Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 14

Ymosodiad yn Dod o’r Gogledd!

Ymosodiad yn Dod o’r Gogledd!

“Mae byddin fawr bwerus yn ymosod ar y wlad.”—JOEL 1:6.

CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch

CIPOLWG *

1. Pa ddull o astudio a ddefnyddiodd y Brawd Russell a’i grŵp, a pham roedd y dull yn effeithiol?

DROS ganrif yn ôl, dechreuodd y Brawd C. T. Russell a’i ffrindiau, sef grŵp bach o fyfyrwyr eraill o Air Duw, gyfarfod â’i gilydd. Roedden nhw eisiau gweld a allen nhw ddarganfod beth mae’r Beibl yn ei wir ddysgu am Jehofa, Iesu Grist, cyflwr y meirw, a’r pridwerth. Digon syml oedd eu dull o astudio. Byddai rhywun yn codi cwestiwn, ac yna byddai’r grŵp yn edrych ar bob adnod oedd yn ymwneud â’r pwnc. Wedyn, bydden nhw’n cofnodi’r hyn a ddysgon nhw. Helpodd Jehofa y dynion hynny i ddarganfod llawer o wirioneddau sylfaenol y Beibl, gwirioneddau rydyn ni’n dal i’w trysori hyd heddiw.

2. Beth sydd weithiau’n gallu achosi inni ddod i’r casgliad anghywir wrth geisio deall proffwydoliaeth Feiblaidd?

2 Ymhen dim, sylweddolodd y myfyrwyr hynny ei bod hi’n llawer anoddach deall proffwydoliaeth Feiblaidd nag ydy hi i ddeall un o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Pam felly? Un rheswm yw ein bod ni’n aml yn deall proffwydoliaethau’r Beibl orau wrth iddyn nhw gael eu cyflawni, neu ar ôl iddyn nhw gael eu cyflawni. Ond mae ’na reswm arall. Er mwyn deall proffwydoliaeth yn iawn, fel arfer mae’n rhaid inni ystyried y cyd-destun. Os ydyn ni’n canolbwyntio ar un agwedd ar y broffwydoliaeth yn unig, gan anwybyddu’r gweddill, gallen ni ddod i’r casgliad anghywir. O edrych yn ôl, mae’n ymddangos mai dyna ddigwyddodd yn achos proffwydoliaeth yn llyfr Joel. Gad inni ailedrych ar y broffwydoliaeth honno a thrafod pam mae angen inni addasu ein dealltwriaeth.

3-4. Hyd yma, sut rydyn ni wedi deall y broffwydoliaeth yn Joel 2:7-9?

3 Darllen Joel 2:7-9. Rhagfynegodd Joel y byddai pla o locustiaid yn difetha gwlad Israel. Â’u dannedd a safnau fel llewod, byddai’r pryfed barus yn llowcio pob planhigyn yn y wlad! (Joel 1:4, 6) Ers llawer o flynyddoedd, rydyn ni wedi deall fod y broffwydoliaeth honno yn rhagfynegi’r ffordd mae pobl Jehofa yn pregethu fel haid o locustiaid na ellir ei stopio. Roedden ni’n deall fod y gwaith hwn fel petai’n difetha’r “wlad,” neu’r bobl sydd dan reolaeth yr arweinwyr crefyddol. *

4 O ddarllen Joel 2:7-9 yn unig, gellir dadlau o blaid yr esboniad hwnnw. Ond, o ystyried y broffwydoliaeth yn ei chyd-destun, gwelwn fod angen dealltwriaeth wahanol. Gad inni edrych ar bedwar rheswm dros hynny.

PEDWAR RHESWM DROS Y NEWID

5-6. Pa gwestiwn sy’n codi o ystyried (a) Joel 2:20? (b) Joel 2:25?

5 Yn gyntaf oll, sylwa ar addewid Jehofa ynglŷn â’r pla o locustiaid: “Bydda i’n gyrru’r un ddaeth o’r gogledd [y locustiaid] i ffwrdd.” (Joel 2:20) Petai’r locustiaid yn cynrychioli Tystion Jehofa sy’n ufuddhau i orchymyn Iesu i bregethu a gwneud disgyblion, pam byddai Jehofa yn addo eu gyrru i ffwrdd? (Esec. 33:7-9; Math. 28:19, 20) Yn amlwg, nid ei weision ffyddlon y mae Jehofa yn eu gyrru i ffwrdd, ond rhywbeth neu rywun sy’n gwrthwynebu ei bobl.

6 Cawn yr ail reswm drwy ystyried geiriau Joel 2:25. Yno, mae Jehofa’n dweud: “Bydda i’n rhoi popeth wnaethoch chi ei golli yn ôl i chi—popeth wnaeth y locustiaid ei fwyta; y fyddin fawr wnes i ei hanfon yn eich erbyn chi.” Sylwa fod Jehofa yn addo gwneud yn iawn am yr holl niwed a achosodd y locustiaid. Petai’r locustiaid yn cynrychioli pregethwyr y Deyrnas, byddai hyn yn awgrymu bod y neges y maen nhw’n ei phregethu yn achosi niwed. Ond eto, mae’r neges achubol honno yn gallu ysgogi rhai pobl ddrygionus i edifarhau. (Esec. 33:8, 19) Byddai hynny’n fendith fawr iddyn nhw!

7. Beth yw arwyddocâd y geiriau “ar ôl hynny” yn Joel 2:28, 29?

7 Darllen Joel 2:28, 29. Ystyria drydydd rheswm—trefn y digwyddiadau yn y broffwydoliaeth. A wnest ti sylwi bod Jehofa yn dweud: “Ar ôl hynny, bydda i’n tywallt fy Ysbryd”; hynny yw, ar ôl i’r locustiaid orffen eu gwaith aseiniedig? Os mai’r rhai sy’n pregethu Teyrnas Dduw yw’r locustiaid, pam byddai Jehofa yn tywallt ei ysbryd arnyn nhw ar ôl iddyn nhw orffen eu tystiolaethu? Y gwir amdani yw, heb nerth ysbryd glân Duw, fe fyddai wedi bod yn amhosib iddyn nhw bregethu am ddegawdau yn wyneb gwrthwynebiad a gwaharddiadau.

Aeth y Brawd J. F. Rutherford a gweision eneiniog eraill ati i gymryd y blaen a chyhoeddi’n ddewr farnedigaethau Duw yn erbyn y system ddrwg hon (Gweler paragraff 8)

8. Pwy mae’r locustiaid a ddisgrifir yn Datguddiad 9:1-11 yn ei gynrychioli? (Gweler y llun ar y clawr.)

8 Darllen Datguddiad 9:1-11. Nawr, gad inni edrych ar y pedwerydd rheswm. Yn y gorffennol, dywedon ni fod y pla o locustiaid a ddisgrifiodd Joel yn cynrychioli ein gwaith pregethu oherwydd proffwydoliaeth debyg yn llyfr Datguddiad. Mae’r broffwydoliaeth hon yn disgrifio haid o locustiaid sydd â wynebau dynol a “rhywbeth tebyg i goron aur ar eu pennau.” (Dat. 9:7) Maen nhw’n poenydio “y bobl hynny [gelynion Duw] oedd heb eu marcio ar eu talcennau gyda sêl Duw” am gyfnod o bum mis, sef tua hyd oes locust. (Dat. 9:4, 5) Yn wir, mae hi’n ymddangos mai gweision eneiniog Jehofa sy’n cael eu disgrifio yma. Maen nhw’n cyhoeddi barnedigaethau Duw yn erbyn y system ddrygionus hon, ac o ganlyniad, yn gwneud ei chefnogwyr yn anghyfforddus iawn.

9. Pa wahaniaethau pwysig sydd rhwng y locustiaid a welodd Joel a’r rhai a ddisgrifiodd Ioan?

9 Mae’n rhaid cyfaddef bod y broffwydoliaeth yn Datguddiad yn debyg i’r un yn llyfr Joel. Ond, mae ’na wahaniaethau pwysig. Ystyria hyn: Ym mhroffwydoliaeth Joel, mae’r locustiaid yn difa’r planhigion. (Joel 1:4, 6, 7) Yng ngweledigaeth Ioan, mae’r locustiaid yn “cael gorchymyn i beidio gwneud niwed i’r glaswellt a’r planhigion a’r coed.” (Dat. 9:4) Daeth y locustiaid a welodd Joel o’r gogledd. (Joel 2:20) Daeth y rhai a welodd Ioan allan o bydew. (Dat. 9:2, 3) Mae’r locustiaid a ddisgrifiodd Joel yn cael eu gyrru i ffwrdd. Yn Datguddiad, dydy’r locustiaid ddim yn cael eu gyrru i ffwrdd, ond yn hytrach, maen nhw’n cael gorffen eu gwaith. Does dim byd yn y Beibl yn awgrymu nad yw Jehofa yn eu cymeradwyo.—Gweler y blwch “ Proffwydoliaethau am Locustiaid—Yn Debyg Ond Yn Wahanol.

10. Rho esiampl o’r Beibl sy’n dangos y gall y locustiaid a ddisgrifiodd Joel ac Ioan gynrychioli pethau gwahanol.

10 Mae’r gwahaniaethau pwysig rhwng y ddwy broffwydoliaeth yn ein harwain i gasglu nad oes cysylltiad rhyngddyn nhw. Ydyn ni’n dweud bod y “locustiaid” a ddisgrifiwyd gan Joel yn wahanol i’r “locustiaid” yn llyfr Datguddiad? Ydyn. Dydy hi ddim yn anarferol i symbolau yn y Beibl gael ystyron gwahanol mewn cyd-destunau gwahanol. Er enghraifft, yn Datguddiad 5:5, gelwir Iesu y “Llew o lwyth Jwda,” ond yn 1 Pedr 5:8, mae’r Diafol yn cael ei ddisgrifio fel “llew yn rhuo.” Oherwydd y cwestiynau sy’n codi o’n dealltwriaeth bresennol, mae’n dilyn bod angen inni ddod o hyd i esboniad arall ar gyfer proffwydoliaeth Joel. Tybed beth yw hwnnw?

BETH YW’R YSTYR?

11. Sut mae Joel 1:6 a 2:1, 811 yn ein helpu i ddeall pwy yw’r locustiaid?

11 O edrych yn fanwl ar broffwydoliaeth Joel yn ei chyd-destun, gwelwn fod y proffwyd yn rhagfynegi ymosodiad milwrol. (Joel 1:6; 2:1, 8, 11) Dywedodd Jehofa y byddai’n defnyddio ei “fyddin fawr” (milwyr o Fabilon) i gosbi’r Israeliaid anufudd. (Joel 2:25) Mae’n briodol fod y Beibl yn disgrifio’r fyddin fel yr “un ddaeth o’r gogledd” oherwydd byddai’r Babiloniaid yn ymosod ar Israel o’r gogledd. (Joel 2:20) Mae’r fyddin honno yn cael ei thebygu i haid drefnus o locustiaid. Amdanyn nhw y dywedodd Joel: “Mae pob un [milwr] yn martsio’n syth yn ei flaen. . . . Maen nhw’n rhuthro i mewn i’r ddinas, yn dringo dros y waliau, ac i mewn i’r tai. Maen nhw’n dringo i mewn fel lladron drwy’r ffenestri.” (Joel 2:8, 9) A elli di ddychmygu’r olygfa? Mae ’na filwyr ym mhobman. Does unman i guddio. Ni all neb ddianc rhag cleddyf y Babiloniaid!

12. Sut cafodd proffwydoliaeth Joel am y locustiaid ei chyflawni?

12 Fel y locustiaid, ymosododd y Babiloniaid ar ddinas Jerwsalem yn 607 COG. Dywed y Beibl: “Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw’n lladd y dynion ifainc â’r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed—y dynion a’r merched ifainc, na’r hen a’r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo eu lladd nhw i gyd. Wedyn dyma’r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw’n llosgi’r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno.” (2 Cron. 36:17, 19) Ar ôl i’r Babiloniaid oresgyn a dinistrio’r wlad, gallai pobl ond dweud: “Mae’r wlad yma’n anialwch diffaith, . . . does dim pobl nac anifeiliaid yn byw yma. Mae’r wlad wedi ei choncro gan y Babiloniaid.”—Jer. 32:43.

13. Esbonia ystyr Jeremeia 16:16, 18.

13 Tua 200 mlynedd ar ôl proffwydoliaeth Joel, ddefnyddiodd Jehofa Jeremeia i ragfynegi rhywbeth arall am yr ymosodiad hwn. Dywedodd y byddai’r ymosodwyr yn chwilio’n drylwyr am yr Israeliaid hynny oedd ag arferion drwg, ac yn dal pob un ohonyn nhw. Dywed Jehofa: “Dw i’n anfon am y gelynion, fydd yn dod i ddal y bobl yma fel pysgotwyr. Wedyn bydda i’n anfon am eraill i ddod fel helwyr. Byddan nhw’n eu hela nhw o’r mynyddoedd a’r bryniau lle maen nhw’n cuddio yn y creigiau. . . . Rhaid iddyn nhw’n gyntaf ddiodde’r gosb lawn maen nhw’n ei haeddu am eu drygioni a’u pechod.” Ni fyddai moroedd na choedwigoedd yn gallu cuddio’r Israeliaid diedifar rhag y Babiloniaid.—Jer. 16:16, 18.

NEWYDDION DA

14. Pryd cafodd Joel 2:28, 29 ei gyflawni?

14 Ar nodyn positif, mae gan Joel newyddion da hefyd. Byddai’r wlad yn ffrwythlon unwaith eto. (Joel 2:23-26) Yna, rywbryd yn y dyfodol, byddai digonedd o fwyd ysbrydol ar gael. “Bydda i’n tywallt fy Ysbryd ar y bobl i gyd,” meddai Jehofa. “Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo . . . Bydda i hyd yn oed yn tywallt fy Ysbryd ar y gweision a’r morynion.” (Joel 2:28, 29) Ni ddigwyddodd hyn yn syth ar ôl i’r Israeliaid ddychwelyd o Fabilon i’w mamwlad. Yn hytrach, digwyddodd ganrifoedd yn ddiweddarach, yn ystod Pentecost 33 OG. Sut rydyn ni’n gwybod?

15. Yn ôl Actau 2:16, 17, pa newid wnaeth Pedr i eiriau Joel 2:28, a beth mae hynny’n ei ddangos?

15 Ysbrydolwyd yr apostol Pedr i gymhwyso geiriau Joel 2:28, 29 at ddigwyddiad rhyfeddol ar ddydd y Pentecost y flwyddyn honno. Tua naw o’r gloch y bore hwnnw, tywalltodd Duw ei ysbryd glân ar grŵp o bobl, gan eu hysgogi i ddechrau siarad “am y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud.” (Act. 2:11) Cafodd Pedr ei ysbrydoli i ddefnyddio geiriau mymryn yn wahanol wrth ddyfynnu proffwydoliaeth Joel. Wnest ti sylwi ar y newid? (Darllen Actau 2:16, 17.) Yn hytrach na chychwyn y dyfyniad drwy ddweud “ar ôl hynny,” dywedodd Pedr: “Yn y cyfnod olaf,” sef, yn y cyd-destun hwn, dyddiau diwethaf y system Iddewig, byddai ysbryd Duw yn cael ei dywallt “ar y bobl i gyd.” Mae hyn yn dangos fod cryn dipyn o amser wedi mynd heibio cyn i broffwydoliaeth Joel gael ei chyflawni.

16. Pa effaith a gafodd ysbryd Duw ar y gwaith pregethu yn y ganrif gyntaf, a beth am heddiw?

16 Ar ôl i Dduw dywallt ei ysbryd glân ar y Cristnogion yn y ganrif gyntaf, dechreuon nhw waith pregethu a fyddai, ymhen amser, yn cyrraedd y byd i gyd. Erbyn i’r apostol Paul ysgrifennu ei lythyr at y Colosiaid tua 61 OG, gallai ddweud bod y newyddion da yn cael ei bregethu “drwy’r byd i gyd.” (Col. 1:23) Yn amser Paul, roedd y “byd i gyd” yn golygu’r rhannau o’r byd y gallai ef ac eraill deithio iddyn nhw. Gyda nerth ysbryd glân Jehofa, mae’r gwaith pregethu wedi cyrraedd yn llawer pellach yn ein hamser ni—hyd “ben draw’r byd”!—Act. 13:47; gweler y blwch “ Bydda I’n Tywallt Fy Ysbryd.

BETH SYDD WEDI NEWID?

17. Sut mae ein dealltwriaeth o broffwydoliaeth Joel am y locustiaid wedi newid?

17 Beth sydd wedi newid? Bellach, mae gennyn ni ddealltwriaeth gywirach o’r broffwydoliaeth yn Joel 2:7-9. Yn amlwg, dydy’r adnodau hyn ddim yn cyfeirio at ein gwaith pregethu selog, ond at y ffordd yr ymosododd y fyddin Fabilonaidd ar Jerwsalem yn 607 COG.

18. Beth sydd heb newid ynglŷn â phobl Jehofa?

18 Beth sydd heb newid? Mae pobl Jehofa yn dal i bregethu’r newyddion da ym mhobman, gan ddefnyddio pob dull posib i wneud hynny. (Math. 24:14) Ni all unrhyw gyfyngiadau llywodraethol ein rhwystro rhag dilyn y gorchymyn i bregethu. A gyda bendith Jehofa, rydyn ni’n fwy gweithgar nag erioed yn pregethu newyddion da’r Deyrnas yn ddewr! Yn ostyngedig, rydyn ni’n parhau i ddibynnu ar Jehofa i’n helpu i ddeall proffwydoliaethau’r Beibl, yn hyderus o’r ffaith y bydd ef yn ein harwain ni “i weld y gwir i gyd” pan fo’r amser yn iawn!—Ioan 16:13.

CÂN 97 Mae Bywyd yn Ddibynnol ar Air Duw

^ Par. 5 Ers llawer o flynyddoedd, rydyn ni wedi credu bod y broffwydoliaeth ym mhenodau 1 a 2 o lyfr Joel yn rhagfynegi ein gwaith pregethu heddiw. Ond, mae ’na bedwar rheswm da pam mae angen inni addasu ein dealltwriaeth o’r rhan hon o broffwydoliaeth Joel. Beth yw’r rhesymau hynny?

^ Par. 3 Er enghraifft, gweler yr erthygl “Jehovah’s Wisdom Observed in Creation” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, Ebrill 15, 2009, par. 14-16.