Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Y Gwir am Deyrnas Dduw

Y Gwir am Deyrnas Dduw

Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i weddïo: “Ein Tad yn y nefoedd, sancteiddier dy enw; deled dy deyrnas; gwneler dy ewyllys, ar y ddaear fel yn y nef.” (Mathew 6:9, 10, BCND) Beth yw Teyrnas Dduw? Beth y mae’n ei wneud? A pham dylen ni weddïo am iddi ddod?

Iesu yw Brenin Teyrnas Dduw.

Luc 1:31-33: “Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”

Y Deyrnas oedd y prif beth y pregethodd Iesu amdano.

Mathew 9:35: “Roedd Iesu’n teithio o gwmpas yr holl drefi a’r pentrefi yn dysgu’r bobl yn eu synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch.”

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion pa bethau a fyddai’n dangos bod y Deyrnas ar fin dod.

Mathew 24:7: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.”

Heddiw, mae disgyblion Iesu yn pregethu ledled y byd am y Deyrnas.

Mathew 24:14: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”