Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Mae Jehofa’n Achub y Rhai Sydd Wedi Anobeithio

Mae Jehofa’n Achub y Rhai Sydd Wedi Anobeithio

Mae pawb yn teimlo’n drist weithiau. Ond dydy teimlo’n drist ddim yn golygu dy fod ti’n wan yn ysbrydol. Wedi’r cwbl, datgelodd Jehofa ei fod ef ei hun yn teimlo’n drist ar adegau. (Ge 6:5, 6) Ond beth os ydy tristwch yn ein llethu ni weithiau, neu hyd yn oed o hyd?

Tro at Jehofa am help. Mae gan Jehofa ddiddordeb mawr yn ein hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae’n gwybod pan ydyn ni’n hapus neu’n drist, ac yn deall y rhesymau tu ôl ein meddyliau a’n teimladau i’r dim. (Jer 17:10a) Ond yn bwysicach na hynny, mae Jehofa yn gofalu amdanon ni, ac yn ein helpu ni i ddelio â theimladau o dristwch a hyd yn oed iselder.—Sal 34:18.

Gwarchoda dy iechyd meddwl. Gall emosiynau negyddol effeithio ar ein hapusrwydd â’n haddoliad. Am y rheswm hwn, mae’n hynod o bwysig inni warchod ein calonnau, sef y person mewnol. —Dia 4:23.

GWYLIA’R FIDEO EIN BRODYR YN MWYNHAU HEDDWCH ER GWAETHAF ISELDER, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa bethau ymarferol wnaeth Nikki er mwyn ymdopi ag iselder?

  • Pam roedd Nikki yn sylweddoli bod angen help meddygol arni?—Mth 9:12

  • Ym mha ffyrdd roedd Nikki yn dibynnu ar Jehofa i’w helpu hi?