Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Ces i Lawer o Fendithion Drwy Ddilyn Esiamplau Da

Ces i Lawer o Fendithion Drwy Ddilyn Esiamplau Da

PAN oeddwn i’n ifanc, doedd mynd ar y weinidogaeth ddim yn hawdd imi. Wrth imi fynd yn hŷn, ces i aseiniadau doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i eu gwneud. Felly, gad imi ddweud wrthyt ti am rai o’r esiamplau da wnaeth fy helpu i drechu fy ofnau, a mwynhau bendithion rhyfeddol yn ystod fy 58 mlynedd o wasanaeth llawn amser.

Ces i fy ngeni yn Ninas Cwebéc, sydd yn y dalaith Ffrangeg ei hiaith yng Nghanada. Ces i fy magu mewn tŷ llawn cariad gan fy rhieni, Louis a Zélia. Dyn tawedog oedd fy nhad, ac roedd wrth ei fodd yn darllen. Roeddwn i’n mwynhau ysgrifennu ac yn gobeithio dod yn newyddiadurwr ryw ddydd.

Pan o’n i tua 12 oed, daeth Rodolphe Soucy, un o gyd-weithwyr fy nhad, gyda’i ffrind draw i’r tŷ. Tystion Jehofa oedden nhw. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y Tystion a doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb yn eu crefydd. Eto, roeddwn i’n edmygu eu ffordd garedig a rhesymegol o ateb ein cwestiynau gan ddefnyddio’r Beibl. Creodd hyn argraff ar fy rhieni hefyd, felly derbynion ni astudiaeth Feiblaidd.

Bryd hynny, roeddwn i’n mynychu ysgol Gatholig. O bryd i’w gilydd, byddwn i’n sgwrsio â’m cyd-ddisgyblion am yr hyn roeddwn i’n ei ddysgu o fy astudiaeth Feiblaidd. Yn y pen draw, dyma’r athrawon, a oedd yn offeiriaid, yn clywed am hyn. Yn hytrach na defnyddio’r Ysgrythurau i wrthbrofi’r hyn roeddwn i’n ei ddweud, ces i fy nghyhuddo o flaen y dosbarth gan un ohonyn nhw o fod yn rebel! Er bod y sefyllfa honno’n anodd, roedd yn fendith yn y pen draw am ei bod wedi fy helpu i weld nad oedd dysgeidiaethau crefyddol yr ysgol yn cytuno â’r hyn roedd y Beibl yn ei ddweud. Sylweddolais nad o’n i’n perthyn yno. Gyda chaniatâd fy rhieni, symudais i ysgol arall.

DYSGU MWYNHAU’R WEINIDOGAETH

Daliais ati i astudio’r Beibl, ond wnes i ddim llawer o gynnydd ysbrydol oherwydd fy mod i’n ofni pregethu o ddrws i ddrws. Roedd yr Eglwys Gatholig yn ddylanwadol iawn ac yn gwrthwynebu ein gwaith pregethu yn ffyrnig. Roedd Maurice Duplessis, prif weinidog Cwebéc yn gynghreiriad gwleidyddol agos i’r eglwys. Gyda’i gefnogaeth ef, byddai tyrfaoedd yn tarfu ar y Tystion ac hyd yn oed yn ymosod arnyn nhw. Roedd angen dewrder go iawn i bregethu bryd hynny.

Un brawd wnaeth fy helpu i drechu fy ofn oedd John Rae, un o raddedigion y nawfed dosbarth o Ysgol Gilead. Roedd John yn brofiadol iawn, yn addfwyn, yn wylaidd, ac yn hawdd mynd ato. Anaml iawn y byddai’n rhoi cyngor uniongyrchol imi, ond roedd ei esiampl dda yn dweud y cwbl. Roedd yn cael trafferth siarad Ffrangeg, felly byddwn i’n aml yn mynd ar y weinidogaeth gydag ef ac yn ei helpu gyda’r iaith. Yn y pen draw, treulio amser gyda John wnaeth fy helpu i wneud safiad dros y gwir. Ddeng mlynedd ar ôl fy nghyswllt cyntaf â’r Tystion, ces i fy medyddio ar Fai 26, 1951.

Mi wnaeth esiampl dda John Rae (A) fy helpu i (B) i drechu fy ofn o’r gwaith pregethu o ddrws i ddrws

Roedd y rhan fwyaf yn ein cynulleidfa fechan yn Ninas Cwebéc yn arloeswyr. Gwnaeth eu dylanwad da fy nghymell innau i arloesi. Bryd hynny, bydden ni’n pregethu o ddrws i ddrws gan ddefnyddio’r Beibl yn unig. Heb lenyddiaeth, roedd rhaid inni ddefnyddio’r Ysgrythurau yn fwy effeithiol. Felly, ymdrechais i ddod yn gyfarwydd ag adnodau o’r Beibl er mwyn amddiffyn y gwirionedd. Fodd bynnag, roedd rhai yn gwrthod darllen y Beibl oni bai bod sêl bendith yr Eglwys Gatholig arno!

Ym 1952, priodais Simone Patry, chwaer ffyddlon lleol. O fewn blwyddyn, roedden ni wedi symud i Fontreal ac wedi ein bendithio â’n merch, Lise. Er fy mod i wedi rhoi’r gorau i arloesi ychydig cyn priodi, ceisiodd Simone a minnau gadw ein bywydau yn syml er mwyn gallu cael rhan lawn fel teulu yng ngweithgareddau’r gynulleidfa.

Aeth deng mlynedd heibio cyn imi feddwl o ddifri eto am arloesi. Ym 1962, tra oeddwn i’n aros yn y Bethel yng Nghanada am fis yn mynychu Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas ar gyfer henuriaid, ces i fy aseinio i ystafell gyda brawd o’r enw Camille Ouellette. Creodd sêl Camille am y weinidogaeth gryn argraff arna’ i—yn enwedig am fod ganddo wraig a phlant. Bryd hynny, pur anaml fyddai rhiant yng Nghwebéc yn arloesi ac yn magu plentyn ar yr un pryd, ond eto, dyna oedd nod Camille. Yn ystod ein hamser gyda’n gilydd, ces i fy annog ganddo i feddwl am fy sefyllfa. Dim ond ychydig fisoedd y cymerodd imi sylweddoli y gallwn i arloesi’n llawn amser unwaith eto. Er bod rhai yn cwestiynu pa mor ddoeth oedd fy mhenderfyniad, mi wnes i fwrw iddi, yn hyderus y byddai Jehofa yn bendithio fy ymdrechion i wneud mwy yn y weinidogaeth.

DYCHWELYD I DDINAS CWEBÉC FEL ARLOESWYR ARBENNIG

Ym 1964, cafodd Simone a minnau ein penodi i wasanaethu fel arloeswyr arbennig yn Ninas Cwebéc, ein tref enedigol, lle buon ni’n gwasanaethu am nifer o flynyddoedd wedyn. Erbyn hyn, roedd pregethu yn haws, ond roedd gwrthwynebiad yn dal yn broblem.

Un pnawn Sadwrn, ces i fy arestio yn Sainte-Marie, tref fechan yn agos i Ddinas Cwebéc. Aeth heddwas â mi i’r orsaf heddlu a fy rhoi yn y carchar oherwydd fy mod yn pregethu o ddrws i ddrws heb drwydded. Yn hwyrach, ces i fy rhoi gerbron barnwr o’r enw Baillargeon, dyn brawychus. Gofynnodd imi pwy fyddai’n fy nghynrychioli yn y llys. Pan atebais gan ddweud yr enw Glen How, * cyfreithiwr adnabyddus o Dyst, ebychodd â phryder yn ei lais: “O, na! Nid fo!” Bryd hynny, roedd gan Glen How dipyn o enw am amddiffyn y Tystion yn y llysoedd. Cyn bo hir, cefais wybod gan y llys fod y cyhuddiadau wedi cael eu gollwng.

Roedd y gwrthwynebiad i’n gwaith pregethu yng Nghwebéc hefyd yn ei gwneud hi’n anodd inni rentu rhywle addas i gyfarfod. Yr unig le gallai ein cynulleidfa fechan ei gael oedd hen garej heb system wresogi. Er mwyn cael rhywfaint o gynhesrwydd yn ystod y gaeafau rhewllyd, byddai’r brodyr yn defnyddio gwresogydd olew. Bydden ni’n aml yn ymgynnull o’i gwmpas am ychydig o oriau cyn y cyfarfodydd er mwyn rhannu profiadau calonogol.

Mae’n hyfryd gweld sut mae’r gwaith pregethu wedi ffynnu dros y blynyddoedd. Yn ôl yn y 1960au, dim ond ychydig o gynulleidfaoedd bychain oedd ’na yn ardal Dinas Cwebéc, rhanbarth Côte-Nord, a Phenrhyn Gaspé gyda’i gilydd. Heddiw, mae mwy na dwy gylchdaith gyfan yn yr ardaloedd hyn, ac mae’r brodyr yn cyfarfod mewn Neuaddau’r Deyrnas hyfryd.

GWAHODDIAD I’R GWAITH TEITHIO

Ym 1977, mynychais gyfarfod ar gyfer arolygwyr teithiol yn Nhoronto, Canada

Cafodd Simone a minnau ein gwahodd i’r gwaith cylch ym 1970. Yna, ym 1973, cawson ni’n haseinio i’r gwaith rhanbarth. Yn ystod y blynyddoedd hynny, dysgais lawer gan frodyr galluog fel Laurier Saumur * a David Splane, * sydd ill dau wedi gwasanaethu yn y gwaith teithio. Ar ôl pob cynulliad, byddai David a minnau yn rhoi awgrymiadau i’n gilydd ar sut i wella ein dysgu. Dw i’n cofio un adeg pan ddywedodd David wrtha’ i: “Léonce, mi wnes i fwynhau dy anerchiad olaf. Mi oedd yn dda, ond gallwn i fod wedi rhoi tair anerchiad gyda’r holl ddeunydd ’na!” Roeddwn i’n dueddol o stwffio gormod o wybodaeth i fy anerchiadau. Roedd rhaid imi ddysgu bod yn fwy cryno.

Mi wnes i wasanaethu mewn amryw o ddinasoedd yn nwyrain Canada

Cyfrifoldeb arolygwyr rhanbarth oedd calonogi arolygwyr cylchdaith. Ond, roedd llawer o gyhoeddwyr Cwebéc yn fy adnabod yn dda. Yn aml, roedden nhw eisiau gweithio gyda mi yn y weinidogaeth pan fyddwn i’n ymweld â’r cylchdeithiau. Er bod mynd ar y weinidogaeth gyda nhw yn braf, doeddwn i ddim yn treulio digon o amser gydag arolygwr y gylchdaith. Un tro, dyma arolygwr y gylchdaith cariadus yn fy atgoffa: “Mae’n dda dy fod yn rhoi amser i’r brodyr, ond paid ag anghofio mai fy wythnos i yw hon. Dw i angen anogaeth hefyd!” Helpodd y cyngor caredig hwn imi fod yn fwy cytbwys.

Ym 1976, digwyddodd rhywbeth annisgwyl a thrist iawn. Aeth Simone, fy ngwraig annwyl, yn sâl ofnadwy a bu farw. Roedd ei hagwedd hunanaberthol a’i chariad tuag at Jehofa yn ei gwneud yn wraig wych. Roedd cadw’n brysur yn y weinidogaeth yn help mawr imi i ymdopi â’i cholled, a dw i’n diolch i Jehofa am ei gefnogaeth gariadus yn ystod yr amser anodd hwnnw. Yn hwyrach, priodais Carolyn Elliot, arloeswraig selog Saesneg ei hiaith a ddaeth i Gwebéc i wasanaethu lle bo’r angen yn fawr. Mae hi’n hawdd mynd ati, ac mae ganddi ddiddordeb diffuant yn eraill, yn enwedig y rhai sy’n swil neu’n unig. Mi wnaeth hi fy helpu go iawn pan wnaeth hi ymuno â mi yn y gwaith teithio.

CARREG FILLTIR O FLWYDDYN

Ym mis Ionawr 1978, gofynnwyd imi ddysgu dosbarth cyntaf yr Ysgol Arloesi yng Nghwebéc. Roeddwn yn llawn nerfau oherwydd bod y cwricwlwm yr un mor newydd i mi ag yr oedd i’r myfyrwyr. Diolch byth, mi oedd y dosbarth cyntaf wnes i ei ddysgu yn llawn arloeswyr profiadol. Er mai fi oedd yr hyfforddwr, dysgais innau lawer gan y myfyrwyr!

Yn hwyrach, ym 1978, cynhaliwyd Cynhadledd Ryngwladol “Victorious Faith” yn Stadiwm Olympaidd Montreal. Honno oedd ein cynhadledd fwyaf erioed yng Nghwebéc, ac roedd dros 80,000 yno. Ces i fy aseinio i weithio gydag Adran Newyddion y gynhadledd. Siaradais â llawer o newyddiadurwyr, ac roeddwn i wrth fy modd yn gweld eu holl sylwadau positif. Cafodd dros 20 awr o gyfweliadau eu darlledu ar y teledu a’r radio, a chafodd cannoedd o erthyglau eu hargraffu. Am dystiolaeth enfawr oedd hynny!

ASEINIAD NEWYDD MEWN IAITH ARALL

Daeth newid mawr imi ym 1996. Ar ôl gwasanaethu yng Nghwebéc Ffrangeg ei hiaith ers fy medydd, ces i fy aseinio i wasanaethu mewn rhanbarth Saesneg ei hiaith yn ardal Toronto. Doeddwn i ddim yn teimlo’n gymwys, ac roeddwn i’n poeni’n fawr wrth feddwl am roi anerchiadau yn fy Saesneg gwael. Roeddwn i angen gweddïo’n amlach a dibynnu’n fwy ar Jehofa.

Wrth edrych yn ôl, gallaf ddweud fy mod i wedi gwir fwynhau dwy flynedd hyfryd yn gwasanaethu yn ardal Toronto. Yn llawn amynedd, gwnaeth Carolyn fy helpu i ddod yn fwy hyderus wrth siarad Saesneg, ac roedd y brodyr yn gefnogol a chalonogol iawn. Cyn pen dim, gwnaethon ni lawer o ffrindiau newydd.

Yn ogystal â’r gweithgareddau ychwanegol a’r gwaith paratoi sydd ynghlwm â chynulliad cylchdaith, byddwn i’n aml yn treulio tua awr yn y gwaith pregethu o ddrws i ddrws ar nosweithiau Gwener. Efallai fod rhai wedi meddwl ‘Pam mynd i bregethu jest cyn penwythnos prysur yn y cynulliad?’ Eto, roedd cael sgyrsiau da yn y weinidogaeth yn fy adfywio. Hyd yn oed nawr, mae mynd i bregethu wastad yn codi fy nghalon.

Ym 1998, cafodd Carolyn a minnau ein hailaseinio i Fontreal yn arloeswyr arbennig. Am nifer o flynyddoedd, roedd fy aseiniad yn cynnwys trefnu tystiolaethu cyhoeddus arbennig a gweithio gyda’r cyfryngau newyddion i leihau rhagfarn tuag at Dystion Jehofa. Mae Carolyn a minnau bellach yn mwynhau pregethu i dramorwyr sydd wedi symud i Ganada yn ddiweddar ac sy’n aml yn awyddus i ddysgu mwy am y Beibl.

Gyda fy ngwraig Carolyn

Wrth imi fyfyrio ar fy 68 mlynedd o fod yn un o Dystion Jehofa, dwi’n teimlo fy mod wedi fy mendithio go iawn. Mae dysgu mwynhau’r weinidogaeth a helpu llawer i ddod i wybod y gwirionedd wedi bod yn werth chweil. Ar ôl i fy merch Lise a’i gŵr fagu plant, dechreuon nhw arloesi’n llawn amser. Mae gweld ei sêl parhaol yn y weinidogaeth yn rhoi pleser mawr imi. Dw i’n ddiolchgar yn enwedig am gyd-Gristnogion a wnaeth, drwy eu hesiamplau da a’u cyngor doeth, fy helpu i dyfu’n ysbrydol a gofalu am amryw o aseiniadau theocrataidd. Dw i wedi gweld mai dim ond drwy ddibynnu ar rym rhyfeddol ysbryd glân Jehofa y gallwn ni aros yn ffyddlon mewn aseiniad. (Salm 51:11) Dw i’n parhau i ddiolch i Jehofa am roi imi’r fraint werthfawr o ddod â chlod i’w enw!—Salm 54:6.

^ Par. 16 Gweler hanes bywyd W. Glen How, “The Battle Is Not Yours, but God’s,” yn y Deffrwch! Saesneg, Ebrill 22, 2000.

^ Par. 20 Gweler hanes bywyd Laurier Saumur, “I Found Something Worth Fighting For,” yn rhifyn Tachwedd 15, 1976 y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 20 Mae David Splane yn gwasanaethu fel aelod o Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa.