Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Dibynna ar Jehofa Wrth Ddelio â Bwli

Dibynna ar Jehofa Wrth Ddelio â Bwli

Gall bwlis achosi poen corfforol ac emosiynol inni. Gallan nhw hefyd achosi niwed ysbrydol inni os ydyn ni’n eu hofni wrth iddyn nhw wrthwynebu ein haddoliad. Sut gelli di amddiffyn dy hun?

Mae llawer o bobl Jehofa wedi delio â bwlis yn llwyddiannus drwy ddibynnu arno. (Sal 18:17) Er enghraifft, tynnodd Esther sylw y brenin at gynllwyn bwli ofnadwy o’r enw Haman. (Est 7:1-6) Cyn gwneud hynny, gwnaeth hi ddangos ei bod hi’n dibynnu ar Jehofa drwy ymprydio. (Est 4:14-16) Bendithiodd Jehofa ei gweithredoedd drwy ei hamddiffyn hi a’i bobl.

Chi bobl ifanc, os oes rhaid ichi wynebu bwli, gofynnwch i Jehofa am help a siaradwch â rhywun aeddfed, fel rhiant, am eich problem. Gallwch chi fod yn sicr y bydd Jehofa yn eich helpu chi yn union fel y gwnaeth ef helpu Esther. Ond beth arall gallwch chi ei wneud i ddelio â bwlio?

GWYLIA’R FIDEO FY MYWYD FEL PERSON IFANC—SUT GALLA I YMDOPI Â BWLIO? AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Beth gall pobl ifanc ei ddysgu o esiamplau Charlie a Ferin?

  • Beth gall rhieni ei ddysgu o sylwadau Charlie a Ferin ynglŷn â helpu plant i ddelio â bwlis?