Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

“Dyma Ni! Anfon Ni!”

“Dyma Ni! Anfon Ni!”

A WYT ti’n gobeithio ehangu dy weinidogaeth drwy symud i rywle lle mae’r angen yn fwy, efallai i wlad dramor? Os felly, efallai byddi di’n elwa o brofiad Brawd a Chwaer Bergame.

Mae Jack a Marie-Line wedi gwasanaethu’n llawn amser gyda’i gilydd ers 1988. Mae ganddyn nhw enw da am addasu i wahanol sefyllfaoedd, ac maen nhw wedi derbyn llawer o aseiniadau yn Gwadelŵp a Giana Ffrengig. Cangen Ffrainc sy’n gofalu am y ddau le hyn erbyn hyn. Gad inni ofyn ambell i gwestiwn i Jack a Marie-Line.

Pam gwnaethoch chi ddechrau gwasanaethu’n llawn amser?

Marie-Line: Pan oeddwn i’n blentyn, yn tyfu fyny yn Gwadelŵp, byddwn i’n aml yn pregethu drwy’r dydd gyda fy mam, a oedd yn Dyst selog. Dw i’n caru pobl, felly cyn gynted imi orffen ysgol ym 1985, dechreuais arloesi.

Jack: Pan oeddwn i’n ifanc, oeddwn i wastad yng nghwmni gweision llawn amser a oedd wrth eu boddau yn y weinidogaeth. O’n i’n arloesi’n gynorthwyol yn ystod gwyliau ysgol. Ac weithiau ar y penwythnosau, roedden ni’n mynd ar y bws at yr arloeswyr yn eu tiriogaeth nhw. Roedden ni’n pregethu drwy’r dydd ac yn gorffen ar lan y môr. Cawson ni gymaint o hwyl!

Yn fuan ar ôl priodi Marie-Line ym 1988, dywedais wrtha’ fi’n hun, ‘’Dyn ni’n rhydd, pam na wnawn ni wneud mwy yn y weinidogaeth?’ Felly dechreuais arloesi gyda Marie-Line. Flwyddyn wedyn, ar ôl bod yn yr ysgol arloesi, cawson ni ein penodi fel arloeswyr arbennig. A chawson ni sawl aseiniad bendigedig yn Gwadelŵp cyn inni gael ein gwahodd i symud i Giana Ffrengig.

Mae’ch aseiniad wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Beth sydd wedi’ch helpu chi i addasu i amgylchiadau newydd? 

Marie-Line: Roedd y brodyr ym Methel Giana Ffrengig yn gwybod mai Eseia 6:8 oedd ein hoff adnod. Felly pan oedden nhw’n ffonio, yn aml bydden nhw’n dweud gan wenu, “’Dych chi’n cofio’ch hoff adnod?” Roedden ni’n gwybod yn syth fod aseiniad newydd ar y gweill, felly bydden ni’n ateb, “Dyma ni! Anfon ni!”

Byddwn ni’n trio peidio â chymharu ein haseiniad newydd â hen aseiniadau, oherwydd gallai hynny ddwyn ein llawenydd. Byddwn ni hefyd yn gwneud ymdrech i ddod i ’nabod ein brodyr a’n chwiorydd.

Jack: Yn y gorffennol, roedd rhai o’n ffrindiau, yn llawn bwriadau da, yn trio ein perswadio ni i beidio â symud. Ond pan adawon ni Gwadelŵp, gwnaeth un brawd ein hatgoffa ni o eiriau Iesu yn Mathew 13:38: “Y maes yw’r byd.” (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Felly pan fyddwn ni’n newid aseiniad, byddwn ni’n atgoffa ein hunain ein bod ni’n dal i wasanaethu yn yr un maes ni waeth lle byddwn ni. Wedi’r cwbl, y bobl a’r diriogaeth sy’n bwysicaf!

Unwaith inni gyrraedd tiriogaeth newydd, byddwn ni’n gweld bod eraill yn gallu byw yno’n ddigon hapus. Felly, byddwn ni’n trio byw fel mae’r bobl leol. Efallai fod y bwyd yn wahanol, ond byddwn ni’n bwyta beth maen nhw’n ei fwyta ac yn yfed beth maen nhw’n ei yfed, gan fod yn ofalus o ran hylendid. A byddwn ni’n gwneud ymdrech i siarad yn bositif am bob aseiniad.

Marie-Line: Rydyn ni hefyd yn dysgu llawer oddi wrth y brodyr lleol. Dw i’n cofio rhywbeth a ddigwyddodd yn fuan ar ôl inni gyrraedd Giana Ffrengig. Oedd hi’n tywallt y glaw, felly wnaethon ni feddwl byddai’n rhaid disgwyl nes i’r glaw stopio cyn inni fynd allan i bregethu. Ond dyma chwaer yn gofyn imi, “Ti’n barod?” Ac mewn syndod llwyr, atebais, “Sut?” A dyma hi’n dweud, “Tyrd â dy ymbarél, ac awn ni ar ein beiciau.” A dyna sut wnes i ddysgu i fynd ar gefn fy meic a dal ymbarél ar yr un pryd. Os na fyddwn i wedi dysgu hynny, fyddwn i byth wedi pregethu yn ystod tymor y glawogydd!

’Dych chi wedi symud tua 15 gwaith. A allwch chi gynnig awgrymiadau i eraill ynglŷn â symud?

Marie-Line: Gall symud fod yn her. Ond eto, mae hi’n bwysig cael hyd i rywle y byddi di’n teimlo’n gartrefol pan ddoi di yn ôl o’r weinidogaeth.

Jack: Fel arfer bydda’ i’n peintio’r tu mewn i’r tŷ. Ond os oedd brodyr y gangen yn gwybod mai dim ond am sbel y bydden ni yno, bydden nhw’n tynnu arna i weithiau gan ddweud: “Jack, paid â thrafferthu peintio tro ’ma!”

Mae Marie-Line wedi meistroli’r pacio! Mae hi’n rhoi popeth mewn bocsys ac yn labelu nhw’n “ystafell ymolchi,” “ystafell wely,” “cegin,” ac yn y blaen. Felly pan fyddwn ni’n cyrraedd ein tŷ newydd, mae’n haws inni wybod i ba ystafell dylai’r bocsys fynd. Mae hi’n gwneud rhestr o beth sydd ym mhob bocs hefyd, inni allu dod o hyd i rywbeth yn sydyn.

Marie-Line: Gallwn ni gychwyn ein gweinidogaeth yn syth oherwydd ’dyn ni wedi dysgu bod yn drefnus.

Sut ’dych chi’n trefnu’ch amser er mwyn ‘rhannu’r newyddion da gyda phobl’ yn drylwyr?2 Tim. 4:5.

Marie-Line: Ar ddyddiau Llun, byddwn ni’n ymlacio ac yn paratoi ar gyfer y cyfarfodydd. O ddydd Mawrth ymlaen, byddwn ni allan ar y weinidogaeth.

Jack: Er bod angen inni wneud hyn a hyn o oriau, dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar hynny. Y weinidogaeth ydy canolbwynt ein bywydau. O’r foment ’dyn ni’n gadael y tŷ nes inni gyrraedd yn ôl adref, ’dyn ni’n trio siarad â phawb ’dyn ni’n cyfarfod.

Marie-Line: Er enghraifft, pan fyddwn ni’n mynd am bicnic, dw i wastad yn mynd â thaflenni gyda fi. Mae rhai pobl yn dod aton ni i ofyn am lenyddiaeth, er nad ydyn ni wedi dweud ein bod ni’n Dystion Jehofa. A dyna pam ’dyn ni’n ofalus yn y ffordd ’dyn ni’n gwisgo ac yn ymddwyn. Mae pobl yn sylwi ar bethau felly.

Jack: Byddwn ni hefyd yn tystiolaethu drwy fod yn gymdogion da. Mi fydda’ i’n codi papurau, yn gwagio’r biniau, ac yn ’sgubo dail o gwmpas ein cartref. Mae ein cymdogion yn sylwi ar hyn ac yn gofyn weithiau, “Oes gen ti Feibl imi?”

’Dych chi’n aml wedi pregethu mewn tiriogaeth anghysbell. Oes ’na rywle arbennig sy’n sefyll allan i chi?

Jack: Yn Giana, mae rhannau o’r diriogaeth yn anodd eu cyrraedd. Yn aml, bydd rhaid inni deithio 370 milltir (600 km) mewn wythnos, ar lonydd gwael. Wna’ i byth anghofio pan aethon ni i bentref St. Élie, yng nghoedwig law yr Amason. Cymerodd sawl awr inni gyrraedd yno mewn 4x4 a chwch modur bach. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl yno yn gloddwyr aur. Roedden nhw’n gwerthfawrogi ein cyhoeddiadau gymaint, rhoddodd rhai ohonyn nhw dameidiau bach o aur inni fel cyfraniad! Gyda’r nos, wnaethon ni ddangos un o fideos y gyfundrefn, a daeth llawer o bobl leol i wylio.

Marie-Line: Yn ddiweddar, cafodd Jack y cyfle i roi anerchiad y Goffadwriaeth yn Camopi. I gyrraedd yno, wnaethon ni deithio am oriau ar gwch modur bach i lawr afon Oyapock. Roedd hi’n brofiad cyffrous iawn.

Jack: Yn ambell i le ar yr afon roedd ’na ddyfroedd gwyllt, ac roedd rheini’n gallu bod yn reit beryglus. Rhaid i mi ddweud, mae’n beth anhygoel i weld y dŵr gwyllt yn dod i’r golwg. Mae’n rhaid i’r cychwr fod o gwmpas ei bethau. Ond oedd hi’n brofiad bendigedig. Er mai dim ond 6 o Dystion oedd yno, daeth tua 50 o bobl i’r Goffadwriaeth, gan gynnwys rhai o’r Amerindiaid!

Marie-Line: Gall pobl ifanc gael profiadau anhygoel os ydyn nhw’n gwneud mwy i Jehofa. Mae’n rhaid iti drystio Jehofa mewn sefyllfaoedd fel hyn, ac mae hynny’n cryfhau dy ffydd. Rydyn ni’n aml yn gweld llaw Jehofa yn ein helpu.

’Dych chi wedi dysgu llawer o ieithoedd. Oes gennych chi ddawn dysgu ieithoedd?

Jack: Dim o gwbl. Dysgais yr ieithoedd hyn oherwydd roedd ’na angen. Roedd rhaid imi gymryd yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio yn Sranantongo * cyn imi hyd yn oed wneud darlleniad o’r Beibl! Gofynnais i frawd sut wnes i. Dywedodd, “Weithiau oedden ni’n methu deall, ond oedd o’n dda iawn.” Roedd y plant yn help mawr. Pan oeddwn i’n gwneud camgymeriad bydden nhw’n gadael imi wybod, ond doedd yr oedolion ddim. Dysgais dipyn oddi wrth y rhai ifanc.

Marie-Line: Mewn un ardal roeddwn i’n cynnal astudiaethau Beiblaidd yn Ffrangeg, Portiwgaleg, a Sranantongo. Awgrymodd un chwaer imi gychwyn â’r iaith anoddaf a gorffen â’r un mwyaf cyfarwydd imi. Doedd hi ddim yn hir cyn imi ddeall doethineb ei chyngor.

Un diwrnod, roedd gen i astudiaeth i’w chynnal yn Sranantongo—iaith o’n i’n ddigon cyffyrddus ynddi. Ond wedyn es i ar astudiaeth Bortiwgaleg, a dyma’r chwaer a oedd efo fi yn dweud, “Marie-Line, dw i’n meddwl bod rhywbeth o’i le!” Sylweddolais fy mod i wedi bod yn siarad â dynes o Brasil yn Sranantongo yn lle Portiwgaleg!

Mae’r rhai ’dych chi wedi gwasanaethu â nhw yn meddwl y byd ohonoch chi. Sut ’dych chi wedi gwneud ffrindiau mor dda â’r brodyr?

Jack: Mae Diarhebion 11:25 yn dweud: “Bydd pobl hael yn llwyddo.” (NWT) Dydyn ni ddim yn dal yn ôl rhag treulio amser ag eraill neu wneud rhywbeth i’w helpu. Pan mae’n dod i gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas, mae rhai wedi dweud wrtha’ i: “Gad i’r cyhoeddwyr wneud hynny.” Ond bydda’ i’n dweud: “Wel, dw i’n gyhoeddwr hefyd. Felly os oes ’na waith i wneud, dw i eisiau bod yna.” Mae pawb angen llonydd weithiau, ond dydyn ni ddim eisiau gadael i’r angen yna ein rhwystro ni rhag gwneud pethau da ar gyfer eraill.

Marie-Line: Byddwn ni’n gwneud ymdrech i ddangos diddordeb personol yn ein brodyr a’n chwiorydd. Drwy wneud hynny, cawn wybod pryd maen nhw angen i rywun edrych ar ôl eu plant, neu bigo nhw fyny o’r ysgol. Wedyn gallwn ni aildrefnu ein hamserlen er mwyn eu helpu. Felly, trwy fod yn barod i’w helpu pan fo angen, byddwn ni’n dod yn ffrindiau mawr.

Pa fendithion ’dych chi wedi eu cael o wasanaethu lle mae’r angen yn fwy?

Jack: Mae gwasanaeth llawn amser wedi cyfoethogi ein bywydau. Yn aml, mae gennyn ni gyfle i fwynhau creadigaeth ryfeddol Jehofa. Er gwaethaf yr heriau, mae gennyn ni heddwch meddwl oherwydd ’dyn ni’n gwybod y cawn ni gefnogaeth gan bobl Jehofa lle bynnag yr awn.

Pan oeddwn i’n ddyn ifanc, cefais fy ngharcharu yn Giana Ffrengig oherwydd fy niwtraliaeth Gristnogol. Doeddwn i erioed wedi dychmygu fy mod i am fynd yn ôl yna i bregethu fel cenhadwr. Yn wir, mae Jehofa’n bendithio’n hael!

Marie-Line: Dw i wrth fy modd yn helpu eraill. ’Dyn ni’n hapus yng ngwasanaeth Jehofa. Mae ein priodas yn gryfach hefyd. Ar adegau, bydd Jack yn gofyn a gawn ni wahodd cwpl sydd angen anogaeth draw am bryd o fwyd. Yn aml, bydda’ i’n ateb, “O’n i jest yn meddwl yr un peth!” Ac felly mae hi.

Jack: Yn ddiweddar, ces i fy niagnosio â chanser y prostad. Er bod Marie-Line ddim yn hoffi clywed hyn, dw i wedi dweud wrthi: “Cariad, dydw i ddim yn hen ddyn eto, ond petaswn i’n marw fory, dw i’n gwybod fy mod i wedi byw’r bywyd gorau galla’ i, yn gwasanaethu Jehofa, ac mae hynny’n gwneud fi’n hapus.”—Gen. 25:8.

Marie-Line: Mae Jehofa wedi rhoi aseiniadau annisgwyl iawn inni, ac wedi caniatáu inni wneud pethau tu hwnt i’n dychymyg. Mae ein bywyd wedi bod yn llawn o bethau hyfryd dros ben. Awn ni le bynnag mae cyfundrefn Jehofa yn gofyn inni fynd, oherwydd does dim dwywaith amdani—bydd Jehofa gyda ni!

^ Par. 32 Mae Sranantongo yn gymysgedd o Saesneg, Iseldireg, Portiwgaleg, ac ieithoedd Affrica, ac fe ddatblygodd ymysg caethweision.