Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?

A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?

“Mae bedydd . . . yn eich achub chi.”—1 PEDR 3:21.

CÂN 28 Cael Bod yn Ffrind Jehofa

CIPOLWG *

1. Beth dylai rhywun ei wneud cyn dechrau adeiladu tŷ?

DYCHMYGA fod rhywun yn penderfynu adeiladu tŷ. Mae’n gwybod pa fath o dŷ y mae eisiau ei adeiladu. A ddylai ef fynd allan yn syth i brynu nwyddau a dechrau adeiladu? Na. Cyn iddo gychwyn, mae ’na rywbeth pwysig sy’n rhaid iddo ei wneud, sef cyfri cost adeiladu’r tŷ. Pam? Achos mae’n rhaid iddo wybod a oes ganddo ddigon o arian i orffen adeiladu’r tŷ. Os yw’n cyfri’r gost yn ofalus cyn cychwyn, mae’n fwy tebygol o orffen ei dŷ newydd.

2. Yn ôl Luc 14:28-30, beth dylet ti feddwl o ddifri amdano cyn cael dy fedyddio?

2 Ydy dy gariad tuag at Jehofa a dy werthfawrogiad am beth mae wedi ei wneud i ti wedi dy ysgogi di i feddwl am gael dy fedyddio? Os felly, rwyt ti angen gwneud penderfyniad tebyg i’r dyn sydd eisiau adeiladu tŷ. Pam gallwn ni ddweud hynny? Ystyria eiriau Iesu yn Luc 14:28-30 (Darllen.) Roedd Iesu’n sôn am beth mae’n ei olygu i fod yn ddisgybl iddo. Er mwyn dilyn Iesu, rhaid inni fod yn barod i dderbyn “y gost” sydd ynghlwm â hynny—yr heriau a’r aberthau. (Luc 9:23-26; 12:51-53) Felly cyn iti gael dy fedyddio, mae’n rhaid iti feddwl yn ofalus am bopeth mae hynny’n ei olygu. Yna, byddi di’n fwy parod i barhau i wasanaethu Duw yn ffyddlon fel Cristion bedyddiedig.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Ydy cael dy fedyddio yn un o ddisgyblion Crist yn werth y gost? Wrth gwrs! Mae bedydd yn agor y drws i fendithion di-rif, nawr ac yn y dyfodol. Gad inni drafod rhai cwestiynau pwysig am fedydd. Bydd hyn yn dy helpu i ateb y cwestiwn, “Ydw i’n barod i gael fy medyddio?”

BETH RWYT TI ANGEN EI WYBOD AM YMGYSEGRIAD A BEDYDD?

4. (a) Beth yw ymgysegriad? (b) Beth mae’n ei olygu i ‘stopio rhoi dy hun gyntaf,’ fel mae Mathew 16:24 yn ei grybwyll?

4 Beth yw ymgysegriad? Cyn iti gael dy fedyddio, mae’n rhaid iti wneud ymgysegriad. Mae hynny’n golygu gweddïo’n daer ar Jehofa a dweud wrtho y byddi di’n defnyddio dy fywyd i’w wasanaethu ef am byth. Pan wyt ti’n dy gysegru dy hun i Dduw, rwyt ti’n ‘stopio rhoi dy hun gyntaf.’ (Darllen Mathew 16:24.) Nawr, rwyt ti’n perthyn i Jehofa, sy’n fraint anhygoel. (Rhuf. 14:8) Rwyt ti’n dweud wrtho y byddi di, o hyn ymlaen, yn canolbwyntio ar ei wasanaethu ef yn hytrach nag ar dy blesio dy hun. Mae dy ymgysegriad yn adduned—addewid pwysig rwyt ti’n ei wneud i Dduw. Dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi ni i wneud adduned o’r fath. Ond pan wnawn ni, mae ef yn disgwyl inni ei chadw.—Salm 116:12, 14.

5. Beth yw’r cysylltiad rhwng ymgysegriad a bedydd?

5 Beth yw’r cysylltiad rhwng ymgysegriad a bedydd? Mae dy ymgysegriad yn breifat ac yn bersonol—rhyngot ti a Jehofa. Mae bedydd yn gyhoeddus ac yn digwydd o flaen eraill, fel arfer yn ystod cynulliad neu gynhadledd. Pan gei di dy fedyddio, rwyt ti’n dangos i eraill dy fod wedi ymgysegru i Jehofa yn barod. * Felly, mae bedydd yn rhoi gwybod i eraill dy fod yn caru Jehofa â’th holl galon, enaid, meddwl, a nerth, a dy fod yn benderfynol o’i wasanaethu ef am byth.—Marc 12:30.

6-7. Yn ôl 1 Pedr 3:18-22, beth yw dau reswm pam mae bedydd yn angenrheidiol?

6 Ydy bedydd wir yn angenrheidiol? Ystyria’r geiriau yn 1 Pedr 3:18-22. (Darllen.) Yn union fel roedd yr arch yn dystiolaeth weladwy o ffydd Noa, mae dy fedydd di yn dystiolaeth weladwy o dy ymgysegriad i Jehofa. Ond ydy bedydd wir yn angenrheidiol? Ydy. Dywedodd Pedr y rheswm pam. Yn gyntaf, mae’n ‘dy achub di.’ Gall bedydd ein hachub ni os ydyn ni wedi cymryd y camau angenrheidiol i ddangos bod gennyn ni ffydd yn Iesu, a’n bod yn credu ei fod wedi marw droston ni, wedi cael ei atgyfodi i’r nef, a’i fod bellach ag awdurdod “ar ochr dde Duw.”

7 Yn ail, mae bedydd yn arwain at gydwybod lân. Pan fyddwn ni’n cysegru ein hunain i Dduw ac yn cael ein bedyddio, rydyn ni’n dechrau perthynas arbennig ag ef. Mae’n maddau ein pechodau oherwydd ein bod ni wedi gwir edifarhau ac am fod gennyn ni ffydd yn y pridwerth. Felly, gallwn ni gael cydwybod lân o’i flaen.

8. Beth ddylai fod yn sail i dy benderfyniad i gael dy fedyddio?

8 Beth ddylai fod yn sail i dy benderfyniad i gael dy fedyddio? O ganlyniad i dy astudiaeth fanwl o’r Beibl, rwyt ti wedi dysgu cryn dipyn am Jehofa—ei bersonoliaeth a’i ffyrdd. Mae’r hyn rwyt ti wedi ei ddysgu amdano wedi cyffwrdd dy galon ac wedi achosi iti ei garu’n fawr iawn. Dy gariad at Jehofa ddylai fod yn brif sail i dy benderfyniad i gael dy fedyddio.

9. Beth mae’n ei olygu i gael dy fedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân, fel mae Mathew 28:19, 20 yn ei ddweud?

9 Mae dy benderfyniad i gael dy fedyddio hefyd yn seiliedig ar y gwirioneddau Beiblaidd rwyt ti wedi dod i’w credu. Ystyria beth ddywedodd Iesu wrth roi’r gorchymyn i wneud disgyblion. (Darllen Mathew 28:19, 20.) Yn ôl Iesu, mae’n rhaid i’r rhai sydd yn cael eu bedyddio wneud hynny yn enw’r “Tad, a’r Mab a’r Ysbryd Glân.” Beth roedd hyn yn ei olygu? Mae’n rhaid iti gredu â dy holl galon pob un o wirioneddau’r Beibl am Jehofa; ei Fab, Iesu; a’r ysbryd glân. Mae’r gwirioneddau hyn yn bwerus iawn ac yn gallu cyffwrdd dy galon. (Heb. 4:12) Gad inni adolygu rhai ohonyn nhw.

10-11. Pa wirioneddau am y Tad rwyt ti wedi eu dysgu a’u derbyn?

10 Meddylia am yr adeg pan ddysgaist ti’r gwirioneddau hyn am y Tad: Jehofa yw ei enw, ef sydd “Oruchaf ar yr holl ddaear,” ac ef “sydd Dduw—yr unig un.” (Salm 83:18, BC; Esei. 37:16) Ef yw ein Creawdwr, ac ef “sy’n achub.” (Salm 3:8; 36:9) Mae wedi trefnu i’n hachub ni rhag pechod a marwolaeth ac wedi rhoi inni’r gobaith o fywyd tragwyddol. (Ioan 17:3) Bydd dy ymgysegriad a bedydd yn dangos dy fod yn un o Dystion Jehofa. (Esei. 43:10-12) Byddi di’n rhan o deulu byd-eang o addolwyr sy’n falch o ddwyn enw Duw a’i wneud yn hysbys i eraill.—Salm 86:12.

11 Am fraint ydy deall beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am y Tad! Pan fyddi di’n derbyn y gwirioneddau gwerthfawr hyn, bydd dy galon yn dy ysgogi di i ymgysegru i Jehofa a chael dy fedyddio.

12-13. Pa wirioneddau am y Mab rwyt ti wedi eu dysgu a’u derbyn?

12 Sut gwnest ti ymateb pan ddysgaist ti’r gwirioneddau canlynol am y Mab? Iesu yw’r person pwysicaf ond un yn y bydysawd. Rhoddodd ei fywyd yn bridwerth droston ni o’i wirfodd. Pan ydyn ni’n dangos drwy ein gweithredoedd fod gennyn ni ffydd yn y pridwerth, gallwn ni gael maddeuant am ein pechodau, dod yn ffrind i Dduw, a chael bywyd tragwyddol. (Ioan 3:16) Iesu yw ein Harchoffeiriad. Mae ef eisiau ein helpu i elwa ar y pridwerth a chael perthynas agos â Duw. (Heb. 4:15; 7:24, 25) Am mai ef yw Brenin Teyrnas Dduw, bydd Jehofa yn ei ddefnyddio i sancteiddio Ei enw, i gael gwared ar ddrygioni, a dod â bendithion diddiwedd yn y Baradwys sydd i ddod. (Math. 6:9, 10; Dat. 11:15) Iesu yw ein Hesiampl. (1 Pedr 2:21) Gosododd esiampl inni drwy ddefnyddio ei fywyd i wneud ewyllys Duw.—Ioan 4:34.

13 Drwy dderbyn beth mae’r Beibl yn ei ddysgu am Iesu, byddi di’n dod i garu Mab annwyl Duw. Bydd y cariad hwnnw yn dy ysgogi di i ddefnyddio dy fywyd i wneud ewyllys Duw, fel y gwnaeth Iesu. O ganlyniad, byddi di’n teimlo dy fod ti eisiau dy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.

14-15. Pa wirioneddau am yr ysbryd glân rwyt ti wedi eu dysgu a’u derbyn?

14 Sut roeddet ti’n teimlo pan ddysgaist ti’r gwirioneddau canlynol am yr ysbryd glân? Nid yw’n berson, ond grym gweithredol Duw. Defnyddiodd Jehofa’r ysbryd glân i ysbrydoli dynion i ysgrifennu’r Beibl, ac mae’r ysbryd yn ein helpu i ddeall a rhoi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen ynddo. (Ioan 14:26; 2 Pedr 1:21) Drwy gyfrwng ei ysbryd, mae Jehofa’n rhoi inni’r “grym anhygoel” sydd y tu hwnt i bob dychymyg. (2 Cor. 4:7) Mae’r ysbryd yn rhoi inni’r nerth i allu pregethu’r newyddion da, i wrthod temtasiynau, i ddelio â digalondid, ac i drechu treialon. Mae’n ein helpu ni i ddangos y rhinweddau hyfryd sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22) Mae Duw yn rhoi ei ysbryd yn hael i’r rhai sy’n ymddiried ynddo ac yn gofyn iddo o ddifri amdano.—Luc 11:13.

15 Am galonogol a chysurlon ydy gwybod bod pawb sy’n addoli Jehofa yn gallu dibynnu ar yr ysbryd glân i’w helpu nhw i wasanaethu Duw! Pan fyddi di’n derbyn y gwirioneddau rwyt ti wedi eu dysgu am yr ysbryd glân, byddi di eisiau dy gysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio.

16. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn ein trafodaeth hyd yma?

16 Mae dy benderfyniad i dy gysegru dy hun i Dduw a chael dy fedyddio yn un pwysig iawn. Fel y dysgon ni, mae’n rhaid iti fod yn barod i dderbyn y gost—yr heriau a’r aberthau. Ond mae’r bendithion yn troi’r fantol yn erbyn y gost. Gall bedydd dy achub di, ac mae’n arwain at gydwybod lân o flaen Duw. Mae’n rhaid i dy gariad at Jehofa Dduw fod yn brif sail i dy benderfyniad i gael dy fedyddio. Dylet ti hefyd gredu â dy holl galon y gwirioneddau rwyt ti wedi eu dysgu am y Tad, y Mab, a’r ysbryd glân. Ar ôl ystyried yr hyn rydyn ni wedi ei drafod hyd yma, sut byddet ti’n ateb y cwestiwn, “Ydw i’n barod i gael fy medyddio?”

BETH SY’N RHAID ITI EI WNEUD CYN ITI GAEL DY FEDYDDIO?

17. Beth yw rhai o’r camau sy’n rhaid eu cymryd cyn bedydd?

17 Os wyt ti’n teimlo dy fod yn barod i gael dy fedyddio, mae’n debyg dy fod bellach wedi cymryd nifer o gamau tuag at berthynas dda â Jehofa. * Oherwydd dy fod yn astudio’r Beibl yn rheolaidd, rwyt ti wedi dod i wybod cryn dipyn am Jehofa ac Iesu. Rwyt ti wedi datblygu ffydd. (Heb. 11:6) Rwyt ti’n ymddiried yn llwyr yn addewidion Jehofa a geir yn y Beibl, ac rwyt ti’n credu y gall dy ffydd yn aberth Iesu dy achub rhag pechod a marwolaeth. Rwyt ti wedi edifarhau am dy holl bechodau, hynny yw, rwyt ti’n teimlo’n wirioneddol sori am y pethau drwg wnest ti, ac rwyt ti wedi gofyn i Jehofa am ei faddeuant. Rwyt ti wedi newid cwrs, hynny yw, wedi gwrthod yn llwyr dy hen ffordd o fyw a dechrau byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. (Act. 3:19) Rwyt ti’n awyddus i rannu dy ffydd ag eraill. Dest ti’n gymwys i fod yn gyhoeddwr difedydd, a dechreuaist bregethu gyda’r gynulleidfa. (Math. 24:14) Mae Jehofa yn falch ohonot ti am gymryd y camau angenrheidiol hyn. Rwyt ti wedi ei wneud yn hapus dros ben.—Diar. 27:11.

18. Beth arall sy’n rhaid iti ei wneud cyn y gelli di gael dy fedyddio?

18 Cyn iti allu cael dy fedyddio, mae ’na rai pethau eraill sy’n rhaid iti eu gwneud. Fel y dysgon ni ynghynt, mae’n rhaid iti gysegru dy hun i Dduw. Gweddïa arno’n daer ac yn breifat, ac addo iddo y byddi di’n defnyddio dy fywyd i wneud ei ewyllys. (1 Pedr 4:2) Yna, dyweda wrth gydlynydd y corff henuriaid dy fod ti eisiau cael dy fedyddio. Bydd yn gofyn i rai henuriaid gyfarfod â ti. Plîs paid â phryderu am gyfarfod â nhw. Cofia fod y brodyr annwyl hyn yn dy adnabod di’n barod, ac yn dy garu di. Byddan nhw’n adolygu gyda ti yr hyn rwyt ti wedi ei ddysgu o’r Beibl. Maen nhw eisiau sicrhau dy fod yn deall dysgeidiaethau sylfaenol y Beibl a dy fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ymgysegriad a bedydd. Os ydyn nhw’n cytuno dy fod yn barod, byddan nhw’n dweud wrthyt ti y gelli di gael dy fedyddio yn ystod y cynulliad neu gynhadledd nesaf.

BETH SY’N RHAID ITI EI WNEUD AR ÔL ITI GAEL DY FEDYDDIO?

19-20. Beth bydd angen i ti ei wneud ar ôl dy fedydd, a sut gelli di wneud hynny?

19 Unwaith iti gael dy fedyddio, beth bydd rhaid iti ei wneud? * Cofia fod dy ymgysegriad yn adduned, a bod Jehofa yn disgwyl iti ei chadw. Felly, ar ôl dy fedydd, mae’n rhaid iti gadw at dy ymgysegriad. Sut gelli di wneud hynny?

20 Arhosa’n agos at dy gynulleidfa. Fel Cristion bedyddiedig, rwyt ti nawr yn rhan o deulu o ‘gyd-Gristnogion.’ (1 Pedr 2:17) Dy frodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa yw dy deulu ysbrydol. Drwy fynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd, byddi di’n cryfhau dy berthynas â nhw. Darllena Air Duw a myfyrio arno bob dydd. (Salm 1:1, 2) Ar ôl darllen rhan o’r Beibl, treulia ychydig o amser yn meddwl yn ddwys am yr hyn rwyt ti newydd ei ddarllen. Yna, bydd y geiriau yn cyrraedd dy galon. ‘Dal ati i weddïo.’ (Luc 18:1) Drwy weddïo’n daer, byddi di’n closio at Jehofa. “Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw.” (Math. 6:33, BCND) Gelli di wneud hynny drwy flaenoriaethu’r gwaith pregethu yn dy fywyd. Drwy bregethu’n rheolaidd, byddi di’n cadw dy ffydd yn gryf, ac efallai byddi di’n helpu eraill i gychwyn ar y ffordd i fywyd tragwyddol.—1 Tim. 4:16.

21. Beth bydd dy fedydd yn caniatáu iti ei gael?

21 Y penderfyniad pwysicaf byddi di’n ei wneud ydy cysegru dy hun i Jehofa a chael dy fedyddio. Mae’n wir fod ’na bris i’w dalu. Ond, ydy’n werth y gost? Yn bendant! Mae unrhyw broblemau y gallet ti eu hwynebu yn yr hen fyd ’ma yn ysgafn, a “fyddan nhw ddim yn para’n hir.” (2 Cor. 4:17) Ar y llaw arall, bydd dy fedydd yn agor y ffordd i fywyd hapusach nawr ac i’r ‘bywyd go iawn’ sydd i ddod. (1 Tim. 6:19) Ar bob cyfri, meddylia’n ofalus a gweddïa am dy ateb i’r cwestiwn, “Ydw i’n barod i gael fy medyddio?”

CÂN 50 Fy Ngweddi Wrth Ymgysegru

^ Par. 5 A wyt ti’n meddwl am gael dy fedyddio? Os felly, mae’r erthygl hon wedi ei hysgrifennu’n arbennig i ti. Byddwn ni’n trafod rhai cwestiynau allweddol ar y pwnc pwysig hwn. Bydd dy atebion yn dy helpu i benderfynu a wyt ti’n barod i gael dy fedyddio.

^ Par. 19 Os nad wyt ti wedi gorffen dy astudiaeth o’r llyfrau Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? a Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” dylet ti barhau i astudio gydag athro y Beibl nes iti orffen y ddau lyfr.