Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 9

Gad i Jehofa Dy Gysuro Di

Gad i Jehofa Dy Gysuro Di

“Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.”—SALM 94:19.

CÂN 44 Gweddi’r Un Mewn Angen

CIPOLWG *

1. Beth all achosi pryder, a sut effaith gall hyn ei gael arnon ni?

A WYT ti erioed wedi pryderu’n fawr am rywbeth? * Efallai dy fod ti’n pryderu oherwydd i rywun ddweud neu wneud rhywbeth a wnaeth dy frifo di. Neu efallai dy fod ti’n poeni am rywbeth rwyt ti wedi ei ddweud neu ei wneud. Er enghraifft, efallai dy fod ti wedi gwneud camgymeriad, ac yn poeni na fydd Jehofa byth yn maddau iti. Ar ben hynny, efallai rwyt ti’n credu bod gen ti ddiffyg ffydd oherwydd iti gael dy lethu gan bryder—mae’n rhaid dy fod ti’n berson drwg. Ond ydy hynny’n wir?

2. Pa esiamplau o’r Beibl sy’n dangos nad ydy pryder yn golygu bod gennyn ni ddiffyg ffydd?

2 Ystyria rhai esiamplau o’r Beibl. Roedd gan Hanna, a ddaeth yn fam i’r proffwyd Samuel, lawer o ffydd. Ond cafodd ei llethu gan bryder pan wnaeth aelod o’r teulu ei thrin yn gas. (1 Sam. 1:7) Roedd gan yr apostol Paul ffydd gref, ond roedd yn gwegian o dan bwysau ei gonsýrn dros y gynulleidfa. (2 Cor. 11:28) Roedd ffydd y Brenin Dafydd yn gryf, ac roedd Jehofa’n ei garu’n fawr. (Act. 13:22) Ond er hynny, gwnaeth camgymeriadau Dafydd achosi iddo ddioddef pyliau o bryder a oedd yn ei lorio. (Salm 38:4) Gwnaeth Jehofa gysuro pob un ohonyn nhw a thawelu eu hysbryd. Gad inni ystyried beth gallwn ni ei ddysgu o’u hesiamplau.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU O FFYDD HANNA?

3. Sut gall geiriau eraill achosi inni bryderu?

3 Efallai byddwn ni’n pryderu pan fydd eraill yn dweud neu’n gwneud rhywbeth angharedig. Mae hynny’n wir yn enwedig os mai ffrind agos neu berthynas yw’r un sydd wedi ein brifo ni. Efallai byddwn ni’n poeni bod ein perthynas gyda’r person hwnnw wedi ei difetha. Ar adegau, gallan nhw ein brifo ni drwy siarad yn fyrbwyll, gan wneud inni deimlo fel petasen ni’n cael ein trywanu â chleddyf! (Diar. 12:18) Neu gall rhywun ddewis geiriau yn fwriadol er mwyn ein brifo. Digwyddodd rhywbeth tebyg i chwaer ifanc. “Ychydig o flynyddoedd yn ôl,” meddai, “dechreuodd rhywun oeddwn i’n ystyried fel ffrind da gario clecs amdana’ i ar-lein. Wnaeth hynny frifo a gwneud imi bryderu. Oeddwn i’n methu deall pam y byddai hi eisiau rhoi cyllell yn fy nghefn i fel ’na.” Os ydy ffrind agos neu berthynas wedi dy frifo di, gelli di ddysgu llawer oddi wrth Hanna.

4. Pa broblemau anodd roedd rhaid i Hanna eu hwynebu?

4 Roedd rhaid i Hanna ddelio â phroblemau anodd. Am flynyddoedd lawer, roedd hi’n methu cael plant. (1 Sam. 1:2) Roedd llawer o Israeliaid yn credu, os nad oedd dynes yn gallu cael plant, doedd bendith Duw ddim arni. Felly teimlodd Hanna gywilydd mawr. (Gen. 30:1, 2) Ar ben hynny, roedd gan ŵr Hanna wraig arall, Penina, a roddodd blant iddo. Roedd Penina’n cenfigennu wrth Hanna ac “yn arfer herian Hanna yn arw a’i phryfocio.” (1 Sam. 1:6) Cafodd Hanna drafferth i ddelio â’r heriau hyn. Roedd hi wedi ypsetio gymaint “nes ei bod yn crio ac yn gwrthod bwyta.” Roedd hi’n “torri ei chalon.” (1 Sam. 1:7, 10) Sut cafodd Hanna ei chysuro?

5. Sut gwnaeth gweddïo helpu Hanna?

5 Tywalltodd Hanna ei chalon mewn gweddi i Jehofa. Ar ôl iddi weddïo, esboniodd ei sefyllfa i’r Archoffeiriad Eli. “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai yntau, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.” Beth oedd y canlyniad? Aeth Hanna “i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.” (1 Sam. 1:17, 18) Gwnaeth gweddïo helpu Hanna i adennill heddwch meddwl.

Sut gallwn ni, fel Hanna, adennill a chadw ein heddwch mewnol? (Gweler paragraffau 6-10)

6. Pa wersi ynglŷn â gweddïo gallwn ni eu dysgu oddi wrth Hanna a Philipiaid 4:6, 7?

6 Gallwn ni adennill ein heddwch os ydyn ni’n dal ati i weddïo. Treuliodd Hanna lawer o amser yn siarad â’i Thad nefol. (1 Sam. 1:12) Gallwn ninnau hefyd siarad am yn hir â Jehofa ynglŷn â’n pryderon, ein hofnau, a’n gwendidau. Does dim rhaid i’n gweddïau fod yn berffaith nac yn farddonol. Efallai weithiau byddwn ni’n beichio crio wrth inni ddweud wrth Jehofa am ein gofid. Ac eto, ni fydd Jehofa byth yn blino ar wrando arnon ni. Yn ogystal â gweddïo am ein problemau, mae angen inni gofio’r cyngor yn Philipiaid 4:6, 7. (Darllen.) Dywedodd Paul y dylen ni ddiolch i Jehofa yn ein gweddïau. Mae gennyn ni lawer o resymau dros ddiolch i Jehofa. Er enghraifft, gallwn ni ddiolch iddo am roi bywyd inni, am ei greadigaeth, am ei gariad ffyddlon, ac am y gobaith bendigedig mae wedi’i rhoi inni. Beth arall gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Hanna?

7. Ble roedd Hanna a’i gŵr yn mynd yn rheolaidd?

7 Er gwaethaf ei phroblemau, aeth Hanna a’i gŵr yn rheolaidd i addoldy Jehofa yn Seilo. (1 Sam. 1:1-5) Pan aeth Hanna i’r tabernacl, cafodd ei chysuro ar ôl clywed geiriau caredig yr Archoffeiriad Eli a oedd yn dymuno fod Jehofa yn ateb ei gweddi.—1 Sam. 1:9, 17.

8. Sut gall cyfarfodydd ein helpu ni? Esbonia.

8 Gallwn ni adennill ein heddwch os ydyn ni’n dal ati i fynd i’r cyfarfodydd. Yn aml ar gychwyn ein cyfarfodydd, mae brawd yn gweddïo am i ysbryd Duw fod gyda ni. Mae heddwch yn rhan o ffrwyth yr ysbryd hwnnw. (Gal. 5:22) Pan fyddwn ni’n mynd i’n cyfarfodydd, er ein bod ni’n llawn pryderon, byddwn ni’n rhoi cyfle i Jehofa a’n brodyr a’n chwiorydd ein hannog a’n helpu i adennill heddwch meddwl. Mae gweddi a chyfarfodydd yn ddau beth pwysig y mae Jehofa yn eu defnyddio i’n cysuro ni. (Heb. 10:24, 25) Gad inni drafod gwers arall gallwn ni ei dysgu o brofiad Hanna.

9. Yn achos Hanna, beth arhosodd yr un fath, a beth newidiodd?

9 Ni wnaeth problemau Hanna ddiflannu ar unwaith. Ar ôl iddi gyrraedd adref o addoli yn y tabernacl, roedd rhaid iddi barhau i fyw o dan yr un to â Penina. A dydy’r Beibl ddim yn dweud bod agwedd Penina wedi newid. Felly mae’n debyg roedd rhaid i Hanna barhau i oddef geiriau cas Penina. Ond llwyddodd Hanna i adennill a dal gafael ar ei heddwch mewnol. Ar ôl gadael ei phryderon yn nwylo Jehofa, ni wnaeth Hanna boeni bellach. Gadawodd i Jehofa ei chysuro hi. Ac ymhen amser, cafodd ei bendithio â’i phlant ei hun!—1 Sam. 1:19, 20; 2:21.

10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Hanna?

10 Gallwn ni adennill ein heddwch hyd yn oed os ydy’r broblem dal yn bodoli. Er inni weddïo’n daer a mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, mae rhai problemau yn parhau. Ond dysgwn o esiampl Hanna fod dim byd yn gallu rhwystro Jehofa rhag tawelu ein calonnau aflonydd. Ni fydd Jehofa byth yn anghofio amdanon ni, ac yn hwyr neu’n hwyrach bydd ef yn ein gwobrwyo am ein ffyddlondeb.—Heb. 11:6.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU ODDI WRTH YR APOSTOL PAUL?

11. Pa resymau oedd gan Paul dros bryderu?

11 Roedd gan Paul lawer o resymau dros bryderu. Er enghraifft, oherwydd ei fod yn caru ei frodyr a chwiorydd gymaint, roedd eu problemau nhw yn pwyso’n drwm ar ei feddwl. (2 Cor. 2:4; 11:28) Tra oedd Paul yn pregethu, roedd gwrthwynebwyr yn ei guro, ac fe gafodd ei luchio i’r carchar. Roedd rhaid iddo hefyd oddef anawsterau a oedd yn achosi iddo boeni, fel bod yn “brin” o bethau bob dydd. (Phil. 4:12) A gan ei fod wedi cael ei longddryllio o leiaf dair gwaith, gallwn ni ond ddychmygu ei bryder wrth iddo deithio ar gwch. (2 Cor. 11:23-27) Sut gwnaeth Paul ddelio â’i bryderon?

12. Beth helpodd i leihau pryderon Paul?

12 Roedd Paul yn poeni dros ei frodyr a chwiorydd a oedd yn wynebu problemau, ond wnaeth ef ddim ceisio datrys eu problemau ar ei ben ei hun. Roedd Paul yn cydnabod yr hyn oedd yn gallu ei wneud. Gofynnodd i eraill ei helpu i ofalu am y gynulleidfa. Er enghraifft, rhoddodd gyfrifoldebau i ddynion dibynadwy fel Timotheus a Titus. Heb os, roedd gwaith y brodyr hynny yn lleihau pryderon Paul.—Phil. 2:19, 20; Titus 1:1, 4, 5.

Yn debyg i Paul, beth gallwn ni ei wneud i osgoi cael ein llethu gan bryder? (Gweler paragraffau 13-15)

13. Sut gall henuriaid efelychu Paul?

13 Gofynna i eraill dy helpu di. Yn debyg i Paul, mae llawer o henuriaid caredig heddiw yn poeni dros rai yn y gynulleidfa sy’n wynebu treialon. Ond does dim ond hyn a hyn gall henuriad ei wneud ar ei ben ei hun. Bydd gwyleidd-dra yn ei gymell i rannu’r baich â dynion cymwys eraill ac i hyfforddi dynion ifanc i’w helpu i ofalu am braidd Duw.—2 Tim. 2:2.

14. Beth oedd Paul ddim yn poeni amdano, a beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl?

14 Cydnabydda dy fod ti angen cysur. Roedd Paul yn ostyngedig, felly aeth at ei ffrindiau am anogaeth. Yn amlwg doedd Paul ddim yn poeni y byddai pobl eraill yn meddwl ei fod yn wan oherwydd ei fod angen cysur gan eraill. Yn ei lythyr at Philemon, dywedodd Paul: “Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi.” (Philem. 7) Soniodd Paul am nifer o gyd-weithwyr eraill a gododd ei galon yn ystod cyfnodau anodd. (Col. 4:7-11) Pan fyddwn ni’n ostyngedig ac yn cydnabod bod angen anogaeth arnon ni, bydd ein brodyr a’n chwiorydd yn hapus i roi’r gefnogaeth rydyn ni’n ei angen.

15. Beth a wnaeth Paul yn wyneb sefyllfa ofidus?

15 Dibynna ar Air Duw. Roedd Paul yn gwybod y byddai’r Ysgrythurau yn ei gysuro. (Rhuf. 15:4) Bydden nhw hefyd yn rhoi’r doethineb iddo allu wynebu unrhyw dreial. (2 Tim. 3:15, 16) Yn ystod ei ail garchariad yn Rhufain, synhwyrodd Paul fod ei ddiwedd yn agos. Yn wyneb y sefyllfa ofidus honno, beth a wnaeth Paul? Gofynnodd i Timotheus ddod yn fuan ac iddo ddod “â’r sgroliau.” (2 Tim. 4:6, 7, 9, 13) Pam? Oherwydd mae’n debyg roedd y sgroliau hynny yn cynnwys rhannau o’r Ysgrythurau Hebraeg y gallai Paul eu defnyddio yn ei astudiaeth bersonol. Pan fyddwn ni’n efelychu Paul drwy astudio Gair Duw yn rheolaidd, bydd Jehofa yn defnyddio’r Ysgrythurau i’n cysuro ninnau, ni waeth pa dreialon rydyn ni’n eu hwynebu.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU ODDI WRTH Y BRENIN DAFYDD?

Fel yn achos Dafydd, beth gall ein helpu ni os byddwn ni’n gwneud camgymeriad difrifol? (Gweler paragraffau 16-19)

16. Sut roedd Dafydd yn teimlo ar ôl iddo wneud camgymeriad difrifol?

16 Roedd gan y Brenin Dafydd reswm dros frwydro â chydwybod euog. Roedd wedi godinebu â Bathseba, wedi trefnu i ladd ei gŵr, ac yna wedi ceisio cuddio ei drosedd. (2 Sam. 12:9) Ar y cychwyn, gwnaeth Dafydd anwybyddu ei gydwybod. Gwnaeth hyn achosi iddo ddioddef yn ysbrydol, ond hefyd yn feddyliol ac yn gorfforol. (Salm 32:3, 4) Beth helpodd Dafydd i ddelio â’r pryder a ddaeth arno’i hun, a beth all ein helpu ni os ydyn ni’n gwneud camgymeriad difrifol?

17. Sut mae Salm 51:1-4 yn dangos bod Dafydd wedi edifarhau o’r galon?

17 Gweddïa am faddeuant. Ymhen amser, gweddïodd Dafydd ar Jehofa. Edifarhaodd o’r galon, a chyfaddef ei holl bechodau. (Darllen Salm 51:1-4.) Cafodd gymaint o ryddhad ar ôl wneud hynny! (Salm 32:1, 2, 4, 5) Os wyt ti wedi pechu’n ddifrifol, paid â cheisio ei guddio. Yn hytrach, gweddïa ar Jehofa a dweud wrtho am bopeth wnest ti. Byddi di wedyn yn teimlo ychydig o ryddhad rhag cydwybod euog. Ond os wyt ti eisiau adennill dy berthynas â Jehofa, mae’n rhaid iti wneud mwy na gweddïo.

18. Sut gwnaeth Dafydd ymateb i ddisgyblaeth?

18 Derbynia ddisgyblaeth. Pan anfonodd Jehofa y proffwyd Nathan i siarad â Dafydd am ei bechodau, wnaeth Dafydd ddim ceisio esgusodi’r hyn a wnaeth. Cyfaddefodd ar unwaith ei fod wedi pechu nid yn unig yn erbyn gŵr Bathseba ond, yn fwy byth, yn erbyn Jehofa. Derbyniodd Dafydd ddisgyblaeth gan Jehofa, felly gwnaeth Jehofa faddau iddo. (2 Sam. 12:10-14) Os ydyn ni wedi pechu’n ddifrifol, mae angen inni siarad â’r rhai mae Jehofa wedi eu penodi i’n bugeilio ni. (Iago 5:14, 15) Ac mae’n rhaid inni wrthod yr awydd i gyfiawnhau ein hunain. Cyntaf yn y byd y byddwn ni’n derbyn ac yn gweithredu ar y ddisgyblaeth, cyntaf yn y byd y byddwn ni’n adennill ein heddwch a’n llawenydd.

19. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

19 Bydda’n benderfynol o osgoi ailadrodd yr un camgymeriadau. Gwyddai’r Brenin Dafydd ei fod angen help Jehofa er mwyn osgoi ailadrodd yr un pechodau. (Salm 51:7, 10, 12) Ar ôl iddo gael maddeuant Jehofa, roedd Dafydd yn benderfynol o wrthod meddyliau anghywir. O ganlyniad, adenillodd ei heddwch mewnol.

20. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi maddeuant Jehofa?

20 Byddwn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi maddeuant Jehofa pan fyddwn ni’n gweddïo amdano, yn derbyn disgyblaeth, ac yn ymdrechu i osgoi ailadrodd ein camgymeriadau. Drwy wneud y pethau hyn, byddwn ni’n adennill ein heddwch mewnol. Cafodd brawd o’r enw James brofiad o hyn ar ôl iddo bechu. Dywedodd: “Ar ôl imi gyfaddef fy mhechodau i’r henuriaid, teimlais fod pwysau trwm wedi codi oddi ar fy ysgwyddau. Dechreuais adennill fy heddwch meddwl.” Mae’n galondid i wybod bod Jehofa “yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.

21. Sut gallwn ni adael i Jehofa ein cysuro ni?

21 Gan ein bod ni mor agos at ddiwedd y system hon, bydd mwy a mwy o bethau yn achosi inni bryderu. Pan fydd pryderon yn llenwi dy feddwl di, gweddïa ar Jehofa ar unwaith. Astudia’r Beibl yn ofalus. Dysga o’r esiamplau a osododd Hanna, Paul, a Dafydd. Gofynna i dy Dad nefol am help i ddeall y rhesymau dros dy bryder. (Salm 139:23) Gad iddo gario dy feichiau, yn enwedig y rhai nad oes gen ti lawer o reolaeth drostyn nhw. Os byddi di’n gwneud hyn, gelli di deimlo fel y salmydd a ganodd i Jehofa: “Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.”—Salm 94:19.

CÂN 4 Jehofa Yw Fy Mugail

^ Par. 5 Rydyn ni i gyd yn poeni ar adegau ynglŷn â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu. Bydd yr erthygl hon yn trafod esiamplau tri o weision Jehofa adeg y Beibl a oedd yn brwydro pryderon. Bydd hefyd yn trafod sut gwnaeth Jehofa gysuro pob un ohonyn nhw a thawelu eu hysbryd.

^ Par. 1 ESBONIAD: Pryder ydy pan fyddwn ni’n ofni rhywbeth neu’n poeni amdano. Gall hyn ddigwydd o ganlyniad i broblemau ariannol, salwch, problemau teuluol, neu broblemau eraill. Gallwn ni hefyd bryderu dros gamgymeriadau’r gorffennol neu broblemau efallai y cawn ni yn y dyfodol.