Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

Gwersi y Gallwn Ni Eu Dysgu o Lyfr Lefiticus

Gwersi y Gallwn Ni Eu Dysgu o Lyfr Lefiticus

“Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.”—2 TIM. 3:16, BCND.

CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw

CIPOLWG *

1-2. Pam dylai llyfr Lefiticus fod o ddiddordeb i Gristnogion heddiw?

GWNAETH Paul atgoffa ei ffrind ifanc Timotheus fod “pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.” (2 Tim. 3:16, BCND) Mae hyn yn cynnwys llyfr Lefiticus. Beth rwyt ti’n ei feddwl o’r llyfr hwnnw? Mae rhai yn meddwl ei fod yn llyfr sy’n cynnwys rhestr o reolau nad ydyn nhw’n berthnasol i ni heddiw, ond mae gan wir Gristnogion agwedd wahanol.

2 Ysgrifennwyd Lefiticus ryw 3,500 o flynyddoedd yn ôl, ond fe wnaeth Jehofa ei gadw “i’n dysgu ni.” (Rhuf. 15:4) Oherwydd bod Lefiticus yn taflu goleuni ar feddyliau Jehofa, dylen ni fod yn awyddus iawn i’w astudio’n drylwyr. Mewn gwirionedd, mae ’na lawer o wersi y gallwn ni eu dysgu o’r llyfr ysbrydoledig hwn. Gad inni ystyried pedair ohonyn nhw.

SUT I GAEL CYMERADWYAETH JEHOFA

3. Pam cafodd aberthau eu hoffrymu bob blwyddyn ar Ddydd y Cymod?

3 Y wers gyntaf: Mae angen cymeradwyaeth Jehofa arnon ni er mwyn i’n haberthau gael eu derbyn. Bob blwyddyn ar Ddydd y Cymod, roedd cenedl Israel yn dod ynghyd ac, ar yr achlysur hwnnw, roedd anifeiliaid yn cael eu haberthu. Roedd yr aberthau hynny yn atgoffa’r Israeliaid fod angen i’w pechodau gael eu golchi! Ond cyn i’r Archoffeiriad ddod ag unrhyw waed aberthol i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd ar y diwrnod hwnnw, roedd yn rhaid iddo, yn gyntaf, wneud rhywbeth arall, rywbeth a oedd mewn gwirionedd yn fwy pwysig na maddau i’r genedl ei phechodau.

(Gweler paragraff 4) *

4. Fel mae Lefiticus 16:12, 13 yn dweud, beth roedd yr archoffeiriad yn ei wneud y tro cyntaf iddo fynd i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd ar Ddydd y Cymod? (Gweler y llun ar y clawr.)

4 Darllen Lefiticus 16:12, 13. Dychmyga’r olygfa ar Ddydd y Cymod: Mae’r archoffeiriad yn mynd i mewn i’r tabernacl. Dyma’r gyntaf o’r tair gwaith y bydd yn rhaid iddo fynd i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd ar y diwrnod hwnnw. Yn un llaw, mae’n gafael mewn llestr sy’n llawn arogldarth persawrus, ac yn y llaw arall mae’n gafael mewn padell dân aur sy’n llawn marwor poeth. Mae’n oedi o flaen y llen sy’n gorchuddio mynedfa’r Lle Mwyaf Sanctaidd. Yn llawn parch, mae’n mynd i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd ac yn sefyll o flaen arch y cyfamod. Mewn ffordd symbolaidd, y mae’n sefyll gerbron Jehofa Dduw ei hun! Nawr mae’r offeiriad yn tywallt yr arogldarth yn ofalus ar y marwor, ac mae persawr hyfryd yn llenwi’r ystafell. * Yn nes ymlaen, bydd yn mynd yn ôl i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd â gwaed yr offrymau dros bechod. Sylwa ei fod yn llosgi’r arogldarth cyn iddo gyflwyno gwaed yr offrymau dros bechod.

5. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r defnydd o arogldarth ar Ddydd y Cymod?

5 Beth ddysgwn ni o’r defnydd o arogldarth ar Ddydd y Cymod? Mae’r Beibl yn dangos bod gweddïau cymeradwy gweision Jehofa yn debyg i arogldarth. (Salm 141:2; Dat. 5:8) Cofia y byddai’r archoffeiriad yn dod â’r arogldarth gerbron Jehofa â pharch dwfn. Yn yr un modd, pan fyddwn ninnau’n gweddïo ar Jehofa, rydyn ni’n gwneud hynny â pharch dwfn. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Greawdwr y bydysawd am iddo adael inni glosio ato, fel y mae plentyn yn closio at ei dad. (Iago 4:8) Rydyn ni’n cael ein derbyn yn ffrindiau iddo! (Salm 25:14) Oherwydd ein bod ni’n gwerthfawrogi’r fraint hon gymaint, fyddwn ni byth eisiau ei siomi.

6. Beth ddysgwn o’r ffaith fod yr archoffeiriad yn llosgi’r arogldarth cyn iddo offrymu aberthau?

6 Cofia fod yr archoffeiriad yn gorfod llosgi’r arogldarth cyn y gallai offrymu aberthau. Trwy wneud hynny, sicrhaodd y byddai cymeradwyaeth Duw ganddo wrth iddo offrymu aberthau. Beth a ddysgwn o hyn? Tra oedd ar y ddaear, roedd Iesu yn gorfod gwneud rhywbeth pwysig—rhywbeth pwysicach na darparu gwaredigaeth ar gyfer dynolryw—cyn y gallai aberthu ei fywyd. Beth oedd hynny? Trwy aros yn ffyddlon yn ystod ei holl fywyd ar y ddaear, roedd Iesu’n gorfod paratoi’r ffordd er mwyn i Jehofa dderbyn ei aberth. Byddai Iesu, felly, yn gallu profi mai gwneud pethau ffordd Jehofa yw’r ffordd orau o fyw. Byddai Iesu yn cyfiawnhau sofraniaeth ei Dad gan ddangos bod ei ffordd Ef o reoli yn gywir ac yn gyfiawn.

7. Pam roedd bywyd cyfan Iesu ar y ddaear yn plesio ei Dad?

7 Trwy gydol ei fywyd ar y ddaear, roedd Iesu yn ufuddhau’n berffaith i safonau cyfiawn Jehofa. Er iddo wynebu temtasiynau ac anawsterau ac er iddo wybod y byddai’n cael ei roi i farwolaeth mewn ffordd erchyll, roedd yn benderfynol o ddangos mai ffordd ei Dad o reoli yw’r ffordd orau. (Phil. 2:8) Yn wyneb treialon, roedd Iesu yn gweddïo “gan alw’n daer ac wylo.” (Heb. 5:7) Roedd ei weddïau taer yn llifo o’i galon ffyddlon ac yn cryfhau’r awydd ynddo i aros yn ufudd. I Jehofa, roedd gweddïau Iesu fel persawr hyfryd arogldarth. Roedd bywyd cyfan Iesu yn plesio ei Dad yn fawr iawn ac yn cefnogi Ei sofraniaeth.

8. Sut gallwn ni efelychu Iesu?

8 Gallwn efelychu Iesu drwy wneud ein gorau i fod yn ffyddlon ac yn ufudd i Jehofa. Yn wyneb treialon, rydyn ni’n gweddïo’n daer am help Jehofa oherwydd ein bod ni eisiau ei blesio. Trwy wneud hyn, fe ddangoswn ni ein bod ni’n cefnogi ffordd Jehofa o reoli. Rydyn ni’n sylweddoli na fydd Jehofa yn derbyn ein gweddïau os ydyn ni’n gwneud pethau y mae ef yn eu casáu. Fodd bynnag, os ydyn ni’n byw yn unol â safonau Jehofa, gallwn fod yn hyderus y bydd ein gweddïau taer fel arogldarth persawrus i Jehofa. A gallwn fod yn sicr y bydd ein ffyddlondeb a’n hufudd-dod yn plesio ein Tad nefol.—Diar. 27:11.

CARIAD A GWERTHFAWROGIAD SY’N EIN CYMELL

(Gweler paragraff 9) *

9. Pam cafodd heddoffrymau eu cynnig?

9 Yr ail wers: Rydyn ni’n gwasanaethu Jehofa oherwydd ein bod ni’n ddiolchgar iddo. I danlinellu hyn, byddwn yn rhoi sylw i’r ‘offrymau i gydnabod daioni Duw,’ neu’r heddoffrymau, yr oedd yr Israeliaid yn eu cynnig. * Yn llyfr Lefiticus, fe ddysgwn y gallai un o’r Israeliaid gynnig offrwm i gydnabod daioni Duw “i ddweud diolch am rywbeth.” (Lef. 7:11-13, 16-18) Roedd yn cynnig yr offrwm hwn, nid oherwydd ei fod yn gorfod ei wneud, ond oherwydd ei fod eisiau ei wneud. Felly, offrwm roedd yr unigolyn yn ei wneud o’i wirfodd oedd hwn a hynny oherwydd ei fod yn caru Jehofa. Byddai’r sawl a oedd yn cynnig yr offrwm, ei deulu, a’r archoffeiriaid yn bwyta cig yr anifail a aberthwyd. Ond roedd rhai rhannau o’r anifail yn cael eu hoffrymu i Jehofa yn unig. Pa rannau?

(Gweler paragraff 10) *

10. Beth mae’r heddoffrymau a ddisgrifiwyd yn Lefiticus 3:6, 12, 14-16 yn ei ddysgu am yr hyn oedd yn cymell Iesu i wneud ewyllys ei Dad?

10 Y drydedd wers: Oherwydd cariad, rydyn ni’n rhoi o’n gorau i Jehofa. Roedd Jehofa yn ystyried mai’r braster oedd y rhan orau o’r anifail. Roedd hefyd yn dweud bod yr organau hanfodol, gan gynnwys yr arennau, yn arbennig o werthfawr iddo. (Darllen Lefiticus 3:6, 12, 14-16.) Felly, roedd Jehofa wrth ei fodd pan oedd un o’r Israeliaid yn offrymu o’i wirfodd y rhannau hynny o’r anifail iddo ef. Roedd offrwm o’r fath yn dangos bod yr Israeliaid eisiau rhoi’r gorau oedd ganddyn nhw i Dduw. Mewn modd tebyg, offrymodd Iesu o’i wirfodd y gorau oedd ganddo i Jehofa drwy ei wasanaethu â’u holl galon oherwydd ei gariad tuag ato. (Ioan 14:31) Roedd Iesu wrth ei fodd yn gwneud ewyllys Duw; roedd ganddo gariad dwfn tuag at gyfreithiau Duw. (Salm 40:8) Roedd Jehofa yn hapus iawn yn gweld Iesu yn ei wasanaethu o wirfodd calon!

Mae cariad tuag at Jehofa yn ein cymell i roi o’n gorau iddo (Gweler paragraffau 11-12) *

11. Sut mae ein gwasanaeth yn debyg i’r offrymau hynny i gydnabod daioni Duw, a sut mae hynny’n gysur inni?

11 Fel yr offrymau hynny i gydnabod daioni Duw, mae ein gwasanaeth i Jehofa yn ffordd o ddangos sut rydyn ni’n teimlo amdano o’n gwirfodd. Rhoddwn o’n gorau i Jehofa, a hynny oherwydd ein bod ni’n ei garu â’n holl galon. Mae Jehofa wrth ei fodd yn gweld miliynau o addolwyr yn ei wasanaethu o’u gwirfodd oherwydd eu cariad mawr tuag ato ef a’i ffyrdd! Cysur mawr yw cofio bod Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein gweithredoedd ynghyd â’r cymhelliad y tu ôl iddyn nhw. Er enghraifft, os wyt ti’n oedrannus a tithau bellach ddim yn gallu gwneud cymaint ag yr hoffet ti ei wneud, gelli di fod yn sicr fod Jehofa’n deall dy sefyllfa. Efallai dy fod ti’n teimlo nad oes gen ti lawer i’w gynnig, ond mae Jehofa yn gweld y cariad dwfn sydd ynot ti ac sy’n dy gymell di i wneud yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud. Mae’n hapus dros ben i dderbyn y gorau y gelli di ei roi iddo.

12. Sut roedd Jehofa yn teimlo am heddoffrymau, a sut mae hynny’n ein hannog?

12 Beth gallwn ni ei ddysgu o’r offrymau hyn i gydnabod daioni Duw? Wrth i’r tân losgi’r rhannau gorau o’r anifail, roedd y mwg yn codi ac yn plesio Jehofa. Gelli di fod yn sicr, felly, dy fod tithau hefyd yn plesio Jehofa pan fyddi di’n gwneud dy orau i’w wasanaethu o wirfodd dy galon. (Col. 3:23) Dychmyga ei wên o gymeradwyaeth. Mae dy ymdrechion yn ei wasanaeth, y rhai bach a’r rhai mawr, yn drysorau iddo a bydd yn eu cofio a’u gwerthfawrogi am byth.—Math. 6:20; Heb. 6:10.

MAE JEHOFA YN BENDITHIO EI GYFUNDREFN

13. Yn ôl Lefiticus 9:23, 24, sut dangosodd Jehofa ei gymeradwyaeth?

13 Y bedwaredd wers: Mae Jehofa yn bendithio’r rhan ddaearol o’i gyfundrefn. Ystyria beth ddigwyddodd ym 1512 COG pan osodwyd y tabernacl wrth droed Mynydd Sinai. (Ex. 40:17) Gwnaeth Moses gynnal seremoni i benodi Aaron a’i feibion yn offeiriaid. Daeth cenedl Israel ynghyd i wylio’r offeiriaid yn aberthu anifeiliaid am y tro cyntaf. (Lef. 9:1-5) Sut dangosodd Jehofa ei fod yn cymeradwyo’r offeiriadaeth newydd? Wrth i Aaron a Moses fendithio’r bobl, achosodd Jehofa i dân losgi gweddill yr aberth a oedd ar yr allor.—Darllen Lefiticus 9:23, 24.

14. Pam mae’r ffaith fod Jehofa wedi cymeradwyo offeiriadaeth Aaron o ddiddordeb i ni heddiw?

14 Beth roedd y tân o’r nefoedd yn ei ddangos? Roedd yn dangos bod Jehofa yn cefnogi offeiriadaeth Aaron yn llwyr. Pan welodd yr Israeliaid y dystiolaeth glir hon fod Jehofa yn cefnogi’r offeiriaid, deallon nhw fod rhaid iddyn nhwthau hefyd gefnogi’r offeiriaid. Ydy hyn yn berthnasol i ni? Ydy! Roedd offeiriadaeth Israel yn cynrychioli offeiriadaeth sy’n llawer iawn mwy pwysig. Crist yw’r Archoffeiriad mwyaf, ac mae ganddo 144,000 o offeiriaid a brenhinoedd a fydd yn gwasanaethu ochr yn ochr ag ef yn y nefoedd.—Heb. 4:14; 8:3-5; 10:1.

Mae Jehofa yn bendithio ac yn arwain ei gyfundrefn. Rydyn ni’n cefnogi’r gyfundrefn honno yn llawn ac yn llwyr (Gweler paragraffau 15-17) *

15-16. Sut mae Jehofa wedi dangos ei fod yn cymeradwyo’r “gwas ffyddlon a chall”?

15 Ym 1919, cafodd “gwas ffyddlon a chall” ei benodi gan Iesu, sef grŵp bychan o frodyr eneiniog. Mae’r gwas hwnnw yn arwain yn y gwaith pregethu ac yn rhoi bwyd ysbrydol yn ei bryd i ddilynwyr Crist. (Math. 24:45, BCND) Ydyn ni’n gweld tystiolaeth glir fod Duw yn cymeradwyo’r gwas ffyddlon a chall?

16 Mae Satan a’i fyd wedi gwneud cymaint i wneud gwaith y gwas ffyddlon hwn yn anodd, os nad yn amhosib, o safbwynt dyn. Er gwaethaf dau ryfel byd, erledigaeth ddiderfyn, problemau ariannol byd-eang, a thriniaeth annheg, mae’r gwas ffyddlon a chall wedi parhau i ddarparu bwyd ysbrydol ar gyfer dilynwyr Crist ar y ddaear. Meddylia am y digonedd o fwyd ysbrydol sydd ar gael heddiw, yn rhad ac am ddim, mewn dros 900 o ieithoedd! Dyma dystiolaeth glir fod Duw yn cefnogi’r gwas. Mae’r gwaith pregethu hefyd yn arwydd o fendith Jehofa. Mae’r newyddion da yn cael eu pregethu “drwy’r byd i gyd.” (Math. 24:14) Heb os, mae Jehofa yn arwain ac yn bendithio’n hael ei gyfundrefn heddiw.

17. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n cefnogi cyfundrefn Jehofa?

17 Da fyddai gofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n ddiolchgar am fod yn rhan o gyfundrefn Jehofa ar y ddaear?’ Mae Jehofa wedi rhoi tystiolaeth inni sydd mor glir â’r tân llythrennol hwnnw a ddaeth o’r nefoedd yn nyddiau Moses ac Aaron. Mae gennyn ni gymaint i fod yn ddiolchgar amdano. (1 Thes. 5:18, 19) Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n cefnogi cyfundrefn Jehofa? Trwy ddilyn y cyfarwyddiadau Beiblaidd a gawn ni yn ein cyhoeddiadau ac yn ein cyfarfodydd, ein cynulliadau, a’n cynadleddau. Ar ben hynny, gallwn ddangos ein cefnogaeth drwy wneud cymaint ag y medrwn ni yn y gwaith o bregethu a dysgu.—1 Cor. 15:58.

18. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

18 Gad inni fod yn benderfynol o roi ar waith y gwersi hyn o lyfr Lefiticus. Rydyn ni eisiau i Jehofa dderbyn ein haberthau. Pwysig yw inni wasanaethu Jehofa oherwydd ein bod ni’n ddiolchgar iddo. Rydyn ni’n dal ati i roi o’n gorau i Jehofa oherwydd ein bod ni’n ei garu â’n holl galon. Ac rydyn ni hefyd yn gwneud popeth a fedrwn ni i gefnogi’r gyfundrefn y mae ef yn ei bendithio heddiw. Trwy wneud hyn oll, gallwn ddangos i Jehofa ein bod ni’n trysori’r fraint o’i wasanaethu ef fel Tystion iddo!

CÂN 96 Llyfr Duw—Trysor Yw

^ Par. 5 Mae llyfr Lefiticus yn cynnwys cyfreithiau a roddodd Jehofa i Israel gynt. Fel Cristnogion, dydyn ni ddim yn byw o dan y cyfreithiau hynny, ond fe allwn ni elwa arnyn nhw. Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod y gwersi pwysig y gallwn ni eu dysgu o lyfr Lefiticus.

^ Par. 4 Roedd yr arogldarth a losgid yn y tabernacl yn cael ei ystyried yn gysegredig, ac fe’i defnyddid yn Israel gynt ar gyfer addoli Jehofa yn unig. (Ex. 30:34-38) Does dim cofnod ohono’n cael ei ddefnyddio gan Gristnogion y ganrif gyntaf at ddibenion crefyddol.

^ Par. 9 Am ragor o wybodaeth ynglŷn â heddoffrymau, gweler Insight on the Scriptures, Cyfrol 2, t. 526.

^ Par. 54 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar Ddydd y Cymod, roedd archoffeiriad Israel yn mynd i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd ac yn defnyddio arogldarth a marwor poeth i lenwi’r ystafell ag arogl persawrus. Yn nes ymlaen, roedd yn mynd yn ôl i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd â gwaed yr offrymau dros bechod.

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Un o’r Israeliaid yn rhoi dafad i’r offeiriad yn heddoffrwm er mwyn mynegi diolchgarwch ei deulu i Jehofa.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, dangosodd Iesu ei gariad dwfn tuag at Jehofa drwy gadw gorchmynion Duw a thrwy helpu ei ddilynwyr i’w cadw nhw hefyd.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer oedrannus, er ei bod hi’n fethedig yn gorfforol, yn rhoi o’i gorau i Jehofa ac yn tystiolaethu drwy ysgrifennu llythyrau.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Ym mis Chwefror 2019, y Brawd Gerrit Lösch o’r corff llywodraethol yn rhyddhau’r New World Translation yn yr Almaeneg i gynulleidfa ddiolchgar a brwdfrydig. Heddiw, mae cyhoeddwyr yn yr Almaen, fel y ddwy chwaer hyn, wrth eu boddau yn y weinidogaeth yn defnyddio’r Beibl sydd newydd gael ei ryddhau.