Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 49

“Mae Amser Wedi’i Bennu” ar Gyfer Gwaith a Gorffwys

“Mae Amser Wedi’i Bennu” ar Gyfer Gwaith a Gorffwys

“Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.”—MARC 6:31.

CÂN 143 Gweithiwn, Gwyliwn, a Disgwyliwn

CIPOLWG *

1. Pa agweddau sydd gan lawer tuag at waith?

PA AGWEDD sydd gan y rhan fwyaf o bobl tuag at waith yn dy ardal di? Mewn llawer o wledydd mae pobl yn gweithio’n galetach ac yn hirach nag erioed o’r blaen. Yn aml, mae pobl sy’n gweithio gormod yn rhy brysur i orffwys, i dreulio amser gyda’u teuluoedd, neu’n rhy brysur i ddiwallu eu hanghenion ysbrydol. (Preg. 2:23) Ar y llaw arall, dydy rhai pobl ddim yn hoffi gweithio o gwbl ac yn gwneud esgusodion dros beidio â gweithio.—Diar. 26:13, 14.

2-3. Beth oedd agwedd Jehofa ac Iesu tuag at waith?

2 Yn groes i agweddau anghytbwys y byd, ystyria agwedd Jehofa ac Iesu tuag at waith. Does ’na ddim amheuaeth nad yw Jehofa’n weithiwr. Fe wnaeth Iesu hynny’n glir, gan ddweud: “Mae fy Nhad yn dal i weithio drwy’r amser, felly dw innau’n gweithio hefyd.” (Ioan 5:17) Meddylia am y gwaith a wnaeth Duw pan greodd yr ysbryd greaduriaid di-rif a’r bydysawd enfawr. Hefyd, gwelwn ddigon o dystiolaeth o waith creadigol Duw o’n cwmpas ni ar ein daear hardd. Roedd y salmydd yn llygad ei le pan ddywedodd: “O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae’r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!”—Salm 104:24.

3 Efelychodd Iesu ei Dad. Roedd y Mab, sef doethineb wedi ei bersonoli, yn cymryd rhan “pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le.” Gweithiodd Iesu “fel crefftwr” wrth ochr Jehofa. (Diar. 8:27-31) Flynyddoedd maith wedyn, pan oedd Iesu ar y ddaear, fe wnaeth waith rhagorol. Roedd y gwaith hwnnw fel bwyd iddo, ac roedd ei weithredoedd yn arwydd clir mai Duw oedd wedi ei anfon.—Ioan 4:34; 5:36; 14:10.

4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am agwedd Jehofa ac Iesu tuag at orffwys?

4 Ydy esiampl Jehofa ac Iesu o weithio’n galed yn awgrymu nad oes angen inni orffwys? Dim o gwbl. Dydy Jehofa byth yn blino, felly, does dim angen gorffwys corfforol arno. Ond wedi i Jehofa greu’r nefoedd a’r ddaear, mae’r Beibl yn dweud, “dyma fe’n gorffwys ac ymlacio.” (Ex. 31:17) Sut bynnag, mae’n ymddangos bod Jehofa wedi cymryd saib er mwyn mwynhau’r hyn yr oedd newydd ei greu. Ac er i Iesu weithio’n galed tra oedd ar y ddaear, roedd yn dal i neilltuo amser ar gyfer gorffwys a mwynhau prydau bwyd gyda’i ffrindiau.—Math. 14:13; Luc 7:34.

5. Pa frwydr y mae llawer yn ei hwynebu?

5 Mae’r Beibl yn annog pobl Dduw i fod yn weithwyr. Mae disgwyl i’w weision fod yn weithgar yn hytrach nag yn ddiog. (Diar. 15:19) Efallai dy fod ti’n gweithio’n seciwlar i ofalu am dy deulu. Ac mae gan bob un o ddisgyblion Crist gyfrifoldeb i bregethu’r newyddion da. Eto i gyd, mae angen iti gael digon o orffwys. A wyt ti weithiau yn ei chael hi’n anodd bod yn gytbwys o ran neilltuo amser ar gyfer gwaith, y weinidogaeth, a gorffwys? Sut rydyn ni’n gwybod faint y dylen ni weithio a faint i orffwys?

CYDBWYSEDD

6. Sut mae Marc 6:30-34 yn dangos bod gan Iesu agwedd gytbwys tuag at waith a gorffwys?

6 Mae’n bwysig fod gennyn ni agwedd gytbwys tuag at waith. Ysbrydolwyd y Brenin Solomon i ysgrifennu: “Mae amser wedi’i bennu i bopeth.” Fe soniodd am blannu, adeiladu, wylo, chwerthin, a gweithgareddau eraill. (Preg. 3:1-8) Mae’n amlwg fod gwaith a gorffwys yn ddwy ran gwbl hanfodol o fywyd. Roedd gan Iesu agwedd gytbwys tuag at waith a gorffwys. Ar un achlysur, daeth yr apostolion yn ôl o daith bregethu ac roedden nhw wedi bod mor brysur “nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed.” Dywedodd Iesu: “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” (Darllen Marc 6:30-34.) Er nad oedd hi bob amser yn bosib iddo ef a’i ddisgyblion gael y gorffwys yr oedden nhw’n ei ddymuno, gwyddai Iesu fod angen gorffwys arnyn nhw i gyd.

7. Sut bydd ystyried cyfraith y Saboth yn ein helpu ni?

7 Ar brydiau, mae gwir angen rhywfaint o orffwys neu newid arnon ni. Gallwn weld hynny o’r trefniant a wnaeth Duw ar gyfer ei bobl gynt—y Saboth wythnosol. Dydyn ni ddim o dan Gyfraith Moses, eto gallwn elwa ar ystyried yr hyn sy’n cael ei ddweud am y Saboth. Gall yr hyn a ddysgwn ein helpu i edrych ar ein hagwedd tuag at waith a gorffwys.

Y SABOTH—AMSER I ORFFWYSO AC ADDOLI

8. Yn ôl Exodus 31:12-15, beth oedd pwrpas y Saboth?

8 Dywed y Beibl fod Duw wedi seibio o’i waith ar ôl chwe “diwrnod” yn creu pethau ar y ddaear. (Gen. 2:2) Eto, mae Jehofa wrth ei fodd yn gweithio ac mewn ffordd y mae’n “dal i weithio.” (Ioan 5:17) Mae’r ddarpariaeth o’r Saboth wythnosol yn dilyn patrwm sy’n debyg i ddiwrnod gorffwys Jehofa a ddisgrifir yn Genesis. Dywedodd Duw fod y Saboth yn arwydd rhyngddo ef ac Israel. Roedd yn ddiwrnod i’r genedl orffwys ac roedd yr “ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig.” (Darllen Exodus 31:12-15.) Roedd y gwaharddiad yn erbyn gweithio yn berthnasol i bawb gan gynnwys plant, caethweision, a hyd yn oed anifeiliaid domestig. (Ex. 20:10) Caniataodd hyn i bobl roi mwy o sylw i faterion ysbrydol.

9. Pa farn anghytbwys am y Saboth oedd yn bodoli yn nyddiau Iesu?

9 Roedd diwrnod y Saboth yn dda i bobl Dduw; sut bynnag, roedd gan arweinwyr crefyddol yng nghyfnod Iesu agwedd haearnaidd tuag ato. Yn eu barn nhw roedd yn anghyfreithlon hyd yn oed i dynnu tywysennau o ŷd neu i iacháu rhywun oedd yn sâl. (Marc 2:23-27; 3:2-5) Ond doedd y fath feddylfryd ddim yn adlewyrchu ffordd Duw o feddwl, ac fe wnaeth Iesu hyn yn hollol glir i’r rhai oedd yn fodlon gwrando arno.

Defnyddiodd teulu Iesu’r Saboth i ganolbwyntio ar bethau ysbrydol (Gweler paragraff 10) *

10. Beth gallwn ni ei ddysgu o Mathew 12:9-12 am agwedd Iesu tuag at y Saboth?

10 Cadwodd Iesu a’i ddilynwyr Iddewig y Saboth oherwydd eu bod nhw o dan Gyfraith Moses. * Ond fe ddangosodd Iesu mewn gair a gweithred fod cadw’r Saboth yn gorfod bod yn rhesymol a bod gweithredoedd caredig oedd yn helpu eraill yn dderbyniol. Dywedodd yn eglur: “Mae’n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” (Darllen Mathew 12:9-12.) Doedd Iesu ddim yn meddwl bod rhoi cymorth i eraill a bod yn garedig yn tramgwyddo yn erbyn y Saboth. Roedd gweithredoedd Iesu yn tynnu sylw at brif nodwedd y Saboth. Oherwydd bod pobl Dduw wedi gorffwys o’u gwaith pob dydd, roedden nhw’n gallu canolbwyntio ar bethau ysbrydol. Cafodd Iesu ei fagu ar aelwyd a oedd yn defnyddio’r Saboth er lles ysbrydol y teulu. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn a ddarllenwn ni am Iesu yn nhref ei febyd Nasareth yn mynd “i’r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd.”—Luc 4:15-19.

BETH YW DY AGWEDD DI TUAG AT WEITHIO?

11. Pa esiampl dda oedd gan Iesu ynglŷn â gweithio?

11 Mae’n debyg fod gan Joseff yr un agwedd â Duw tuag at waith oherwydd fe ddysgodd Iesu, ei fab mabwysiedig, i fod yn saer coed. (Math. 13:55, 56) A byddai Iesu wedi gweld Joseff yn gweithio’n galed ddydd ar ôl dydd yn edrych ar ôl ei deulu mawr. Yn ddiddorol ddigon, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion yn hwyrach ymlaen: “Mae gweithiwr yn haeddu ei gyflog.” (Luc 10:7) Oedd, roedd Iesu yn hen gyfarwydd â gwaith caled.

12. Pa adnodau sy’n dangos yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am waith caled?

12 Gweithiwr caled arall oedd yr apostol Paul. Ei brif waith oedd tystiolaethu i enw Iesu a’i neges. Ond eto, roedd Paul yn gweithio hefyd i’w gynnal ei hun. Roedd y Thesaloniaid yn gwybod ei fod yn ‘gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i unrhyw un dalu i’w gynnal ef.’ (2 Thes. 3:8; Act. 20:34, 35) Efallai roedd Paul yn cyfeirio at ei waith fel gwneuthurwr pebyll. Tra oedd yng Nghorinth, arhosodd gydag Acwila a Priscila a “gwneud pebyll oedd eu crefft nhw fel yntau, ac felly aeth Paul i weithio atyn nhw.” Doedd y ffaith fod Paul yn gweithio “ddydd a nos” ddim yn golygu ei fod yn gweithio heb stopio. Roedd yn cymryd seibiant o wneud pebyll, fel y byddai ar y Saboth er enghraifft. Rhoddodd y diwrnod hwnnw gyfleoedd iddo i dystiolaethu i Iddewon, gan nad oedd yr Iddewon yn gweithio ar y Saboth chwaith.—Act. 13:14-16, 42-44; 16:13; 18:1-4.

13. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Paul?

13 Gosododd yr apostol Paul esiampl dda. Roedd yn gorfod gweithio, ond eto fe wnaeth yn siŵr ei fod yn “cyflwyno newyddion da Duw” yn rheolaidd. (Rhuf. 15:16; 2 Cor. 11:23) Anogodd eraill i wneud yr un fath. Felly, roedd Acwila a Priscila yn gydweithwyr iddo dros y Meseia Iesu. (Rhuf. 12:11; 16:3) Anogodd Paul y Corinthiaid: “Rhowch eich hunain yn llwyr i waith yr Arglwydd.” (1 Cor. 15:58; 2 Cor. 9:8) Ysbrydolodd Jehofa yr apostol Paul hyd yn oed i ysgrifennu: “Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta.”—2 Thes. 3:10.

14. Beth roedd Iesu yn ei olygu pan ddywedodd yr hyn a gofnodwyd yn Ioan 14:12?

14 Y gwaith pwysicaf inni yn y dyddiau diwethaf hyn yw pregethu a gwneud disgyblion. Rhagfynegodd Iesu y byddai ei ddisgyblion yn gwneud llawer iawn mwy nag ef! (Darllen Ioan 14:12.) Doedd hyn ddim yn golygu y bydden ni’n gallu gwneud gwyrthiau fel y gwnaeth ef. Yn hytrach, byddai ei ddilynwyr yn pregethu ac yn dysgu yn fwy eang, i fwy o bobl, ac am gyfnod hirach na Iesu.

15. Pa gwestiynau dylen ni eu gofyn i ni’n hunain, a pham?

15 Os oes gen ti waith seciwlar, gofynna’r cwestiynau hyn i ti dy hun: ‘A oes gen i enw da fel gweithiwr caled yn y gweithle? Ydw i’n gorffen fy ngwaith ar amser a hyd eithaf fy ngallu?’ Os wyt ti’n gallu ateb, ‘Ydw’, yna mae’n debyg y bydd dy gyflogwr yn ymddiried ynot ti. Byddi di hefyd yn gwneud i neges y Deyrnas fod yn fwy deniadol i dy gydweithwyr. Wrth ystyried y gwaith pregethu a dysgu, gofynna i ti dy hun: ‘Yng ngolwg eraill, ydw i’n gweithio’n galed yn y weinidogaeth? Ydw i’n paratoi’n dda ar gyfer yr alwad gyntaf? Ydw i’n galw’n ôl yn brydlon ar y rhai sy’n dangos diddordeb? Ydw i’n ceisio cymryd rhan mewn gwahanol fathau o’r weinidogaeth?’ Os wyt ti’n gallu ateb, ‘Ydw’, fe fyddi di’n cael pleser yn dy waith.

BETH YW DY AGWEDD DI TUAG AT ORFFWYS?

16. Pa wahaniaeth sydd rhwng agwedd Iesu a’i apostolion tuag at orffwys ac agwedd llawer heddiw?

16 Gwyddai Iesu a’i apostolion fod angen gorffwys arnyn nhw. Sut bynnag, roedd llawer o bobl bryd hynny, ac mae llawer heddiw yn debyg i’r dyn cyfoethog yn nameg Iesu. Gwnaeth y dyn hwnnw ei berswadio ei hun: “Dw i’n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.” (Luc 12:19; 2 Tim. 3:4) Roedd yn meddwl mai pethau pwysicaf bywyd oedd gorffwys a phleser. Yn gwbl wahanol i hyn, nid pleserau personol oedd y pethau pwysicaf ym mywydau Iesu a’i apostolion.

Bydd cael agwedd gytbwys tuag at waith a gorffwys yn ein helpu i wneud gweithredoedd da a fydd yn ein hadfywio (Gweler paragraff 17) *

17. Sut rydyn ni’n defnyddio ein hamser pan nad ydyn ni’n gweithio?

17 Heddiw, ceisiwn efelychu Iesu drwy ddefnyddio’r amser sydd gennyn ni y tu allan i oriau gwaith, nid yn unig i orffwys, ond i wneud daioni i eraill drwy dystiolaethu a mynychu cyfarfodydd. Y gwir yw, mae gwneud disgyblion a mynychu’r cyfarfodydd mor bwysig inni fel y gwnawn ni bopeth o fewn ein gallu i fod yn selog yn y gweithgareddau cysegredig hyn. (Heb. 10:24, 25) Hyd yn oed pan awn ni ar ein gwyliau, rydyn ni’n cadw at ein rhaglen ysbrydol drwy fynd i’r cyfarfodydd le bynnag yr ydyn ni, a cheisiwn siarad ag eraill am y Beibl.—2 Tim. 4:1, 2.

18. Beth y mae ein Brenin, Crist Iesu, eisiau inni ei wneud?

18 Rydyn ni mor ddiolchgar fod ein Brenin, Crist Iesu, yn rhesymol a’i fod yn ein helpu i gael agwedd gytbwys tuag at waith a gorffwys! (Heb. 4:15) Mae ef eisiau inni gael y gorffwys sydd ei angen arnon ni. Hefyd mae ef eisiau inni weithio’n galed i edrych ar ôl ein hanghenion corfforol ac inni gymryd rhan yn y gwaith pleserus o wneud disgyblion. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod y rôl sydd gan Iesu yn ein rhyddhau oddi wrth gaethiwed creulon.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

^ Par. 5 Mae’r Ysgrythurau yn ein dysgu sut i gael agwedd gytbwys tuag at waith a gorffwys. Gan ystyried y Saboth wythnosol a roddwyd i’r Israeliaid, bydd yr erthygl hon yn ein helpu i edrych ar ein hagwedd tuag at waith a gorffwys.

^ Par. 10 Cymaint oedd parch y disgyblion tuag at gyfraith y Saboth fel y gwnaethon nhw stopio paratoi ar gyfer claddu Iesu nes bod y Saboth drosodd.—Luc 23:55, 56.

^ Par. 55 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Joseff yn mynd â’i deulu i’r synagog ar y Saboth.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Mae tad sy’n gweithio i gynnal ei deulu yn defnyddio ei amser i ffwrdd ar gyfer pethau theocrataidd, hyd yn oed pan fydd ef a’i deulu ar eu gwyliau.