Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 6

Mae Jehofa, Ein Tad, yn Ein Caru Ni’n Fawr Iawn

Mae Jehofa, Ein Tad, yn Ein Caru Ni’n Fawr Iawn

“Dyma sut dylech chi weddïo: ‘Ein Tad.’”—MATH. 6:9.

CÂN 135 Anogaeth Wresog Jehofa: “Bydd Ddoeth, Fy Mab”

CIPOLWG *

1. Beth roedd rhaid ei wneud er mwyn siarad â brenin Persia?

DYCHMYGA dy fod ti’n byw tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl ym Mhersia. Rwyt ti eisiau trafod mater â brenin y wlad, felly rwyt ti’n teithio i’r ddinas frenhinol Shwshan. Fyddet ti ddim yn meiddio siarad â’r brenin heb ei ganiatâd, oherwydd heb hynny, gallet ti gael dy ladd!—Esth. 4:11.

2. Sut gallwn ni deimlo am siarad â Jehofa?

2 Rydyn ni mor falch nad ydy Jehofa fel y brenin Persiaidd hwnnw! Mae Jehofa llawer mwy grymus a phwysig nag unrhyw reolwr dynol, ond eto mae ’na groeso inni siarad ag ef ar unrhyw adeg. Mae eisiau inni deimlo’n rhydd i wneud hynny. Er enghraifft, er bod gan Jehofa deitlau mawr fel Arglwydd Frenin, yr Hollalluog, a’r Creawdwr Mawr, mae’n ein gwahodd ni i siarad ag ef gan ddefnyddio’r enw “Tad.” (Math. 6:9) Mae’n hyfryd o beth fod Jehofa eisiau inni deimlo mor agos ato!

3. Pam gallwn ni alw Jehofa yn “Dad,” a beth bydd yr erthygl hon yn ei drafod?

3 Mae “Tad” yn enw addas ar gyfer Jehofa—ef yw Ffynhonnell ein bywydau. (Salm 36:9) Oherwydd mai ef yw ein Tad, mae gennyn ni gyfrifoldeb i ufuddhau iddo. Pan fyddwn ni’n gwneud beth mae’n ei ofyn, byddwn ni’n mwynhau bendithion gwych. (Heb. 12:9) Mae’r bendithion hynny yn cynnwys bywyd tragwyddol, un ai yn y nefoedd neu ar y ddaear. Rydyn ni hefyd yn mwynhau bendithion nawr. Bydd yr erthygl hon yn trafod yr hyn sy’n profi fod Jehofa yn Dad cariadus inni nawr, a pham gallwn ni fod yn sicr na fydd yn cefnu arnon ni yn y dyfodol. Ond yn gyntaf, gad inni ystyried pam gallwn ni fod yn sicr fod ein Tad nefol yn ein caru ni’n fawr ac yn gofalu amdanon ni.

MAE JEHOFA YN DAD CARIADUS A CHAREDIG

Mae Jehofa eisiau bod yn agos aton ni, fel mae tad caredig eisiau bod yn agos at ei blant (Gweler paragraff 4)

4. Pam mae rhai yn ei chael hi’n anodd ystyried Duw yn Dad iddyn nhw?

4 A wyt ti’n ei chael hi’n anodd ystyried Duw yn Dad iti? Efallai fod rhai yn teimlo bod Jehofa mor fawr na fedren nhw fod yn bwysig iddo. Maen nhw’n amau nad ydy Duw Hollalluog yn poeni amdanyn nhw fel unigolyn. Ond, dydy ein Tad cariadus ddim eisiau inni deimlo felly. Rhoddodd fywyd inni ac mae eisiau inni gael perthynas ag ef. Ar ôl sôn am y ffaith hon, esboniodd yr apostol Paul i’w wrandawyr yn Athen fod Jehofa “ddim yn bell oddi wrthon ni mewn gwirionedd.” (Act. 17:24-29) Mae Duw eisiau i bob un ohonon ni siarad ag ef, fel mae plant, yn naturiol, yn siarad â rhiant sy’n eu caru ac yn gofalu amdanyn nhw.

5. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o brofiad un chwaer Gristnogol?

5 Efallai fod hi’n anodd i eraill ystyried Jehofa fel Tad oherwydd na chawson nhw lawer o gariad, os o gwbl, gan eu tadau eu hunain. Ystyria beth ddywedodd un chwaer Gristnogol. “Roedd fy nhad yn gas ac yn greulon,” meddai. “Pan wnes i gychwyn astudio’r Beibl, roedd hi’n anodd imi deimlo’n agos at Dad nefol. Ond, ar ôl imi ddod i ’nabod Jehofa, wnaeth hynny newid popeth.” Wyt ti wedi teimlo rhywbeth tebyg? Os felly, paid â digalonni. Ymhen amser, byddi dithau hefyd yn gallu teimlo mai Jehofa ydy’r Tad gorau oll.

6. Yn ôl Mathew 11:27, beth yw un ffordd y mae Jehofa wedi ein helpu i’w weld fel Tad cariadus?

6 Un ffordd mae Jehofa wedi ein helpu i’w ystyried yn Dad cariadus inni yw drwy gofnodi geiriau a gweithredoedd Iesu yn y Beibl. (Darllen Mathew 11:27.) Efelychodd Iesu bersonoliaeth ei Dad mewn ffordd mor berffaith fel ei fod yn gallu dweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Gwnaeth Iesu ddisgrifio Jehofa fel Tad yn aml. Yn y pedair Efengyl yn unig, defnyddiodd Iesu y term “Tad” tua 165 o weithiau wrth gyfeirio at Jehofa. Pam siaradodd Iesu gymaint am Jehofa? Un rheswm yw i bawb fod yn hollol sicr fod Jehofa yn Dad cariadus.—Ioan 17:25, 26.

7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa o’r ffordd y gwnaeth ef drin ei Fab?

7 Ystyria beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa o’r ffordd y gwnaeth drin ei Fab, Iesu. Clywodd Jehofa weddïau Iesu bob tro. Nid yn unig y clywodd weddïau Iesu ond hefyd atebodd nhw. (Ioan 11:41, 42) Ni waeth pa dreialon roedd Iesu yn eu hwynebu, teimlodd gariad a chefnogaeth ei Dad.—Luc 22:42, 43.

8. Ym mha ffyrdd gofalodd Jehofa am Iesu?

8 Cydnabyddodd Iesu mai ei Dad oedd Ffynhonnell a Chynhaliwr ei fywyd pan ddywedodd: “Dw i’n byw o achos y Tad.” (Ioan 6:57) Roedd Iesu yn ymddiried yn llwyr yn ei Dad, a gofalodd Jehofa am ei anghenion corfforol. Yn bwysicaf oll, gofalodd Jehofa am ei anghenion ysbrydol.—Math. 4:4.

9. Sut dangosodd Jehofa ei fod yn Dad cariadus a charedig i Iesu?

9 Oherwydd ei fod yn Dad cariadus, sicrhaodd Jehofa fod Iesu’n teimlo ei gefnogaeth. (Math. 26:53; Ioan 8:16) Er nad oedd Jehofa yn amddiffyn Iesu rhag pob niwed, helpodd iddo ddal ati yn wyneb treialon. Roedd Iesu’n gwybod y byddai unrhyw boen yr oedd yn ei dioddef ond yn para dros dro. (Heb. 12:2) Dangosodd Jehofa ei fod yn gofalu am Iesu drwy wrando arno, gofalu amdano, ei hyfforddi, a’i gefnogi. (Ioan 5:20; 8:28) Gad inni weld sut mae ein Tad nefol yn gofalu amdanon ninnau mewn ffyrdd tebyg.

SUT MAE EIN TAD CARIADUS YN GOFALU AMDANON NI?

Mae Tad dynol cariadus yn (1) gwrando ar, (2) gofalu am, (3) hyfforddi, a (4) amddiffyn ei blant. Mae ein Tad nefol cariadus yn gofalu amdanon ni mewn ffyrdd tebyg (Gweler paragraffau 10-15) *

10. Yn ôl Salm 66:19, 20, sut mae Jehofa yn dangos ei fod yn ein caru ni?

10 Mae Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau. (Darllen Salm 66:19, 20.) Dydy ef ddim eisiau inni gyfyngu ar ein gweddïau; mae’n ein hannog ni i weddïo’n aml. (1 Thes. 5:17) Gallwn ni weddïo ar Jehofa unrhyw bryd, ni waeth lle rydyn ni. Dydy ef byth yn rhy brysur i wrando arnon ni; mae bob tro ar gael ac yn gwrando’n astud. Pan fyddwn ni’n sylweddoli bod Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau, rydyn ni’n ei garu’n fwy byth. “Dw i wir yn caru’r ARGLWYDD,” meddai’r salmydd, “am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.”—Salm 116:1.

11. Sut mae Jehofa yn ymateb i’n gweddïau?

11 Mae Jehofa yn gwneud mwy na gwrando ar ein gweddïau yn unig, mae’n eu hateb nhw hefyd. Mae’r apostol Ioan yn rhoi sicrwydd inni fod Duw yn “gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad.” (1 Ioan 5:14, 15) Wrth gwrs, efallai na fydd Jehofa yn ateb ein gweddïau mewn ffordd rydyn ni’n ei disgwyl. Mae’n gwybod beth sydd orau inni, felly weithiau na yw’r ateb, neu mae eisiau inni ddisgwyl.—2 Cor. 12:7-9.

12-13. Ym mha ffyrdd mae ein Tad nefol yn gofalu amdanon ni?

12 Mae Jehofa yn gofalu amdanon ni. Mae’n gwneud yr hyn mae’n gofyn i bob tad ei wneud. (1 Tim. 5:8) Mae’n gofalu am anghenion materol ei blant. Dydy ef ddim eisiau inni boeni am fwyd, dillad, na lloches. (Math. 6:32, 33; 7:11) Hefyd, fel rhiant cariadus, mae Jehofa wedi trefnu inni gael yr hyn bydd ei angen arnon ni yn y dyfodol.

13 Yn bwysicaf oll, mae Jehofa’n gofalu am ein hanghenion ysbrydol. Drwy ei Air, mae wedi datgelu gwirioneddau amdano’i hun, ei bwrpas, ystyr bywyd, a’r dyfodol. Dangosodd ddiddordeb personol ynon ni pan ddysgon ni’r gwirionedd, gan ddefnyddio ein rhieni neu athrawon eraill i’n helpu ni i ddod i’w adnabod ef. Ac rydyn ni’n parhau i dderbyn ei help trwy henuriaid cariadus yn y gynulleidfa a brodyr a chwiorydd aeddfed eraill. Ar ben hynny, mae Jehofa yn ein hyfforddi trwy’r cyfarfodydd, lle rydyn ni’n dysgu ochr yn ochr â’n teulu ysbrydol. Trwy hyn a mwy mae Jehofa yn dangos ei ddiddordeb tadol ym mhob un ohonon ni.—Salm 32:8.

14. Pam mae Jehofa yn ein disgyblu ni, a sut mae’n gwneud hynny?

14 Mae Jehofa yn ein hyfforddi ni. Yn wahanol i Iesu, rydyn ni’n amherffaith. Felly, fel rhan o’n hyfforddiant, mae ein Tad cariadus yn ein disgyblu ni pan fydd angen. Mae ei Air yn ein hatgoffa: “Mae’r Arglwydd yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru.” (Heb. 12:6, 7) Mae Jehofa yn ein disgyblu ni mewn sawl ffordd. Er enghraifft, efallai byddwn ni’n darllen rhywbeth yn ei Air neu’n clywed rhywbeth yn y cyfarfod a fydd yn gwneud inni sylweddoli bod rhaid inni gywiro rhywbeth yn ein meddyliau neu’n gweithredoedd. Neu efallai bydd yr help sydd ei angen arnon ni yn dod o’r henuriaid. Ni waeth o le mae’n dod, cariad yw’r rheswm mae Jehofa yn ein disgyblu.—Jer. 30:11.

15. Ym mha ffyrdd mae Jehofa yn ein hamddiffyn?

15 Mae Jehofa yn ein cynnal ni drwy ein treialon. Fel mae tad dynol cariadus yn cynnal ei blant yn ystod adegau anodd, mae ein Tad nefol yn ein cynnal ninnau yn ein treialon. Mae’n defnyddio ei ysbryd glân i’n hamddiffyn ni rhag niwed ysbrydol. (Luc 11:13) Mae Jehofa hefyd yn ein hamddiffyn ni’n emosiynol. Er enghraifft, mae’n rhoi gobaith bendigedig inni. Mae’r gobaith hwnnw yn ein helpu ni i ddal ati yn ystod adegau anodd. Ystyria hyn: Ni waeth pa bethau drwg sy’n digwydd inni, bydd Jehofa yn dad-wneud unrhyw niwed rydyn ni wedi ei ddioddef. Fydd ein problemau ddim yn para am byth, ond mi fydd y bendithion mae Jehofa yn eu rhoi.—2 Cor. 4:16-18.

FYDD EIN TAD BYTH YN CEFNU ARNON NI

16. Beth ddigwyddodd ar ôl i Adda anufuddhau i’w Dad cariadus?

16 Gwelwn dystiolaeth o gariad Jehofa tuag aton ni wrth edrych ar ei ymateb pan roedd Adda yn anufudd iddo. Ar ôl i Adda anufuddhau, collodd ei le yn nheulu hapus Jehofa, iddo ef ei hun a’i ddisgynyddion. (Rhuf. 5:12; 7:14) Ond, camodd Jehofa i mewn i’w helpu.

17. Unwaith i Adda wrthryfela, beth wnaeth Jehofa?

17 Er bod Jehofa wedi cosbi Adda, rhoddodd obaith i’w ddisgynyddion. Addawodd ar unwaith y byddai dynolryw ufudd yn cael bod yn rhan o’i deulu eto. (Gen. 3:15; Rhuf. 8:20, 21) Trefnodd Jehofa hynny ar sail pridwerth aberthol ei Fab annwyl, Iesu. Drwy roi ei Fab ar ein rhan, dangosodd Jehofa cymaint y mae’n ein caru.—Ioan 3:16.

Os ydyn ni wedi crwydro oddi wrth Duw ond yn edifeiriol, bydd ein Tad cariadus, Jehofa, yn barod i’n croesawu ni yn ôl (Gweler paragraff 18)

18. Pam gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa eisiau inni fod yn blant iddo, hyd yn oed os ydyn ni wedi crwydro oddi wrtho?

18 Er ein bod ni’n amherffaith, mae Jehofa eisiau inni fod yn rhan o’i deulu, a fydd ef byth yn teimlo ein bod ni’n faich arno. Efallai byddwn ni’n ei siomi neu’n crwydro oddi wrtho am sbel, ond mae Jehofa wastad yn gobeithio y down ni yn ein holau. Dangosodd Iesu gymaint mae Jehofa yn ein caru ni fel plant drwy ddameg y mab colledig. (Luc 15:11-32) Wnaeth y tad yn y ddameg honno erioed roi’r gorau i obeithio y byddai ei fab yn dychwelyd adref. Pan ddaeth ei fab yn ôl, croesawodd ef â breichiau agored. Os ydyn ni wedi crwydro oddi wrth Jehofa ond yn edifeiriol, gallwn ni fod yn sicr fod ein Tad cariadus yn barod i’n croesawu ni yn ôl.

19. Sut bydd Jehofa yn trwsio’r niwed a achosodd Adda?

19 Bydd ein Tad yn trwsio’r holl niwed a achosodd Adda. Ar ôl i Adda wrthryfela, penderfynodd Jehofa fabwysiadu 144,000 o bobl a fydd yn gwasanaethu fel brenhinoedd ac offeiriaid yn y nefoedd gyda’i Fab. Yn y byd newydd, bydd Iesu a’i gyd-reolwyr yn helpu pobl ufudd i fod yn berffaith. Ar ôl iddyn nhw basio prawf olaf ar eu hufudd-dod, bydd Duw yn rhoi bywyd tragwyddol iddyn nhw. Wedyn bydd ein Tad yn hapus i weld y ddaear wedi’i llenwi â’i feibion a’i ferched perffaith. Am adeg ogoneddus sydd o’n blaenau!

20. Ym mha ffyrdd mae Jehofa wedi dangos ei fod yn ein caru ni’n fawr, a beth bydd yr erthygl nesaf yn ei drafod?

20 Mae Jehofa wedi dangos ei fod yn ein caru ni’n fawr iawn. Ef yw’r Tad gorau oll. Mae’n clywed ein gweddïau ac yn rhoi inni’r hyn rydyn ni’n ei angen, yn gorfforol ac yn ysbrydol. Mae’n ein hyfforddi ni ac yn ein cynnal ni. Hefyd, mae ganddo fendithion gwych ar ein cyfer yn y dyfodol. Mae’n eli i’r galon i wybod bod ein Tad yn ein caru ni ac yn gofalu amdanon ni! Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwn ni, fel plant iddo, ymateb i’w gariad.

CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw

^ Par. 5 Rydyn ni’n gyfarwydd â Jehofa fel ein Creawdwr a’n Harglwydd Hollalluog. Ond, mae gennyn ni resymau da dros ei ystyried fel Tad cariadus a charedig. Bydd yr erthygl hon yn trafod y rhesymau hynny. Byddwn ni hefyd yn trafod pam gallwn ni fod yn sicr na fydd Jehofa yn cefnu arnon ni.

^ Par. 59 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Mae pob golygfa yn dangos tad gyda’i blentyn: tad yn gwrando’n astud ar ei fab, tad yn gofalu am anghenion ei ferch, tad yn hyfforddi ei fab, a thad yn cysuro ei fab. Mae llaw Jehofa, sydd y tu ôl i’r golygfeydd, yn ein hatgoffa bod Jehofa yn gofalu amdanon ninnau mewn ffyrdd tebyg.