Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Cariad Tuag at Dduw a dy Gymydog—Sut i’w Feithrin

Cariad Tuag at Dduw a dy Gymydog—Sut i’w Feithrin

Er nad yw Cristnogion yn rhwym i Gyfraith Moses, mae’r ddau orchymyn pwysicaf—i garu Duw a charu ein cymydog—yn dal i grynhoi beth mae Jehofa yn ei ofyn gennyn ni. (Mth 22:37-39) Nid yw’r fath gariad yn awtomatig. Rhaid iddo gael ei feithrin. Sut? Un ffordd o wneud hyn yw drwy ddarllen y Beibl bob dydd. Pan ystyriwn y gwahanol agweddau o bersonoliaeth Duw a gawn yn yr Ysgrythurau, gwelwn “haelioni” Jehofa. (Sal 27:4) O wneud hyn bydd ein cariad tuag ato yn tyfu a bydd ein ffordd o feddwl yn dod yn debycach i’w feddwl ef. Mae hyn yn ein cymell i fod yn ufudd i orchmynion Duw, gan gynnwys y gorchymyn i ddangos cariad hunanaberthol tuag at eraill. (In 13:34, 35; 1In 5:3) Dyma dri awgrym i wneud darllen y Beibl yn fwy pleserus iti:

  • Tania dy ddychymyg a dy synhwyrau. Dychmyga dy fod ti yno. Beth fyddet ti yn ei weld, ei glywed, a’i arogli? Beth tybed oedd teimladau’r bobl ar y pryd?

  • Amrywia dy ffordd o fynd ati. Dyma ambell opsiwn: Darllena yn uchel, neu ddilyn y testun wrth wrando ar recordiad sain. Darllena am gymeriad Beiblaidd neu bwnc yn lle darllen y penodau mewn trefn. Er enghraifft, defnyddia Ran 4 neu 16 yn y llyfryn Cymorth i Astudio Gair Duw i ddarllen am Iesu. Darllena’r bennod gyfan y mae testun y dydd wedi ei gymryd ohoni. Darllena lyfrau’r Beibl yn y drefn y cawson nhw eu hysgrifennu.

  • Ceisia ddeall beth wyt yn ei ddarllen. Byddai darllen dim ond un bennod y diwrnod, gan fyfyrio arni a’i deall, yn well o lawer na darllen swp o benodau dim ond er mwyn mynd trwy’r deunydd. Ystyria’r sefyllfa neu’r cyd-destun. Meddylia’n ofalus dros y manylion. Defnyddia fapiau a chyfeiriadau ymyl y ddalen. Ymchwilia o leiaf un pwynt nad wyt ti’n ei ddeall. Os yn bosib, treulia yr un faint o amser i fyfyrio ag yr wyt ti’n ei dreulio i ddarllen.