Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 13

Caru Eraill o Waelod Dy Galon

Caru Eraill o Waelod Dy Galon

“Daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon.”—1 PEDR 1:22.

CÂN 109 Carwch o Waelod Eich Calon

CIPOLWG *

Ar ei noson olaf gyda’i ddisgyblion, pwysleisiodd Iesu bwysigrwydd cariad (Gweler paragraffau 1-2)

1. Pa orchymyn penodol rhoddodd Iesu i’w ddisgyblion? (Gweler y llun ar y clawr.)

AR Y noson cyn iddo farw, rhoddodd Iesu orchymyn penodol i’w ddisgyblion. Dywedodd: “Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi.” Yna ychwanegodd: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”—Ioan 13:34, 35.

2. Pam mae hi’n bwysig dangos cariad tuag at ein gilydd?

2 Dywedodd Iesu y byddai ei wir ddisgyblion yn cael eu hadnabod os bydden nhw’n dangos yr un math o gariad a ddangosodd ef. Roedd y geiriau hynny’n wir yn y ganrif gyntaf, ac maen nhw’n dal yn wir heddiw. Dyna pam mae hi mor bwysig inni garu ein gilydd hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd.

3. Beth gwnawn ni ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Rydyn ni i gyd yn amherffaith, felly mae hi’n anodd inni garu ein gilydd o waelod calon. Ond, mae’n rhaid inni efelychu Crist. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut mae cariad yn ein helpu i geisio heddwch, i beidio â dangos ffafriaeth, ac i fod yn lletygar. Wrth iti astudio’r deunydd, gofynna i ti dy hun: ‘Beth alla’ i ei ddysgu oddi wrth frodyr a chwiorydd sydd wedi parhau i ddangos cariad tuag at ei gilydd er gwaethaf heriau?’

CEISIA HEDDWCH

4. Yn ôl Mathew 5:23, 24, pam dylen ni geisio adfer heddwch â brawd sydd â rhywbeth yn ein herbyn?

4 Dysgodd Iesu pa mor bwysig ydy hi inni geisio adfer heddwch â brawd sydd â rhywbeth yn ein herbyn. (Darllen Mathew 5:23, 24.) Pwysleisiodd yr angen inni gadw perthynas dda ag eraill os ydyn ni eisiau plesio Duw. Mae Jehofa’n hapus i’n gweld ni’n gwneud ein gorau glas i geisio heddwch â’n brodyr. Ni fydd yn derbyn ein haddoliad os ydyn ni’n dal dig ac yn gwrthod gwneud ymdrech i adfer heddwch.—1 Ioan 4:20.

5. Beth roedd yn ei gwneud hi’n anodd i un brawd adfer heddwch?

5 Efallai cawn ni drafferth wrth geisio adfer heddwch. Pam? Ystyria beth ddigwyddodd i Mark. * Cafodd ei frifo gan eiriau cas brawd a oedd wedi bod yn lladd arno o flaen eraill yn y gynulleidfa. Beth oedd ymateb Mark? “Wnes i ei cholli hi a ffrwydro,” meddai. Difaru a wnaeth Mark wedyn am ei ymddygiad, a cheisiodd ymddiheuro a chymodi â’r brawd. Ond, gwrthododd y brawd ymdrechion Mark. I gychwyn, roedd Mark yn meddwl, ‘Pam ddylwn i fynd i’r holl ymdrech os nad ydy o eisiau cymodi?’ Ond, anogodd arolygwr y gylchdaith iddo beidio â rhoi’r ffidil yn y to. Beth a wnaeth Mark?

6. (a) Sut ceisiodd Mark adfer heddwch? (b) Ym mha ffordd a wnaeth Mark roi Colosiaid 3:13, 14 ar waith?

6 Meddyliodd Mark yn ofalus am ei agwedd ei hun, a sylweddoli ei fod yn dueddol o fod yn hunangyfiawn a bod angen gostyngeiddrwydd arno. Gwelodd fod angen newid ei agwedd. (Col. 3:8, 9, 12) Aeth at y brawd unwaith eto ac ymddiheuro am ei ymddygiad mewn ffordd ostyngedig. Hefyd, ysgrifennodd Mark lythyrau at y brawd, i ddweud ei fod yn sori a’i fod eisiau dechrau o’r newydd. Gwnaeth ef hyd yn oed roi anrheg fach i’r brawd, un yr oedd yn meddwl y byddai’n hoff ohoni. Gwaetha’r modd, parhaodd y brawd arall i ddal dig. Er hynny, parhaodd Mark i ufuddhau i orchymyn Iesu i garu ei frodyr a maddau iddyn nhw. (Darllen Colosiaid 3:13, 14.) Hyd yn oed pan na fydd eraill yn ymateb i’n hymdrechion i adfer heddwch, bydd cariad Cristnogol yn ein helpu i barhau i faddau iddyn nhw a gweddïo am ganlyniadau positif.—Math. 18:21, 22; Gal. 6:9.

Efallai bydd angen gwneud mwy nag un peth er mwyn adfer heddwch (Gweler paragraffau 7-8) *

7. (a) Beth anogodd Iesu inni ei wneud? (b) Pa sefyllfa anodd a wynebodd un chwaer?

7 Anogodd Iesu inni drin eraill fel yr hoffen ninnau gael ein trin. Ar ben hynny, dywedodd na ddylen ni gyfyngu ein cariad i’r rhai sy’n dangos cariad yn ôl. (Luc 6:31-33) Beth petai rhywun yn y gynulleidfa yn dy osgoi di ac yn gwrthod dy gyfarch di? Prin iawn mae hynny’n digwydd, ond dyna oedd profiad Lara. Mae hi’n esbonio: “Roedd un chwaer yn fy anwybyddu i, a doedd gen i ddim syniad pam. O’n i ar bigau’r drain a doeddwn i ddim yn mwynhau mynd i’r cyfarfodydd.” I gychwyn, rhesymodd Lara: ‘Nid fi sydd ar fai. Wedi’r cwbl, mae ’na eraill yn y gynulleidfa sy’n meddwl bod rhywbeth braidd yn od am ymddygiad y chwaer ’ma.’

8. Sut ceisiodd Lara heddwch, a beth gallwn ni ei ddysgu o’i phrofiad?

8 Cymerodd Lara gamau er mwyn ceisio heddwch. Gweddïodd ar Jehofa a phenderfynodd siarad â’r chwaer. Siaradon nhw am y broblem, rhoi hyg i’w gilydd, ac adfer heddwch. Roedd popeth i weld yn iawn. “Ond yn nes ymlaen,” meddai Lara, “dechreuodd y chwaer ddangos yr un agwedd tuag ata’ i unwaith eto. O’n i mor ddigalon.” Ar y cychwyn, teimlodd Lara y byddai hi ond yn hapus petai’r chwaer arall yn newid ei hagwedd. Ond yn y pen draw, sylweddolodd Lara mai’r peth gorau iddi ei wneud oedd parhau i drin y chwaer â chariad a maddau iddi. (Eff. 4:32–5:2) Cofiodd Lara fod cariad Cristnogol go iawn yn “fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati.” (1 Cor. 13:5, 7) Gwnaeth Lara adennill ei heddwch meddwl. Ymhen amser, roedd y chwaer yn fwy cyfeillgar tuag ati. Pan fyddi di’n ceisio heddwch â dy frodyr a chwiorydd ac yn parhau i’w caru nhw, gelli di fod yn sicr y “bydd y Duw sy’n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda chi.”—2 Cor. 13:11.

PAID Â DANGOS FFAFRIAETH

9. Yn ôl Actau 10:34, 35, pam mae rhaid inni beidio â dangos ffafriaeth?

9 Dydy Jehofa ddim yn dangos ffafriaeth. (Darllen Actau 10:34, 35.) Drwy beidio â dangos ffafriaeth, profwn ein bod ni’n blant iddo. Rydyn ni’n ufuddhau i’r gorchymyn i garu ein cymydog fel ni’n hunain, ac yn cyfrannu at heddwch ein teulu ysbrydol.—Rhuf. 12:9, 10; Iago 2:8, 9.

10-11. Sut gwnaeth un chwaer drechu ei theimladau negyddol?

10 Efallai ei bod hi’n anodd i rai aros yn ddiragfarn. Er enghraifft, ystyria’r hyn a ddigwyddodd i chwaer o’r enw Ruth. Yn ei harddegau, cafodd hi brofiad drwg â rhywun o wlad arall. Pa effaith gafodd hyn arni? Mae Ruth yn cyfaddef: “O’n i’n casáu popeth am y wlad honno. O’n i’n meddwl bod pawb o’r wlad honno yr un fath, hyd yn oed y brodyr a chwiorydd.” Sut gwnaeth Ruth drechu ei theimladau negyddol?

11 Sylweddolodd fod rhaid iddi frwydro yn erbyn ei meddyliau negyddol. Darllenodd brofiadau ac adroddiadau yn y blwyddlyfr am y wlad honno. “Wnes i ymdrech fawr i feddwl am bobl y wlad honno mewn ffordd bositif,” meddai, “a sylwais fod gan y brodyr a chwiorydd sêl am Jehofa. Daeth yn glir imi eu bod nhwthau hefyd yn rhan o’n teulu byd-eang.” Fesul tipyn, daeth Ruth i ddeall bod angen iddi wneud mwy. Mae hi’n esbonio: “Pryd bynnag oeddwn i’n cyfarfod brodyr a chwiorydd o’r wlad honno, oeddwn i’n gwneud ymdrech arbennig i fod yn gyfeillgar â nhw. Oeddwn i’n siarad â nhw ac yn dod i’w ’nabod nhw’n well.” Beth oedd y canlyniad? Mae Ruth yn dweud: “Ymhen amser, diflannodd fy nheimladau negyddol.”

Os ydyn ni’n caru pob un o’n cyd-Gristnogion o waelod calon, byddwn ni’n osgoi rhagfarn (Gweler paragraffau 12-13) *

12. Pa broblem oedd gan chwaer o’r enw Sarah?

12 Efallai fod rhai yn dangos rhagfarn heb iddyn nhw sylweddoli. Er enghraifft, roedd Sarah yn meddwl ei bod hi’n ddiragfarn oherwydd doedd hi ddim yn barnu pobl ar sail eu hil, eu sefyllfa ariannol, na’u cyfrifoldebau yn y gyfundrefn. Ond mae hi’n cyfaddef: “Sylweddolais fy mod i yn rhagfarnllyd mewn gwirionedd.” Ym mha ffordd? Roedd pawb yn nheulu Sarah wedi cael addysg dda, ac roedd yn well ganddi hi gymdeithasu â phobl o’r un cefndir. Wnaeth hi hyd yn oed ddweud wrth ffrind: “Dw i’n cymdeithasu â thystion eraill sydd ag addysg dda. Dw i’n osgoi’r rhai sydd heb.” Yn amlwg, roedd angen i Sarah newid ei hagwedd. Sut?

13. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd y newidiodd Sarah ei hagwedd?

13 Gwnaeth arolygwr y gylchdaith helpu Sarah i edrych yn fanwl ar ei hagwedd. “Wnaeth e fy nghanmol i am fy ngwasanaeth ffyddlon, fy atebion da, a fy nealltwriaeth o’r Ysgrythurau,” meddai, “ond esboniodd fod rhaid inni ddatblygu rhinweddau Cristnogol fel gostyngeiddrwydd, gwyleidd-dra, a thosturi wrth i’n dealltwriaeth dyfu.” Aeth geiriau’r arolygwr yn syth i’w chalon. Mae hi’n dweud: “Sylweddolais mai’r peth pwysicaf yw ein bod ni’n garedig ac yn gariadus.” O ganlyniad, daeth hi i ystyried ei brodyr a chwiorydd yn wahanol. Esboniodd: “Wnes i geisio deall pa rinweddau oedd yn eu gwneud nhw’n werthfawr i Jehofa.” Beth amdanon ni? Fydden ni byth eisiau teimlo ein bod ni’n well nag eraill oherwydd ein haddysg! Os ydyn ni’n caru pob un o’n cyd-Gristnogion o waelod calon, byddwn ni’n osgoi dangos ffafriaeth.—1 Pedr 2:17.

BYDDA’N LLETYGAR

14. Yn ôl Hebreaid 13:16, sut mae Jehofa’n teimlo wrth weld ni’n dangos lletygarwch i eraill?

14 Drwy ddangos lletygarwch rydyn ni’n plesio Jehofa. (Darllen Hebreaid 13:16.) Mae’n ei ystyried fel rhan o’n haddoliad, yn enwedig pan fyddwn ni’n helpu’r rhai mewn angen. (Iago 1:27; 2:14-17) Felly, mae’r Ysgrythurau yn ein hannog ni i ‘fynd allan o’n ffordd i roi croeso i ymwelwyr.’ (Rhuf. 12:13) Drwy fod yn lletygar, rydyn ni’n dangos i eraill ein bod ni wir yn eu caru nhw, ac eisiau bod yn ffrind iddyn nhw. Mae Jehofa’n falch o’n gweld ni’n rhannu snac, diod, pryd o fwyd, neu’n hamser a’n sylw ag eraill. (1 Pedr 4:8-10) Ond, efallai fod rhai pethau yn ei gwneud hi’n anodd inni fod yn lletygar.

“Yn y gorffennol, doedd gen i ddim awydd bod yn lletygar, ond dw i wedi newid ac mae hynny wedi dod a llawenydd mawr imi” (Gweler paragraff 16) *

15-16. (a) Pam mae rhai yn dal yn ôl rhag dangos lletygarwch? (b) Beth helpodd Edit i fod yn fwy parod i ddangos lletygarwch?

15 Efallai ein bod ni’n dal yn ôl rhag dangos lletygarwch oherwydd ein sefyllfa. Ystyria esiampl gwraig weddw o’r enw Edit. Cyn iddi ddod yn Dyst, roedd well ganddi gadw at ei hun. Teimlodd Edit fod eraill mewn gwell sefyllfa i ddangos lletygarwch.

16 Ar ôl iddi ddod yn Dyst, newidiodd Edit ei ffordd o feddwl. Cymerodd gamau i fod yn lletygar. “Tra oedd ein Neuadd y Deyrnas yn cael ei hadeiladu,” meddai, “wnaeth henuriad sôn wrtha’ i am gwpl priod oedd yn dod i helpu ar y prosiect, a gofynnodd imi a allwn i gael nhw i aros am bythefnos. Meddyliais am sut gwnaeth Jehofa fendithio’r weddw o Sareffath.” (1 Bren. 17:12-16) Cytunodd Edit i gael y cwpl i aros gyda hi. A chafodd hi ei bendithio? Mae hi’n esbonio: “Trodd pythefnos yn ddeufis. Ac yn y cyfnod hwnnw, daethon ni’n ffrindiau mawr.” Mae Edit hefyd wedi cael ei bendithio â ffrindiau agos yn y gynulleidfa. Erbyn hyn mae hi’n arloesi ac yn mwynhau gwahodd y rhai sydd allan ar y weinidogaeth yn ôl i’w thŷ am baned. “Mae rhoi yn gwneud imi deimlo’n wych!” meddai. “A’r gwir amdani yw, dw i’n cael cymaint o fendithion yn ôl.”—Heb. 13:1, 2.

17. Beth sylweddolodd Luke a’i wraig?

17 Efallai ein bod ni’n dangos lletygarwch yn barod, ond oes modd gwella? Er enghraifft, mae Luke a’i wraig yn gwpl croesawus. Roedden nhw’n gwahodd pobl draw yn aml—eu rhieni, perthnasau, ffrindiau agos, arolygwr y gylchdaith a’i wraig. Ond, dywedodd Luke, “Wnaeth hi wawrio arnon ni ein bod ni ond yn gwahodd pobl oedd yn agos aton ni.” Sut gwnaeth Luke a’i wraig wella yn eu ffordd o ddangos lletygarwch?

18. Sut gwnaeth Luke a’i wraig wella o ran dangos lletygarwch?

18 Dysgodd Luke a’i wraig beth mae’n ei olygu i fod yn lletygar drwy fyfyrio ar eiriau Iesu: “Pam dylech chi gael gwobr am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi?” (Math. 5:45-47) Sylweddolon nhw fod angen efelychu Jehofa sy’n hael gyda phawb. Felly penderfynon nhw wahodd brodyr a chwiorydd nad oedden nhw wedi eu gwahodd o’r blaen. Dywedodd Luke: “Nawr, ’dyn ni i gyd yn mwynhau amser gyda’n gilydd. Mae’n gwneud inni deimlo’n agosach at ein gilydd ac at Jehofa.”

19. Sut rydyn ni’n profi ein bod ni’n ddisgyblion i Iesu, a beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

19 Rydyn ni wedi ystyried sut gall caru ein gilydd o waelod calon ein helpu ni i geisio heddwch, i beidio â dangos ffafriaeth, ac i fod yn lletygar. Mae’n rhaid inni drechu unrhyw deimladau negyddol a charu ein brodyr a’n chwiorydd o waelod calon. Os gwnawn ni hyn, byddwn ni’n hapus ac yn profi ein bod ni’n wir ddisgyblion i Iesu.—Ioan 13:17, 35.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

^ Par. 5 Dywedodd Iesu mai cariad yw prif nodwedd gwir Gristnogion. Mae cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn ein hysgogi ni i geisio heddwch, i beidio â dangos ffafriaeth, ac i fod yn lletygar. Ond, dydy hynny ddim wastad yn hawdd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni barhau i garu ein gilydd o waelod calon.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai enwau yn yr erthygl hon.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUN: Chwaer yn ceisio heddwch. Nid yw ei hymdrechion yn llwyddiannus y tro cyntaf, ond mae hi’n dal ati. Yn y pen draw, mae hi’n cael llwyddiant.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd hŷn yn teimlo bod eraill yn y gynulleidfa yn ei anwybyddu.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer a oedd yn dal yn ôl rhag dangos lletygarwch yn newid ei ffordd o feddwl, ac mae’r newid hwnnw yn ychwanegu at ei llawenydd.