Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 15

Sut Rwyt Ti’n Teimlo am y Maes?

Sut Rwyt Ti’n Teimlo am y Maes?

“Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae’r cynhaeaf yn barod!”—IOAN 4:35.

CÂN 64 Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

CIPOLWG *

1-2. Beth roedd geiriau Iesu yn Ioan 4:35, 36 yn ei feddwl?

ROEDD Iesu wedi bod yn teithio drwy gaeau, a oedd, yn ôl pob tebyg, yn llawn cnwd haidd ifanc. (Ioan 4:3-6) Ni fyddai’r cnydau hyn yn barod i’w cynaeafu am bedwar mis arall. Felly, mae’n rhaid fod yr hyn a ddywedodd nesaf braidd yn annisgwyl: “Agorwch eich llygaid! Edrychwch ar y caeau! Mae’r cynhaeaf yn barod!” (Darllen Ioan 4:35, 36.) Beth roedd Iesu yn ei feddwl?

2 Roedd Iesu’n cyfeirio at gynhaeaf ffigurol o bobl. Ystyria’r hyn oedd newydd ddigwydd. Er nad oedd Iddewon yn ymwneud â Samariaid fel arfer, roedd Iesu wedi pregethu wrth ddynes o Samaria—ac roedd hithau wedi gwrando! Mewn gwirionedd, tra oedd Iesu yn siarad am gaeau oedd yn barod i’w cynaeafu, roedd torf o Samariaid, a oedd wedi clywed am Iesu gan y ddynes, ar eu ffordd i ddysgu mwy ganddo. (Ioan 4:9, 39-42) Dywed un esboniad Beiblaidd am yr hanesyn hwn: “Dangosodd brwdfrydedd y bobl . . . eu bod fel ŷd yn barod i’w gynaeafu.”

Beth dylen ni ei wneud os teimlwn fod ein maes yn barod i’w gynaeafu? (Gweler paragraff 3)

3. Os byddi di’n gweld pobl fel y gwnaeth Iesu, sut bydd hynny’n helpu dy bregethu?

3 Beth yw dy agwedd di tuag at y bobl yr wyt ti’n pregethu’r newyddion da iddyn nhw? A wyt ti’n eu hystyried fel ŷd sy’n barod i’w gynaeafu? Os felly, bydd hyn yn dy sbarduno i wneud tri pheth: Yn gyntaf, fe ei di ati i bregethu gan ei ystyried yn fater o frys. Mae adeg y cynhaeaf yn fyr; allwn ni ddim fforddio gwastraffu amser. Yn ail, fe fyddi di’n hapus i weld pobl yn gwrando ar y newyddion da. Mae’r Beibl yn dweud bod y bobl yn “dathlu . . . adeg y cynhaeaf.” (Esei. 9:3) Ac yn drydydd, fe fyddi di’n gweld pawb fel disgyblion y dyfodol, ac o ganlyniad, yn addasu dy gyflwyniad i apelio at eu diddordebau.

4. Beth byddwn ni’n ei ddysgu oddi wrth yr apostol Paul yn yr erthygl hon?

4 Ni wnaeth Iesu ddiystyru’r Samariaid fel y gallai rhai o’i ddilynwyr fod wedi ei wneud. Yn hytrach, fe’u gwelodd fel disgyblion posib. Mae angen i ninnau hefyd weld y bobl yn ein tiriogaeth ni fel disgyblion Crist y dyfodol. Roedd yr apostol Paul yn esiampl ragorol yn hyn o beth. Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrtho? Yn yr erthygl hon, fe wnawn ni drafod (1) sut y dysgodd rywbeth am ddaliadau’r bobl yr oedd yn pregethu iddyn nhw, (2) sut roedd ef yn canfod beth oedd yn bwysig iddyn nhw, a (3) sut gwelodd eu potensial i ddod yn ddisgyblion i Grist.

BETH MAEN NHW’N EI GREDU?

5. Sut roedd Paul yn gallu uniaethu â’i gynulleidfa yn y synagog?

5 Fe bregethodd Paul mewn synagogau Iddewig yn aml. Er enghraifft, yn synagog Thesalonica, buodd “am dri Saboth . . . yn trafod yr ysgrifau sanctaidd gyda’r [Iddewon] yno.” (Act. 17:1, 2) Mae’n debyg fod Paul yn teimlo’n gyfforddus yn y synagog. Cafodd ei fagu fel Iddew. (Act. 26:4, 5) Felly roedd yn deall yr Iddewon yn iawn, ac yn gallu pregethu iddyn nhw â hyder.—Phil. 3:4, 5.

6. Sut roedd pobl y farchnad yn Athen yn wahanol i’r rhai y pregethodd Paul iddyn nhw yn y synagog?

6 Wedi i Paul orfod ffoi o Thesalonica ac yna Berea oddi wrth ei erlidwyr, fe gyrhaeddodd Athen. Unwaith eto, “aeth i’r synagog i geisio rhesymu gyda’r Iddewon a’r Groegiaid oedd yn addoli Duw.” (Act. 17:17) Ond pan fuodd yn pregethu yn y farchnad, roedd ganddo gynulleidfa wahanol. Ymhlith ei wrandawyr roedd athronwyr a Chenedl-ddynion eraill a oedd yn gweld neges Paul fel rhyw “grefydd newydd.” Dywedon nhw wrtho: “Mae gen ti ryw syniadau sy’n swnio’n od iawn i ni.”—Act. 17:18-20.

7. Yn ôl Actau 17:22, 23, sut aeth Paul ati i newid ei gyflwyniad?

7 Darllen Actau 17:22, 23. Ni chyflwynodd Paul ei neges i’r Cenedl-ddynion yn Athen yn yr un ffordd â’i chyflwynodd i’r Iddewon yn y synagog. Mae’n debyg y gofynnodd iddo’i hun, ‘Beth mae pobl Athen yn ei gredu?’ Roedd Paul yn graff ei lygaid ac yn effro i’r hyn a welodd o’i gwmpas, a sylwodd ar arferion crefyddol pobl. Nesaf, ceisiodd Paul ganfod tir cyffredin rhwng eu haddoliad nhw a gwirionedd yr Ysgrythurau. “Ac yntau’n Gristion Iddewig, mae’n sylweddoli nad yw’r Groegwyr paganaidd yn addoli ‘gwir’ Dduw yr Iddewon a’r Cristnogion,” meddai un esboniwr Beiblaidd, “ond mae’n ceisio dangos nad yw’r Duw y mae’n ei gyhoeddi yn ddieithr i’r Atheniaid mewn gwirionedd.” Felly roedd Paul yn fodlon addasu ei gyflwyniad. Dywedodd wrth yr Atheniaid fod ei neges yn dod oddi wrth y “Duw Anhysbys” yr oedden nhw wedi bod yn ceisio ei addoli. Er nad oedd y Cenedl-ddynion yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau, ni wnaeth Paul anobeithio yn eu cylch. Ond yn hytrach, fe’u hystyriodd fel ŷd a oedd yn aeddfed ac yn barod i’w fedi, ac addasodd ei ffordd o gyflwyno’r newyddion da.

Gan ddilyn esiampl yr apostol Paul, bydda’n sylwgar, addasa dy gyflwyniad a cheisia weld potensial pobl (Gweler paragraffau 8, 12, 18) *

8. (a) Beth all dy helpu i wybod yr hyn mae pobl yn dy ardal di yn ei gredu? (b) Os bydd rhywun yn dweud fod ganddo ei grefydd ei hun, sut gallet ti ymateb?

8 Fel Paul, bydda’n sylwgar. Edrycha am bethau sy’n awgrymu pa ddaliadau sydd gan bobl yn dy ardal di. Sut mae deiliad y tŷ wedi addurno ei gartref, pa sticeri sydd ar ei gar? Ydy ei enw, ei wisg a thrwsiad, neu ei ddewis o eiriau yn dangos pa grefydd sydd ganddo? Efallai ei fod wedi dweud yn uniongyrchol fod ganddo ei grefydd ei hun. Pan fydd hynny’n digwydd i arloeswraig arbennig o’r enw Flutura, mae hi’n dweud, “Dw i ddim yma i wthio fy nghrefydd arnoch chi, ond i siarad am y pwnc yma . . . ”

9. Pa dir cyffredin gelli di ei ganfod wrth siarad â pherson crefyddol?

9 Pa bynciau gallet ti drafod â pherson crefyddol? Ceisia ganfod tir cyffredin. Hwyrach ei fod yn addoli un Duw yn unig, yn cydnabod Iesu fel Gwaredwr dynolryw, neu yn credu ein bod yn byw mewn cyfnod o ddrygioni sydd am ddod i ben yn fuan. Yna, ar sail yr hyn yr ydych yn credu’n gyffredin, dos ati i gyflwyno neges y Beibl mewn ffordd sy’n apelio at y person hwnnw.

10. Beth dylen ni geisio ei wneud, a pham?

10 Cofia nad ydy pob un yn credu popeth y mae ei grefydd yn ei ddysgu. Felly hyd yn oed pan wyt ti’n gwybod beth yw ei grefydd, ceisia ganfod beth y mae ef ei hun yn ei gredu. “Heddiw mae llawer yn cymysgu athroniaeth â’u cred grefyddol,” meddai David, arloeswr arbennig yn Awstralia. Dywed Donalta, yn Albania, “Mae rhai ’dyn ni’n cwrdd â nhw yn dweud eu bod nhw’n perthyn i grefydd, ond wedyn maen nhw’n cyfaddef nad ydyn nhw’n credu yn Nuw mewn gwirionedd.” A phrofiad cenhadwr o’r Ariannin yw bod rhai yn dweud eu bod yn credu yn y Drindod, ond efallai nad ydyn nhw’n credu bod y Tad, y Mab, a’r ysbryd glân yn un Duw. “Mae gwybod hyn yn ei gwneud hi’n haws i ganfod tir cyffredin â’r unigolyn,” meddai. Felly ceisia ffeindio allan beth mae pobl yn ei gredu go iawn. Yna, fel Paul fe elli di ddod yn “bob peth i bawb.”—1 Cor. 9:19-23.

BETH YW EU DIDDORDEBAU?

11. Yn ôl Actau 14:14-17, sut cyflwynodd Paul ei neges i bobl Lystra mewn ffordd apelgar?

11 Darllen Actau 14:14-17. Roedd Paul yn canfod diddordebau ei gynulleidfa, ac yna’n addasu ei gyflwyniad. Er enghraifft, roedd gan y dyrfa yn Lystra ychydig iawn os nad dim gwybodaeth Ysgrythurol. Felly rhesymodd Paul mewn ffordd y bydden nhw’n gallu ei deall. Siaradodd am gynaeafau ffrwythlon a’r gallu i fwynhau bywyd. Defnyddiodd eiriau ac enghreifftiau y byddai ei wrandawyr yn eu deall yn hawdd.

12. Sut gelli di ganfod diddordebau rhywun ac addasu dy gyflwyniad?

12 Ceisia ganfod diddordebau pobl yn dy ardal di ac addasa dy gyflwyniad. Sut gelli di ganfod diddordebau rhywun wrth gerdded ato ef neu ei gartref? Cofia fod yn sylwgar. Efallai ei fod yn garddio, yn darllen llyfr, yn trwsio’i gar, neu wrthi’n gwneud rhywbeth arall. Os bydd yn briodol, hwyrach y cei di ddechrau sgwrs drwy siarad am yr hyn mae’n ei wneud. (Ioan 4:7) Gall hyd yn oed dillad rhywun ddweud rhywbeth amdano—o le mae’n dod, ei waith, neu ei hoff dîm chwaraeon. “Dechreuais sgwrs â dyn 19 oed oedd yn gwisgo crys-T a chanwr enwog arno,” meddai Gustavo. “Wnes i holi’r dyn amdano, a dywedodd pam roedd yn uniaethu â’r canwr. Arweiniodd y sgwrs at astudiaeth Feiblaidd, a nawr mae’n un o’n brodyr.”

13. Sut gallet ti gynnig astudiaeth Feiblaidd mewn ffordd apelgar?

13 Pan fyddi di’n cynnig astudio’r Beibl gyda rhywun, cyflwyna hynny mewn ffordd sy’n apelio ato; dangosa iddo sut bydd astudiaeth yn ei helpu. (Ioan 4:13-15) Er enghraifft, cafodd chwaer o’r enw Poppy, ei gwahodd i mewn i gartref dynes oedd yn dangos diddordeb. Pan welodd Poppy dystysgrif ar y wal yn dangos bod y ddynes yn athro prifysgol a oedd wedi astudio addysg, gwnaeth hi bwysleisio ein bod ninnau hefyd yn addysgu pobl drwy ein rhaglen astudio’r Beibl a’n cyfarfodydd. Derbyniodd y ddynes astudiaeth, aeth i gyfarfod y diwrnod wedyn, ac aeth i gynulliad cylchdaith yn fuan wedi hynny. Ymhen blwyddyn cafodd hi ei bedyddio. Gofynna iti dy hun: ‘Beth sydd yn diddori fy ngalwadau? A alla’ i ddisgrifio ein rhaglen astudio’r Beibl mewn ffordd a fyddai’n apelio atyn nhw?’

14. Sut gelli di addasu dy astudiaeth Feiblaidd ar gyfer yr unigolyn?

14 Ar ôl dechrau astudiaeth Feiblaidd, paratoa ar wahân ar gyfer pob astudiaeth rwyt ti’n ei chynnal, gan gadw cefndir a diddordebau’r myfyriwr mewn cof. Wrth iti baratoi, penderfyna pa adnodau y byddi di’n eu darllen, pa fideos i’w dangos, a pha eglurebau y byddi di’n eu defnyddio i esbonio gwirioneddau’r Beibl. Gofynna i ti dy hun, ‘Beth fydd yn apelio at galon y myfyriwr hwn?’ (Diar. 16:23) Yn Albania, dywedodd dynes oedd yn astudio gydag arloeswraig o’r enw Flora yn gadarn, “Alla’ i ddim derbyn dysgeidiaeth yr atgyfodiad.” Ond wnaeth Flora ddim gwthio’r mater. “Oeddwn i’n meddwl y byddai’n rhaid iddi ddod i adnabod y Duw sy’n addo’r atgyfodiad yn gyntaf.” O hynny ymlaen, fe bwysleisiodd Flora gariad, doethineb, a nerth Jehofa ym mhob astudiaeth. Ymhen amser, roedd y myfyriwr yn ddigon parod i roi ffydd yn yr atgyfodiad. A nawr mae hi’n Dyst selog i Jehofa.

CEISIA EU GWELD FEL DISGYBLION Y DYFODOL

15. Yn ôl Actau 17:16-18, pa ymddygiad yng Ngwlad Groeg gynt oedd yn poeni Paul, ond pam daliodd ati i bregethu wrth yr Atheniaid?

15 Darllen Actau 17:16-18. Ni chollodd Paul obaith yn yr Atheniaid, er bod eu dinas yn llawn eilunaddoliaeth, anfoesoldeb rhywiol, ac athroniaeth baganaidd. Wnaeth ef ddim chwaith roi’r gorau i bregethu iddyn nhw er gwaethaf eu geiriau sarhaus. Er roedd Paul yn arfer cablu enw Duw, erlid Ei bobl, ac ymddwyn yn greulon tuag atyn nhw, fe ddaeth yntau yn Gristion. (1 Tim. 1:13) Yn union fel y gwelodd Iesu bethau da yn Paul, credodd Paul y gallai’r Atheniaid ddod yn ddisgyblion. Doedd y gobaith hwnnw ddim yn un ofer.—Act. 9:13-15; 17:34.

16-17. Beth sy’n dangos fod gan bob math o bobl y potensial i ddod yn ddisgyblion i Grist? Rho enghraifft.

16 Yn y ganrif gyntaf, daeth pobl o bob cefndir yn ddisgyblion i Iesu. Pan ysgrifennodd Paul at Gristnogion dinas Corinth yng Ngwlad Groeg, dywedodd fod rhai o aelodau’r gynulleidfa honno wedi bod yn ddrwgweithredwyr neu wedi cael bywydau hynod o anfoesol. Ac yna fe ddywedodd: “Dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg, ond dych chi wedi cael eich glanhau a’ch gwneud yn bur.” (1 Cor. 6:9-11) A fyddet tithau wedi gweld bod gan y bobl hynny’r potensial i newid a dod yn ddisgyblion?

17 Heddiw, mae llawer yn fodlon gwneud y newidiadau angenrheidiol i ddod yn ddisgyblion i Iesu. Yn Awstralia, er enghraifft, fe ddysgodd arloeswraig o’r enw Yukina fod pobl o bob math yn ymateb i neges y Beibl. Un diwrnod, roedd hi mewn swyddfa gwerthu tai, a dyma hi’n sylwi ar ddynes ifanc a oedd yn datŵs i gyd ac yn gwisgo dillad braidd yn ddi-siâp. “Fe wnes i oedi am eiliad,” meddai Yukina, “ond wedyn dechreuais siarad â hi. Des i i ddeall fod ganddi ddiddordeb mawr yn y Beibl ac roedd rhai o’r tatŵs yn adnodau o’r Salmau!” Dechreuodd y ddynes astudio a dod i’r cyfarfodydd. *

18. Pam na ddylen ni farnu pobl?

18 A oedd Iesu’n meddwl bod y caeau yn barod i’w cynaeafu am ei fod yn disgwyl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddilyn? Dim o gwbl. Roedd yr Ysgrythurau wedi rhagddweud y byddai cymharol ychydig yn rhoi ffydd ynddo. (Ioan 12:37, 38) Ac roedd gan Iesu y gallu i ddarllen calonnau. (Math. 9:4, BCND) Er hyn, fe ganolbwyntiodd ar yr ychydig a oedd yn barod i gredu, a phregethodd yn selog i bawb. Cymaint mwy felly, dylen ni sy’n methu darllen calonnau osgoi’r tueddiad i farnu tiriogaeth neu unigolyn! Yn hytrach, ceisia weld potensial pobl. Esboniodd Marc, cenhadwr yn Bwrcina Ffaso fel hyn: “Mae’r bobl dw i’n meddwl y byddan nhw’n gwneud cynnydd yn aml yn stopio astudio. Ond yn aml, y rhai roeddwn yn amau eu potensial ydy’r rhai sy’n gwneud cynnydd da. Felly, dw i wedi dysgu ei bod yn well i adael i ysbryd Jehofa ein harwain ni.”

19. Pa agwedd dylen ni ei chael tuag at bobl yn ein tiriogaeth?

19 Ar yr edrychiad cyntaf, gall ymddangos nad oes llawer yn ein tiriogaeth fel ŷd sy’n barod i’w gynaeafu. Ond cofia beth ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion. Mae’r caeau yn barod i’w cynaeafu. Gall pobl newid a dod yn ddisgyblion i Grist. Mae Jehofa yn ystyried y disgyblion posib hynny fel “trysor.” (Hag. 2:7, BCND) Os gwnawn ni feddwl am bobl yn yr un ffordd â Jehofa ac Iesu, awn ni ati i ddysgu am eu cefndir a’u diddordebau. Fe wnawn ni eu hystyried, nid fel pobl ddieithr, ond fel pobl â’r potensial i ddod yn frodyr a chwiorydd.

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl

^ Par. 5 Sut mae’r ffordd rydyn ni’n edrych ar ein tiriogaeth yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n pregethu a dysgu? Mae’r erthygl hon yn trafod agwedd Iesu a’r apostol Paul tuag at eu gwrandawyr a sut gallwn ni eu hefelychu drwy ystyried daliadau, diddordebau, a photensial y rhai rydyn ni’n eu cyfarfod.

^ Par. 17 Cawn fwy o enghreifftiau o sut mae pobl yn gallu newid yn y gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.” Ymddangosodd y gyfres hon yn Y Tŵr Gwylio hyd 2017. Mae hi ar gael nawr ar jw.org®. Edrycha o dan AMDANON NI > PROFIADAU.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Wrth i gwpl weithio o ddrws i ddrws yn y weinidogaeth, maen nhw’n sylwi ar (1) cartref taclus, wedi ei addurno â blodau; (2) cartref lle mae teulu ifanc yn byw; (3) cartref sy’n flêr ar y tu mewn a’r tu allan; a (4) cartref crefyddol. Ym mha dŷ byddi di’n fwyaf tebygol o gyfarfod rhywun â’r potensial o fod yn ddisgybl?