Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Defnyddia Hafan JW.ORG ar y Weinidogaeth

Defnyddia Hafan JW.ORG ar y Weinidogaeth

Mae hafan ein gwefan yn cynnwys erthyglau a fideos sydd wedi cael eu dylunio i apelio at bobl ddiffuant yn y maes. (Act 13:48) Yn aml mae’n trafod pynciau sydd ar y newyddion neu sydd ar feddyliau pobl.

Sut gelli di ddefnyddio hafan jw.org ar y weinidogaeth?

  • Edrycha ar y wefan yn rheolaidd. Sylwa ar beth sydd o dan “Pigion” a meddylia sut gallet ti eu defnyddio i helpu rhywun sydd â diddordeb. (I weld pigion eraill sydd wedi ymddangos ar y dudalen hafan yn ddiweddar, clicia “Gweld Mwy.”) Bydd gwneud hyn yn dy helpu di i gadw dy weinidogaeth yn ffres.

  • Defnyddia erthyglau a fideos o’r hafan i ddechrau sgwrs. Gallen nhw roi syniad o beth mae pobl yn ein tiriogaeth yn meddwl amdano.

  • Dangosa’r dudalen hafan i bobl. Tynna sylw at bynciau penodol, a dangosa sut i ddefnyddio’r wefan.

  • Rhanna linc. Dydy rhai pobl ddim eisiau siarad â ni wyneb yn wyneb, ond maen nhw’n fodlon edrych ar ein gwefan. Felly paid â dal yn ôl rhag rhannu linc i’r dudalen hafan neu i un o’r pigion â rhywun sydd â diddordeb.