Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Pwy oedd heddlu Iddewig y deml? Beth oedd eu dyletswyddau?

Roedd gan rai o’r Lefiaid nad oedd yn offeiriaid ddyletswyddau eraill, megis gwasanaethu fel heddweision. Roedd hyn o dan arweiniad capten y deml. Disgrifiodd yr ysgrifennwr Iddewig Philo rai o ddyletswyddau’r swyddogion hyn: “Mae rhai [o’r Lefiaid] yn gwasanaethu fel porthorion wrth bob mynediad, eraill yn gwarchod o fewn [ardal y deml] ac o flaen y cysegr i rwystro unrhyw un heb hawl mynediad rhag cerdded i mewn, boed hynny’n fwriadol neu’n anfwriadol. Mae rhai yn mynd ar batrôl o’i chwmpas ac yn gweithio mewn shifftiau ddydd a nos, yn gwarchod ardal y deml.”

Roedd heddlu’r deml ar gael i helpu’r Sanhedrin. Dyma’r unig lu arfog Iddewig a ganiatawyd gan y Rhufeiniaid.

Yn ôl yr ysgolhaig Joachim Jeremias, “Mae cerydd Iesu pan ddywedodd ei fod wedi bod yn y deml bob dydd yn dysgu’r bobl heb gael ei arestio (Math 26:55), yn gwneud mwy o synnwyr pan ddeallwn mai heddlu’r Deml oedd y rhai a ddaeth i’w arestio.” Credodd yr un ysgrifennwr fod y rhai a anfonwyd i arestio Iesu cyn hynny hefyd yn swyddogion heddlu’r deml. (Ioan 7:32, 45, 46) Yn hwyrach ymlaen, cafodd swyddogion gyda’u capten eu gyrru allan i ddod â disgyblion Iesu o flaen y Sanhedrin, ac mae’n debygol mai y nhw oedd yn gyfrifol pan gafodd yr apostol Paul ei lusgo o’r deml.—Act. 4:1-3; 5:17-27; 21:27-30.