Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 28

Dal Ati i Wasanaethu Jehofa o dan Waharddiad

Dal Ati i Wasanaethu Jehofa o dan Waharddiad

“Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dyn ni wedi eu gweld a’u clywed.”—ACT. 4:19, 20.

CÂN 122 Safwch yn Gadarn!

CIPOLWG *

1-2. (a) Pam na ddylai gwaharddiad ar ein haddoliad ein synnu? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

YN 2018, roedd mwy na 223,000 o gyhoeddwyr y newyddion da yn byw mewn gwledydd lle mae ein gweithgareddau ysbrydol wedi cael eu gwahardd neu eu cyfyngu. Dydy hyn ddim yn ein synnu. Fel y dysgon ni yn yr erthygl flaenorol, mae gwir Gristnogion yn disgwyl cael eu herlid. (2 Tim. 3:12) Ni waeth lle rydyn ni’n byw, yn sydyn ac yn gwbl annisgwyl, gall yr awdurdodau seciwlar ein gwahardd rhag addoli ein Duw cariadus, Jehofa.

2 Os bydd y llywodraeth yn penderfynu gwahardd addoli Jehofa, gelli di ofyn y cwestiynau hyn iti dy hun: ‘Ydy erledigaeth yn golygu bod Jehofa yn flin gyda ni? A fydd gwaharddiad yn ein stopio ni rhag addoli Jehofa? A ddylwn i symud i wlad lle gallaf addoli Duw yn rhydd?’ Yn yr erthygl hon, gwnawn ni drafod y cwestiynau hynny. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut y gallwn barhau i addoli Jehofa pan fo ein gwaith wedi ei wahardd ac ystyriwn pa faglau i osgoi.

ERLEDIGAETH—ARWYDD O GOLLI FFAFR DUW?

3. Yn ôl 2 Corinthiaid 11:23-27, ym mha ffordd cafodd yr apostol Paul ei erlid, a beth rydyn ni’n ei ddysgu oddi wrth ei esiampl?

3 Os bydd llywodraeth yn gwahardd ein haddoliad, efallai down i’r casgliad anghywir nad yw Duw yn hapus gyda ni. Ond cofia, nid yw erledigaeth yn golygu fod Jehofa wedi digio wrthon ni. Beth am ystyried esiampl yr apostol Paul. Roedd Duw yn bendant yn hapus gydag ef. Roedd ganddo’r fraint o ysgrifennu 14 llythyr yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, a chafodd ei adnabod fel apostol y cenhedloedd. Eto, cafodd ei erlid yn ffyrnig. (Darllen 2 Corinthiaid 11:23-27.) Dysgwn oddi wrth brofiad yr apostol Paul fod Jehofa’n caniatáu i’w weision ffyddlon gael eu herlid.

4. Pam mae’r byd yn ein casáu?

4 Esboniodd Iesu pam y dylen ni ddisgwyl gwrthwynebiad. Dywedodd y bydden ni’n cael ein casáu am nad ydyn ni’n rhan o’r byd. (Ioan 15:18, 19) Dydy erledigaeth ddim yn arwydd ein bod ni wedi colli ffafr Jehofa. Yn hytrach, mae’n golygu ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn!

A FYDD GWAHARDDIAD YN EIN STOPIO?

5. Oes gan dynion meidrol y pŵer i roi stop ar ein haddoliad? Esbonia.

5 Ni all gwrthwynebwyr ein stopio ni rhag addoli’r hollalluog Dduw, Jehofa. Mae llawer wedi meiddio gwneud ond wedi methu. Ystyria’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bryd hynny, roedd llywodraethau mewn llawer o wledydd yn erlid pobl Dduw yn llym. Cafodd gwaith Tystion Jehofa ei wahardd nid yn unig gan y blaid Natsïaidd yn yr Almaen, ond hefyd gan lywodraethau yn Awstralia, Canada, a gwledydd eraill. Eto, sylwa beth ddigwyddodd. Ym 1939 pan ddechreuodd y rhyfel, roedd ’na 72,475 o gyhoeddwyr yn fyd-eang. Ac yn ôl yr ystadegau erbyn diwedd y rhyfel ym 1945, gyda bendith Jehofa cynyddodd y ffigwr i 156,299 cyhoeddwr. Roedd nifer y cyhoeddwyr wedi mwy na dyblu!

6. Yn hytrach na’n dychryn, beth gall gwrthwynebiad ei wneud? Rho enghraifft.

6 Yn hytrach na’n dychryn, gall gwrthwynebiad ein hysgogi i wneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Er enghraifft, roedd un cwpl gyda phlentyn ifanc yn byw mewn gwlad lle penderfynodd y llywodraeth wahardd ein haddoliad. Yn lle gadael i’r bygythiad wneud iddyn nhw gilio’n ôl mewn ofn, fe ddechreuodd y cwpl arloesi’n llawn amser. Gadawodd y wraig swydd oedd yn talu’n dda. Yn ôl y gŵr roedd y gwaharddiad yn gwneud i lawer holi am Dystion Jehofa. Roedd chwilfrydedd y bobl yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ddechrau astudiaethau Beiblaidd. Cafodd y gwaharddiad effaith bositif ar eraill hefyd. Dywedodd henuriad yn yr un wlad fod llawer a oedd wedi stopio gwasanaethu Jehofa bellach yn mynychu’r cyfarfodydd a daethon nhw’n gyhoeddwyr unwaith eto.

7. (a) Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Lefiticus 26:36, 37? (b) Beth byddi di’n ei wneud o dan waharddiad?

7 Pan fo’n gelynion yn gwahardd ein haddoliad, maen nhw’n ceisio codi cymaint o fraw arnon ni fel y byddwn ni’n rhoi’r gorau i wasanaethu Jehofa. Yn ogystal â’r gwaharddiad, hwyrach y bydden nhw’n lledaenu celwyddau amdanon ni, yn anfon swyddogion i chwilio’n cartrefi, ac efallai cawn ni’n llusgo o flaen y llys, neu’n taflu i’r carchar. Eu gobaith yw y byddwn ni’n dychryn oherwydd iddyn nhw lwyddo i garcharu nifer bach ohonon ni. Pe bydden ni’n gadael iddyn nhw godi ofn arnon ni, gallen ni hyd yn oed ddechrau “gwahardd” ein haddoliad ein hunain. Fydden ni ddim eisiau bod fel y rhai sy’n cael eu disgrifio yn Lefiticus 26:36, 37. (Darllen.) Wnawn ni ddim caniatáu i ofn achosi inni leihau neu stopio ein gwaith ysbrydol. Ymddiriedwn yn llwyr yn Jehofa ac rydyn ni’n gwrthod mynd i banics. (Esei. 28:16) Gweddïwn ar Jehofa am arweiniad. Fe wyddon ni’n iawn na all hyd yn oed y llywodraeth ddynol fwyaf pwerus ein rhwystro rhag addoli ein Duw yn ffyddlon.—Heb. 13:6.

A DDYLWN I SYMUD I WLAD ARALL?

8-9. (a) Pa benderfyniad personol y bydd rhaid i bob penteulu neu unigolyn ei wneud? (b) Beth fydd yn helpu person i wneud penderfyniad doeth?

8 Os bydd y llywodraeth yn penderfynu gwahardd addoli Jehofa, gelli di ofyn i ti dy hun: A ddylwn i symud i wlad arall lle byddwn yn rhydd i wasanaethu Jehofa? Mae hyn yn benderfyniad personol na all unrhyw un arall ei wneud drosot ti. Cyn gwneud penderfyniad, gall rhywun astudio beth wnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf pan gawson nhwthau eu herlid. Ar ôl i elynion labyddio Steffan yn gelain, symudodd disgyblion Jerwsalem drwy gydol Jwdea a Samaria a hyd yn oed mor bell â Phenicia, Cyprus, ac Antiochia. (Math. 10:23; Act. 8:1; 11:19) Sut bynnag, pan ddioddefodd Cristnogion y ganrif gyntaf don arall o erledigaeth, penderfynodd yr apostol Paul beidio â symud i ffwrdd o’r ardaloedd lle roedd pobl yn gwrthwynebu’r gwaith pregethu. Yn hytrach, peryglodd ei fywyd i daenu’r newyddion da ac atgyfnerthu’r brodyr mewn dinasoedd a oedd yn dioddef erledigaeth lem.—Act. 14:19-23.

9 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r hanesion hyn? Bydd rhaid i bob penteulu benderfynu drosto ef ei hun ynglŷn â symud neu beidio. Cyn penderfynu, dylai weddïo a meddwl yn ofalus am amgylchiadau ei deulu a pha effaith y byddai symud yn ei chael arnyn nhw. Yn y mater hwn, mae pob Cristion yn gyfrifol am ei benderfyniadau ei hun. (Gal. 6:5) Ni ddylen ni feirniadu penderfyniadau pobl eraill.

SUT BYDDWN NI’N ADDOLI O DAN WAHARDDIAD?

10. Pa gyfarwyddyd y bydd swyddfa’r gangen a’r henuriaid yn ei roi?

10 Sut gelli di barhau i addoli Jehofa o dan waharddiad? Bydd swyddfa’r gangen yn rhoi cyfarwyddiadau i henuriaid lleol ac awgrymiadau ymarferol ynglŷn â chael bwyd ysbrydol, sut i ddod at ein gilydd i addoli, a sut i bregethu’r newyddion da. Os na all swyddfa’r gangen gysylltu â’r henuriaid, yna bydd yr henuriaid yn dy helpu di a phawb yn y gynulleidfa i ddal ati i addoli Jehofa. Byddan nhw’n rhoi cyfarwyddyd sy’n unol â’r arweiniad yn y Beibl ac yn ein cyhoeddiadau Cristnogol.—Math. 28:19, 20; Act. 5:29; Heb. 10:24, 25.

11. Pam gelli di fod yn sicr y cei di fwyd ysbrydol, a beth gelli di ei wneud i amddiffyn y bwyd ysbrydol hwnnw?

11 Mae Jehofa wedi addo i’w weision y byddan nhw’n cael eu bwydo’n dda yn ysbrydol. (Esei. 65:13, 14; Luc 12:42-44) Gelli di fod yn sicr y bydd ei gyfundrefn yn gwneud popeth posib i roi’r hyn rydyn ni’n ei angen i aros yn ffyddlon. Gelli dithau wneud dy ran hefyd. Pan ddaw gwaharddiad, dewisa le da i guddio dy Feibl a chyhoeddiadau ysbrydol eraill. Bydda’n ofalus i beidio â gadael deunydd gwerthfawr o’r fath—p’un a yw’n brintiedig neu’n ddigidol—mewn man lle gallai rhywun ei ffeindio’n hawdd. Mae’n rhaid i bob un gymryd camau ymarferol i aros yn ysbrydol gryf.

Gyda chefnogaeth Jehofa gallwn ymgynnull i addoli yn ddi-ofn (Gweler paragraff 12) *

12. Sut y gall henuriaid drefnu cyfarfodydd mewn ffordd sydd ddim yn tynnu sylw?

12 Beth am ein cyfarfodydd wythnosol? Bydd yr henuriaid yn trefnu iti fynychu cyfarfodydd mewn ffordd fydd ddim yn tynnu sylw gwrthwynebwyr. Efallai byddan nhw’n gofyn iti gyfarfod mewn grwpiau bach, ac mae’n debyg y caiff yr amser a’r lleoliad ei newid yn aml. Gelli di helpu i amddiffyn dy frodyr a dy chwiorydd drwy siarad yn dawel wrth fynd a dod i’r cyfarfodydd. Efallai bydd angen iti wisgo mewn ffordd sydd ddim yn tynnu sylw.

Er gwaethaf gwaharddiadau gan lywodraethau, wnawn ni ddim rhoi’r gorau i bregethu (Gweler paragraff 13) *

13. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein brodyr yn yr Undeb Sofietaidd gynt?

13 Wrth ystyried y gwaith pregethu, bydd amgylchiadau yn newid o un lleoliad i’r llall. Ond rydyn ni’n caru Jehofa ac yn mwynhau dweud wrth eraill am y Deyrnas, felly gwnawn ni ffeindio ffordd i bregethu. (Luc 8:1; Act. 4:29) Ynglŷn â gwaith pregethu Tystion Jehofa yn yr Undeb Sofietaidd gynt, dywedodd yr hanesydd Emily B. Baran: “Pan ddywedodd y wladwriaeth wrth y Tystion am beidio â phregethu i eraill, dechreuon nhw sgwrsio â’u cymdogion, eu cyd-weithwyr, a’u ffrindiau. Pan arweiniodd hynny at gael eu carcharu mewn gwersylloedd llafur, pregethodd y Tystion i’w cyd-garcharwyr.” Er gwaethaf y gwaharddiad, ni wnaeth ein brodyr yn yr Undeb Sofietaidd stopio pregethu. Petai’r gwaith pregethu yn cael ei wahardd yn dy wlad di, boed i tithau fod yr un mor benderfynol â nhw!

MAGLAU I’W HOSGOI

Mae angen inni wybod pryd i gadw’n dawel (See Gweler paragraff 14) *

14. Pa fagl mae Salm 39:1 yn ein rhybuddio ni amdani?

14 Bydda’n ofalus ynglŷn â rhannu gwybodaeth. Yn ystod gwaharddiad, bydd rhaid deall pryd mae’n “amser i gadw’n dawel.” (Preg. 3:7) Mae’n rhaid inni warchod gwybodaeth sensitif, fel enwau brodyr a chwiorydd, mannau cyfarfod, sut i fynd o gwmpas ein gweinidogaeth, a sut rydyn ni’n derbyn bwyd ysbrydol. Fydden ni ddim yn datgelu’r ffeithiau hyn i’r awdurdodau seciwlar; nac yn eu rhannu â ffrindiau neu berthnasau, yn ein gwlad ni neu wledydd eraill. Petasen ni’n syrthio i’r fagl hon, bydden ni’n rhoi ein brodyr mewn peryg.—Darllen Salm 39:1.

15. Beth bydd Satan yn ceisio ei wneud i ni, a sut gallwn osgoi ei fagl?

15 Paid â gadael i broblemau bach ein gwahanu ni. Mae Satan yn gwybod na all tŷ rhanedig sefyll. (Marc 3:24, 25) Bydd ef yn wastad yn ceisio creu rhaniadau yn ein mysg. Drwy wneud hyn, mae ef yn gobeithio y byddwn ni’n dechrau cwffio yn erbyn ein gilydd yn lle ei gwffio ef.

16. Sut mae’r Chwaer Gertrud Poetzinger yn esiampl ragorol?

16 Mae hyd yn oed Cristnogion aeddfed yn gorfod bod yn effro rhag syrthio i’r fagl hon. Ystyria esiampl dwy chwaer eneiniog, Gertrud Poetzinger ac Elfriede Löhr. Cawson nhw eu carcharu gyda’i gilydd ynghyd â chwiorydd eraill, mewn gwersyll crynhoi Natsïaidd. Ond aeth Gertrud yn genfigennus pan roddodd Elfriede anerchiadau calonogol i’r chwiorydd eraill yn y gwersyll. Hwyrach ymlaen, roedd Gertrud yn teimlo cywilydd ac erfyniodd ar Jehofa am help. Ysgrifennodd: “Mae rhaid inni dderbyn y ffaith fod gan bobl eraill alluoedd gwell neu fwy o gyfrifoldebau na ni.” Sut gwnaeth hi drechu ei chenfigen? Canolbwyntiodd Gertrud ar rinweddau Elfriede a’i hagwedd glên. O wneud hyn, gwnaeth hi adennill ei pherthynas dda ag Elfriede. Goroesodd y ddwy y gwersyll crynhoi a gwasanaethon nhw Jehofa yn ffyddlon nes daeth eu bywyd ar y ddaear i ben. Os gweithiwn ni’n galed i ddatrys problemau â’n brodyr, fyddwn ni ddim yn gadael i unrhyw beth ein gwahanu.—Col. 3:13, 14.

17. Pam dylen ni beidio â meddwl ein bod ni’n gwybod yn well?

17 Paid â meddwl dy fod ti’n gwybod yn well. Os dilynwn y cyfarwyddyd a gawn ni gan frodyr cyfrifol a dibynadwy, rydyn ni’n osgoi problemau. (1 Pedr 5:5) Er enghraifft, mewn gwlad lle mae’r gwaith wedi ei wahardd, roedd y brodyr cyfrifol wedi gofyn i’r cyhoeddwyr am beidio â gadael llenyddiaeth brintiedig ar y weinidogaeth. Ond, roedd un arloeswr yn meddwl ei fod yn gwybod yn well ac aeth ati i ddosbarthu llenyddiaeth. A’r canlyniad? Yn fuan wedi iddo ef ac eraill orffen cyfnod o dystiolaethu anffurfiol, cawson nhw eu holi gan yr heddlu. Mae’n ymddangos bod swyddogion wedi bod yn eu dilyn ac aethon nhw ati i gasglu’r llenyddiaeth i gyd. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r profiad hwn? Mae’n rhaid inni ddilyn cyfarwyddyd hyd yn oed os ydyn ni’n meddwl ein bod yn gwybod yn well. Bydd Jehofa yn wastad yn ein bendithio pan gydweithredwn â’r brodyr y mae wedi eu penodi i’n harwain.—Heb. 13:7, 17.

18. Pam y dylen ni beidio â gwneud rheolau diangen?

18 Paid â gwneud rheolau diangen. Os bydd henuriaid yn gwneud rheolau diangen, byddan nhw’n rhoi baich ar eraill. Cofiodd y Brawd Juraj Kaminský yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y gwaharddiad yn yr hen Tsiecoslofacia: “Wedi i’r brodyr cyfrifol a llawer o’r henuriaid gael eu harestio, dechreuodd rhai oedd yn arwain yn y cynulleidfaoedd a’r cylchdeithiau greu rheolau i’r cyhoeddwyr, gan restru pethau y dylai’r brodyr eu gwneud a pheidio â’u gwneud.” Dydy Jehofa ddim wedi rhoi awdurdod inni wneud penderfyniadau dros eraill. Dydy rhywun sy’n gwneud rheolau diangen ddim yn amddiffyn diogelwch ei frawd—mae’n ceisio arglwyddiaethu ar ffydd ei frawd.—2 Cor. 1:24.

PAID BYTH Â RHOI’R GORAU I ADDOLI JEHOFA

19. Er gwaethaf ymdrechion Satan, pa hyder mae 2 Cronicl 32:7, 8 yn ei roi inni?

19 Ni fydd ein prif elyn, Satan y Diafol, yn stopio ceisio erlid gweision ffyddlon Jehofa. (1 Pedr 5:8; Dat. 2:10) Bydd Satan a’i weision yn ceisio ein gwahardd rhag addoli Jehofa. Sut bynnag, does ’na ddim rheswm inni gael ein parlysu gan ofn! (Deut. 7:21) Mae Jehofa ar ein hochr, a bydd ef yn parhau i’n cynnal ni hyd yn oed dan waharddiad.—Darllen 2 Cronicl 32:7, 8.

20. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

20 Boed inni fod yr un mor benderfynol â’n brodyr yn y ganrif gyntaf, a ddywedodd wrth reolwyr y dydd: “Beth fyddai Duw am i ni ei wneud? Penderfynwch chi—gwrando arnoch chi, neu ufuddhau iddo fe? Allwn ni ddim stopio sôn am y pethau dŷn ni wedi eu gweld a’u clywed.”—Act. 4:19, 20.

CÂN 73 Dyro Inni Hyder

^ Par. 5 Beth dylen ni ei wneud os bydd y llywodraeth yn ein gwahardd rhag addoli Jehofa? Bydd yr erthygl hon yn rhoi awgrymiadau ymarferol ynglŷn â’r hyn y dylen ni ei wneud a’r hyn dylen ni ei osgoi fel ein bod ni’n gallu parhau i wasanaethu ein Duw!

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae pob llun yn dangos Tystion yn gwasanaethu mewn gwledydd lle mae’n gwaith wedi ei gyfyngu. Yn y llun hwn, mae grŵp bach yn ymgynnull am gyfarfod mewn storfa un o’n brodyr.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer Gristnogol (ar y chwith) sy’n sgwrsio’n anffurfiol â dynes sy’n edrych am gyfle i drafod pethau ysbrydol.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd sy’n cael ei holi’n ddwys gan yr heddlu yn gwrthod datgelu manylion am ei gynulleidfa.