Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 27

Paratoa Nawr ar Gyfer Erledigaeth

Paratoa Nawr ar Gyfer Erledigaeth

“Bydd pawb sydd am ddilyn y Meseia Iesu a byw fel mae Duw am iddyn nhw fyw yn cael eu herlid.”—2 TIM. 3:12.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

CIPOLWG *

1. Pam y dylen ni baratoi ar gyfer erledigaeth?

AR Y noson cyn i’n Harglwydd Iesu gael ei ladd, dywedodd y bydd pob un o’i ddisgyblion yn cael ei gasáu. (Ioan 17:14) O’r amser hwnnw hyd heddiw, mae Cristnogion ffyddlon wedi cael eu herlid gan wrthwynebwyr gwir addoliad. (2 Tim. 3:12) Wrth i ddiwedd y system hon agosáu, rydyn ni’n disgwyl i’n gelynion droi yn ein herbyn yn fwy byth.—Math. 24:9.

2-3. (a) Beth ddylen ni wybod am ofn? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Beth dylen ni ei wneud nawr i baratoi am erledigaeth? Does dim rhaid inni feddwl am yr holl bethau drwg a all ddigwydd inni. Petaen ni’n gwneud hynny, byddai pryder yn gallu ein llethu ni, a gallen ni ddod mor ofnus nes inni stopio gwasanaethu Jehofa cyn inni wynebu unrhyw broblemau hyd yn oed. (Diar. 12:25; 17:22) Arf pwerus yw ofn ac ‘mae ein gelyn ni, y diafol,’ yn ceisio ei ddefnyddio yn ein herbyn. (1 Pedr 5:8, 9) Beth gallwn ni ei wneud nawr i’n cryfhau ein hunain?

3 Yn yr erthygl hon, gwelwn sut gallwn ni gryfhau ein cyfeillgarwch â Jehofa, a pham mae hi’n hanfodol inni wneud hynny nawr. Byddwn yn trafod hefyd sut gallwn ni fod yn fwy dewr. Ac yn olaf, byddwn yn trafod beth gallwn ni ei wneud pan fydd pobl yn ein casáu ni.

SUT I GRYFHAU DY GYFEILLGARWCH Â JEHOFA

4. Yn ôl Hebreaid 13:5, 6, beth dylen ni fod yn argyhoeddedig ohono, a pham?

4 Bydda’n argyhoeddedig fod Jehofa yn dy garu di ac na fydd byth yn cefnu arnat ti. (Darllen Hebreaid 13:5, 6.) Flynyddoedd yn ôl, dywedodd y Tŵr Gwylio: “Bydd y sawl sy’n adnabod Duw orau yn ymddiried ynddo gymaint yn fwy pan ddaw erledigaeth.” Mae hynny’n wir! Inni wynebu erledigaeth yn llwyddiannus, mae’n rhaid caru Jehofa ac ymddiried ynddo yn llwyr, heb amau ei fod yn ein caru ni.—Math. 22:36-38; Iago 5:11.

5. Beth fydd yn dy helpu i deimlo cariad Jehofa?

5 Darllena’r Beibl bob dydd â’r nod o ymnesáu at Jehofa. (Iago 4:8) Wrth iti ddarllen, canolbwyntia ar dynerwch Jehofa. Canolbwyntia ar ei gariad yn yr hyn mae’n ei ddweud ac yn ei wneud. (Ex. 34:6) Mae’n anodd i rai gredu bod Duw yn eu caru nhw oherwydd diffyg cariad yn eu bywydau. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, gwna restr bob diwrnod sy’n cofnodi sut mae Jehofa wedi bod yn garedig iti. (Salm 78:38, 39; Rhuf. 8:32) Wrth ystyried dy brofiad dy hun, a myfyrio ar yr hyn rwyt ti wedi ei ddarllen yn y Beibl, byddi di’n gallu rhestru llawer o bethau mae Jehofa wedi eu gwneud iti. Os wyt ti’n gwerthfawrogi’r hyn mae Jehofa yn ei wneud, bydd dy gyfeillgarwch ag ef yn gryf.—Salm 116:1, 2.

6. Yn ôl Salm 94:17-19, sut gall gweddïo dy helpu di?

6 Gweddïa’n rheolaidd. Dychmyga fachgen ifanc ym mreichiau ei dad sy’n teimlo mor saff ac sy’n siarad yn agored am y pethau da a drwg sydd wedi digwydd iddo y diwrnod hwnnw. Gelli dithau gael yr un fath o berthynas â Jehofa os gwnei di weddïo’n daer arno bob diwrnod. (Darllen Salm 94:17-19.) Wrth weddïo ar Jehofa, “tywallt beth sydd ar dy galon” a dweud wrtho am dy bryderon. (Galar. 2:19) Beth fydd y canlyniad? Byddi di’n profi’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi—y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg.” (Phil. 4:6, 7) Os byddi di’n gweddïo yn aml am hyn, byddi di’n teimlo’n fwy agos at Jehofa.—Rhuf. 8:38, 39.

Mae dewrder yn dod drwy roi hyder yn Jehofa a’i Deyrnas

Gwnaeth Stanley Jones ei atgyfnerthu ei hun â gwybodaeth am Deyrnas Dduw (Gweler paragraff 7)

7. Pam dylet ti fod yn hollol sicr y bydd addewidion Duw yn dod yn wir?

7 Creda y bydd bendithion Teyrnas Dduw yn dod yn wir. (Num. 23:19) Os nad wyt ti’n wir yn credu yn addewidion Duw, bydd hi’n haws i Satan dy ddychryn di. (Diar. 24:10; Heb. 2:15) Sut gelli di gryfhau dy ffydd yn Nheyrnas Dduw nawr? Treulia amser yn ymchwilio addewidion Duw a meddwl am y rhesymau pam y gelli di fod yn sicr y byddan nhw’n dod yn wir. Sut bydd hynny’n helpu? Meddylia am esiampl Stanley Jones, a garcharwyd am saith mlynedd oherwydd ei ffydd. * Beth a helpodd i ddyfalbarhau’n ffyddlon? Dywedodd: “Roedd fy ffydd mor gryf oherwydd imi wybod beth fydd Teyrnas Dduw yn ei gyflawni, a wnes i erioed amau hynny. Felly, doedd neb yn gallu achosi imi gefnu ar Jehofa.” Os oes gen ti ffydd gref yn addewidion Duw, byddi di’n closio at Jehofa ac ni fydd ofn byth yn dy stopio di rhag ei wasanaethu.—Diar. 3:25, 26.

8. Beth mae ein hagwedd tuag at fynychu’r cyfarfodydd yn ei ddweud amdanon ni? Esbonia.

8 Mynycha’r cyfarfodydd Cristnogol yn rheolaidd. Mae’r cyfarfodydd yn ein helpu ni i nesáu at Jehofa. Mae mynychu’r cyfarfodydd yn dangos inni pa mor dda y byddwn ni’n ymdopi ag erledigaeth yn y dyfodol. (Heb. 10:24, 25) Pam felly? Os gwnawn ni adael i bethau bach ein rhwystro ni rhag mynychu’r cyfarfodydd nawr, beth fydd yn digwydd yn y dyfodol os ydyn ni’n gorfod ein peryglu ein hunain i gwrdd â’n cyd-addolwyr? Ar y llaw arall, os ydyn ni’n benderfynol o fynychu’r cyfarfodydd, fyddwn ni ddim yn stopio pan fydd gwrthwynebwyr yn ceisio’n rhwystro ni rhag dod at ein gilydd. Nawr yw’r amser inni feithrin cariad tuag at ein cyfarfodydd. Pan fydd gennyn ni gariad tuag at fynychu’r cyfarfodydd, ni fydd gwrthwynebiad, na gwaharddiad gan y llywodraeth, yn ein stopio ni rhag ufuddhau i Dduw yn hytrach na dynion.—Act. 5:29.

Gall cofio adnodau a chaneuon y Deyrnas nawr dy helpu di pan ddaw erledigaeth (Gweler paragraff 9) *

9. Pam mae dysgu adnodau ar ein cof yn ffordd dda o baratoi ar gyfer erledigaeth?

9 Dysga dy hoff adnodau ar dy gof. (Math. 13:52) Dydy dy gof ddim yn berffaith, ond gall Jehofa ddefnyddio ei ysbryd glân pwerus i dy helpu di i gofio’r adnodau hynny. (Ioan 14:26) Noda beth ddywedodd un brawd a gafodd ei garcharu yn Nwyrain yr Almaen a’i roi mewn cell ar ei ben ei hun: “Roeddwn i mor hapus fy mod i wedi dysgu cannoedd o adnodau ar fy nghof! Er fy mod i ar fy mhen fy hun, roeddwn i’n cadw’n brysur drwy fyfyrio ar lawer o bynciau yn y Beibl.” Helpodd yr adnodau hynny ein brawd i aros yn agos at Jehofa—ac i ddyfalbarhau’n ffyddlon.

(Gweler paragraff 10) *

10. Pam dylen ni ddysgu caneuon ar ein cof?

10 Dysga a chana ganeuon o fawl i Jehofa. Pan gawson nhw eu carcharu yn Philipi, canodd Paul a Silas ganeuon o fawl i Jehofa yr oedden nhw wedi eu dysgu ar eu cof. (Act. 16:25) Mewn modd tebyg, pan alltudiwyd ein brodyr yn yr hen Undeb Sofietaidd i Siberia, sut gwnaethon nhw eu cryfhau eu hunain? Mae ein chwaer Mariya Fedun yn dwyn i gof: “Gwnaethon ni ganu’r holl ganeuon roedden ni’n eu gwybod, y rhai o’r llyfr caneuon.” Dywedodd hi fod y caneuon hynny wedi annog pob un ohonyn nhw ac wedi eu helpu i deimlo’n fwy agos at Jehofa. Pan fyddi di’n canu dy hoff ganeuon, wyt ti’n teimlo fel dy fod tithau wedi cael dy gryfhau? Dysga’r caneuon hynny ar dy gof nawr!—Gweler y blwch “ Rho Imi Ddewrder.”

SUT I FOD YN FWY DEWR

11-12. (a) Yn ôl 1 Samuel 17:37, 45-47, pam roedd Dafydd mor ddewr? (b) Pa wers bwysig rydyn ni’n ei dysgu o esiampl Dafydd?

11 Er mwyn wynebu erledigaeth, mae angen dewrder. Os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n berson dewr, beth gelli di ei wneud? Cofia nad yw gwir ddewrder yn dibynnu ar dy faint, dy gryfder, na dy allu. Ystyria esiampl y Dafydd ifanc pan wynebodd Goliath. O’i gymharu â’r cawr, roedd Dafydd yn llai, yn wannach, a heb yr arfau angenrheidiol. Doedd gan Dafydd ddim cleddyf hyd yn oed. Ond eto, roedd yn hynod o ddewr. Rhedodd Dafydd i ymladd yn erbyn y cawr balch hwnnw.

12 Pam roedd Dafydd mor ddewr? Roedd yn credu’n gryf fod Jehofa gydag ef. (Darllen 1 Samuel 17:37, 45-47.) Doedd Dafydd ddim yn canolbwyntio ar ba mor fawr oedd Goliath o’i gymharu ag ef. Yn hytrach, canolbwyntiodd ar ba mor fach oedd Goliath o’i gymharu â Jehofa. Beth ddysgwn ni o’r hanes hwn? Byddwn ni’n teimlo’n ddewr os ydyn ni’n llawn hyder fod Jehofa gyda ni ac os ydyn ni’n gwbl sicr fod ein gwrthwynebwyr yn fach o’u cymharu â’n Duw hollalluog. (2 Cron. 20:15; Salm 16:8) Sut gallwn ni fod yn fwy dewr nawr—cyn i erledigaeth ddod?

13. Sut gallwn ni feithrin dewrder? Esbonia.

13 Gallwn ni fod yn fwy dewr nawr drwy bregethu i eraill am y newyddion da am Deyrnas Dduw. Pam felly? Oherwydd bod pregethu yn ein dysgu ni i ymddiried yn Jehofa ac i drechu ofn dyn. (Diar. 29:25) Fel y mae ein cyhyrau yn cryfhau pan fyddwn ni’n gwneud ymarfer corff, mae ein dewrder yn cryfhau pan fyddwn ni’n pregethu o dŷ i dŷ, mewn mannau cyhoeddus, yn anffurfiol, ac mewn tiriogaeth fusnes. Os ydyn ni’n meithrin y dewrder i bregethu nawr, byddwn ni’n barod i ddal ati i bregethu hyd yn oed os bydd ein gwaith yn cael ei wahardd.—1 Thes. 2:1, 2.

Gwrthododd Nancy Yuen stopio pregethu’r newyddion da (Gweler paragraff 14)

14-15. Pa wersi gallwn ni eu dysgu oddi wrth esiampl Nancy Yuen a Valentina Garnovskaya?

14 Gallwn ddysgu llawer o esiampl dwy chwaer ffyddlon a oedd yn hynod o ddewr. Dim ond tua phum troedfedd (1.5 m) o daldra oedd Nancy Yuen, ond doedd hi ddim yn hawdd ei dychryn. Gwrthododd hi roi’r gorau i bregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw. O ganlyniad, cafodd hi ei charcharu am oddeutu 20 mlynedd yn Tsieina Gomiwnyddol. Dywedodd y swyddogion a wnaeth ei holi hi’n ddwys mai hi oedd “y person mwyaf ystyfnig” yn y wlad. *

Roedd Valentina Garnovskaya yn gwbl sicr fod Jehofa gyda hi (Gweler paragraff 15)

15 Yn yr un modd, cafodd Valentina Garnovskaya ei charcharu yn yr hen Undeb Sofietaidd ar dri achlysur gwahanol a hynny am gyfanswm o 21 mlynedd. * Pam? Roedd hi mor benderfynol o ddal ati i bregethu, gwnaeth swyddogion ei galw hi’n “droseddwr hynod o beryglus.” Beth achosodd i’r ddwy ddynes ffyddlon hyn fod mor ddewr? Roedden nhw’n gwbl argyhoeddedig fod Jehofa gyda nhw.

16. Beth yw’r allwedd ar gyfer gwir ddewrder?

16 Fel rydyn ni wedi ei ddysgu, i fod yn fwy dewr, ddylen ni ddim canolbwyntio ar ein cryfderau a’n galluoedd ein hunain. Yn hytrach, mae’n rhaid inni gredu bod Jehofa gyda ni ac mai ef yw’r un sy’n ymladd droson ni. (Deut. 1:29, 30; Sech. 4:6) Dyna yw’r allwedd ar gyfer gwir ddewrder.

SUT I YMDOPI Â CHASINEB

17-18. Yn ôl Ioan 15:18-21, pa rybudd a roddodd Iesu inni? Esbonia.

17 Rydyn ni’n hoff o ennyn parch pobl eraill, ond ddylen ni ddim meddwl ein bod ni’n ddiwerth os nad ydy pobl yn hoff ohonon ni. Dywedodd Iesu: “Dych chi wedi’ch bendithio’n fawr [“rydych chi’n hapus,” NW] pan fydd pobl yn eich casáu a’ch cau allan a’ch sarhau, a’ch enwau’n cael eu pardduo am eich bod yn perthyn i mi, Mab y Dyn.” (Luc 6:22) Beth oedd Iesu’n ei feddwl?

18 Doedd Iesu ddim yn dweud y byddai Cristnogion yn mwynhau cael eu casáu. Yn hytrach, roedd yn ein rhybuddio ni. Dydyn ni ddim yn rhan o’r byd. Rydyn ni’n byw yn ôl dysgeidiaethau Iesu ac yn pregethu’r un neges. O ganlyniad, mae’r byd yn ein casáu ni. (Darllen Ioan 15:18-21.) Eisiau plesio Jehofa yr ydyn ni. Os yw dynion yn ein casáu ni oherwydd ein bod ni’n caru ein Tad, eu problem nhw yw hynny.

19. Sut gallwn ni efelychu esiampl yr apostolion?

19 Paid byth â theimlo cywilydd os yw pobl yn dy gasáu di oherwydd dy fod ti’n caru Jehofa. (Mich. 4:5) Gallwn ddysgu ymdopi ag ofn dyn drwy ystyried yr esiampl a osododd yr apostolion yn Jerwsalem yn fuan ar ôl i Iesu gael ei ladd. Roedden nhw’n gwybod cymaint roedd arweinwyr crefyddol yr Iddewon yn eu casáu nhw. (Act. 5:17, 18, 27, 28) Ond, er hynny, bob diwrnod roedden nhw’n parhau i fynd i’r deml gan ddangos i bawb eu bod nhw’n ddisgyblion i Iesu. (Act. 5:42) Gwrthodon nhw grynu mewn ofn. Gallwn ninnau hefyd orchfygu ofn dyn drwy adael i bobl wybod ein bod ni’n Dystion Jehofa—yn y gweithle, yn yr ysgol, ac yn ein hardal.—Act. 4:29; Rhuf. 1:16.

20. Pam roedd yr apostolion yn hapus er iddyn nhw gael eu casáu?

20 Pam roedd yr apostolion yn hapus? Roedden nhw’n gwybod pam yr oedden nhw’n cael eu casáu, ac roedden nhw’n ei hystyried hi’n anrhydedd cael eu cam-drin am wneud ewyllys Jehofa. (Luc 6:23; Act. 5:41) Yn ddiweddarach, ysgrifennodd yr apostol Pedr: “Hyd yn oed os bydd rhaid i chi ddioddef am wneud beth sy’n iawn, cewch eich bendithio’n fawr gan Dduw [“rydych chi’n hapus,” NW].” (1 Pedr 2:19-21; 3:14) Pan ddeallwn ein bod ni’n cael ein casáu am wneud yr hyn sy’n iawn, fyddwn ni byth yn gadael i gasineb dyn ein parlysu ag ofn.

BYDDI DI AR DY ENNILL O BARATOI

21-22. (a) Beth rwyt ti wedi penderfynu ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer erledigaeth? (b) Beth byddwn ni yn ei drafod yn yr erthygl nesaf?

21 Dydyn ni ddim yn gwybod pryd y daw ton o erledigaeth neu waharddiad a fydd yn effeithio ar ein haddoliad. Sut bynnag, gwyddon ni ein bod yn gallu paratoi nawr drwy gryfhau ein perthynas â Jehofa, drwy ddod yn fwy dewr, a thrwy ddysgu ymdopi â chasineb dynion. Bydd ein paratoadau nawr yn ein helpu i sefyll yn gadarn yn y dyfodol.

22 Ond beth wnawn ni os daw erledigaeth? Byddwn yn trafod egwyddorion yn yr erthygl nesaf a fydd yn ein helpu i ddal ati i wasanaethu Jehofa er gwaethaf gwaharddiadau.

CÂN 118 “Rho Inni Fwy o Ffydd”

^ Par. 5 Does neb eisiau cael ei gasáu. Ond, yn hwyr neu’n hwyrach, bydd yn rhaid i bob un ohonon ni ddelio gydag erledigaeth. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i wynebu erledigaeth yn ddewr.

^ Par. 7 Gweler Y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Rhagfyr 1965, tt. 756-767

^ Par. 14 Gweler Y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Gorffennaf 1979, tt. 4-7. Gweler hefyd y fideo Jehovah’s Name Will Be Made Known ar JW Broadcasting®. Edrycha o dan INTERVIEWS AND EXPERIENCES.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod addoliad teuluol mae rhieni yn defnyddio cardiau fflach i helpu eu plant i ddysgu adnodau.

^ Par. 70 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar y ffordd i gyfarfod, mae teulu yn ymarfer canu caneuon y Deyrnas yn y car.