Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 5

Awn Ni Gyda Chi

Awn Ni Gyda Chi

“Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!”—SECH. 8:23.

CÂN 26 I Mi y Gwnaethoch

CIPOLWG *

Mae’r defaid eraill (y “deg o bobl”) yn ei hystyried yn fraint cael gwasanaethu Jehofa ynghyd â’r eneiniog (yr “Iddew”) (Gweler paragraffau 1-2)

1. Beth ddywedodd Jehofa y byddai’n digwydd yn ein dyddiau ni?

WRTH sôn am ein dyddiau ni, rhagfynegodd Jehofa: “Bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’” (Sech. 8:23) Mae’r “Iddew” yn cynrychioli’r rhai y mae Duw wedi eu heneinio â’r ysbryd glân. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n “Israel Duw.” (Gal. 6:16, BCND) Mae’r “deg o bobl” yn cynrychioli’r rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Mae’r rhai hyn yn gwybod bod Jehofa wedi bendithio’r eneiniog ac yn teimlo ei bod hi’n fraint i’w addoli Ef gyda nhw.

2. Sut gall y “deg o bobl” ‘fynd gyda’r’ eneiniog?

2 Er nad yw’n bosib gwybod enwau pob un o’r eneiniog sydd ar y ddaear heddiw, * gall y rhai sy’n gobeithio byw ar y ddaear ‘fynd gyda’r’ eneiniog. Sut? Dywed y Beibl y byddai “deg o bobl” yn “gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!’” Mae’r adnod yn sôn am un Iddew, ond mae’r gair “chi” yn y lluosog yn cyfeirio at fwy nag un person. Mae hyn yn golygu nad un person yn unig yw’r Iddew ond y grŵp cyfan o’r rhai eneiniog. Mae’r rhai sydd ddim yn eneiniog yn gwasanaethu Jehofa ochr yn ochr â’r grŵp hwnnw. Fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn ystyried yr eneiniog yn arweinwyr iddyn nhw, gan ddeall mai Iesu yw eu Harweinydd.—Math. 23:10.

3. Pa gwestiynau bydd yr erthygl hon yn eu hateb?

3 Gan fod rhai Cristnogion eneiniog yn dal ymhlith pobl Dduw heddiw, efallai bydd rhai’n gofyn: (1) Sut dylai’r eneiniog eu hystyried eu hunain? (2) Sut dylen ni drin y rhai sy’n cymryd yr elfennau yn y Goffadwriaeth? (3) A ddylen ni boeni os yw’r nifer sy’n cymryd yr elfennau yn cynyddu? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hynny.

SUT DYLAI’R ENEINIOG EU HYSTYRIED EU HUNAIN?

4. Pa rybudd yn 1 Corinthiaid 11:27-29 y dylai’r eneiniog feddwl o ddifri amdano, a pham?

4 Dylai’r eneiniog feddwl o ddifri am y rhybudd yn 1 Corinthiaid 11:27-29. (Darllen.) Sut gallai un o’r eneiniog fwyta’r bara ac yfed y gwin “mewn ffordd sy’n anweddus” yn y Goffadwriaeth? Byddai’n gwneud hynny petai’n cymryd yr elfennau heb fyw yn ôl safonau cyfiawn Jehofa. (Heb. 6:4-6; 10:26-29) Mae’r eneiniog yn sylweddoli bod rhaid iddyn nhw aros yn ffyddlon os ydyn nhw eisiau ‘ennill y wobr sydd gan Dduw ar eu cyfer nhw,’ sef ‘ei alwad i’r nefoedd o achos beth wnaeth y Meseia Iesu.’—Phil. 3:13-16.

5. Sut dylai Cristnogion eneiniog eu hystyried eu hunain?

5 Mae ysbryd glân Jehofa yn helpu ei weision i fod yn ostyngedig, nid yn falch. (Eff. 4:1-3; Col. 3:10, 12) Felly, dydy’r eneiniog ddim yn meddwl eu bod nhw’n well nag eraill. Maen nhw’n gwybod nad yw Jehofa, o reidrwydd, yn rhoi mwy o ysbryd glân i’r rhai eneiniog nag y mae’n ei roi i’w weision eraill. A dydyn nhw ddim yn teimlo y gallan nhw ddeall gwirioneddau’r Beibl yn well nag eraill. Hefyd, fydden nhw byth yn dweud wrth rywun arall ei fod yntau wedi ei eneinio ac y dylai ddechrau cyfranogi o’r bara a’r gwin. Yn hytrach, maen nhw’n ostyngedig, gan gydnabod mai dim ond Jehofa sy’n gwahodd pobl i fynd i’r nefoedd.

6. Yn ôl 1 Corinthiaid 4:7, 8, sut dylai Cristnogion eneiniog ymddwyn?

6 Er bod yr eneiniog yn teimlo bod cael gwahoddiad i fynd i’r nefoedd yn fraint, dydyn nhw ddim yn disgwyl cael eu trin yn arbennig. (Phil. 2:2, 3) Gwyddon nhw hefyd na ddatgelodd Jehofa’r ffaith eu bod nhw wedi eu heneinio i bawb arall. Felly, nid yw person eneiniog yn synnu os na fydd eraill yn ei gredu’n syth. Mae’n sylweddoli bod y Beibl yn dweud na ddylen ni fod yn rhy barod i gredu rhywun sy’n dweud bod Duw wedi rhoi cyfrifoldeb arbennig iddo. (Dat. 2:2) Gan nad yw ef eisiau tynnu sylw ato’i hun, ni fyddai yn ei gyflwyno ei hun fel rhywun eneiniog i bobl y mae’n eu cyfarfod am y tro cyntaf. Ac yn bendant, ni fyddai’n brolio am y peth wrth eraill.—Darllen 1 Corinthiaid 4:7, 8.

7. Beth bydd yr eneiniog yn osgoi ei wneud, a pham?

7 Dydy Cristnogion eneiniog ddim yn teimlo eu bod nhw’n gorfod treulio amser gyda rhai eneiniog eraill yn unig, fel petaen nhw’n aelodau o ryw glwb. Dydyn nhw ddim yn ceisio dod o hyd i rai eneiniog eraill yn y gobaith o drafod y profiad o gael eu heneinio gyda nhw, neu er mwyn astudio’r Beibl mewn grwpiau ar wahân. (Gal. 1:15-17) Ni fyddai’r gynulleidfa yn unedig petai’r eneiniog yn gwneud hyn. Bydden nhw’n gweithio’n erbyn yr ysbryd glân sy’n helpu pobl Dduw i gael heddwch ac undod.—Rhuf. 16:17, 18.

SUT DYLAI’R ENEINIOG GAEL EU TRIN?

Ni ddylen ni drin yr eneiniog nac unrhyw un arall sy’n cymryd y blaen fel petaen nhw’n enwogion (Gweler paragraff 8) *

8. Pam mae’n rhaid i ti fod yn ofalus yn y ffordd rwyt ti’n trin y rhai sy’n cymryd yr elfennau? (Gweler hefyd y troednodyn.)

8 Sut dylen ni drin ein brodyr a chwiorydd eneiniog? Byddai’n anghywir edmygu rhywun yn ormodol, hyd yn oed os yw’n un o frodyr eneiniog Crist. (Math. 23:8-12) Pan fydd y Beibl yn sôn am yr henuriaid, mae’n ein hannog i ‘efelychu eu ffydd,’ ond nid yw’n dweud y dylen ni wneud unrhyw ddyn neu ddynes yn arweinydd inni. (Heb. 13:7, BCND) Mae’n wir fod y Beibl yn dweud bod rhai “yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth” am eu bod nhw’n gwneud eu gwaith yn dda ac “yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi,” ond nid oherwydd eu bod nhw’n eneiniog. (1 Tim. 5:17) Os rhown ormod o ganmoliaeth a sylw i’r eneiniog, gallen ni godi cywilydd arnyn nhw. * Neu’n waeth byth, gallen ni achosi iddyn nhw droi’n falch. (Rhuf. 12:3) Ni fyddai’r un ohonon ni eisiau gwneud unrhyw beth a allai achosi i un o frodyr eneiniog Crist wneud y fath gamgymeriad difrifol!—Luc 17:2.

9. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n parchu Cristnogion eneiniog?

9 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n parchu’r rhai sydd wedi eu heneinio gan Jehofa? Fydden ni ddim yn gofyn iddyn nhw sut y cawson nhw eu heneinio. Mater personol ydy hynny, a does gennyn ni mo’r hawl i wybod. (2 Thes. 3:11) Ac ni ddylen ni feddwl bod eu gŵr neu wraig, eu rhieni, nac unrhyw aelod arall o’u teulu hefyd yn eneiniog. Dydy person ddim yn etifeddu ei obaith gan ei deulu. Mae’n ei gael gan Dduw. (1 Thes. 2:12) Dylen ni hefyd osgoi gofyn cwestiynau a allai frifo eraill. Er enghraifft, fydden ni byth yn gofyn i wraig brawd eneiniog sut mae hi’n teimlo ynglŷn â byw am byth ar y ddaear heb ei gŵr. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n hollol sicr y bydd Jehofa, yn y byd newydd, yn “diwallu popeth byw.”—Salm 145:16, BCND.

10. Sut rydyn ni’n ein hamddiffyn ein hunain drwy beidio ag edmygu personoliaethau?

10 Os na fyddwn ni’n trin yr eneiniog fel petasen nhw’n bwysicach nag eraill, byddwn ni’n ein hamddiffyn ein hunain. Sut? Mae’r Beibl yn dweud y gall rhai eneiniog droi’n anffyddlon. (Math. 25:10-12; 2 Pedr 2:20, 21) Felly, os ydyn ni’n osgoi “seboni” neu edmygu personoliaethau, fyddwn ni byth yn dilyn bodau dynol, hyd yn oed rhai sy’n eneiniog neu’n adnabyddus, neu’r rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa ers amser maith. (Jwd. 16) Yna, os ydyn nhw’n troi’n anffyddlon neu’n gadael y gynulleidfa, fyddwn ni ddim yn colli’n ffydd yn Jehofa nac yn rhoi’r gorau i’w addoli.

A OES RHAID INNI BOENI AM Y NIFER SY’N CYFRANOGI?

11. Beth sydd wedi bod yn digwydd i’r nifer sy’n cymryd yr elfennau yn y Goffadwriaeth?

11 Am lawer o flynyddoedd, roedd y nifer sy’n cymryd yr elfennau yn y Goffadwriaeth yn gostwng. Ond yn ddiweddar, mae’r nifer wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn. A oes rhaid inni boeni am hyn? Nac oes. Gad inni ystyried rhai rhesymau pwysig i’w cofio.

12. Pam na ddylen ni boeni am y nifer sy’n cymryd yr elfennau yn y Goffadwriaeth?

12 “Mae’r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun.” (2 Tim. 2:19) Yn wahanol i Jehofa, nid yw’r brodyr sy’n cyfri’r bobl sy’n cyfranogi o’r bara a’r gwin yn y Goffadwriaeth yn gwybod yn bendant pwy sy’n eneiniog. Felly, mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n eneiniog ond, mewn gwirionedd, dydyn nhw ddim. Er enghraifft, mae rhai a oedd ar un adeg yn cyfranogi bellach wedi stopio. Mae gan eraill broblemau meddyliol neu emosiynol sy’n gwneud iddyn nhw gredu y byddan nhw’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd. Yn amlwg, wyddon ni ddim faint yn union o’r eneiniog sydd ar ôl ar y ddaear.

13. Ydy’r Beibl yn dweud faint o’r eneiniog fydd ar y ddaear ar ddechrau’r gorthrymder mawr?

13 Bydd rhai eneiniog mewn sawl rhan o’r byd pan ddaw Iesu i’w cymryd nhw i’r nefoedd. (Math. 24:31) Mae’r Beibl yn dweud y bydd nifer bychan o’r eneiniog ar ôl ar y ddaear yn ystod y dyddiau diwethaf. (Dat. 12:17) Ond nid yw’n dweud faint ohonyn nhw fydd ar ôl ar ddechrau’r gorthrymder mawr.

Sut dylen ni ymateb os bydd rhywun yn cymryd yr elfennau yn ystod y Goffadwriaeth? (Gweler paragraff 14)

14. Yn ôl Rhufeiniaid 9:11, 16, beth sy’n rhaid inni ei ddeall ynglŷn â sut mae’r eneiniog yn cael eu dewis?

14 Jehofa sy’n dewis pryd i eneinio rhywun. (Rhuf. 8:28-30) Dechreuodd Jehofa ddewis yr eneiniog ar ôl atgyfodiad Iesu. Mae’n ymddangos bod pob gwir Gristion yn y ganrif gyntaf yn eneiniog. Am ganrifoedd wedi hynny, doedd y rhan fwyaf oedd yn honni bod yn Gristnogion ddim yn dilyn Crist. Er hynny, yn ystod y cyfnod hwnnw, fe eneiniodd Jehofa yr ychydig a oedd yn wir Gristnogion. Yn ôl Iesu, roedden nhw fel y gwenith a fyddai’n tyfu yng nghanol y chwyn. (Math. 13:24-30) Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae Jehofa wedi parhau i ddewis pobl a fydd yn rhan o’r 144,000. * Felly, os ydy Duw’n penderfynu dewis rhai o’r rhain ychydig cyn i’r diwedd ddod, pwy ydyn ni i gwestiynu hynny? (Darllen Rhufeiniaid 9:11, 16.) * Mae’n rhaid inni beidio ag ymddwyn fel y gweithwyr a ddisgrifiodd Iesu yn un o’i eglurebau. Roedden nhw’n grwgnach am y ffordd roedd eu meistr wedi trin y rhai a ddechreuodd weithio yn ystod yr awr olaf.—Math. 20:8-15.

15. Ydy pob un o’r eneiniog yn rhan o’r “gwas ffyddlon a chall” a soniwyd amdano yn Mathew 24:45-47? Esbonia.

15 Nid yw pawb sydd â’r gobaith nefol yn rhan o’r “gwas ffyddlon a chall.” (Darllen Mathew 24:45-47, BCND.) Yn union fel yn y ganrif gyntaf, mae Jehofa ac Iesu heddiw yn defnyddio nifer bach o frodyr i fwydo neu i ddysgu llawer. Dim ond ychydig o’r eneiniog yn y ganrif gyntaf a gafodd eu defnyddio i ysgrifennu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Heddiw, dim ond nifer bach o Gristnogion eneiniog sydd â’r cyfrifoldeb o roi bwyd “yn ei bryd” i bobl Dduw.

16. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o’r erthygl hon?

16 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o’r erthygl hon? Mae Jehofa wedi penderfynu rhoi bywyd tragwyddol ar y ddaear i’r mwyafrif helaeth o’i bobl, a bywyd yn y nefoedd i’r ychydig a fydd yn rheoli gyda Iesu. Mae Jehofa’n gwobrwyo pob un o’i weision—yr “Iddew” a’r “deg o bobl”—ac mae’n gofyn i bawb ufuddhau i’r un gorchmynion ac aros yn ffyddlon. Dylai pawb fod yn ostyngedig drwy’r amser, ac addoli Duw gyda’i gilydd mewn undod. A dylai pawb weithio’n galed i gadw heddwch yn y gynulleidfa. Wrth inni agosáu at ddiwedd y system hon, gad inni ddal ati i wasanaethu Jehofa a dilyn Crist “yn un praidd.”—Ioan 10:16.

^ Par. 5 Eleni, bydd Coffadwriaeth marwolaeth Crist yn cael ei chadw ar ddydd Mawrth, Ebrill 7. Sut agwedd dylen ni ei chael tuag at y rhai sy’n cymryd yr elfennau ar y noson honno? A ddylen ni boeni os bydd nifer y rhai sy’n dweud eu bod yn eneiniog yn dal i dyfu? Cawn yr atebion i’r cwestiynau hynny yn yr erthygl hon, sy’n seiliedig ar un a ymddangosodd yn Tŵr Gwylio Ionawr 2016.

^ Par. 2 Yn ôl Salm 87:5, 6, efallai y bydd Duw yn y dyfodol yn datgelu enwau’r rhai sy’n rheoli gyda Iesu yn y nefoedd.—Rhuf. 8:19.

^ Par. 8 Gweler y blwch “Nid Yw Cariad yn ‘Gwneud Dim Sy’n Anweddus’” yn Tŵr Gwylio, Ionawr 2016.

^ Par. 14 Er bod Actau 2:33 yn dangos bod ysbryd glân yn cael ei dywallt trwy Iesu, Jehofa yw’r un sy’n gwahodd unigolion.

^ Par. 14 Am fwy o wybodaeth, gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Mai 1, 2007.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

^ Par. 56 DISGRIFIAD O’R LLUN: Petasai torf yn amgylchynu un o gynrychiolwyr y pencadlys a’i wraig mewn cynhadledd ac yn tynnu lluniau ohonyn nhw, fe fyddai hynny’n amharchus iawn!