Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 44

Gwna Ffrindiau Da Cyn i’r Diwedd Ddod

Gwna Ffrindiau Da Cyn i’r Diwedd Ddod

“Mae ffrind yn ffyddlon bob amser.”—DIAR. 17:17.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG *

Bydd angen ffrindiau da yn ystod y gorthrymder mawr (Gweler paragraff 2) *

1-2. Yn ôl 1 Pedr 4:7, 8, beth fydd yn ein helpu i ymdopi ag amgylchiadau anodd?

WRTH inni nesáu at ddiwedd y dyddiau diwethaf, mae’n bosib y byddwn ni’n wynebu problemau difrifol. (2 Tim. 3:1) Er enghraifft, yn dilyn ymgyrch etholiadol, cafodd gwlad yng ngorllewin Affrica ei rhwygo’n ddarnau oherwydd aflonyddwch cymdeithasol a thrais. Am chwe mis a mwy, doedd ein brodyr na’n chwiorydd ddim yn gallu symud o gwmpas oherwydd yr ymladd. Beth wnaeth eu helpu i ymdopi â’r anawsterau hyn? Cafodd rhai loches yng nghartrefi brodyr a oedd yn byw mewn ardal saffach. Dywedodd un brawd: “Mewn sefyllfa o’r fath, roeddwn i’n gwerthfawrogi cael cwmni fy ffrindiau. Roedden ni’n gallu annog ein gilydd.”

2 Pan fydd y gorthrymder mawr yn taro, byddwn ni’n ddiolchgar iawn o gael ffrindiau da sy’n ein caru ni. (Dat. 7:14) Felly, mae gwneud ffrindiau da nawr yn fater o frys. (Darllen 1 Pedr 4:7, 8.) Gallwn ddysgu cymaint oddi wrth brofiad Jeremeia. Gwnaeth ei ffrindiau agos ei helpu i oroesi yn ystod y cyfnod hwnnw ychydig cyn i Jerwsalem gael ei dinistrio. * Sut gallwn ni efelychu Jeremeia?

DYSGA ODDI WRTH JEREMEIA

3. (a) Beth allai fod wedi achosi i Jeremeia gadw draw rhag pobl eraill? (b) Beth ddatgelodd Jeremeia i’w ysgrifennydd Barŵch, a beth oedd y canlyniad?

3 Am o leiaf 40 mlynedd, roedd Jeremeia yn byw yng nghanol pobl anffyddlon, a oedd yn cynnwys cymdogion ac, o bosib, rai o’i berthnasau o’i dref enedigol Anathoth. (Jer. 11:21; 12:6) Fodd bynnag, ni wnaeth ef ei ynysu ei hun. Yn wir, dywedodd wrth Barŵch, ei ysgrifennydd ffyddlon, sut roedd yn teimlo, teimladau a gofnodwyd er ein gwybodaeth ninnau hefyd. (Jer. 8:21; 9:1; 20:14-18; 45:1) Hawdd yw dychmygu bod cyfeillgarwch y ddau wedi cryfhau a’r parch rhyngddyn nhw wedi cynyddu wrth i Barŵch fynd ati i ysgrifennu hanes cyffrous Jeremeia.—Jer. 20:1, 2; 26:7-11.

4. Beth wnaeth Jehofa ofyn i Jeremeia ei wneud, a sut gwnaeth yr aseiniad hwnnw gryfhau’r cyfeillgarwch rhwng Jeremeia a Barŵch?

4 Am lawer o flynyddoedd, roedd Jeremeia wedi rhybuddio’r Israeliaid yn ddewr iawn am yr hyn oedd yn mynd i ddigwydd i Jerwsalem. (Jer. 25:3) Mewn ymdrech bellach i ysgogi’r bobl i edifarhau, gofynnodd Jehofa i Jeremeia ysgrifennu Ei rybuddion ar sgrôl. (Jer. 36:1-4) Gan fod Jeremeia a Barŵch wedi cydweithio’n agos ar yr aseiniad gan Dduw, gwaith a barodd ychydig o fisoedd efallai, mae’n debyg y cawson nhw sgyrsiau a fyddai’n sicr wedi cryfhau eu ffydd.

5. Sut rydyn ni’n gwybod bod Barŵch yn ffrind da i Jeremeia?

5 Pan ddaeth yr amser i ddatgelu cynnwys y sgrôl, roedd yn rhaid i Jeremeia ddibynnu ar ei ffrind Barŵch i gyhoeddi’r neges. (Jer. 36:5, 6) Yn ddewr iawn, cyflawnodd Barŵch ei aseiniad. A elli di ddychmygu pa mor falch oedd Jeremeia pan aeth Barŵch i’r deml i ddarllen y sgrôl i’r bobl? (Jer. 36:8-10) Clywodd tywysogion Jwda am beth roedd Barŵch wedi ei wneud, a dyma nhw’n gorchymyn iddo ddarllen y sgrôl iddyn nhw! (Jer. 36:14, 15) Penderfynodd y tywysogion sôn wrth y brenin Jehoiacim am beth roedd Jeremeia wedi ei ddweud. Yn ystyriol dros ben, dywedon nhw wrth Barŵch: “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a pheidio gadael i neb wybod ble ydych chi.” (Jer. 36:16-19) Cyngor gwych oedd hwnnw!

6. Sut gwnaeth Jeremeia a Barŵch ymateb i wrthwynebiad?

6 Pan glywodd y geiriau a ysgrifennwyd gan Jeremeia, fe wylltiodd y brenin Jehoiacim gymaint nes iddo losgi’r sgrôl a gorchymyn i Jeremeia a Barŵch gael eu harestio. Fodd bynnag, nid oedd Jeremeia yn ofnus. Cymerodd sgrôl arall, ei rhoi i Barŵch, ac wrth i Jeremeia adrodd neges Jehofa, ysgrifennodd Barŵch ar y sgrôl newydd bopeth “oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda.”—Jer. 36:26-28, 32.

7. Beth efallai a ddigwyddodd wrth i Jeremeia a Barŵch gydweithio?

7 Yn aml, mae pobl sy’n mynd trwy gyfnod anodd gyda’i gilydd yn dod yn ffrindiau agos iawn. Gallwn ddychmygu, felly, fod Jeremeia a Barŵch wedi dod i adnabod ei gilydd yn well a dod yn ffrindiau mwy agos fyth wrth iddyn nhw gydweithio i ysgrifennu sgrôl newydd i gymryd lle yr un a ddinistriodd y brenin drwg Jehoiacim. Sut gallwn ni elwa ar yr esiampl a osododd y ddau ddyn ffyddlon hyn?

CYFATHREBU O’R GALON

8. Beth all ein rhwystro ni rhag gwneud ffrindiau da, a pham na ddylen ni roi’r gorau iddi?

8 Efallai fod rhannu ein teimladau ag eraill yn anodd oherwydd bod rhywun yn y gorffennol wedi ein brifo ni. (Diar. 18:19, 24) Neu rydyn ni’n teimlo nad oes digon o amser nac egni gennyn ni i wneud ffrindiau da. Fodd bynnag, ni ddylen ni roi’r gorau iddi. Os ydyn ni eisiau i’n brodyr sefyll ochr yn ochr â ni pan ddaw treialon, mae’n rhaid inni ddysgu ymddiried ynddyn nhw nawr drwy siarad am ein meddyliau a’n teimladau. Mae hwn yn gam pwysig tuag at ddod yn wir ffrindiau.—1 Pedr 1:22.

9. (a) Sut dangosodd Iesu ei fod yn ymddiried yn ei ffrindiau? (b) Sut gall cyfathrebu agored dy helpu i gael perthynas dda ag eraill? Rho esiampl.

9 Dangosodd Iesu ei fod yn ymddiried yn ei ffrindiau drwy gyfathrebu’n agored â nhw. (Ioan 15:15) Gallwn ei efelychu drwy sôn wrth eraill am y pethau sy’n ein gwneud ni’n hapus, ein pryderon, a’r pethau sy’n ein siomi ni. Gwranda’n astud wrth i rywun siarad â ti, ac efallai y byddi di’n dysgu bod ei feddyliau, ei deimladau, a’i amcanion yn debyg i dy rai di. Ystyria esiampl Cindy, chwaer yn ei 20au. Mae hi a Marie-Louise, chwaer yn ei 60au, yn ffrindiau pennaf. Mae Cindy a Marie-Louise yn mynd yn y weinidogaeth gyda’i gilydd bob bore dydd Iau, ac maen nhw’n siarad yn agored am bob math o wahanol bethau. Dywed Cindy: “Mi ydw i wrth fy modd yn siarad am bethau pwysig efo fy ffrindiau oherwydd bod hyn yn fy helpu i ddod i’w hadnabod a’u deall yn well.” Mae cyfeillgarwch yn ffynnu pan fydd dau yn cyfathrebu’n agored. Yn debyg i Cindy, os gwnei di gymryd y cam cyntaf i sgwrsio’n braf ag eraill, bydd dy gyfeillgarwch yn cryfhau.—Diar. 27:9.

CYDWEITHIA

Mae ffrindiau da yn gweithio gyda’i gilydd yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 10)

10. Yn ôl Diarhebion 27:17, beth yw’r canlyniad o weithio gyda’n brodyr a’n chwiorydd?

10 Fel yn achos Jeremeia a Barŵch, pan fyddwn ni’n gweithio ochr yn ochr â’n cyd-addolwyr, rydyn ni’n gweld â’n llygaid ni’n hunain eu rhinweddau apelgar, yn dysgu oddi wrthyn nhw, ac yn closio atyn nhw. (Darllen Diarhebion 27:17.) Er enghraifft, sut rwyt ti’n teimlo pan fyddi di yn y weinidogaeth ac yn clywed dy ffrind yn amddiffyn ei ffydd yn ddewr neu’n siarad am Jehofa a’i bwrpas gydag argyhoeddiad? Yn ôl pob tebyg, fe fyddi di’n caru dy ffrind yn fwy byth.

11-12. Rho esiampl sy’n dangos sut mae pregethu gyda dy ffrindiau yn cryfhau cyfeillgarwch.

11 Ystyria ddwy esiampl sy’n dangos sut mae pregethu ar y cyd yn dod â phobl at ei gilydd. Gwnaeth Adeline, chwaer 23 oed, ofyn i un o’i ffrindiau, Candice, fynd gyda hi i bregethu mewn ardal sydd ddim yn cael ei gweithio’n aml. “Roedden ni eisiau bod yn fwy selog wrth bregethu a mwynhau’r weinidogaeth yn fwy,” meddai hi. “Roedd angen anogaeth ar y ddwy ohonon ni.” Sut gwnaethon nhw elwa? “Ar ddiwedd pob diwrnod,” meddai Adeline, “roedden ni’n trafod ein teimladau, beth oedd yn ein hannog ni am y sgyrsiau a gawson ni, a sut roedden ni’n gweld llaw Jehofa yn ein gweinidogaeth. Cawson ni bleser mawr o’r sgyrsiau hyn a daethon ni i’n hadnabod ein gilydd yn well.”

12 Aeth Laïla a Marianne, dwy chwaer sengl o Ffrainc, i bregethu am bum wythnos yn Bangui, prifddinas brysur Gweriniaeth Canolbarth Affrica. Mae Laïla yn dweud: “Gwnaeth Marianne a minnau wynebu anawsterau, ond diolch i gyfathrebu da a chariad diffuant, cryfhaodd ein cyfeillgarwch. Wrth imi sylwi ar hyblygrwydd Marianne, ei chariad tuag at y bobl leol, a’i sêl dros y weinidogaeth, roeddwn i’n ei hedmygu yn fwy ac yn fwy.” Does dim rhaid iti symud i wlad dramor i gael y buddion hyn. Bob amser rwyt ti’n gweithio dy diriogaeth leol gyda brawd neu chwaer, mae gen ti’r cyfle i ddod i adnabod yr unigolyn hwnnw’n well ac i gryfhau’r cyfeillgarwch rhyngoch chi.

CANOLBWYNTIA AR Y POSITIF A MADDAU’N HAEL

13. Pa her y gallwn ni ei hwynebu wrth gydweithio â’n ffrindiau?

13 Weithiau pan fyddwn ni’n gweithio’n agos gyda’n ffrindiau, rydyn ni’n dod yn ymwybodol o’u cryfderau ond hefyd eu gwendidau. Beth all ein helpu i godi uwchlaw’r her hon? Unwaith eto, meddylia am esiampl Jeremeia. Beth a helpodd ef i weld y daioni mewn eraill ac i faddau iddyn nhw eu camgymeriadau?

14. Beth gwnaeth Jeremeia ei ddysgu am Jehofa, a sut gwnaeth hynny ei helpu?

14 Ysgrifennodd Jeremeia’r llyfr sy’n dwyn ei enw, ac ef yn ôl pob tebyg, a ysgrifennodd y llyfrau 1 ac 2 Brenhinoedd yn y Beibl hefyd. Heb os, gwnaeth yr aseiniad hwnnw ei helpu i weld trugaredd Jehofa tuag at fodau dynol amherffaith. Er enghraifft, gwyddai fod y brenin Ahab wedi edifarhau am ei ddrwgweithredoedd, ac felly arbedodd Jehofa ef rhag gweld ei deulu cyfan yn cael eu dinistrio yn ystod ei fywyd. (1 Bren. 21:27-29) Mewn modd tebyg, roedd Jeremeia yn gwybod bod Manasse wedi gwneud mwy i bechu Jehofa nag yr oedd Ahab wedi ei wneud. Er hynny, cafodd Manasse ei faddau gan Jehofa am iddo edifarhau. (2 Bren. 21:16, 17; 2 Cron. 33:10-13) Byddai’r hanesion hynny yn siŵr o fod wedi helpu Jeremeia i efelychu Duw drwy ddangos amynedd a thrugaredd tuag at ei ffrindiau agos.—Salm 103:8, 9

15. Pan gollodd Barŵch ei ffocws, sut gwnaeth Jeremeia efelychu amynedd Jehofa?

15 Ystyria sut gwnaeth Jeremeia ddelio gyda Barŵch pan fethodd ganolbwyntio ar ei aseiniad am gyfnod. Yn hytrach na cholli amynedd, gwnaeth Jeremeia helpu Barŵch drwy rannu neges gariadus a gonest Duw ag ef. (Jer. 45:1-5) Pa wersi a ddysgwn ni o’r hanes hwn?

Mae ffrindiau da yn maddau i’w gilydd yn hael (Gweler paragraff 16)

16. Yn ôl Diarhebion 17:9, beth sy’n rhaid inni ei wneud fel nad ydyn ni’n colli’r cyfeillgarwch sydd rhyngon ni?

16 Y ffaith amdani yw na allwn ni ddisgwyl i’n brodyr na’n chwiorydd fod yn berffaith. Felly, unwaith inni gael perthynas agos â nhw, mae’n rhaid inni weithio’n galed i gadw’r cyfeillgarwch hwnnw’n fyw. Os yw ein ffrindiau yn gwneud camgymeriad, efallai y bydd rhaid inni roi cyngor caredig a gonest sy’n seiliedig ar Air Duw. (Salm 141:5) Ac os ydyn nhw’n ein brifo, mae’n rhaid inni faddau iddyn nhw. Ar ôl inni faddau iddyn nhw, mae’n rhaid inni wrthod y temtasiwn i sôn unwaith eto am beth wnaethon nhw i’n brifo ni. (Darllen Diarhebion 17:9.) Yn y dyddiau anodd hyn, mae’n bwysig iawn inni ganolbwyntio ar gryfderau ein brodyr a’n chwiorydd yn hytrach nag ar eu gwendidau! Bydd gwneud hyn yn cryfhau’r rhwymau sydd yn ein dal ni’n dynn wrth ein gilydd ac, yn wir, bydd angen ffrindiau agos arnon ni yn ystod y gorthrymder mawr.

DANGOSA GARIAD FFYDDLON

17. Pam gallwn ddweud bod Jeremeia yn ffrind da mewn amseroedd anodd?

17 Dangosodd gweithredoedd Jeremeia ei fod yn ffrind go iawn yn ystod cyfnodau anodd. Er enghraifft, ar ôl i swyddog y llys Ebed-melech arbed Jeremeia rhag marw mewn pydew mwdlyd, roedd Ebed-melech yn ofni am ei fywyd ei hun oherwydd ei fod yn meddwl y byddai’r tywysogion yn gwneud niwed iddo. Pan glywodd Jeremeia am yr hanes, nid arhosodd yn dawel yn y gobaith y byddai ei ffrind yn gallu ymdopi ryw ffordd neu’i gilydd ar ei ben ei hun. Er bod Jeremeia wedi ei garcharu, gwnaeth yr hyn roedd yn gallu ei wneud i annog ei ffrind drwy ddweud wrtho am addewid llawn cysur Jehofa.—Jer. 38:7-13; 39:15-18.

Mae ffrindiau da yn helpu eu brodyr a’u chwiorydd mewn cyfnodau anodd (Gweler paragraff 18)

18. Yn ôl Diarhebion 17:17, sut dylen ni ymateb pan fydd ffrind yn mynd trwy gyfnod anodd?

18 Heddiw, mae ein brodyr a’n chwiorydd yn wynebu gwahanol fathau o anawsterau. Er enghraifft, mae llawer wedi dioddef oherwydd trychinebau naturiol ac eraill oherwydd trychinebau y mae dyn wedi eu hachosi. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd rhai ohonon ni’n gallu gwahodd y brodyr a’r chwiorydd hyn i aros gyda ni yn ein cartrefi. Efallai y bydd eraill yn gallu helpu’n ariannol. Ond gall pob un ohonon ni ofyn i Jehofa helpu ein brodyr a’n chwiorydd. Os ydyn ni’n clywed am frawd neu chwaer sy’n teimlo’n ddigalon, weithiau y mae hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud a’i wneud. Ond gall pob un ohonon ni helpu. Er enghraifft, gallwn ni dreulio amser gyda’n ffrind. Gallwn ni wrando’n llawn cydymdeimlad pan fydd ef neu hi’n siarad. A gallwn sôn am ein hoff adnod sy’n rhoi cysur. (Esei. 50:4) Y peth pwysicaf yw dy fod ti ar gael i helpu dy ffrindiau pan fyddan nhw’n dy angen di.—Darllen Diarhebion 17:17.

19. Sut bydd meithrin cyfeillgarwch cryf yn ein helpu ni yn y dyfodol?

19 Dylen ni fod yn hollol benderfynol o warchod y cyfeillgarwch sydd rhyngon ni nawr. Pam? Oherwydd bydd ein gelynion yn ceisio ein rhannu ni drwy ddefnyddio celwyddau a gwybodaeth anghywir. Byddan nhw’n ceisio gwneud inni gefnu ar y naill a’r llall. Ond fyddan nhw ddim yn llwyddo. Ni fyddan nhw’n gallu torri ein rhwymau o gariad. Ni fydd dim byd yn difetha ein cyfeillgarwch cryf. Yn wir, byddwn ni’n aros yn ffrindiau nid yn unig hyd ddiwedd y system hon ond hyd byth!

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

^ Par. 5 Wrth i’r diwedd agosáu, mae’n rhaid inni i gyd gryfhau ein cyfeillgarwch â’n cyd-addolwyr. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar sut y gallwn ni ddysgu o brofiad Jeremeia. Byddwn ni hefyd yn trafod sut bydd meithrin cyfeillgarwch clòs ag eraill heddiw yn ein helpu ni yn ystod adegau anodd.

^ Par. 2 Dydy’r digwyddiadau yn llyfr Jeremeia ddim yn cael eu cyflwyno mewn trefn gronolegol.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Mae’r olygfa hon yn dangos yr hyn a all ddigwydd yn y dyfodol yn ystod y gorthrymder mawr. Brodyr a chwiorydd yn dod at ei gilydd yn saff mewn atig. Oherwydd eu bod nhw’n ffrindiau, maen nhw’n gallu annog ei gilydd. Mae’r golygfeydd canlynol yn dangos bod yr un brodyr a chwiorydd eisoes yn ffrindiau agos iawn cyn i’r gorthrymder mawr ddechrau.