Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 34

Addasu i Aseiniad Newydd

Addasu i Aseiniad Newydd

“Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi’i wneud.”—HEB. 6:10.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

CIPOLWG *

1-3. Beth yw rhai o’r rhesymau y mae gweision llawn amser yn gorfod newid eu haseiniadau?

“AR ÔL inni dreulio 21 o flynyddoedd hyfryd yn ein haseiniad fel cenhadon roedd rhieni’r ddau ohonon ni wedi mynd braidd yn fethedig,” meddai Robert a Mary Jo. “Roedden ni’n hapus i edrych ar eu holau nhw. Ond eto, roedden ni’n drist i adael rhywle a oedd yn agos iawn i’n calonnau.”

2 “Pan ddeallon ni na fydden ni’n gallu mynd yn ôl at ein haseiniad oherwydd ein problemau iechyd, mi wnaethon ni grio,” meddai William a Terrie. “Dyna oedd diwedd y freuddwyd o wasanaethu Jehofa mewn gwlad arall.”

3 “Roedden ni’n gwybod bod ein herlidwyr eisiau cau swyddfa’r gangen lle roedden ni’n gwasanaethu,” dywed Aleksey. “Ond roedd hi’n dal yn sioc pan ddigwyddodd hynny ac roedd rhaid inni adael Bethel.”

4. Pa gwestiynau wnawn ni drafod yn yr erthygl hon?

4 Yn ychwanegol i’r profiadau hyn, mae miloedd o aelodau Bethel ac eraill wedi cael aseiniadau newydd. * Gall y brodyr a chwiorydd ffyddlon hyn ei chael hi’n anodd gadael aseiniad roedden nhw’n ei garu. Beth gall eu helpu i ddelio â’r newid? Sut gelli di eu helpu? Gall yr atebion i’r cwestiynau hynny helpu pob un ohonon ni i ddelio â newid yn ein hamgylchiadau.

SUT I DDELIO GYDA NEWID

Pam gall gadael aseiniad fod yn her i weision llawn-amser? (Gweler paragraff 5) *

5. Ym mha ffyrdd y gall newid mewn aseiniad effeithio arnon ni?

5 P’un a ydyn ni’n gwasanaethu yn y maes neu yn y Bethel, gallwn ddod i garu’r bobl a hyd yn oed yr ardal lle rydyn ni’n gwasanaethu. Os ydyn ni’n gorfod gadael am ryw reswm, digon naturiol fyddai inni deimlo’n drist. Fe fydden ni’n methu ein brodyr a’n chwiorydd, ac yn poeni amdanyn nhw, yn enwedig petasen ni’n gorfod gadael oherwydd erledigaeth. (Math. 10:23; 2 Cor. 11:28, 29) Ar ben hynny, mae derbyn aseiniad newydd—neu hyd yn oed mynd yn ôl gartref—yn aml yn golygu bod rhaid inni addasu i ddiwylliant arall. “Roedden ni wedi dod yn anghyfarwydd â’n diwylliant ein hunain a hyd yn oed pregethu yn ein mamiaith,” meddai Robert a Mary Jo. “Teimlon ni fel estroniaid yn ein gwlad ein hunain.” Gall rhai sy’n cael newid i’w haseiniad wynebu heriau ariannol annisgwyl. Gallen nhw deimlo’n ansicr, ac yn ddigalon. Beth a all helpu?

Mae’n hanfodol ein bod ni’n closio at Jehofa ac yn ymddiried ynddo (Gweler paragraffau 6-7) *

6. Sut gallwn ni glosio at Jehofa?

6 Closia at Jehofa. (Iago 4:8) Sut gallwn ni wneud hynny? Drwy ymddiried ynddo fel yr un “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) “Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen,” meddai Salm 62:8. Gall Jehofa wneud “llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!” (Eff. 3:20) Dydy ef ddim yn cyfyngu ei hun i’r pethau penodol rydyn ni’n gofyn amdanyn nhw yn ein gweddïau. Gallai ddatrys ein problemau mewn ffordd sydd y tu hwnt i’n disgwyl.

7. (a) Beth fydd yn ein helpu i aros yn ffrind i Jehofa? (b) Yn ôl Hebreaid 6:10-12, beth fydd yn digwydd os wnawn ni barhau i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon?

7 I aros yn ffrind i Jehofa, darllen yr Ysgrythurau bob dydd a myfyria arnyn nhw. Dywed un cyn-genhadwr: “Cadwa at dy raglen reolaidd o addoliad teuluol a pharatoi at y cyfarfodydd, fel y gwnest ti yn dy aseiniad blaenorol.” Hefyd, dal ati i gael rhan lawn yn pregethu’r newyddion da yn dy gynulleidfa newydd. Mae Jehofa’n cofio’r rhai sy’n dal i’w wasanaethu’n ffyddlon, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu gwneud cymaint ag yr oedden nhw o’r blaen.—Darllen Hebreaid 6:10-12.

8. Sut gall geiriau 1 Ioan 2:15-17 dy helpu i gadw dy fywyd yn syml?

8 Cadwa dy fywyd yn syml. Paid â gadael i ofalon byd Satan ‘dagu’ dy weithgareddau ysbrydol. (Math. 13:22) Gwrthsafa bwysau’r byd neu bwysau gan ffrindiau a pherthnasau, sydd gyda phob cymhelliad da, yn dy annog i ennill mwy o arian i wella dy fywyd. (Darllen 1 Ioan 2:15-17.) Ymddirieda yn Jehofa, sy’n addo diwallu pob angen ysbrydol, emosiynol, a materol “pan mae angen help arnon ni.”—Heb. 4:16; 13:5, 6.

9. Yn ôl Diarhebion 22:3, 7, pam mae hi’n bwysig i osgoi dyled ddiangen, a beth all ein helpu i wneud penderfyniadau doeth?

9 Ceisia osgoi dyled ddiangen. (Darllen Diarhebion 22:3, 7.) Gall symud fod yn gostus iawn, ac mae’n hawdd mynd i ddyled. I leihau’r ddyled, mae’n rhaid inni osgoi benthyg arian i brynu pethau nad oes eu gwir angen arnat ti. Pan ydyn ni o dan bwysau emosiynol, wrth ofalu am anwyliaid sâl er enghraifft, gallwn ni ei chael hi’n anodd penderfynu faint o arian i’w fenthyg. Mewn sefyllfaoedd tebyg, “gweddïwch, a gofyn i Dduw” yn daer iddo am help i wneud penderfyniadau doeth. Wrth ateb ein gweddïau, gall Jehofa roi’r heddwch a fydd “yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau,” gan ein helpu i feddwl am bethau mewn ffordd resymol.—Phil. 4:6, 7; 1 Pedr 5:7.

10. Sut gallwn ni feithrin cyfeillgarwch newydd?

10 Meithrin perthynas dda ag eraill. Bydda’n barod i rannu dy deimladau a dy brofiadau gyda ffrindiau da, yn enwedig y rhai sydd wedi profi sefyllfa debyg. Gall hyn dy helpu i deimlo’n well. (Preg. 4:9, 10) Bydd y ffrindiau a wnest ti yn dy aseiniad blaenorol yn dal yn ffrindiau iti. Nawr, yn dy aseiniad newydd, mae angen iti wneud ffrindiau newydd. Cofia os wyt ti eisiau ffrind, mae’n rhaid i tithau fod yn ffrind. Sut gelli di feithrin cyfeillgarwch newydd? Beth am rannu’r profiadau da a gest ti yng ngwasanaeth Jehofa, fel bod eraill yn gallu gweld dy lawenydd. Hyd yn oed os oes ’na rai sydd ddim yn deall dy frwdfrydedd am wasanaeth llawn-amser, gall eraill gael eu denu gan dy esiampl dda a dod yn ffrindiau da. Cofia, i beidio â thynnu ormod o sylw i dy lwyddiannau di, a phaid â chanolbwyntio ar deimladau negyddol.

11. Sut gelli di gadw dy briodas yn hapus?

11 Os oeddet ti’n gorfod gadael dy aseiniad oherwydd iechyd dy briod, paid â beio ef neu hi. Ar y llaw arall, os mai ti oedd yr un aeth yn sâl, paid â theimlo’n euog, gan feddwl dy fod ti wedi siomi dy gymar. Cofia, bod y ddau ohonoch chi bellach wedi “dod yn un,” ac fe wnaethoch chi addo o flaen Jehofa y byddech yn edrych ar ôl eich gilydd doed a ddelo. (Math. 19:5, 6) Os wnest ti adael aseiniad oherwydd beichiogrwydd anfwriadol, gwna’n siŵr fod dy blentyn yn gwybod ei fod ef yn bwysicach i ti nag oedd dy aseiniad. Sicrha dy blentyn dy fod ti’n ei weld fel “gwobr” gan Dduw. (Salm 127:3-5) Hefyd, dyweda wrtho am y profiadau bendigedig a gest ti yn dy aseiniad. Bydd gwneud hyn yn cymell dy blentyn i ddefnyddio ei fywyd yng ngwasanaeth llawen Jehofa fel y gwnest ti.

SUT GALL ERAILL HELPU

12. (a) Sut gallwn ni helpu’r rhai sydd mewn gwasanaeth llawn amser i barhau yn eu haseiniadau? (b) Sut gallwn ni eu helpu i wneud y newid i aseiniad newydd yn haws?

12 Mae llawer o gynulleidfaoedd ac unigolion yn gwneud yr hyn y gallan nhw i alluogi’r rhai sydd mewn gwasanaeth llawn-amser i aros yn eu haseiniadau, ac mae hyn i’w chanmol. Maen nhw’n gwneud hyn drwy eu hannog i barhau â’u gwaith, drwy eu helpu yn ariannol neu’n faterol, neu drwy eu helpu i ofalu am aelodau eu teulu yn ôl gartref. (Gal. 6:2) Os ydy’r rhai sydd mewn gwasanaeth llawn-amser yn derbyn aseiniad newydd i dy gynulleidfa, paid â gweld y newid fel arwydd eu bod nhw ryw fodd wedi methu, neu wedi cael eu disgyblu. * Yn lle hynny, helpa nhw i wneud y newid yn haws. Rho groeso cynnes iddyn nhw a’u canmol am eu gwaith, hyd yn oed os mae iechyd gwael yn cyfyngu ar yr hyn maen nhw’n gallu ei wneud nawr. Peth da fyddai dod i’w hadnabod a dysgu o’u storfa o wybodaeth, hyfforddiant, a phrofiad.

13. Sut gallwn ni helpu’r rhai sy’n cael aseiniad newydd?

13 Yn y dechrau, efallai bydd y rhai sydd wedi cael aseiniad newydd angen dy help i gael hyd i rywle i fyw, i deithio o gwmpas, i gael gwaith, ac anghenion sylfaenol eraill. Efallai y byddan nhw angen help ar gyfer materion pob dydd, fel talu trethi a chael yswiriant. Y peth y maen nhw’n ei angen fwyaf yw dy fod ti’n ceisio deall eu hamgylchiadau. Efallai eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd delio gyda’u hiechyd eu hunain neu iechyd aelod o’r teulu. Hwyrach eu bod nhw’n galaru wedi iddyn nhw golli un o’i hanwyliaid. * Ac er nad ydyn nhw’n siarad amdano, mae’n bosib eu bod nhw’n drist am eu bod nhw’n methu eu ffrindiau. Mae’n cymryd amser i ddelio ag emosiynau mor ddwfn sy’n ddigon i ddrysu dyn ar adegau.

14. Sut gwnaeth y cyhoeddwyr lleol helpu un chwaer i addasu i’w haseiniad newydd?

14 Yn y cyfamser, mae dy gefnogaeth a dy esiampl yn gallu eu helpu i addasu. “Yn fy aseiniad diwethaf, roeddwn i’n cynnal astudiaethau Beiblaidd bob dydd,” meddai chwaer a oedd yn gwasanaethu am flynyddoedd mewn gwlad tramor. “Yn fy aseiniad newydd, roedd hi’n anodd hyd yn oed i gael cyfle i agor y Beibl neu ddangos fideo yn y weinidogaeth. Ond gwnaeth cyhoeddwyr lleol fy ngwahodd ar eu galwadau a’u hastudiaethau. Roedd gweld y brodyr a chwiorydd selog a dewr hynny yn cynnal astudiaethau Beiblaidd yn fy helpu i deimlo’n well am y diriogaeth. Dysgais i ddechrau sgyrsiau yn y diriogaeth newydd. Roedd hyn i gyd yn fy helpu i adennill fy llawenydd.”

DAL ATI I WNEUD DY ORAU!

Edrycha am ffyrdd i ehangu dy weinidogaeth yn lleol (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Sut gelli di lwyddo yn dy aseiniad newydd?

15 Fe elli di lwyddo yn dy aseiniad newydd. Paid â meddwl bod newid yn golygu dy fod ti wedi methu yn dy aseiniad blaenorol, neu dy fod ti’n cymryd cam yn ôl. Meddylia am y ffyrdd y mae Jehofa yn dy helpu di nawr, a dal ati i bregethu. Efelycha Cristnogion ffyddlon y ganrif gyntaf. Le bynnag yr oedden nhw, roedden nhw’n “dweud wrth bobl beth oedd y newyddion da.” (Act. 8:1, 4) O ddal ati i bregethu, gelli di gael canlyniadau da. Er enghraifft, cafodd rhai arloeswyr orchymyn i adael un wlad, ond fe symudon nhw dros y ffin i wlad arall lle’r oedd angen mawr yn yr un maes ieithyddol. O fewn ychydig fisoedd, ymunodd llawer â’r grwpiau newydd.

16. Sut gelli di gael llawenydd yn dy aseiniad newydd?

16 “Bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth i chi!” (Neh. 8:10) Mae’n rhaid inni lawenhau yn Jehofa yn bennaf ac nid yn ein haseiniad, ni waeth faint rydyn ni’n ei drysori. Felly, dal ati i lynu wrth Jehofa, gan droi ato am ddoethineb, arweiniad, a chefnogaeth. Cofia dest ti i garu dy aseiniad blaenorol am dy fod ti wedi gwneud dy orau i helpu’r bobl yno. Rho dy holl galon yn dy aseiniad presennol ac fe gei di weld sut bydd Jehofa yn dy helpu i garu’r aseiniad hwnnw hefyd.—Preg. 7:10.

17. Beth y mae’n rhaid inni ei gofio am ein haseiniad presennol?

17 Mae’n rhaid inni gofio bod ein gwasanaeth i Jehofa yn dragwyddol, ond dros dro y mae ein haseiniad presennol. Yn y byd newydd, hwyrach bydd gennyn ni i gyd aseiniad newydd. Mae Aleksey, a soniwyd amdano gynt, yn credu bod ei brofiadau presennol yn ei baratoi am newidiadau yn y dyfodol. “Roeddwn i wastad yn gwybod bod Jehofa a’r byd newydd yn real, ond rywsut neu’i gilydd roedden nhw’n ymddangos braidd yn bell i ffwrdd,” meddai Aleksey. “Rŵan dw i’n gweld Jehofa syth o ’mlaen i ac mae’n teimlo fel petai’r byd newydd rownd y gornel nesaf.” (Act. 2:25) Beth bynnag fydd ein haseiniad, gad inni gadw’n agos at Jehofa. Fydd ef byth yn ein gadael, ond fe fydd yn ein helpu i gael llawenydd wrth wneud ein gorau yn ei wasanaeth—lle bynnag y bydd hynny.—Esei. 41:13.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

^ Par. 5 O bryd i’w gilydd, bydd rhaid i frodyr a chwiorydd adael eu haseiniad, neu gallen nhw gael aseiniad newydd. Mae’r erthygl hon yn trafod yr heriau byddan nhw’n eu wynebu a beth sy’n gallu ei gwneud hi’n haws iddyn nhw addasu. Bydd hefyd yn ystyried beth y gall eraill ei wneud i’w hannog a’u helpu, yn ogystal ag egwyddorion sy’n gallu helpu pawb i ddelio â newidiadau mewn bywyd.

^ Par. 4 Yn debyg i hyn, mae llawer o frodyr cyfrifol wedi ildio eu cyfrifoldebau a’u rhoi i frodyr ifanc. Gweler yr erthyglau canlynol, “Older Christians—Jehovah Treasures Your Loyalty,” yn y Tŵr Gwylio Saesneg Medi 2018, a “Cadw Dy Heddwch Mewnol er Gwaethaf Newidiadau,” yn Tŵr Gwylio Hydref 2018.

^ Par. 12 Dylai henuriaid eu hen gynulleidfa ysgrifennu llythyr o gyflwyniad cyn gynted â bo modd, fel na fydd oedi cyn iddyn nhw gael eu penodi fel arloeswr, henuriad, neu was gweinidogaethol yn eu cynulleidfa newydd.

^ Par. 13 Gweler y gyfres “Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru,” yn Deffrwch! 2018 Rhif 3.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Cwpl oedd yn gorfod gadael maes cenhadol tramor yn ffarwelio â’u cynulleidfa â dagrau yn eu llygaid.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ôl yn eu gwlad enedigol, mae’r un cwpl yn erfyn ar Jehofa i’w helpu nhw i ymdopi â’u heriau.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gyda help Jehofa, mae’r cwpl yn ôl mewn gwasanaeth llawn-amser. Maen nhw’n defnyddio’r sgiliau ieithyddol a ddysgon nhw fel cenhadon i rannu’r newyddion da â mewnfudwyr yn nhiriogaeth eu cynulleidfa newydd.