Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Rieni​—⁠Helpwch Eich Plant i Gael Doethineb Duwiol

Rieni​—⁠Helpwch Eich Plant i Gael Doethineb Duwiol

Sut gall rhieni helpu eu plant i roi doethineb duwiol ar waith? Un o’r ffyrdd gorau yw trwy eu helpu nhw i elwa ar y cyfarfodydd. Gall yr hyn mae plant yn eu gweld, eu dweud, ac yn eu clywed yn y cyfarfodydd eu helpu nhw i ddysgu am Jehofa a dod yn ffrind iddo. (De 31:12, 13) Os wyt ti’n rhiant, sut gelli di ddysgu dy blentyn i gael mwy o’r cyfarfodydd?

  • Gwna ymdrech lew i fod yn bresennol mewn person.—Sal 22:22

  • Gwna’n siŵr fod gynnoch chi fel teulu ddigon o amser i gymdeithasu cyn neu ar ôl y cyfarfod.—Heb 10:25

  • Sicrha fod gan bob aelod o’r teulu gopi digidol neu brintiedig o’r deunydd sy’n cael ei astudio

  • Helpa dy blentyn i baratoi ateb yn ei eiriau ei hun. —Mth 21:15, 16

  • Bydda’n bositif wrth sôn am y cyfarfodydd a’r arweiniad rwyt ti’n ei gael ynddyn nhw

  • Helpa dy blant i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel glanhau’r Neuadd y Deyrnas a siarad gyda rhai hŷn y gynulleidfa

Mae helpu dy blant i agosáu at Jehofa yn gofyn am lawer o ymdrech, a gall deimlo fel her enfawr ar adegau. Ond, paid â digalonni, gelli di ddibynnu ar Jehofa am ei help.—Esei 40:29.

GWYLIA’R FIDEO AS PARENTS, RELY ON JEHOVAH AND HIS STRENGTH, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pa effaith gafodd blinder ar Zack a Leah?

  • Pam dylai rhieni droi at Jehofa am nerth?

  • Ym mha ffyrdd gwnaeth Zack a Leah ddibynnu ar Jehofa er mwyn llwyddo?