Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

Gelli Di Fod yn “Gysur Mawr”

Gelli Di Fod yn “Gysur Mawr”

“Maen nhw’n gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw, ac maen nhw wedi bod yn gysur mawr i mi.”—COL. 4:11.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

CIPOLWG *

1. Pa sefyllfaoedd sy’n achosi pryder i lawer o weision ffyddlon Jehofa?

LEDLED y byd, mae llawer o weision Jehofa yn wynebu sefyllfaoedd sy’n achosi pryder, neu hyd yn oed poen iddyn nhw. A wyt ti wedi gweld hyn yn dy gynulleidfa? Mae rhai Cristnogion yn delio â salwch difrifol neu farwolaeth anwylyn. Mae eraill yn dioddef oherwydd bod ffrind neu aelod o’u teulu wedi gadael y gwirionedd. Eto, mae eraill yn ymdopi ag effaith trychinebau naturiol. Mae angen cysur ar yr holl frodyr a chwiorydd hyn. Sut gallwn ni eu helpu?

2. Pam roedd yr apostol Paul angen cysur weithiau?

2 Dro ar ôl tro, roedd bywyd yr apostol Paul mewn peryg. (2 Cor. 11:23-28) Roedd rhaid iddo hefyd oddef “poenau corfforol,” efallai rhyw fath o broblem iechyd. (2 Cor. 12:7) Ac roedd yn rhaid iddo ymdopi â siom ar ôl i Demas, a oedd ar un adeg yn gyd-weithiwr iddo, gefnu arno oherwydd ei fod “wedi caru pethau’r byd.” (2 Tim. 4:10) Roedd Paul yn Gristion ysbryd-eneiniog dewr a helpodd eraill yn hael, ond ar adegau, roedd yntau hefyd yn digalonni.—Rhuf. 9:1, 2.

3. Gan bwy y cafodd Paul gysur a chefnogaeth?

3 Derbyniodd Paul y cysur a’r gefnogaeth roedd ei angen arno. Sut? Yn bendant, defnyddiodd Jehofa ei ysbryd glân i’w gryfhau. (2 Cor. 4:7; Phil. 4:13) Hefyd, defnyddiodd Jehofa ei gyd-Gristnogion i’w gysuro. Dywedodd Paul am rai o’i gyd-weithwyr eu bod “yn gysur mawr.” (Col. 4:11) Fe enwodd, ymysg eraill, Aristarchus, Tychicus, a Marc. Y nhw oedd y rhai a gryfhaodd Paul, gan ei helpu i ddal ati. Pa rinweddau a oedd yn gwneud y tri Christion hyn yn gysurwyr mor effeithiol? Sut gallwn ni ddilyn eu hesiampl dda wrth inni geisio cysuro a chalonogi ein gilydd?

YN FFYDDLON FEL ARISTARCHUS

Gallwn ninnau fod yn ffrind ffyddlon fel Aristarchus drwy lynu wrth ein brodyr a’n chwiorydd pan fyddan nhw “mewn helbul” (Gweler paragraffau 4-5) *

4. Sut dangosodd Aristarchus ei fod yn ffrind ffyddlon i Paul?

4 Cristion Macedonaidd o Thesalonica oedd Aristarchus, a dangosodd ei fod yn ffrind ffyddlon i Paul. Y sôn cyntaf am Aristarchus yn y Beibl yw’r hanes am Paul yn mynd i Effesus yn ystod ei drydedd daith genhadol. Tra oedd Aristarchus yng nghwmni Paul, cafodd ei gipio gan dyrfa afreolus. (Act. 19:29) Pan gafodd ei ryddhau o’r diwedd, ni cheisiodd gadw ei hun yn saff, ond yn gwbl ffyddlon, arhosodd gyda Paul. Rai misoedd yn ddiweddarach, roedd Aristarchus yn dal i lynu wrtho, er bod gwrthwynebwyr yn parhau i fygwth lladd Paul. (Act. 20:2-4) Tua 58 OG, pan gafodd Paul ei yrru i Rufain yn garcharor, aeth Aristarchus gydag ef ar y siwrnai hir, a chawson nhw eu llongddryllio gyda’i gilydd ar y ffordd. (Act. 27:1, 2, 41) Mae’n ymddangos bod Aristarchus wedi ei garcharu gyda Paul am sbel unwaith iddyn nhw gyrraedd Rhufain. (Col. 4:10) Does dim syndod felly bod Paul wedi cael ei galonogi a’i gysuro gan ffrind mor ffyddlon!

5. Yn ôl Diarhebion 17:17, sut gallwn ni fod yn ffrind ffyddlon?

5 Gallwn ninnau fod yn ffrind ffyddlon fel Aristarchus drwy lynu wrth ein brodyr a’n chwiorydd, nid yn unig pan fydd pethau’n mynd yn dda, ond hefyd pan fyddan nhw “mewn helbul.” (Darllen Diarhebion 17:17.) Hyd yn oed ar ôl i broblem neu brawf fynd heibio, efallai bydd ein brawd neu’n chwaer yn dal angen cysur. Dywedodd Frances, * a gollodd ei mam a’i thad i ganser o fewn tri mis: “Dw i’n meddwl bod treialon anodd yn effeithio arnon ni am amser hir. A dw i’n gwerthfawrogi ffrindiau ffyddlon sy’n cofio fy mod i’n dal i frifo, er bod amser hir wedi mynd heibio ers imi golli fy rhieni.”

6. Beth bydd ffyddlondeb yn ein hysgogi i’w wneud?

6 Mae ffrindiau ffyddlon yn rhoi o’u hamser a’u hegni er mwyn helpu eu brodyr a’u chwiorydd. Er enghraifft, cafodd brawd o’r enw Peter ei ddiagnosio â salwch terfynol a fyddai’n gwaethygu’n sydyn. Dywed ei wraig, Kathryn: “Rhoddodd cwpl o’n cynulleidfa lifft inni i’r apwyntiad lle clywson ni am salwch Peter. Penderfynon nhw yn y fan a’r lle na fydden nhw’n gadael inni fynd ar y daith boenus hon ar ein pennau’n hunain, ac maen nhw wedi bod wrth ein hochr bryd bynnag roedden ni angen nhw.” Dyna gysur yw cael ffrindiau go iawn, sy’n gallu ein helpu drwy ein treialon!

YN DDIBYNADWY FEL TYCHICUS

Fel Tychicus, gallwn ninnau fod yn ffrind dibynadwy pan fydd eraill yn wynebu problemau (Gweler paragraffau 7-9) *

7-8. Yn ôl Colosiaid 4:7-9, sut dangosodd Tychicus ei fod yn ddibynadwy?

7 Cristion o ranbarth Rhufeinig Asia oedd Tychicus, ac mae’n sefyll allan fel ffrind dibynadwy i Paul. (Act. 20:4) Tua 55 OG, trefnodd Paul gasgliad er mwyn helpu Cristnogion Jwdea, ac efallai ei fod wedi gadael i Tychicus helpu gyda’r aseiniad pwysig hwn. (2 Cor. 8:18-20) Yn ddiweddarach, pan garcharwyd Paul yn Rhufain am y tro cyntaf, roedd Tychicus yn negesydd personol iddo, gan fynd â llythyrau a negeseuon calonogol Paul i’r cynulleidfaoedd yn Asia.—Col. 4:7-9.

8 Arhosodd Tychicus yn ffrind dibynadwy i Paul. (Titus 3:12) Bryd hynny, nid pob Cristion oedd mor ddibynadwy â Tychicus. Tua 65 OG, yn ystod ei ail garchariad, ysgrifennodd Paul fod llawer o’r Cristnogion yn nhalaith Asia yn osgoi cymdeithasu ag ef, efallai oherwydd eu bod yn ofni gwrthwynebwyr. (2 Tim. 1:15) Ond, roedd Paul yn gallu dibynnu ar Tychicus, a rhoddodd aseiniad arall iddo. (2 Tim. 4:12) Yn sicr, roedd Paul yn gwerthfawrogi cael ffrind da fel Tychicus.

9. Sut gallwn ni efelychu Tychicus?

9 Gallwn ni efelychu Tychicus drwy fod yn ffrind dibynadwy. Er enghraifft, nid yn unig ydyn ni’n addo helpu ein brodyr a’n chwiorydd mewn angen, ond hefyd rydyn ni’n eu helpu mewn ffyrdd ymarferol. (Math. 5:37; Luc 16:10) Pan fydd y rhai sydd angen cymorth yn gwybod eu bod yn gallu dibynnu arnon ni, mae hyn yn gysur mawr iddyn nhw. Mae un chwaer yn esbonio pam. Dywedodd: “Dwyt ti ddim yn gorfod poeni a fydd y person a gynigiodd help yn cyrraedd ar amser i gadw ei air.”

10. Yn ôl Diarhebion 18:24, pwy all roi cysur i’r rhai sy’n ymdopi â threialon neu siom?

10 Yn aml, gall y rhai sy’n ymdopi â threial neu siom gael cysur drwy siarad â ffrind maen nhw’n ymddiried ynddo. (Darllen Diarhebion 18:24.) Ar ôl y siom o weld ei fab yn cael ei ddiarddel, dywedodd Bijay: “O’n i angen rhannu fy nheimladau â rhywun o’n i’n ei drystio.” Collodd Carlos fraint werthfawr yn y gynulleidfa oherwydd iddo wneud camgymeriad. Dywedodd, “O’n i angen ‘hafan’ lle o’n i’n gallu tywallt fy nghalon heb ofni cael fy marnu.” Cafodd Carlos hyd i’r hafan honno gyda’r henuriaid a’i helpodd i drechu ei broblem. Cafodd gysur hefyd o wybod bod yr henuriaid yn ddibynadwy ac y bydden nhw’n cadw’r hyn a ddywedodd yn gyfrinachol.

11. Sut gallwn ni fod yn ffrind dibynadwy?

11 Er mwyn bod yn ffrind dibynadwy, mae’n rhaid inni feithrin amynedd. Ar ôl i ŵr Zhanna ei gadael, cafodd hi gysur o rannu ei theimladau â ffrindiau agos. “Oedden nhw’n gwrando’n amyneddgar arna’ i, er fy mod i, fwy na thebyg, wedi dweud yr un pethau drosodd a throsodd,” meddai hi. Gelli dithau hefyd ddangos dy fod yn ffrind da drwy fod yn wrandawr da.

YN BAROD I WASANAETHU FEL MARC

Gwnaeth caredigrwydd Marc helpu Paul i ddal ati, a gallwn ninnau helpu ein brodyr a’n chwiorydd yn ystod amserau anodd (Gweler paragraffau 12-14) *

12. Pwy oedd Marc, a sut dangosodd ei fod yn barod i wasanaethu?

12 Cristion Iddewig o Jerwsalem oedd Marc. Roedd ei gefnder Barnabas yn genhadwr adnabyddus. (Col. 4:10) Mae’n ymddangos bod teulu Marc yn gyfoethog, ond nid pethau materol oedd yn bwysig iddo. Drwy gydol ei fywyd, dangosodd ei fod yn barod ei gymwynas. Roedd yn hapus i wasanaethu eraill. Er enghraifft, gwasanaethodd ar wahanol adegau gyda’r apostol Paul a’r apostol Pedr wrth iddyn nhw gyflawni eu cyfrifoldebau, ac efallai mai gofalu am eu hanghenion corfforol oedd Marc. (Act. 13:2-5; 1 Pedr 5:13) Dywedodd Paul amdano ei fod yn “gweithio gyda mi dros deyrnas Dduw” a’i fod “yn gysur mawr” iddo, neu’n gymorth i’w gryfhau.—Col. 4:10, 11.

13. Sut mae 2 Timotheus 4:11 yn dangos bod Paul wedi gwerthfawrogi gwasanaeth ffyddlon Marc?

13 Daeth Marc yn ffrind agos i Paul. Er enghraifft, pan gafodd Paul ei garcharu yn Rhufain am y tro olaf, tua 65 OG, ysgrifennodd ei ail lythyr at Timotheus. Yn y llythyr hwnnw, gofynnodd Paul i Timotheus ddod i Rufain, a dod â Marc gydag ef. (2 Tim. 4:11) Heb os, gwerthfawrogodd Paul wasanaeth ffyddlon Marc yn y gorffennol, felly gofynnodd iddo fod yno yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Roedd Marc yn helpu Paul mewn ffyrdd ymarferol, efallai drwy ddarparu bwyd neu offer ysgrifennu. Mae’n debyg y gwnaeth y cymorth a’r anogaeth a dderbyniodd Paul ei helpu i oddef y dyddiau olaf cyn iddo gael ei ddienyddio.

14-15. Beth gall Mathew 7:12 ein dysgu ynglŷn â rhoi cymorth ymarferol i eraill?

14 Darllen Mathew 7:12. Pan fyddwn ni’n mynd drwy amser anodd, byddwn ni wastad yn ddiolchgar iawn i’r rhai sy’n cynnig help mewn ffyrdd ymarferol! “Mae ’na gymaint o bethau sy’n teimlo’n amhosib i’w gwneud pan wyt ti’n dioddef,” meddai Ryan, a gollodd ei dad yn annisgwyl mewn damwain. “Mae help ymarferol—hyd yn oed gyda’r pethau lleiaf—yn mynd yn bell.”

15 Drwy fod yn effro ac yn sylwgar, mae’n debyg y gallwn ni gael hyd i ffyrdd ymarferol o helpu eraill. Er enghraifft, penderfynodd un chwaer helpu Peter a Kathryn, a soniwyd amdanyn nhw gynt, i gyrraedd pob un o’u hapwyntiadau meddygol. Doedd Peter na Kathryn yn gallu gyrru bellach, felly trefnodd y chwaer amserlen er mwyn i wirfoddolwyr o’r gynulleidfa gymryd eu tro i yrru’r ddau o gwmpas. A oedd y trefniant hwn yn help? Dywedodd Kathryn, “Roedden ni’n teimlo fel petai baich wedi cael ei godi oddi ar ein hysgwyddau.” Paid byth ag anghofio gymaint y gelli di gysuro eraill, hyd yn oed drwy wneud pethau bach syml i’w helpu.

16. Pa wers bwysig am gysuro eraill rydyn ni’n ei dysgu o esiampl Marc?

16 Yn bendant, roedd y disgybl Marc, a oedd yn byw yn amser Iesu, yn Gristion prysur. Roedd ganddo aseiniadau theocrataidd pwysig, gan gynnwys ysgrifennu’r Efengyl sy’n dwyn ei enw. Eto, neilltuodd Marc amser i gysuro Paul, ac roedd yntau’n gwybod ei fod yn gallu gofyn i Marc am ei help. Un arall a werthfawrogodd help tebyg oedd Angela. Ar ôl i un o’i pherthnasau gael ei llofruddio, dywedodd am y rhai a oedd yn barod i’w chysuro hi: “Pan fydd ffrindiau wir eisiau helpu, mae hi’n hawdd siarad â nhw. Mae’n amlwg eu bod nhw eisiau helpu, a dydyn nhw ddim yn dal yn ôl rhag gwneud hynny.” Gallwn ni ofyn i ni’n hunain, ‘Oes gen i enw am fod yn barod i gysuro cyd-addolwyr mewn ffyrdd ymarferol?’

YN BENDERFYNOL O GYSURO ERAILL

17. Sut gall myfyrio ar 2 Corinthiaid 1:3, 4 ein hysgogi i gysuro eraill?

17 Does dim rhaid inni edrych ymhell i weld brodyr a chwiorydd sydd angen cymorth. Efallai y gallwn ni gysuro eraill gyda’r un geiriau a ddefnyddiodd eraill i’n cysuro ni. Dywed Nino, chwaer a gollodd ei nain: “Gall Jehofa ein defnyddio i gysuro eraill os ydyn ni’n caniatáu iddo ein defnyddio ni.” (Darllen 2 Corinthiaid 1:3, 4.) Dywed Frances, a ddyfynnwyd gynnau: “Mae geiriau 2 Corinthiaid 1:4 yn hollol wir. Gallwn ni drosglwyddo’r un cysur a gawson ninnau i eraill.”

18. (a) Pam gall rhai ofni cysuro eraill? (b) Sut gallwn ni fod o wir gysur i eraill? Rho esiampl.

18 Mae’n rhaid i ni edrych am ffyrdd i helpu eraill er gwaethaf ein pryderon. Er enghraifft, efallai ein bod yn pryderu na fyddwn ni’n gwybod beth i’w ddweud na’i wneud er mwyn helpu rhywun sydd angen cysur. Mae un henuriad o’r enw Paul yn cofio’r ymdrech a wnaeth rhai ar ôl i’w dad farw. Dywedodd: “O’n i’n gallu dweud ei bod hi’n anodd iddyn nhw ddod ata’ i. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Ond o’n i’n dal i werthfawrogi eu hawydd i fy nghysuro a fy nghefnogi.” Ar ôl daeargryn mawr, dywedodd brawd o’r enw Tajon rywbeth tebyg: “Dw i wir ddim yn cofio pob neges ges i gan eraill yn y dyddiau cyntaf wedi’r daeargryn, ond mi ydw i’n cofio eu bod yn fy ngharu i ddigon i ofyn sut o’n i.” Gallwn ni fod yn gysurwyr da os ydyn ni’n dangos ein gofal dros eraill.

19. Pam rwyt ti’n benderfynol o fod yn “gysur mawr” i eraill?

19 Wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon, bydd cyflwr y byd yn dirywio, a bywyd yn dod yn anoddach. (2 Tim. 3:13) Ac mae’r problemau rydyn ni’n eu creu i ni’n hunain oherwydd pechod ac amherffeithrwydd yn golygu y bydden ni’n parhau i fod angen cysur. Un o’r rhesymau roedd yr apostol Paul yn gallu dal ati hyd at ddiwedd ei fywyd oedd y cysur a gafodd gan ei gyd-Gristnogion. Boed i ni fod yn ffyddlon fel Aristarchus, yn ddibynadwy fel Tychicus, ac yn barod i wasanaethu fel Marc. Drwy wneud hynny, gallwn ni helpu ein brodyr a’n chwiorydd i aros yn gadarn yn y ffydd.—1 Thes. 3:2, 3.

^ Par. 5 Fe wynebodd yr apostol Paul lawer o anawsterau yn ei fywyd. Yn ystod adegau anodd, roedd rhai o’i gyd-weithwyr yn gysur mawr iddo. Byddwn ni’n trafod tair rhinwedd benodol a oedd yn gwneud y cyd-weithwyr hyn yn gysurwyr rhagorol. Byddwn hefyd yn ystyried sut gallwn ni, mewn ffyrdd ymarferol, ddilyn eu hesiampl.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai o’r enwau yn yr erthygl hon.

CÂN 111 Sail Ein Llawenydd

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Goroesodd Aristarchus a Paul longddrylliad gyda’i gilydd.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Roedd Paul yn ymddiried yn Tychicus i fynd â’i lythyrau i’r cynulleidfaoedd.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Helpodd Marc Paul mewn ffyrdd ymarferol.