan straen.

CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen

^ Par. 5 Gall bod o dan straen ofnadwy a hynny am amser hir ein niweidio ni yn gorfforol ac yn emosiynol. Sut gall Jehofa ein helpu ni? Byddwn ni’n rhoi sylw i’r ffordd y gwnaeth Jehofa helpu Elias i ymdopi â straen. Bydd esiamplau eraill o’r Beibl yn ein helpu i droi at Jehofa pan fyddwn ni o dan straen.

^ Par. 2 Newidiwyd yr enwau yn yr erthygl hon.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae angel Jehofa yn deffro Elias mewn ffordd addfwyn ac yn rhoi bara a dŵr iddo.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Salmydd a oedd efallai’n ddisgynnydd i Asaff yn mwynhau ysgrifennu salmau a chanu gyda’i gyd-Lefiaid.