Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 40

Cadw’n Brysur yn Ystod Diwedd y Dyddiau Diwethaf

Cadw’n Brysur yn Ystod Diwedd y Dyddiau Diwethaf

“Peidiwch gadael i ddim byd eich ysgwyd chi. Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd.”—1 COR. 15:58.

CÂN 58 Chwilio am Bobl Sy’n Ceisio Heddwch

CIPOLWG *

1. Sut gallwn ni fod yn sicr ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf?

A GEST ti dy eni ar ôl y flwyddyn 1914? Os felly, rwyt ti wedi byw dy holl fywyd yn ystod “cyfnod olaf” y system hon. (2 Tim. 3:1) Mae pob un ohonon ni wedi clywed am y digwyddiadau a ragfynegodd Iesu am ein cyfnod ni. Mae’r rhain yn cynnwys rhyfeloedd, newyn, daeargrynfeydd, heintiau, mwy a mwy o ddrygioni, a phobl Jehofa yn cael eu herlid. (Math. 24:3, 7-9, 12; Luc 21:10-12) Hefyd, rydyn ni wedi gweld pobl yn ymddwyn yn union fel y proffwydodd yr apostol Paul. (Gweler y blwch “ Y Ffordd y Mae Pobl Nawr.”) Fel addolwyr Jehofa, rydyn ni’n argyhoeddedig ein bod ni’n byw “yn y dyddiau diwethaf.”—Mich. 4:1, Beibl Cymraeg Diwygiedig.

2. Pa gwestiynau y mae angen atebion iddyn nhw?

2 Oherwydd bod cymaint o amser wedi mynd heibio ers 1914, mae’n rhaid ein bod ni’n byw yn niwedd “y dyddiau diwethaf.” Gan fod diwedd y system mor agos, mae angen inni wybod yr atebion i ambell gwestiwn pwysig: Beth fydd yn digwydd yn “y dyddiau diwethaf”? A beth mae Jehofa yn disgwyl inni ei wneud tra’n bod ni’n disgwyl y digwyddiadau hynny?

BETH FYDD YN DIGWYDD YN NIWEDD “Y DYDDIAU DIWETHAF”?

3. Yn ôl proffwydoliaeth 1 Thesaloniaid 5:1-3, beth bydd y cenhedloedd yn ei ddatgan?

3 Darllen 1 Thesaloniaid 5:1-3. Mae Paul yn sôn am ddydd Jehofa. Yn y cyd-destun hwn, mae’n cyfeirio at y cyfnod sy’n dechrau â’r ymosodiad ar “Babilon Fawr,” sef ymerodraeth fyd-eang gau grefydd, ac yn gorffen ag Armagedon. (Dat. 16:14, 16; 17:5) Yn syth cyn i ddydd Jehofa ddechrau, bydd y cenhedloedd yn cyhoeddi “Heddwch a diogelwch!” Fe fydd arweinwyr y byd weithiau yn defnyddio ymadroddion tebyg pan fyddan nhw’n trafod cadw heddwch rhwng cenhedloedd. * Fodd bynnag, bydd y cyhoeddiad o “heddwch a diogelwch” y mae’r Beibl yn ei ddisgrifio yn wahanol. Pam? Pan fydd hyn yn digwydd, bydd pobl yn meddwl bod arweinwyr y byd wedi llwyddo i wneud y byd yn saffach. Ond mewn gwirionedd, bydd y gorthrymder mawr yn dechrau ac yna “yn sydyn bydd dinistr yn dod.”—Math. 24:21.

Paid â chael dy dwyllo gan y cenhedloedd sy’n honni eu bod nhw wedi sefydlu “heddwch a diogelwch” (Gweler paragraffau 3-6) *

4. (a) Beth nad ydyn ni’n ei wybod eto am y datganiad o “heddwch a diogelwch”? (b) Beth rydyn ni eisoes yn ei wybod amdano?

4 Rydyn ni’n gwybod rhai pethau am y datganiad o heddwch a diogelwch. Ond, mae ’na rai pethau nad ydyn ni yn eu gwybod. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn achosi i’r rheolwyr wneud y datganiad hwnnw. A dydyn ni ddim yn gwybod p’un a fydd y cyhoeddiad yn un datganiad neu’n gyfres o ddatganiadau. Beth bynnag fydd yn digwydd, rydyn ni’n gwybod hyn: Ni ddylen ni gael ein twyllo i feddwl bod arweinwyr y byd yn gallu dod â heddwch byd eang. Yn hytrach, y datganiad hwnnw yw’r un mae’r Beibl yn ein rhybuddio amdano. Dyma’r arwydd fod dydd Jehofa ar fin dechrau!

5. Beth mae 1 Thesaloniaid 5:4-6 yn dweud y dylen ni ei wneud i baratoi at ddydd Jehofa?

5 Darllen 1 Thesaloniaid 5:4-6. Mae geiriau Paul yn dweud beth dylen ni ei wneud i baratoi at ddydd Jehofa. “Rhaid i ni beidio bod yn gysglyd fel pobl eraill.” “Gadewch i ni fod yn effro” ac yn wyliadwrus. Er enghraifft, mae angen inni fod yn effro i’r peryg o gyfaddawdu ein niwtraliaeth a pheidio ag ymwneud a materion gwleidyddol. Os ydyn ni’n ymwneud â’r pethau hyn, rydyn ni’n “perthyn i’r byd.” (Ioan 15:19) Gwyddon ni mai Teyrnas Dduw yw’r unig obaith ar gyfer heddwch byd-eang.

6. Beth rydyn ni eisiau i eraill ei wneud, a pham?

6 Yn ogystal ag aros yn effro, mae eisiau inni helpu eraill i fod yn effro i’r hyn a ragfynegodd y Beibl y byddai’n digwydd yn y byd. Mae angen inni wneud hyn nawr oherwydd, pan fydd y gorthrymder mawr yn dechrau, fe fydd hi’n rhy hwyr i bobl droi at Jehofa. Dyna pam mae hi mor bwysig inni bregethu nawr! *

CADWA’N BRYSUR YN PREGETHU

Wrth inni bregethu heddiw, dangoswn mai dim ond Teyrnas Dduw sydd yn gallu gwneud y byd yn wirioneddol ddiogel (Gweler paragraffau 7-9)

7. Beth mae Jehofa yn disgwyl inni ei wneud nawr?

7 Yn y cyfnod byr cyn i’w ddydd mawr ddechrau, mae Jehofa yn disgwyl inni gadw’n brysur yn y gwaith pregethu. “Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd.” (1 Cor. 15:58) Rhagfynegodd Iesu’r hyn y bydden ni’n ei wneud. Pan siaradodd am y pethau arwyddocaol fyddai’n digwydd yn ystod y dyddiau diwethaf, ychwanegodd: “Rhaid i’r newyddion da gael ei gyhoeddi ym mhob gwlad gyntaf.” (Marc 13:4, 8, 10; Math. 24:14) Meddylia: Bob tro yr ei di ar y weinidogaeth, rwyt ti’n helpu i gyflawni’r broffwydoliaeth Feiblaidd honno!

8. Sut gwyddon ni fod pregethu’r Deyrnas yn dal i lwyddo?

8 Beth gallwn ni ei ddweud ynglŷn â’r cynnydd yn y gwaith pregethu? Bob blwyddyn mae mwy a mwy o bobl yn clywed newyddion da’r Deyrnas. Er enghraifft, meddylia am y twf byd-eang yn nifer cyhoeddwyr y Deyrnas yn ystod y dyddiau diwethaf. Ym 1914, roedd ’na 5,155 o gyhoeddwyr mewn 43 o wledydd. Heddiw, mae ’na tua 8.5 miliwn o gyhoeddwyr mewn 240 o wledydd! Ond nid yw’r gwaith drosodd eto. Mae’n rhaid inni ddal ati i gyhoeddi mai Teyrnas Dduw yw’r unig ateb i broblemau’r ddynoliaeth.—Salm 145:11-13.

9. Pam y mae’n rhaid inni ddal ati i bregethu neges y Deyrnas?

9 Ni fydd ein gwaith o bregethu am Deyrnas Dduw yn dod i ben nes i Jehofa ddweud ei fod wedi gorffen. Faint o amser sydd ar ôl i bobl ddod i adnabod Jehofa Dduw ac Iesu Grist? (Ioan 17:3) Dydyn ni ddim yn gwybod. Fyddwn ni ddim yn gwybod hynny tan i’r gorthrymder mawr ddechrau, ond ar hyn o bryd mae’n dal yn bosib i’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol” ymateb i’r newyddion da. (Act. 13:48, NWT) Sut gallwn ni helpu pobl cyn iddi fod yn rhy hwyr?

10. Pa help gawn ni gan Jehofa i ddysgu eraill am y gwirionedd?

10 Drwy ei gyfundrefn, mae Jehofa’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni i ddysgu’r gwirionedd i bobl. Er enghraifft, rydyn ni’n cael ein hyfforddi bob wythnos yn y cyfarfod canol wythnos. Mae’r cyfarfod hwn yn ein helpu i wybod beth i ddweud ar yr alwad gyntaf ac wrth alw’n ôl. Mae’n ein dysgu sut i gynnal astudiaethau Beiblaidd. Mae cyfundrefn Jehofa hefyd yn darparu’r eitemau yn ein Bocs Tŵls Dysgu. Mae’r eitemau hyn yn ein dysgu i . . .

  • ddechrau sgyrsiau,

  • cyflwyno’r neges mewn ffordd ddiddorol,

  • helpu pobl i fod yn awyddus i ddysgu mwy,

  • dysgu’r gwirionedd ar astudiaethau Beiblaidd, a

  • gwahodd y rhai sydd â diddordeb i ymweld â’n gwefan ac â Neuaddau’r Deyrnas.

Wrth gwrs, mae cael y tŵls yn ein meddiant yn un peth, ond mae rhaid inni eu defnyddio. * Er enghraifft, os wyt ti’n gadael taflen neu gylchgrawn â rhywun sydd wedi dangos diddordeb, fe fydd yn gallu darllen ymhellach nes dy fod ti’n gallu ailgysylltu ag ef. Ein cyfrifoldeb personol ni yw cadw’n brysur yn pregethu neges y Deyrnas bob mis.

11. Pam cafodd Gwersi Astudio’r Beibl Ar-lein eu paratoi?

11 Enghraifft arall o sut mae Jehofa yn helpu pobl i ddysgu’r gwirionedd yw’r Gwersi Astudio’r Beibl Ar-lein ar jw.org®. Pam cafodd y gwersi hyn eu paratoi? Bob mis, mae degau ar filoedd o gwmpas y byd yn chwilio’r We am wersi Beiblaidd. Gall y gwersi ar ein gwefan gyflwyno gwirionedd Gair Duw i’r unigolion hyn. Efallai fod rhai o’r bobl rydyn ni’n galw arnyn nhw yn dal yn ôl rhag derbyn astudiaeth Feiblaidd bersonol. Os felly, dangosa’r adran hon o’r wefan iddyn nhw neu anfona linc i’r gwersi atyn nhw. *

12. Beth gall rhywun ei ddysgu o’r Gwersi Astudio’r Beibl Ar-lein?

12 Mae ein Gwersi Astudio’r Beibl Ar-lein yn trafod y pynciau hyn: Y Beibl a’i Awdur, Prif Gymeriadau’r Beibl, a Neges Obeithiol y Beibl. O fewn y pynciau hyn, bydd rhywun yn dysgu:

  • Sut gall y Beibl helpu rhywun

  • Pwy yw Jehofa, Iesu Grist, a’r angylion

  • Pam creodd Duw fodau dynol

  • Pam mae cymaint o ddioddefaint a drygioni

Mae’r gwersi hefyd yn trafod sut bydd Jehofa’n . . .

  • rhoi terfyn ar ddioddefaint a marwolaeth,

  • dod â’r meirw’n ôl yn fyw, ac yn

  • disodli llywodraethau dynion â Theyrnas Dduw.

13. Ydy’r gwersi ar-lein yn disodli’r astudiaeth Feiblaidd arferol? Esbonia.

13 Nid yw’r gwersi ar-lein yn cymryd lle’r trefniant arferol o astudio’r Beibl. Mae Iesu wedi rhoi’r fraint o wneud disgyblion i ni. Gobeithiwn y bydd y rhai sydd â diddordeb yn dilyn y gwersi ar-lein, yn gwerthfawrogi’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu, ac eisiau dysgu mwy. Os felly, hwyrach y byddan nhw’n derbyn astudiaeth Feiblaidd. Ar ddiwedd pob gwers, gwahoddir y darllenwr i anfon cais am athro personol i astudio’r Beibl gydag ef. Yn fyd-eang, mae 230 o bobl, ar gyfartaledd, yn gofyn am astudiaeth Feiblaidd bob un diwrnod drwy gyfrwng ein gwefan! Mae’r hyfforddiant personol hwnnw yn hanfodol!

DALIA ATI I GEISIO GWNEUD DISGYBLION

14. Yn ôl gorchymyn Iesu a gofnodwyd yn Mathew 28:19, 20, beth dylen ni geisio ei wneud, a pham?

14 Darllen Mathew 28:19, 20. Wrth inni gynnal astudiaethau Beiblaidd, mae’n rhaid inni geisio’n gorau glas i ddilyn y cyfarwyddyd hwn: “Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi . . . A dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi ei ddweud wrthoch chi.” Mae angen inni helpu pobl i ddeall pa mor bwysig yw hi iddyn nhw wneud safiad dros Jehofa a’i Deyrnas. Mae hyn yn golygu ceisio sbarduno pobl i brofi’r gwirionedd iddyn nhw eu hunain drwy roi ar waith yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, cysegru eu bywydau i Jehofa, a chael eu bedyddio. Dim ond wedyn byddan nhw’n goroesi dydd Jehofa.—1 Pedr 3:21.

15. Beth dylen ni beidio â’i wneud, a pham?

15 Fel y soniwyd amdano gynt, ychydig iawn o amser sydd ’na rhwng nawr a diwedd y system bresennol. Wrth ystyried hyn, allwn ni ddim fforddio parhau i astudio’r Beibl gyda phobl sy’n amlwg ddim yn bwriadu dod yn ddisgyblion i Grist. (1 Cor. 9:26) Mae ein gwaith yn fater o frys! Mae ’na lawer o bobl sydd heb glywed neges y Deyrnas eto ac maen nhw angen ei chlywed cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

CADW DRAW RHAG GAU GREFYDD I GYD

16. Yn ôl Datguddiad 18:2, 4, 5, 8, beth sy’n rhaid i bawb ei wneud? (Gweler hefyd y troednodyn.)

16 Darllen Datguddiad 18:2, 4, 5, 8. Mae’r adnodau hyn yn tynnu sylw at rywbeth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei addolwyr. Dylai pob gwir Gristion sicrhau nad yw’n ymwneud â gau grefydd mewn unrhyw ffordd. Mae’n bosib fod rhai myfyrwyr y Beibl wedi bod yn aelodau o gau grefydd cyn iddyn nhw ddysgu am y gwirionedd. Hwyrach eu bod nhw wedi mynychu gwasanaethau crefyddol neu eu bod nhw wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau’r sefydliad hwnnw. Neu eu bod nhw efallai wedi cyfrannu arian at gyfundrefnau o’r fath. Cyn y gellir cymeradwyo myfyriwr y Beibl i fod yn gyhoeddwr difedydd, mae’n rhaid iddo dorri pob cysylltiad â gau grefydd. Dylai gyflwyno llythyr i’w hen eglwys, neu i unrhyw sefydliad sy’n rhan o gau grefydd, yn dweud ei fod yn canslo ei aelodaeth. *

17. Pa fath o waith seciwlar y mae’n rhaid i Gristion ei osgoi, a pham?

17 Mae’n rhaid i wir Gristion wneud yn siŵr nad oes gan ei waith unrhyw beth i wneud â Babilon Fawr. (2 Cor. 6:14-17) Er enghraifft, ni fyddai’n cael ei gyflogi gan eglwys. Hefyd, ni fyddai Cristion a gyflogir gan gwmni arall yn gwneud gwaith helaeth mewn adeilad sy’n hyrwyddo gau addoliad. Ac os yw’n berchen ar gwmni, fyddai’n bendant ddim yn ceisio am waith nac yn derbyn contract i weithio i unrhyw ran o Fabilon Fawr. Pam rydyn ni cymryd safiad mor gadarn ar hyn? Oherwydd nad ydyn ni eisiau rhannu yng ngweithredoedd na phechodau sefydliadau crefyddol sydd yn aflan yng ngolwg Duw.—Esei. 52:11. *

18. Sut glynodd un brawd wrth egwyddorion y Beibl yn achos ei waith seciwlar?

18 Flynyddoedd yn ôl, gwnaeth contractwr ofyn i henuriad hunangyflogedig wneud dipyn bach o waith coed ar eglwys yn y dref lle roedd y brawd yn byw. Fe wyddai’r contractwr fod y brawd bob amser wedi dweud na fyddai’n gwneud gwaith ar eglwysi. Ond, y tro hwn, roedd y contractwr yn ei chael hi’n anodd cael hyd i rywun i wneud y jòb. Er hynny, doedd y brawd ddim yn mynd i gyfaddawdu ar egwyddorion y Beibl a gwrthododd y gwaith. Yr wythnos wedyn, roedd llun yn y papur newydd lleol yn dangos saer coed arall yn gosod croes ar yr eglwys. Petasai’r brawd wedi cyfaddawdu, ei lun yntau fyddai wedi ymddangos yn y papur. Dychmyga sut y gallai hynny fod wedi niweidio ei enw da ymysg ei gyd-Gristnogion! Meddylia hefyd am sut y byddai Jehofa fod wedi teimlo.

BETH RYDYN NI WEDI EI DDYSGU?

19-20. (a) Beth rydyn ni wedi ei ddysgu hyd yma? (b) A pha bethau eraill y mae’n rhaid inni eu dysgu?

19 Yn ôl proffwydoliaeth y Beibl, y prif ddigwyddiad nesaf i ddod ar lwyfan y byd fydd y datganiad o “heddwch a diogelwch.” Diolch i’r hyn y mae Jehofa wedi ei ddysgu inni, fe wyddon ni na fydd y cenhedloedd yn llwyddo i gael gwir heddwch parhaol. Beth dylen ni ei wneud cyn y digwyddiad hwnnw a’r dinistr disymwth a fydd yn dilyn? Mae Jehofa yn disgwyl inni gadw’n brysur yn pregethu neges y Deyrnas ac i geisio gwneud mwy o ddisgyblion. Ar yr un pryd mae’n rhaid inni gadw’n gwbl ar wahân i gau grefydd i gyd. Mae hynny’n cynnwys stopio bod yn aelod o Fabilon Fawr a pheidio â gwneud unrhyw waith sydd yn ymwneud â gau grefydd.

20 Mae ’na ddigwyddiadau eraill sy’n dilyn cyfnod olaf y dyddiau diwethaf. Mae ’na hefyd bethau eraill mae Jehofa yn disgwyl inni eu gwneud. Beth yw’r rhain, a sut gallwn ni baratoi ar gyfer popeth sy’n dod yn y dyfodol agos? Cawn weld yn yr erthygl nesaf.

CÂN 71 Byddin Jehofa Ydym!

^ Par. 5 Yn fuan, byddwn ni’n disgwyl clywed y cenhedloedd yn honni bod gennyn ni “heddwch a diogelwch” yn y byd! Dyna fydd yr arwydd fod y gorthrymder mawr ar fin cychwyn. Beth mae Jehofa yn disgwyl inni ei wneud yn y cyfamser? Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i gael yr ateb.

^ Par. 3 Er enghraifft, mae gwefan y Cenhedloedd Unedig yn honni eu bod nhw yn “cynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.”

^ Par. 23 Am fanylion ar sut i ddefnyddio’r eitemau yn y Bocs Tŵls Dysgu, gweler yr erthygl “Dysgu Eraill y Gwirionedd” yn rhifyn Hydref 2018 o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 11 Ar gael ar hyn o bryd yn Saesneg a Phortiwgaleg, gyda mwy o ieithoedd ar y ffordd.

^ Par. 16 Mae eisiau inni osgoi mudiadau fel gwersylloedd i bobl ifanc neu gyfleusterau adloniant sy’n gysylltiedig â gau grefydd. Er enghraifft, am fanylion ar aelodaeth y YMCA (Cymdeithas Gristnogol Dynion Ifanc), gweler “Questions From Readers” yn rhifyn 1 Ionawr 1979, o’r Tŵr Gwylio Saesneg. Mae’n rhaid cymryd yr un safiad tuag at y YWCA (Cymdeithas Gristnogol Menywod Ifanc). Er i rai canghennau lleol geisio lleihau’r cysylltiad crefyddol yn eu gweithgareddau, y ffaith amdani yw, mae gan y mudiadau hyn wreiddiau ac amcanion crefyddol.

^ Par. 17 Am fwy o wybodaeth Ysgrythurol ynglŷn â gwaith cyflogedig a chyfundrefnau crefyddol, gweler “Questions From Readers” yn rhifyn 15 Ebrill 1999 o’r Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 83 DISGRIFIAD O’R LLUN: Cwsmeriaid mewn siop goffi yn ymateb i “Newyddion sy’n torri” ar y teledu sy’n datgan “heddwch a diogelwch.” Cwpl sy’n Dystion, yn cael egwyl fach o’r weinidogaeth ond heb gael eu twyllo gan y datganiad.