Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Bugeiliaid Sy’n Gofalu am Bobl Jehofa

Bugeiliaid Sy’n Gofalu am Bobl Jehofa

Mae gan lawer o bobl agwedd negyddol tuag at unigolion mewn awdurdod. Pwy all eu beio? Mae pobl wedi camddefnyddio eu hawdurdod er mwyn eu lles eu hunain drwy gydol hanes. (Mich 7:3) Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar bod henuriaid y gynulleidfa wedi cael eu hyfforddi i ddefnyddio eu hawdurdod er lles pobl Jehofa.—Est 10:3; Mth 20:25, 26.

Yn wahanol i bobl yn y byd gydag awdurdod, mae henuriaid yn gweithio yn y gynulleidfa oherwydd eu bod nhw’n caru Jehofa a’i bobl. (In 21:16; 1Pe 5:1-3) O dan arweiniad Iesu, mae’r bugeiliaid hyn yn helpu pob cyhoeddwr i deimlo’n gartrefol ymhlith teulu Jehofa ac i aros yn agos ato. Maen nhw’n gyflym i gynnig cymorth ysbrydol ac i helpu yn ystod argyfwng meddygol neu pan mae trychineb yn taro. Os wyt ti angen help, beth am gymryd y cam cyntaf a dweud wrth un o’r henuriaid yn dy gynulleidfa?—Iag 5:14.

GWYLIA’R FIDEO SHEPHERDS WHO CARE FOR THE FLOCK, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut gwnaeth yr henuriaid helpu Mariana?

  • Sut gwnaeth yr henuriaid helpu Elias?

  • Sut rwyt ti’n teimlo am y gwaith mae’r henuriaid yn ei wneud ar ôl clywed y profiadau hyn?