Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Addfwynder—Sut Mae o Les Inni?

Addfwynder—Sut Mae o Les Inni?

“Dw i’n gymeriad swil,” meddai Sara, * “a does gen i ddim llawer o hunanhyder. Felly dw i’n teimlo’n anghyfforddus yng nghwmni pobl orhyderus sydd â phersonoliaeth gryf. Ond dw i’n gallu ymlacio yng nghwmni rhywun sy’n addfwyn ac yn ostyngedig. Galla’ i agor fy nghalon i’r math yna o berson, rhannu fy nheimladau, a thrafod fy mhroblemau efo nhw. Pobl felly yw fy ffrindiau gorau.”

Mae sylwadau Sara yn dangos fod personoliaeth addfwyn yn apelio at eraill. Mae addfwynder hefyd yn plesio Jehofa. Mae ei Air yn ein hannog i ‘fod yn addfwyn.’ (Col. 3:12) Beth yw addfwynder? Sut dangosodd Iesu addfwynder? A sut gall y rhinwedd hon wneud ein bywydau’n hapusach?

BETH YW ADDFWYNDER?

Mae addfwynder yn deillio o natur heddychlon. Mae rhywun addfwyn yn delio ag eraill mewn ffordd dyner a charedig, ac mae’n gallu pwyllo a dangos hunanreolaeth pan fydd pethau yn profi ei amynedd.

Mae addfwynder yn arwydd o gryfder mewnol. Roedd y gair Groeg am “addfwynder” yn disgrifio ceffyl gwyllt oedd wedi ei ddofi. Mae’r ceffyl yn dal yn gryf, ond ar ôl hyfforddiant, mae’n gallu ffrwyno a rheoli ei nerth. Yn yr un modd, pan ddangoswn addfwynder, rydyn ni’n dofi ein natur afreolus ac yn delio ag eraill mewn ffordd heddychlon.

Gallwn feddwl, ‘Dydy bod yn addfwyn ddim yn dod yn naturiol imi.’ Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae llawer o bobl yn flin ac yn ddiamynedd, felly efallai cawn ninnau drafferth dangos addfwynder. (Rhuf. 7:19) Yn amlwg felly, mae meithrin addfwynder yn gofyn am ymdrech, ond bydd ysbryd glân Jehofa yn ein helpu ni i fod yn benderfynol o gyrraedd y nod. (Gal. 5:22, 23) Pam dylen ni ymdrechu i feithrin addfwynder?

Mae addfwynder yn rhinwedd sy’n apelio at eraill. Yn debyg i Sara, rydyn ninnau’n ymlacio yng nghwmni rhywun addfwyn. Mae Iesu yn esiampl ragorol o berson addfwyn a charedig. (2 Cor. 10:1) Roedd hyd yn oed plant nad oedd yn ei adnabod eisiau bod yn ei gwmni.—Marc 10:13-16.

Mae addfwynder yn ein hamddiffyn ni yn ogystal â’r rhai o’n cwmpas. Os ydyn ni’n addfwyn, dydyn ni ddim yn cynhyrfu’n hawdd nac yn colli ein tymer. (Diar. 16:32) Felly, byddwn ni’n osgoi’r teimladau o euogrwydd sy’n codi ar ôl brifo rhywun—yn enwedig rhywun rydyn ni’n ei garu. A bydd eraill yn elwa am ein bod ni’n rheoli ein teimladau a’n hymddygiad gan osgoi eu brifo nhw.

ESIAMPL BERFFAITH O ADDFWYNDER

Er bod ganddo gyfrifoldebau mawr a bywyd prysur, roedd Iesu yn addfwyn tuag at bawb. Roedd llawer yr adeg honno yn stryffaglu dan bwysau mawr, ac roedden nhw angen hwb. Mae’n siŵr cawson nhw gysur mawr o glywed Iesu’n dweud: “Dewch ata i . . . dw i’n addfwyn ac yn ostyngedig.”—Math. 11:28, 29.

Sut gallwn ni fod yr un mor addfwyn â Iesu? Drwy astudio Gair Duw i ddysgu sut gwnaeth Iesu drin eraill a delio â sefyllfaoedd anodd. Wedyn, pan gawn brawf ar ein haddfwynder, byddwn yn ymdrechu i ymddwyn fel Iesu. (1 Pedr 2:21) Ystyria dri pheth a helpodd Iesu i fod yn addfwyn.

Roedd Iesu yn berson gostyngedig. Dywedodd Iesu ei hun ei fod yn “addfwyn ac yn ostyngedig.” (Math. 11:29) Mae’r Beibl yn sôn am y ddwy rinwedd hyn gyda’i gilydd am fod addfwynder a gostyngeiddrwydd yn mynd law yn llaw. (Eff. 4:1-3) Pam felly?

Mae gostyngeiddrwydd yn helpu inni beidio â chymryd ein hunain ormod o ddifri, na bod yn rhy sensitif. Sut gwnaeth Iesu ymateb i’r rhai a’i farnodd yn annheg gan ddweud ei fod yn feddwyn ac yn bwyta gormod? Dangosodd drwy ei ffordd o fyw nad oedd hynny’n wir, a dywedodd yn addfwyn: “Profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn.”—Math. 11:19, BCND.

Os bydd rhywun yn dweud rhywbeth cas yn ddifeddwl am ein hil, rhyw, neu’n cefndir, bydd yn beth da i ymateb yn addfwyn. Mae Peter, henuriad yn Ne Affrica, yn dweud: “Pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth sy’n mynd dan fy nghroen, byddaf yn gofyn i fi fy hun, ‘Sut byddai Iesu yn ymateb?’” Hefyd mae’n dweud: “Dw i wedi dysgu i beidio â chymryd fy hun ormod o ddifri.”

Gwyddai Iesu fod pobl yn amherffaith. Roedd disgyblion Iesu eisiau gwneud y peth iawn, ond oherwydd eu bod yn amherffaith, doedd hynny ddim wastad yn digwydd. Er enghraifft, y noson cyn i Iesu farw, methodd Pedr, Iago, ac Ioan â rhoi’r gefnogaeth emosiynol yr oedd wedi gofyn amdani. Roedd Iesu’n deall bod yr “ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” (Math. 26:40, 41) Oherwydd hynny, ni wnaeth Iesu wylltio â’i apostolion.

Roedd Mandy yn chwaer a oedd yn arfer bod yn feirniadol iawn, ond bellach mae hi’n gwneud ymdrech fawr i efelychu addfwynder Iesu. “Dw i’n ceisio cofio bod pawb yn amherffaith, a gweld y da yn eraill—rhywbeth mae Jehofa yn bendant yn ei weld,” meddai. A allai agwedd dosturiol Iesu tuag at wendid dynol dy helpu dithau i ddelio ag eraill mewn ffordd addfwyn?

Gadawodd Iesu bethau yn nwylo Duw. Gwnaeth Iesu oddef triniaeth annheg tra oedd ar y ddaear. Cafodd ei gamddeall, ei gasáu, a’i arteithio. Er hynny, arhosodd yn addfwyn am ei fod wedi gadael “y mater yn nwylo Duw sydd bob amser yn barnu’n deg.” (1 Pedr 2:23) Gwyddai Iesu y byddai ei Dad nefol yn gofalu amdano a delio â’r anghyfiawnderau ar yr adeg iawn.

Os ydyn ni’n digio ac yn ceisio brwydro yn erbyn rhyw anghyfiawnder personol, byddai’n ddigon hawdd gorymateb a gwneud pethau’n waeth. Dyna pam mae’r Beibl yn ein hatgoffa: “Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw.” (Iago 1:20) Hyd yn oed os oes gynnon ni reswm dilys dros fod yn ddig, gall amherffeithrwydd wneud inni ymateb yn y ffordd anghywir.

Roedd Cathy, chwaer yn yr Almaen, yn arfer meddwl, ‘Os na fyddi di’n sefyll i fyny drostot ti dy hun, fydd neb arall yn gwneud.’ Ond unwaith iddi ddysgu ymddiried yn Jehofa, newidiodd ei hagwedd. “Dydw i ddim angen bod yn amddiffynnol,” meddai. “Dw i’n hapus i fod yn addfwyn oherwydd dw i’n gwybod bod Jehofa am drwsio popeth sydd o’i le yn y byd.” Os wyt ti erioed wedi cael dy gamfarnu, bydd dilyn esiampl Iesu o ymddiried yn Nuw yn dy helpu i gadw ysbryd addfwyn.

HAPUS YW’R ADDFWYN

Sut gall addfwynder ein helpu ni mewn sefyllfaoedd anodd?

Tynnodd Iesu sylw at y ffaith fod addfwynder yn cyfrannu’n fawr at ein hapusrwydd. Dywedodd, “gwyn eu byd [hapus] y rhai addfwyn.” (Math. 5:5, BCND) Sylwa ar sut mae addfwynder yn helpu yn y sefyllfaoedd canlynol.

Mae addfwynder yn lleihau tensiwn o fewn priodas. Mae Robert, brawd o Awstralia, yn cyfaddef, “Dw i wedi dweud lot o bethau i frifo fy ngwraig nad o’n i’n eu meddwl mewn gwirionedd. Ond unwaith iti ddweud rhywbeth difeddwl mewn tymer elli di ddim ei gymryd yn ôl. O’n i’n teimlo’n ofnadwy i weld gymaint o’n i wedi ei brifo hi.”

“Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau” wrth siarad, a gall geiriau di-feddwl achosi problemau yn y briodas. (Iago 3:2) Ar adegau felly, mae addfwynder yn helpu inni ffrwyno ein tafod a pheidio â chynhyrfu.—Diar. 17:27.

Gweithiodd Robert yn galed i beidio â chynhyrfu a meithrin hunanreolaeth. Beth oedd canlyniad hyn? “Erbyn hyn, os bydd dadl yn codi, dw i’n gwneud ymdrech i wrando’n astud, i siarad yn addfwyn, ac i beidio â gadael i bethau fy nghynhyrfu,” meddai. “Mae’r berthynas rhyngo i a ’ngwraig yn well o lawer.”

Mae addfwynder yn ein helpu i gyd-dynnu’n well ag eraill. Mae’r rhai sy’n hawdd eu pechu yn gallu colli ffrindiau yn y pen draw. Ond mae addfwynder yn helpu i ‘glymu ni gyda’n gilydd mewn heddwch.’ (Eff. 4:2, 3) Mae Cathy, wnaethon ni ddyfynnu gynnau, yn dweud, “Mae addfwynder yn rhoi’r nerth imi wneud pob sgwrs ag eraill yn brofiad mwy pleserus, er bod hi’n anodd ymwneud â rhai pobl.”

Mae addfwynder yn dod â heddwch mewnol. Mae’r Beibl yn cysylltu’r “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw” ag addfwynder a heddwch. (Iago 3:13, 17) Mae gan berson addfwyn “ysbryd tawel.” (Diar. 14:30) Dywed Martin, sydd wedi gweithio’n galed i feithrin addfwynder, “Dw i’n fwy hyblyg bellach, dydw i ddim yn mynnu fod pethau yn cael eu gwneud fy ffordd i bob tro, ac mae gen i heddwch mewnol a hapusrwydd.”

Y gwir amdani yw, efallai bydd yn anodd meithrin ysbryd addfwyn. “A dweud y gwir,” meddai un brawd, “hyd yn oed heddiw, gall rhywbeth godi ’ngwrychyn a gwneud imi ferwi tu mewn ar adegau.” Ond bydd Jehofa, sy’n ein hannog i geisio addfwynder, yn ein helpu ni yn y frwydr hon. (Esei. 41:10; 1 Tim. 6:11) Bydd yn ein ‘gwneud ni’n gymwys,’ ac ‘yn gryf.’ (1 Pedr 5:10, BCND) Mewn amser gallwn ninnau, fel yr apostol Paul, fod yn “addfwyn ac yn garedig fel y Meseia.”—2 Cor. 10:1.

^ Par. 2 Newidiwyd rhai enwau.