Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 20

Pwy Yw “Brenin y Gogledd” Heddiw?

Pwy Yw “Brenin y Gogledd” Heddiw?

“Bydd yn cwrdd â’i ddiwedd, a fydd neb yn gallu ei helpu.”—DAN. 11:45.

CÂN 95 Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch

CIPOLWG *

1-2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

MAE mwy o dystiolaeth nag erioed o’r blaen ein bod ni’n byw yn niwedd dyddiau diwethaf y system bresennol. Yn fuan, bydd Jehofa ac Iesu Grist yn dinistrio pob llywodraeth sy’n gwrthwynebu’r Deyrnas. Ond cyn i hynny ddigwydd, bydd brenin y gogledd a brenin y de yn parhau i frwydro yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn pobl Dduw.

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried y broffwydoliaeth yn Daniel 11:40–12:1. Byddwn ni’n dysgu pwy yw brenin y gogledd heddiw, ac yn trafod pam gallwn ni aros yn dawel ein meddwl, gan fod yn gwbl hyderus y bydd Jehofa yn ein hachub ni beth bynnag a ddaw.

BRENIN NEWYDD Y GOGLEDD YN YMDDANGOS

3-4. Pwy yw brenin y gogledd heddiw? Esbonia.

3 Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991, cafodd pobl Dduw yn y rhanbarth enfawr hwnnw gyfnod o ryddid—yng ngeiriau Daniel, “rhywfaint o help.” (Dan. 11:34) O ganlyniad i hynny, roedden nhw’n rhydd i bregethu, a chyn hir cododd nifer cyhoeddwyr y bloc Comiwnyddol gynt i gannoedd o filoedd. Fesul dipyn, daeth Rwsia a’i chynghreiriaid yn frenin y gogledd. Fel y trafodwyd yn yr erthygl flaenorol, mae’n rhaid i lywodraeth wneud tri pheth er mwyn bod yn frenin y gogledd neu frenin y de: (1) cael effaith uniongyrchol ar bobl Dduw, (2) dangos drwy ei gweithredoedd ei bod yn casáu Jehofa a’i bobl, a (3) cystadlu yn erbyn y brenin arall am rym.

4 Dyma’r rhesymau dros ddweud mai Rwsia a’i chynghreiriaid yw brenin y gogledd heddiw. (1) Maen nhw wedi cael effaith uniongyrchol ar bobl Dduw, drwy wahardd y gwaith pregethu ac erlid cannoedd o filoedd o frodyr a chwiorydd sy’n byw mewn ardaloedd o dan eu rheolaeth. (2) Mae’r gweithredoedd hynny’n dangos eu bod nhw’n casáu Jehofa a’i bobl. (3) Maen nhw wedi bod yn cystadlu yn erbyn brenin y de, sef y Grym Byd Eingl-Americanaidd. Gad inni weld sut mae Rwsia a’i chynghreiriaid wedi cyflawni rôl brenin y gogledd.

BRENIN Y GOGLEDD A BRENIN Y DE YN PARHAU I GYSTADLU

5. Pa gyfnod mae Daniel 11:40-43 yn sôn amdano, a beth sy’n digwydd bryd hynny?

5 Darllen Daniel 11:40-43. Mae’r rhan hon o’r broffwydoliaeth yn sôn am amser y diwedd. Mae’r adnodau hyn yn disgrifio’r elyniaeth rhwng brenin y gogledd a brenin y de. Fel rhagfynegodd Daniel am amser y diwedd, byddai brenin y de a brenin y gogledd yn ‘codi yn erbyn,’ neu’n gwthio yn erbyn ei gilydd.—Dan. 11:40.

6. Pa dystiolaeth sy’n dangos fod y ddau frenin wedi bod yn gwthio yn erbyn ei gilydd?

6 Mae brenin y gogledd a brenin y de yn parhau i gystadlu am reolaeth y byd. Er enghraifft, ystyria beth ddigwyddodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Llwyddodd yr Undeb Sofietaidd a’i gynghreiriaid i estyn ei ddylanwad dros ran helaeth o Ewrop. Mewn ymateb i hyn, ffurfiodd brenin y de gynghrair milwrol rhyngwladol, a elwir NATO, yn ei erbyn. Mae brenin y gogledd yn parhau i gystadlu â brenin y de mewn ras arfau ddrud. Hefyd, fe frwydron nhw yn erbyn ei gilydd drwy gefnogi gelynion ei gilydd mewn rhyfeloedd yn Affrica, Asia, ac America Ladin. Yn y blynyddoedd diweddar, mae Rwsia a’i chynghreiriaid wedi estyn eu dylanwad dros y byd. Maen nhw hefyd wedi brwydro yn erbyn brenin y de mewn rhyfela seiber. Mae’r brenhinoedd wedi cyhuddo ei gilydd o ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol dinistriol mewn ymdrech i niweidio eu heconomïau a’u systemau gwleidyddol. Ac fel rhagfynegodd Daniel, mae brenin y gogledd yn parhau i ymosod ar bobl Dduw.—Dan. 11:41.

BRENIN Y GOGLEDD YN MYND I MEWN I’R “WLAD HARDD”

7. Beth yw’r “Wlad Hardd”?

7 Mae Daniel 11:41 yn dweud y bydd brenin y gogledd yn mynd i mewn i’r “Wlad Hardd.” Beth yw’r wlad honno? Yn adeg y Beibl, roedd gwlad lythrennol Israel yn cael ei hystyried fel “y wlad harddaf o’r cwbl i gyd!” (Esec. 20:6) Roedd y wlad honno mor arbennig oherwydd dyna lle roedd pobl yn addoli Jehofa. Ond ers Pentecost 33 OG, dydy’r “wlad” honno ddim yn un lleoliad llythrennol; dydy hynny ddim yn bosib, achos mae pobl Dduw ar wasgar dros y byd. Yn hytrach, y “Wlad Hardd” heddiw yw ffordd o fyw pobl Jehofa sy’n cynnwys pethau fel addoli Jehofa drwy’r cyfarfodydd a’r weinidogaeth.

8. Sut mae brenin y gogledd wedi mynd i mewn i’r “Wlad Hardd”?

8 Yn ystod y dyddiau diwethaf, mae brenin y gogledd wedi mynd i mewn i’r “Wlad Hardd” sawl gwaith. Er enghraifft, pan oedd yr Almaen Natsïaidd yn frenin y gogledd, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, aeth y brenin hwnnw i mewn i’r “Wlad Hardd” drwy erlid pobl Dduw a’u lladd. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth yr Undeb Sofietaidd yn frenin y gogledd, fe aeth i mewn i’r “Wlad Hardd” drwy erlid pobl Dduw a’u halltudio.

9. Yn y blynyddoedd diwethaf, sut mae Rwsia a’i chynghreiriaid wedi mynd i mewn i’r “Wlad Hardd”?

9 Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Rwsia a’i chynghreiriaid hefyd wedi mynd i mewn i’r “Wlad Hardd.” Sut? Yn 2017, fe wnaeth Rwsia wahardd gwaith pobl Jehofa gan daflu rhai o’n brodyr a’n chwiorydd i’r carchar. Hefyd, fe waharddodd ein cyhoeddiadau, gan gynnwys y New World Translation. Ar ben hynny, fe gymerodd ein swyddfa gangen yn Rwsia yn ogystal â Neuaddau’r Deyrnas a Neuaddau Cynulliad oddi arnon ni. Ar ôl y gweithredoedd hyn, dywedodd y Corff Llywodraethol yn 2018 mai Rwsia a’i chynghreiriaid oedd brenin y gogledd. Sut bynnag, er gwaethaf erledigaeth lem, dydy pobl Jehofa ddim yn ceisio gwneud unrhyw beth i danseilio llywodraethau dynol na’u newid. Yn hytrach, maen nhw’n dilyn cyngor y Beibl i weddïo dros bawb sydd “mewn safle o awdurdod,” yn enwedig pan fydd pobl felly yn gwneud penderfyniadau a allai effeithio ar y rhyddid i addoli.—1 Tim. 2:1, 2.

A FYDD BRENIN Y GOGLEDD YN GORCHFYGU BRENIN Y DE?

10. A fydd brenin y gogledd yn gorchfygu brenin y de? Esbonia.

10 Mae’r broffwydoliaeth yn Daniel 11:40-45 yn canolbwyntio’n bennaf ar weithredoedd brenin y gogledd. Ydy hyn yn golygu y bydd yn gorchfygu brenin y de? Nac ydy. Bydd brenin y de yn dal “yn fyw” pan fydd Jehofa ac Iesu yn dinistrio pob llywodraeth ddynol yn ystod rhyfel Armagedon. (Dat. 19:20) Pam gallwn ni fod mor sicr? Ystyria beth mae proffwydoliaethau Daniel a Datguddiad yn ei olygu.

Yn Armagedon, bydd Teyrnas Dduw, sy’n cael ei chymharu â charreg, yn rhoi terfyn ar reolaeth ddynol, a gynrychiolir yma gan ddelw anferth (Gweler paragraff 11)

11. Beth mae Daniel 2:43-45 yn ei olygu? (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Darllen Daniel 2:43-45. Mae’r proffwyd Daniel yn disgrifio cyfres o lywodraethau dynol sydd wedi cael effaith sylweddol ar bobl Dduw. Mae’n eu disgrifio fel gwahanol rannau o ddelw metel anferth. Mae’r llywodraeth ddynol olaf yn y gyfres yn cael ei darlunio fel traed y ddelw, sydd wedi eu gwneud o haearn yn gymysg â chlai. Mae’r traed yn cynrychioli’r Grym Byd Eingl-Americanaidd. Mae’r broffwydoliaeth honno yn golygu y bydd y Grym Byd Eingl-Americanaidd yn dal i reoli pan fydd Teyrnas Dduw yn taro llywodraethau dynol ac yn eu dinistrio.

12. Beth mae seithfed pen yr anghenfil yn ei gynrychioli, a pham mae hynny’n arwyddocaol?

12 Mae’r apostol Ioan hefyd yn disgrifio cyfres o rymoedd byd sydd wedi effeithio ar bobl Dduw. Ym mhroffwydoliaeth Ioan, mae’r llywodraethau hyn yn cael eu cynrychioli gan anghenfil â saith pen. Mae seithfed pen yr anghenfil hwnnw yn cynrychioli’r Grym Byd Eingl-Americanaidd. Mae hyn yn arwyddocaol gan nad oes pen arall ar ôl hwnnw. Bydd seithfed pen yr anghenfil hwn yn dal i reoli pan fydd Crist a’i luoedd nefol yn ei ddinistrio ynghyd â gweddill yr anghenfil. *Dat. 13:1, 2; 17:13, 14.

BETH BYDD BRENIN Y GOGLEDD YN EI WNEUD YN Y DYFODOL AGOS?

13-14. Pwy yw “Gog o dir Magog,” a beth efallai fydd yn ei sbarduno i ymosod ar bobl Dduw?

13 Mae un o broffwydoliaethau Eseciel yn dweud beth allai ddigwydd yn ystod dyddiau diwethaf brenin y gogledd a brenin y de. Os cymerwn fod proffwydoliaethau Eseciel 38:10-23; Daniel 2:43-45; 11:44–12:1; a Datguddiad 16:13-16, 21 yn cyfeirio at yr un cyfnod a’r un digwyddiadau, mae’n ymddangos y gallwn ddisgwyl i’r pethau canlynol ddigwydd.

14 Rywbryd ar ôl dechrau’r gorthrymder mawr, bydd ‘brenhinoedd y ddaear’ yn uno i ffurfio grŵp o genhedloedd. (Dat. 16:13, 14; 19:19) Mae’r Beibl yn enwi’r grŵp hwnnw yn “Gog o dir Magog.” (Esec. 38:2) Bydd y cenhedloedd hynny yn ymosod ar bobl Dduw gan geisio eu dinistrio yn gyfan gwbl. Beth fydd yn sbarduno’r ymosodiad? Wrth gyfeirio at y cyfnod hwnnw, gwelodd yr apostol Ioan storm o genllysg hynod o fawr yn bwrw i lawr ar elynion Duw. Gall y storm genllysg honno cynrychioli neges o farn gryf sy’n cael ei chyhoeddi gan bobl Jehofa. Mae’n bosib mai’r neges hon fydd yn sbarduno Gog o dir Magog i ymosod ar bobl Dduw gyda’r bwriad o’u sgubo oddi ar wyneb y ddaear.—Dat. 16:21.

15-16. (a) Pa ddigwyddiadau mae Daniel 11:44, 45 efallai yn eu disgrifio? (b) Beth fydd yn digwydd i frenin y gogledd a gweddill Gog o dir Magog?

15 Efallai mai’r neges gryf hon a’r ymosodiad terfynol gan elynion Duw yw’r digwyddiadau sy’n cael eu disgrifio yn Daniel 11:44, 45. (Darllen.) Yno, mae Daniel yn dweud y “bydd adroddiadau o’r dwyrain a’r gogledd” yn cynhyrfu brenin y gogledd a fydd yn “mynd allan yn wyllt.” Mae brenin y gogledd yn bwriadu ‘dinistrio a lladd llawer iawn o bobl.’ Mae’n ymddangos bod y “llawer” yn cyfeirio at bobl Jehofa. * Efallai fod Daniel yn disgrifio yma yr ymosodiad terfynol mawr ar bobl Dduw.

16 Bydd yr ymosodiad hwn gan frenin y gogledd a gweddill llywodraethau’r byd, yn digio’r Hollalluog ac yn cychwyn rhyfel Armagedon. (Dat. 16:14, 16) Pryd hynny, bydd brenin y gogledd, ynghyd â’r cenhedloedd eraill sy’n rhan o Gog o dir Magog, yn cwrdd â’i ddiwedd, ac ni “fydd neb yn gallu ei helpu.”—Dan. 11:45.

Yn ystod rhyfel Armagedon bydd Iesu Grist a’i luoedd nefol yn dinistrio byd drygionus Satan ac yn achub pobl Dduw (Gweler paragraff 17)

17. Pwy yw Michael “yr arweinydd mawr” a welwn yn Daniel 12:1, a beth mae’n ei wneud?

17 Mae’r adnod nesaf ym mhroffwydoliaeth Daniel yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut bydd brenin y gogledd a’i gynghreiriaid yn cael eu dinistrio, a sut cawn ni ein hachub. (Darllen Daniel 12:1.) Beth yw ystyr yr adnod hon? Michael yw enw arall ar ein Brenin, Iesu Grist. Mae wedi bod yn gofalu am bobl Dduw ers 1914, pan ddaeth yn frenin ar Deyrnas nefol Duw. Yn y dyfodol agos, fe fydd “yn codi” yn erbyn ei elynion yn ystod rhyfel Armagedon. Y rhyfel hwnnw fydd y digwyddiad olaf yn y cyfnod mae Daniel yn ei ddisgrifio fel “amser caled—gwaeth na dim” a fuodd erioed o’r blaen. Mae proffwydoliaeth Ioan yn Datguddiad yn cyfeirio at y cyfnod sy’n arwain at Armagedon fel y “gorthrymder mawr.”—Dat. 6:2; 7:14, BCND.

A FYDD DY ENW DI YN Y LLYFR?

18. Pam gallwn ni wynebu’r dyfodol yn hyderus?

18 Gallwn wynebu’r dyfodol yn hyderus, am fod Daniel ac Ioan yn cadarnhau y bydd Jehofa ac Iesu yn achub eu gweision yn ystod y gorthrymder mawr. Dywedodd Daniel y bydd enwau’r goroeswyr “wedi eu hysgrifennu yn y llyfr.” (Dan. 12:1) Sut gallwn ni gael ein henwau ni yn y llyfr hwnnw? Mae’n rhaid inni brofi bod gynnon ni ffydd yn Iesu, Oen Duw. (Ioan 1:29) Mae’n rhaid inni gysegru ein bywydau i Dduw a chael ein bedyddio. (1 Pedr 3:21) Mae’n rhaid inni gefnogi Teyrnas Dduw drwy wneud ein gorau i helpu eraill i ddysgu am Jehofa.

19. Beth dylen ni ei wneud nawr, a pham?

19 Nawr yw’r amser i feithrin hyder yn Jehofa a’i gyfundrefn o weision ffyddlon. Nawr yw’r amser i gefnogi Teyrnas Dduw. Os gwnawn ni hyn, cawn ein hachub pan gaiff brenin y gogledd a brenin y de eu dinistrio gan Deyrnas Dduw.

CÂN 149 Cân o Fuddugoliaeth

^ Par. 5 Pwy yw “brenin y gogledd” heddiw, a sut bydd yn cwrdd â’i ddiwedd? Gall gwybod yr atebion i’r cwestiynau hyn cryfhau ein ffydd a’n helpu ni i baratoi am y treialon a ddaw yn y dyfodol agos.