Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 17

“Ffrindiau i Mi Ydych Chi”

“Ffrindiau i Mi Ydych Chi”

“Ffrindiau i mi ydych chi, achos dw i wedi rhannu gyda chi bopeth mae’r Tad wedi’i ddweud.”—IOAN 15:15.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

CIPOLWG *

1. Sut mae adeiladu perthynas agos â rhywun?

FEL arfer, mae’n rhaid treulio amser â rhywun i feithrin perthynas agos ag ef. Wrth i chi siarad â’ch gilydd, yn rhannu teimladau a phrofiadau, rydych yn dod yn ffrindiau da. Ond mae ’na heriau mae’n rhaid inni eu hwynebu er mwyn bod yn ffrind i Iesu. Beth yw rhai ohonyn nhw?

2. Beth yw’r her gyntaf rydyn ni’n ei hwynebu?

2 Yr her gyntaf yw ein bod ni heb gyfarfod Iesu ei hun. Wynebodd llawer o Gristnogion y ganrif gyntaf yr un her. Er hynny, dywedodd yr apostol Pedr: “Dych chi erioed wedi gweld Iesu, ac eto dych chi’n ei garu e. Dych chi’n credu ynddo er eich bod chi ddim yn ei weld ar hyn o bryd.” (1 Pedr 1:8) Felly, mae hi’n bosib inni feithrin perthynas agos â Iesu heb inni ei gyfarfod.

3. Beth yw’r ail her rydyn ni’n ei hwynebu?

3 Yr ail her yw ein bod ni’n methu siarad â Iesu. Wrth inni weddïo, rydyn ni’n siarad â Jehofa. Wrth gwrs, rydyn ni’n gweddïo drwy enw Iesu, ond dydyn ni ddim yn siarad yn uniongyrchol ag ef. Ac mewn gwirionedd, dydy Iesu ddim eisiau inni weddïo arno. Pam? Oherwydd mae gweddi yn fath o addoli, a dylen ni addoli Jehofa yn unig. (Math. 4:10) Er hynny, gallwn ni fynegi ein cariad tuag at Iesu.

4. Beth yw’r drydedd her, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Y drydedd her yw fod Iesu’n byw yn y nef, felly allwn ni ddim treulio amser yn ei gwmni. Ond mae hi’n dal yn bosib inni ddysgu am Iesu heb fod wrth ei ymyl yn llythrennol. Byddwn ni’n trafod pedwar peth gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein cyfeillgarwch ag ef. Ond yn gyntaf, gad inni ystyried pam mae hi’n hanfodol inni feithrin perthynas agos â Christ.

PAM MAE ANGEN INNI DDOD YN FFRIND I IESU?

5. Pam mae’n rhaid inni fod yn ffrindiau â Iesu? (Gweler hefyd y blwch “ Drwy Ddod yn Ffrind i Iesu Cawn Ddod yn Ffrind i Jehofa” ac “ Agwedd Gytbwys Tuag at Rôl Iesu.”)

5 Mae’n rhaid inni fod yn ffrind i Iesu er mwyn cael perthynas dda â Jehofa. Pam felly? Ystyria ddau reswm. Yn gyntaf, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi am eich bod chi wedi fy ngharu i.” (Ioan 16:27) Hefyd dywedodd: “Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi.” (Ioan 14:6) Byddai ceisio bod yn ffrind i Jehofa heb fod yn ffrind i Iesu yn debyg i geisio cael mynedfa i adeilad heb ddefnyddio’r drws. Defnyddiodd Iesu eglureb debyg pan ddisgrifiodd ei hun fel “giât i’r defaid.” (Ioan 10:7) Yn ail, efelychodd Iesu rinweddau ei Dad yn berffaith. Dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Felly mae dysgu am Iesu yn ffordd bwysig y gallwn ni ddod i adnabod Jehofa. Y mwyaf rydyn ni’n dysgu am Iesu, y mwyaf y byddwn ni’n ei garu. A’r mwyaf rydyn ni’n caru Iesu, y mwyaf byddwn ni’n caru ei Dad.

6. Pa reswm arall sydd ’na dros gael perthynas â Iesu? Esbonia.

6 Mae’n rhaid inni gael perthynas â Iesu er mwyn inni gael atebion i’n gweddïau. Mae hyn yn gofyn am fwy nag atodi’r ymadrodd “yn enw Iesu” ar ddiwedd pob gweddi. Mae’n rhaid inni ddeall sut mae Jehofa yn defnyddio Iesu i ateb ein gweddïau. Meddai Iesu wrth ei apostolion: “Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe’i gwnaf.” (Ioan 14:13, BCND) Er mai Jehofa yw’r un sy’n clywed ein gweddïau ac yn eu hateb, mae wedi rhoi’r awdurdod i Iesu weithredu ar Ei benderfyniadau. (Math. 28:18) Felly, cyn i Dduw ateb ein gweddïau, fe fydd yn edrych i weld a ydyn ni wedi gweithredu ar gyngor Iesu. Er enghraifft, dywedodd Iesu: “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. Ond os na wnewch chi faddau i’r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau’ch pechodau chi.” (Math. 6:14, 15) Felly mae hi’n hynod o bwysig inni drin eraill yn yr un ffordd garedig y mae Jehofa ac Iesu yn ein trin ni!

7. Pwy sy’n elwa ar aberth pridwerthol Iesu?

7 Dim ond y rhai sydd â pherthynas agos â Iesu fydd yn elwa ar ei aberth pridwerthol. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Dywedodd Iesu y byddai’n “marw dros ei ffrindiau.” (Ioan 15:13) Bydd rhaid i’r rhai ffyddlon a oedd yn byw cyn i Iesu ddod i’r ddaear ddysgu amdano a dod i’w garu. Bydd dynion a merched fel Abraham, Sara, Moses, a Rahab yn cael eu hatgyfodi, ond er iddyn nhw fod yn weision cyfiawn i Jehofa, bydd angen iddyn nhwthau feithrin cyfeillgarwch â Iesu er mwyn cael bywyd tragwyddol.—Ioan 17:3; Act. 24:15; Heb. 11:8-12, 24-26, 31.

8-9. Yn ôl Ioan 15:4, 5, beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n ffrind i Iesu, a pham mae hynny’n bwysig?

8 Mae gennyn ni’r fraint o weithio gyda Iesu wrth ddysgu a phregethu newyddion da y Deyrnas. Athro oedd Iesu pan oedd ar y ddaear. Ac ers iddo ddychwelyd i’r nef, mae Iesu, fel pen y gynulleidfa, wedi parhau i gyfarwyddo’r gwaith dysgu a phregethu. Mae’n gweld ac yn gwerthfawrogi dy ymdrechion i helpu cynifer ag y medri di i ddod i’w adnabod ef a’i Dad. A dweud y gwir, ni allwn ni gyflawni’r gwaith hwnnw heb help Jehofa ac Iesu.—Darllen Ioan 15:4, 5.

9 Mae Gair Duw yn dangos yn glir fod rhaid inni garu Iesu a pharhau i feithrin y cariad hwnnw er mwyn plesio Jehofa. Felly gad inni ystyried pedwar peth gallwn ni ei wneud er mwyn dod yn ffrindiau i Iesu.

SUT I FEITHRIN CYFEILLGARWCH Â IESU

Gelli di ddod yn ffrind i Iesu drwy (1) dod i’w adnabod yn well, (2) efelychu ei ffordd o feddwl a gweithredu, (3) cefnogi brodyr Crist, a (4) cefnogi trefniadau cyfundrefn Jehofa (Gweler paragraffau 10-14) *

10. Beth yw’r cam cyntaf tuag at feithrin cyfeillgarwch â Iesu?

10 (1) Dod i adnabod Iesu. Gallwn wneud hyn drwy ddarllen llyfrau Mathew, Marc, Luc ac Ioan yn y Beibl. Wrth inni fyfyrio ar hanes bywyd Iesu yn y Beibl, fe ddown i garu Iesu oherwydd ei ffordd garedig o drin pobl. Er enghraifft, ni wnaeth ef drin ei ddisgyblion fel caethweision er mai ef oedd eu Meistr. Yn hytrach, datgelodd ei deimladau a’r hyn oedd ar ei feddwl iddyn nhw. (Ioan 15:15) Pan oedden nhw’n drist, roedd Iesu’n teimlo’n drist hefyd. (Ioan 11:32-36) Roedd hyd yn oed gwrthwynebwyr Iesu yn cydnabod ei fod yn ffrind i’r rhai a oedd yn derbyn ei neges. (Math. 11:19) Pan fyddwn ni’n efelychu Iesu yn y ffordd yr oedd yn trin ei ddisgyblion, bydd ein perthynas ag eraill yn gwella, byddwn ni’n hapusach ac yn fwy bodlon ein byd, a bydd ein cariad a’n parch tuag at Iesu yn tyfu.

11. Beth yw’r ail gam tuag at ddod yn ffrind i Iesu, a pham mae hynny’n bwysig?

11 (2) Efelycha ffordd Iesu o feddwl a gweithredu. Mwyaf yn y byd y deallwn ei ffordd o feddwl a’i hefelychu, cryfaf yn y byd y bydd ein cyfeillgarwch ag ef. (1 Cor. 2:16) Sut gallwn ni efelychu Iesu? Ystyria un esiampl. Roedd helpu eraill yn bwysicach i Iesu na’i blesio ei hun. (Math. 20:28; Rhuf. 15:1-3) Oherwydd dyna oedd ei agwedd meddwl, roedd yn hunanaberthol ac yn faddeugar. Nid oedd yn digio’n hawdd oherwydd geiriau eraill. (Ioan 1:46, 47) Ni adawodd i hen gamgymeriadau rhywun ddylanwadu ar ei agwedd tuag atyn nhw. (1 Tim. 1:12-14) Dywedodd Iesu: “Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.” (Ioan 13:35) Beth am ofyn i ti dy hun, “A ydw i’n dilyn esiampl Iesu drwy wneud popeth a alla’ i i geisio heddwch â ’mrodyr a chwiorydd?”

12. Beth yw’r trydydd cam tuag at ddod yn ffrind i Iesu, a sut gallwn ni gymryd y cam hwnnw?

12 (3) Cefnoga frodyr Crist. Mae Iesu’n ystyried yr hyn a wnawn ar gyfer ei frodyr eneiniog fel petasen ni’n gwneud y pethau hynny iddo ef. (Math. 25:34-40) Y brif ffordd gallwn ni gefnogi’r eneiniog yw drwy gael rhan lawn yn y gwaith o wneud ddisgyblion a phregethu’r Deyrnas, fel mae Iesu wedi gofyn inni ei wneud. (Math. 28:19, 20; Act. 10:42) Dim ond gyda help y ‘defaid eraill’ y gall brodyr Crist gyflawni’r gwaith pregethu byd-eang sy’n digwydd ar hyn o bryd. (Ioan 10:16) Os wyt ti’n un o’r defaid eraill, bob tro rwyt ti’n cael rhan yn y gwaith yma, rwyt ti’n dangos dy fod yn caru, nid yn unig yr eneiniog, ond hefyd Iesu ei hun.

13. Sut gallwn ni roi cyngor Iesu yn Luc 16:9 ar waith?

13 Rydyn ni hefyd yn dod yn ffrindiau i Jehofa ac Iesu drwy gyfrannu at y gwaith y maen nhw’n ei gyfarwyddo. (Darllen Luc 16:9.) Er enghraifft, gallwn ni gyfrannu at y gwaith byd-eang. Mae’r cyfraniadau hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwaith pregethu mewn ardaloedd anghysbell, adeiladu a chynnal Neuaddau’r Deyrnas a llefydd tebyg, ac er mwyn rhoi cymorth ar ôl trychineb. Gallwn hefyd gefnogi ein cynulleidfa ein hunain yn ariannol a helpu rhai rydyn ni’n gwybod sydd mewn angen. (Diar. 19:17) Dyna rai ffyrdd y gallwn ni gefnogi brodyr Crist.

14. Yn ôl Effesiaid 4:15, 16, beth yw’r pedwerydd cam tuag at ddod yn ffrind i Iesu?

14 (4) Cefnoga drefniadau cyfundrefn Jehofa. Rydyn ni’n closio at Iesu fel pen y gynulleidfa drwy gydweithio â’r rhai sydd wedi eu penodi i ofalu amdanon ni. (Darllen Effesiaid 4:15, 16.) Er enghraifft, rydyn ni wrthi’n ceisio gwneud y defnydd gorau o’n Neuaddau’r Deyrnas. Dyna pam mae rhai cynulleidfaoedd wedi cael eu cyfuno, a ffiniau’r diriogaeth wedi cael eu haddasu. O ganlyniad i hyn, mae cyfundrefn Jehofa wedi arbed llawer o’r arian sydd wedi ei gyfrannu. Ond ar yr un pryd, golyga hyn fod rhai cyhoeddwyr wedi gorfod addasu i amgylchiadau newydd. Efallai fod rhai o’r cyhoeddwyr hynny wedi gwasanaethu yn yr un gynulleidfa ers blynyddoedd ac yn agos at y brodyr a chwiorydd yno. Ond nawr mae ’na ofyn iddyn nhw wasanaethu mewn cynulleidfa wahanol. Mae Iesu mor falch o weld y disgyblion ffyddlon hyn yn dilyn y trefniant hwnnw!

FFRINDIAU I IESU AM BYTH

15. Sut bydd ein cyfeillgarwch â Iesu yn gwella yn y dyfodol?

15 Mae gan y rhai sydd wedi’u heneinio â’r ysbryd glân y gobaith o fod gyda Iesu am byth, yn rheoli gydag ef yn Nheyrnas Dduw. Byddan nhw gyda Iesu yn llythrennol—yn gallu ei weld, siarad ag ef, a threulio amser yn ei gwmni. (Ioan 14:2, 3) Bydd Iesu hefyd yn dangos ei gariad tuag at y rhai sydd â gobaith daearol, ac yn talu sylw iddyn nhw. Er na fyddan nhw’n gallu gweld Iesu, fe fyddan nhw’n parhau i glosio ato wrth fyw’r bywyd mae Jehofa ac Iesu wedi galluogi iddyn nhw ei fwynhau.—Esei. 9:6, 7.

16. Pa fendithion gawn ni o fod yn ffrind i Iesu?

16 Cawn lawer o fendithion o dderbyn gwahoddiad Iesu i fod yn ffrind iddo. Er enghraifft, rydyn ni eisoes yn elwa ar ei gariad a’i gefnogaeth. Mae gennyn ni’r cyfle i fyw am byth. Ac yn bennaf, bydd ein cyfeillgarwch â Iesu yn ein harwain ni at y trysor gorau oll, sef perthynas agos â’i Dad, Jehofa. Am fraint arbennig yw bod yn ffrind i Iesu!

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

^ Par. 5 Treuliodd yr apostolion rai blynyddoedd yn siarad â Iesu ac yn gweithio gydag ef, a daethon nhw’n ffrindiau mawr. Mae Iesu eisiau i ninnau hefyd fod yn ffrindiau iddo, ond rydyn ni’n wynebu heriau nad oedd gan yr apostolion. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhai o’r heriau hynny ac yn awgrymu sut y gallwn ni adeiladu perthynas agos â Iesu a’i chadw.

^ Par. 55 DISGRIFIADAU O’R LLUN: (1) Yn ystod addoliad teuluol, gallwn ni ddysgu am fywyd a gweinidogaeth Iesu. (2) Yn y gynulleidfa, gallwn ni geisio heddwch â’n brodyr. (3) Drwy gael rhan lawn yn y weinidogaeth, gallwn ni gefnogi brodyr Crist. (4) Pan fydd cynulleidfaoedd yn cael eu cyfuno, gallwn ni gydweithio â phenderfyniadau’r henuriaid.