Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 21

A Wyt Ti’n Gwerthfawrogi Rhoddion Duw?

A Wyt Ti’n Gwerthfawrogi Rhoddion Duw?

“O ARGLWYDD fy Nuw, rwyt ti wedi gwneud cymaint—wedi gwneud pethau rhyfeddol i gyflawni dy bwrpas ynon ni.”—SALM 40:5.

CÂN 5 Gweithredoedd Rhyfeddol Duw

CIPOLWG *

1-2. Yn ôl Salm 40:5, pa roddion mae Jehofa wedi eu rhoi inni, a pham byddwn ni’n eu trafod?

DUW hael yw Jehofa. Meddylia am rai o’i roddion: ein cartref hardd ac unigryw, y ddaear; ein hymennydd rhyfeddol; a’i Air gwerthfawr, y Beibl. Drwy’r tair rhodd hyn, mae Jehofa wedi rhoi rhywle inni fyw, y gallu i feddwl a chyfathrebu, ac wedi ateb y cwestiynau pwysicaf y gallen ni eu gofyn.—Darllen Salm 40:5.

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n sôn yn fras am y tair rhodd hyn. Y mwyaf byddwn ni’n myfyrio arnyn nhw, y mwyaf byddwn ni’n eu gwerthfawrogi a bydd ein hawydd i blesio ein Creawdwr cariadus, Jehofa, yn gryfach. (Dat. 4:11) Byddwn ni hefyd yn gallu rhesymu’n fwy effeithiol â’r rhai sydd wedi cael eu camarwain gan gau ddysgeidiaeth esblygiad.

EIN PLANED UNIGRYW

3. Pam mae’r ddaear yn unigryw?

3 Mae doethineb Duw yn amlwg yn y ffordd y mae wedi creu ein cartref, y ddaear. (Rhuf. 1:20; Heb. 3:4) Nid ein planed ni yw’r unig un sy’n cylchdroi o gwmpas yr haul, ond mae’r ddaear yn unigryw am fod ganddi’r amodau cywir i gynnal bywyd dynol.

4. Pam gallwn ni ddweud bod y ddaear yn well nag unrhyw gwch o waith llaw dyn?

4 Gallwn gymharu’r ddaear yn y bydysawd â chwch yn hwylio’r moroedd mawr. Ond mae ’na wahaniaethau pwysig rhwng cwch llawn pobl a’r ddaear. Er enghraifft, pa mor hir fyddai pobl mewn cwch llythrennol yn gallu byw petaen nhw’n gorfod cynhyrchu eu bwyd, dŵr, ac ocsigen eu hunain, heb allu taflu gwastraff allan o’r cwch? Yn fuan iawn byddai’r bobl ar y cwch hwnnw’n marw. Ar y llaw arall, mae’r ddaear yn cynnal biliynau o greaduriaid byw. Mae hi’n cynhyrchu’r holl fwyd, dŵr, ac ocsigen sydd eu hangen arnon ni, a dydyn ni byth yn rhedeg allan o’r pethau hanfodol hynny. Nid oes unrhyw wastraff yn gadael y ddaear, ond eto, mae hi’n aros yn lle hardd i fyw arni. Sut mae hynny’n bosib? Dyluniodd Jehofa y ddaear â’r gallu i ailgylchu adnoddau. Byddwn ni’n trafod sut gallwn ni weld doethineb Jehofa yn y gylchred ocsigen a’r gylchred ddŵr.

5. Beth yw’r gylchred ocsigen, a beth mae’n ei gadarnhau?

5 Mae ocsigen yn nwy sy’n cynnal bywyd pobl ac anifeiliaid. Mae wedi cael ei amcangyfrif bod creaduriaid byw yn defnyddio can biliwn tunnell o ocsigen mewn blwyddyn. Mae’r creaduriaid hyn hefyd yn cynhyrchu carbon deuocsid fel gwastraff. Ond eto, nid yw’r creaduriaid hyn yn anadlu’r ocsigen i gyd, ac nid yw’r atmosffer yn cael ei dagu gan y nwy “gwastraff,” carbon deuocsid. Pam ddim? Oherwydd creodd Jehofa organebau—o’r coed mwyaf i’r algâu lleiaf—sy’n cymryd carbon deuocsid i mewn ac yn rhyddhau ocsigen. Mewn ffordd lythrennol iawn, mae’r gylchred ocsigen yn cadarnhau y geiriau yn Actau 17:24, 25: “Duw . . . sy’n rhoi bywyd ac anadl a phopeth arall i bawb.”

6. Beth yw’r gylchred ddŵr, a beth mae’n ei brofi? (Gweler hefyd y blwch “ Y Gylchred Ddŵr—Rhodd Gan Dduw.”)

6 Mae dŵr ar ffurf hylif yn bodoli ar y ddaear oherwydd bod ein planed wedi ei lleoli y pellter perffaith oddi wrth yr haul. Petai’r ddaear fymryn yn nes, fe fyddai’r dŵr yn berwi’n sych, gan adael carreg boeth ddifywyd. Petai’r ddaear fymryn ymhellach oddi wrth yr haul, byddai’r dŵr yn rhewi, gan droi’r ddaear yn belen fawr o rew. Oherwydd bod Jehofa wedi rhoi’r ddaear yn y lleoliad delfrydol hwn, mae cylchred ddŵr y ddaear yn gallu cynnal bywyd. Mae’r haul yn cynhesu’r dŵr sydd yn y moroedd ac ar y tir ac yn ei anweddu i ffurfio cymylau. Bob blwyddyn, mae’r haul yn anweddu bron i 120,000 milltir ciwbig (500,000 km3) o ddŵr. Mae’r dŵr yn aros yn yr atmosffer am tua deg diwrnod cyn disgyn fel glaw neu eira. Yn y pen draw, mae’r dŵr yn llifo’n ôl i’r moroedd neu lynnoedd, ac mae’r gylchred yn ailgychwyn. Mae’r gylchred effeithlon a chynaliadwy hon yn profi bod Jehofa yn ddoeth ac yn bwerus.—Job 36:27, 28; Preg. 1:7.

7. Beth yw rhai ffyrdd gallwn ni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi’r rhodd a ddisgrifiwyd yn Salm 115:16?

7 Sut gallwn ni feithrin ein gwerthfawrogiad tuag at ein planed hynod a phopeth da sydd arni? (Darllen Salm 115:16.) Un ffordd yw myfyrio ar y pethau mae Jehofa wedi eu gwneud. Bydd hynny yn ein sbarduno i ddiolch i Jehofa bob dydd am y pethau da mae’n eu rhoi inni. A dangoswn ein bod yn gwerthfawrogi’r ddaear drwy gadw’r ardal rydyn ni’n byw ynddi mor lân â phosib.

EIN HYMENNYDD RHYFEDDOL

8. Pam gallwn ni ddweud bod yr ymennydd wedi ei ddylunio mewn ffordd ryfeddol?

8 Mae’r ymennydd dynol wedi ei ddylunio mewn ffordd ryfeddol. Tra oeddet ti yng nghroth dy fam, datblygodd dy ymennydd yn yr union ffordd y cafodd ei ddylunio, a ffurfiodd miloedd o gelloedd newydd ynddo bob munud! Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif bod gan ymennydd oedolyn bron i 100 biliwn o gelloedd arbennig a elwir niwronau. Mae’r celloedd wedi eu gosod yn drefnus i ffurfio ein hymennydd, sy’n pwyso tua 3.3 pwys (1.5 kg). Ystyria rai o alluoedd syfrdanol yr ymennydd.

9. Beth sy’n profi i ti fod ein gallu i siarad yn rhodd gan Dduw?

9 Mae ein gallu i siarad yn wyrth. Meddylia am beth sy’n digwydd wrth siarad. Gyda phob gair rwyt ti’n ei ddweud, mae’n rhaid i dy ymennydd gydlynu symudiad tua 100 o gyhyrau yn dy dafod, dy wddf, dy wefusau, dy ên, a dy frest. Er mwyn ynganu geiriau’n glir, mae’n rhaid i’r cyhyrau hyn symud mewn trefn benodol. Wrth drafod y gallu i siarad ieithoedd, dangosodd astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2019 bod babanod newydd-anedig yn gallu adnabod geiriau unigol ac ymateb iddyn nhw. Mae’r astudiaeth hon yn cefnogi beth mae llawer o ymchwilwyr yn ei gredu, sef ein bod ni’n cael ein geni â’r gallu i adnabod ieithoedd a’u dysgu. Yn bendant, mae ein gallu i siarad yn rhodd gan Dduw.—Ex. 4:11.

10. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi y rhodd o siarad?

10 Un ffordd gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein rhodd o siarad yw drwy esbonio i’r rhai sy’n credu yn esblygiad pam rydyn ni’n credu mai Duw a greodd popeth. (Salm 9:1; 1 Pedr 3:15, BCND) Mae’r rhai sy’n hyrwyddo esblygiad eisiau inni gredu bod y ddaear a phopeth byw arni wedi ymddangos drwy hap a damwain. Drwy ddefnyddio’r Beibl a rhai o’r pwyntiau yn yr erthygl hon, gallwn ni amddiffyn ein Tad nefol ac esbonio i’r rhai sy’n barod i wrando pam rydyn ni’n sicr mai Jehofa yw Creawdwr y nefoedd a’r ddaear.—Salm 102:25; Esei. 40:25, 26.

11. Beth yw un rheswm pam mae ein hymennydd yn rhyfeddol?

11 Mae ein gallu i gofio yn anhygoel. Yn y gorffennol, amcangyfrifodd un awdur bod gan yr ymennydd dynol y gallu i gofio’r hyn sy’n cyfateb i 20 miliwn llyfr o wybodaeth. Ond credir heddiw fod ein gallu i gofio yn llawer mwy na hynny. Pa allu unigryw sydd gan fodau dynol?

12. Sut mae ein gallu i ddysgu gwersi moesol yn ein gwahanu ni oddi wrth anifeiliaid?

12 Ymysg creaduriaid y ddaear, dim ond bodau dynol sydd â’r gallu i ddysgu gwersi moesol drwy gofio digwyddiadau’r gorffennol a’u dadansoddi. O ganlyniad i hyn, gallwn ddysgu safonau moesol gwell a newid ein ffordd o feddwl a byw. (1 Cor. 6:9-11; Col. 3:9, 10) Gallwn ni hyd yn oed hyfforddi ein cydwybod i wahaniaethu rhwng da a drwg. (Heb. 5:14) Gallwn ddysgu sut i ddangos cariad, tosturi, a thrugaredd. A gallwn ni ddysgu i efelychu cyfiawnder Jehofa.

13. Yn unol â Salm 77:11, 12, sut dylen ni ddefnyddio ein rhodd o gofio?

13 Un ffordd gallwn ni brofi ein bod yn gwerthfawrogi y rhodd o gofio yw drwy geisio cofio’r holl adegau mae Jehofa wedi ein helpu a’n cysuro yn y gorffennol. Bydd hyn yn rhoi’r hyder inni y bydd yn ein helpu yn y dyfodol hefyd. (Darllen Salm 77:11, 12; 78:4, 7) Ffordd arall yw drwy gofio’r pethau da mae pobl eraill yn eu gwneud ar ein cyfer a bod yn ddiolchgar amdanyn nhw. Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod pobl ddiolchgar yn fwy tebygol o fod yn hapus. Hefyd, mae’n beth da inni efelychu Jehofa yn y ffordd mae’n dewis anghofio rhai pethau. Er enghraifft, mae gan Jehofa gof perffaith, ond os ydyn ni’n edifarhau, mae’n dewis maddau ein camgymeriadau ac anghofio amdanyn nhw. (Salm 25:7; 130:3, 4) Ac mae’n dymuno i ni wneud yr un peth i eraill pan fydd yn wir ddrwg ganddyn nhw am ein brifo ni.—Math. 6:14; Luc 17:3, 4.

Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r ymennydd a roddodd Jehofa inni drwy ei ddefnyddio i’w anrhydeddu (Gweler paragraff 14) *

14. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein hymennydd?

14 Gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am y rhodd ryfeddol—ein hymennydd—drwy ei ddefnyddio i anrhydeddu’r Un a’i roddodd inni. Mae rhai yn dewis defnyddio eu hymennydd mewn ffordd hunanol, er enghraifft i osod eu safonau eu hunain o’r hyn sy’n dda neu’n ddrwg. Ond gan fod Jehofa wedi ein creu ni, mae’n hollol rhesymol i ddisgwyl y bydd ei safonau ef yn well nag unrhyw safonau gallen ni eu gosod i ni’n hunain. (Rhuf. 12:1, 2) Pan fyddwn ni’n byw yn ôl ei safonau ef, bydd ein bywydau yn llawn heddwch. (Esei. 48:17, 18) A chawn ddeall yn glir beth yw pwrpas bywyd—sef dod ag anrhydedd i’n Creawdwr a’n Tad a’i wneud yn hapus.—Diar. 27:11.

Y BEIBL—RHODD WERTHFAWR

15. Sut mae rhodd Duw, y Beibl, yn adlewyrchu cariad Jehofa tuag at ddynolryw?

15 Mae’r Beibl yn rhodd werthfawr gan Dduw. Ysbrydolodd ein Tad nefol ddynion i’w ysgrifennu am ei fod yn ein caru ni’n fawr iawn. Mae Jehofa yn defnyddio’r Beibl i ateb y cwestiynau pwysicaf y gallen ni eu gofyn, fel: O le rydyn ni’n dod? Beth yw pwrpas bywyd? A beth fydd yn digwydd yn y dyfodol? Mae Jehofa eisiau i bob un o’i blant ddysgu’r atebion i’r cwestiynau hynny, felly dros y canrifoedd mae wedi ysgogi dynion i gyfieithu’r Beibl i lawer o ieithoedd. Heddiw, mae’r Beibl cyfan, neu rannau ohono, ar gael mewn dros 3,000 o ieithoedd! Mae’r Beibl wedi cael ei gyfieithu a’i ddosbarthu mwy nag unrhyw lyfr arall erioed. Ni waeth lle mae pobl yn byw, na pha iaith maen nhw’n ei siarad, mae gan y rhan fwyaf y cyfle i ddysgu neges y Beibl yn eu mamiaith.—Gweler y blwch “ Cyfieithu’r Beibl i Ieithoedd Affrica.”

16. Yn seiliedig ar Mathew 28:19, 20, sut gallwn ni brofi ein bod ni’n gwerthfawrogi’r Beibl?

16 Gallwn brofi ein bod ni’n gwerthfawrogi’r Beibl drwy ei ddarllen bob dydd, myfyrio ar beth mae’n ei ddysgu, a gwneud ein gorau glas i roi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith. Ar ben hynny, dangoswn ein gwerthfawrogiad i Dduw drwy wneud popeth a fedrwn ni i rannu ei neges â chymaint o bobl â phosib.—Salm 1:1-3; Math. 24:14; darllen Mathew 28:19, 20.

17. Pa fath o roddion rydyn ni wedi eu hystyried yn yr erthygl hon, a beth fydd yn cael ei drafod yn yr erthygl nesaf?

17 Hyd yn hyn, rydyn ni wedi ystyried rhoddion gan Dduw, fel ein cartref, y ddaear; ein hymennydd rhyfeddol; a Gair ysbrydoledig Duw, y Beibl. Ond mae ’na roddion eraill mae Jehofa wedi eu rhoi inni sy’n anweledig. Bydd y trysorau anweledig hyn yn cael eu trafod yn yr erthygl nesaf.

CÂN 12 Mawr Dduw, Jehofa

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad tuag at Jehofa a thair o’i roddion i ni. Bydd hefyd yn ein helpu i resymu â’r rhai sy’n amau nad ydy Duw yn bodoli.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwaer yn dysgu iaith arall er mwyn dysgu gwirioneddau Gair Duw i fewnfudwyr.