Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

Dangosa Dy Werthfawrogiad am Drysorau Anweledig

Dangosa Dy Werthfawrogiad am Drysorau Anweledig

‘Hoelia dy sylw ar beth sy’n anweledig. Dydy beth sydd i’w weld ond yn para dros dro, ond mae beth sy’n anweledig yn aros am byth!’—2 COR. 4:18.

CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon

CIPOLWG *

1. Beth ddywedodd Iesu am drysorau nefol?

NID yw pob trysor yn weladwy. Mewn gwirionedd, mae’r trysorau mwyaf gwerthfawr yn anweledig. Yn ei Bregeth ar y Mynydd, soniodd Iesu am drysorau nefol sy’n llawer gwell na phethau materol. Yna ychwanegodd y gwirionedd hwn: “Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.” (Math. 6:19-21) Bydd ein calon yn ein hysgogi i geisio’r pethau rydyn ni’n eu trysori. Casglwn “drysorau i [ni’n] hunain yn y nefoedd” drwy ennill enw da o flaen Duw. Esboniodd Iesu na all trysorau o’r fath byth gael eu dinistrio na’u dwyn.

2. (a) Yn ôl 2 Corinthiaid 4:17, 18, beth mae Paul yn ein hannog i ganolbwyntio arno? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Mae’r apostol Paul yn ein hannog i hoelio ein sylw “ar beth sy’n anweledig.” (Darllen 2 Corinthiaid 4:17, 18.) Mae’r pethau anweledig hyn yn drysorau sy’n cynnwys y bendithion a gawn ni ym myd newydd Duw. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n dysgu am bedwar trysor anweledig y gallwn ni elwa arnyn nhw heddiw, sef cyfeillgarwch â Duw, y rhodd o weddïo, help ysbryd glân Duw, a’r gefnogaeth nefol a gawn yn y weinidogaeth. Byddwn hefyd yn ystyried sut gallwn ni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi’r trysorau anweledig hyn.

CYFEILLGARWCH Â JEHOFA

3. Beth yw’r trysor anweledig gorau, a sut mae’n bosib inni ei gael?

3 Y trysor anweledig gorau yw cyfeillgarwch â Jehofa Dduw. (Diar. 3:32) Sut mae’n bosib i Dduw wneud ffrindiau â phobl bechadurus ac eto aros yn gwbl sanctaidd? Am fod aberth pridwerthol Iesu yn “cymryd pechod y byd i ffwrdd.” (Ioan 1:29) Roedd Jehofa yn gwybod o flaen llaw na fyddai ei fwriad i ddarparu Achubwr i ddynolryw yn methu. Dyna pam roedd Duw’n gallu dod yn ffrind i fodau dynol a oedd yn byw cyn i Grist farw.—Rhuf. 3:25.

4. Rho esiamplau o ddynion cyn cyfnod Crist a ddaeth yn ffrindiau i Dduw.

4 Ystyria rai dynion a ddaeth yn ffrind i Dduw cyn cyfnod Crist. Roedd Abraham yn ddyn â ffydd hynod o gryf. Dros fil o flynyddoedd ar ôl i Abraham farw, galwodd Jehofa ef “fy ffrind.” (Esei. 41:8) Ni all hyd yn oed marwolaeth wahanu Jehofa oddi wrth ei ffrindiau agos. Mae Abraham yn fyw yng nghof Jehofa. (Luc 20:37, 38) Esiampl arall yw Job. Pan ddaeth yr holl angylion at ei gilydd yn y nef, siaradodd Jehofa yn hyderus am Job o’u blaenau nhw. Dywedodd amdano: “Mae’n ddyn gonest ac yn trin pobl eraill yn deg; mae’n addoli Duw o ddifri ac yn cadw draw oddi wrth ddrwg.” (Job 1:6-8) A sut roedd Jehofa yn teimlo am Daniel, a’i wasanaethodd yn ffyddlon mewn gwlad baganaidd am tua 80 mlynedd? Dair gwaith sicrhaodd yr angylion y dyn oedrannus hwn ei fod yn “sbesial iawn yng ngolwg Duw.” (Dan. 9:23; 10:11, 19) Gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa yn dyheu am y diwrnod pan fydd yn atgyfodi ei ffrindiau annwyl sydd wedi marw.—Job 14:15.

Beth yw rhai o’r ffyrdd gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad am drysorau anweledig? (Gweler paragraff 5) *

5. Beth sydd angen ei wneud i fwynhau perthynas glòs â Jehofa?

5 Faint o bobl amherffaith heddiw sy’n mwynhau perthynas agos â Jehofa? Miliynau. Gwyddon ni hyn am fod cymaint o ddynion, merched, a phlant dros y byd i gyd yn dangos drwy eu hymddygiad eu bod nhw wir yn ffrindiau i Dduw. Mae gan Jehofa “berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.” (Diar. 3:32) Mae’r berthynas hon yn bosib oherwydd eu ffydd yn aberth pridwerthol Iesu. Ar sail hynny, mae Jehofa yn ei garedigrwydd yn caniatáu inni gysegru’n hunain iddo a chael ein bedyddio. Pan gymerwn y camau pwysig hyn, ymunwn â miliynau o Gristnogion sydd wedi ymgysegru â chael eu bedyddio, ac sy’n mwynhau ‘perthynas glòs’ â’r Person mwyaf yn y bydysawd!

6. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori ein perthynas â Duw?

6 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori ein perthynas â Duw? Fel Abraham a Job, a arhosodd yn ffyddlon i Dduw am bell dros gan mlynedd, mae’n rhaid i ninnau aros yn ffyddlon—ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi gwasanaethu Jehofa yn yr hen system hon. Fel Daniel, mae’n rhaid inni werthfawrogi ein perthynas â Duw yn fwy na’n bywyd ein hunain. (Dan. 6:7, 10, 16, 22) Â help Jehofa, gallwn ddyfalbarhau dan unrhyw dreialon a chadw ein perthynas glòs ag ef.—2 Cor. 4:7.

Y RHODD O WEDDÏO

7. (a) Yn ôl Diarhebion 15:8, sut mae Jehofa’n teimlo am ein gweddïau? (b) Sut mae Jehofa’n ateb ein gweddïau?

7 Trysor anweledig arall yw gweddi. Mae ffrindiau agos yn mwynhau rhannu eu meddyliau a’u teimladau â’u gilydd. Ydy hynny’n digwydd yn ein perthynas ni â Jehofa? Ydy wir! Mae Jehofa yn siarad â ni drwy ei Air, ac ynddo mae’n datgelu ei feddyliau a’i deimladau i ni. Siaradwn ag ef mewn gweddi gan rannu ein meddyliau dyfnaf a’n teimladau cryfaf. Mae Jehofa wrth ei fodd yn gwrando ar ein gweddïau. (Darllen Diarhebion 15:8.) Fel ffrind cariadus, mae Jehofa yn gwneud mwy na gwrando ar ein gweddïau—mae’n eu hateb. Weithiau daw’r ateb yn gyflym. Pryd arall, efallai y bydd rhaid inni barhau i weddïo am y mater. Ond eto, gallwn fod yn hyderus y cawn ateb ar yr adeg iawn a hynny yn y ffordd orau. Wrth gwrs, gall ateb Duw fod yn wahanol i’r hyn yr ydyn ni’n ei ddisgwyl. Er enghraifft, yn hytrach na chael gwared ar y treial, efallai bydd yn rhoi’r doethineb a’r nerth inni allu ‘peidio â rhoi mewn.’—1 Cor. 10:13.

(Gweler paragraff 8) *

8. Sut gallwn ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ein rhodd o weddïo?

8 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n ddiolchgar am y rhodd werthfawr o weddïo? Un ffordd yw drwy ufuddhau i gyfarwyddyd Jehofa: “Daliwch ati i weddïo.” (1 Thes. 5:17) Dydy Jehofa ddim yn ein gorfodi i weddïo. Yn hytrach, mae’n parchu ein hewyllys rhydd ac yn ein hannog eto: “daliwch ati i weddïo.” (Rhuf. 12:12) Felly gallwn ddangos ein gwerthfawrogiad drwy weddïo yn aml drwy gydol bob dydd. Wrth gwrs, dylen ni beidio ag anghofio moli Jehofa a diolch iddo.—Salm 145:2, 3.

9. Sut mae un brawd yn teimlo am weddi, a sut rwyt ti yn teimlo amdani?

9 Yr hiraf y byddwn yn gwasanaethu Jehofa ac yn gweld sut mae’n ateb ein gweddïau, y dyfnaf y dylai ein gwerthfawrogiad am weddi fod. Ystyria esiampl Chris, brawd sydd wedi bod yn gwasanaethu’n llawn amser am y 47 mlynedd diwethaf. “Mae’n braf cael amser yn gynnar yn y bore i weddïo ar Jehofa,” meddai. “Hyfryd o beth yw cael siarad â Jehofa fel mae pelydrau cyntaf yr haul yn gwneud i ddiferion y gwlith ddisgleirio! Mae hyn yn fy ysgogi i ddiolch iddo am ei holl roddion, gan gynnwys y fraint o weddïo. Yna ar ôl gweddïo ar ddiwedd y diwrnod, pleser pur yw cael mynd i gysgu efo cydwybod lân.”

RHODD YR YSBRYD GLÂN

10. Pam dylen ni drysori ysbryd glân Duw?

10 Mae grym gweithredol Duw yn rhodd anweledig arall y dylen ni ei thrysori. Cawn ein hannog gan Iesu i barhau i weddïo am ysbryd glân. (Luc 11:9, 13) Mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i roi nerth inni a ddisgrifir fel “grym anhygoel.” (2 Cor. 4:7; Act. 1:8) Gyda help ysbryd Duw, gallwn ddal ati dan unrhyw dreial.

(Gweler paragraff 11) *

11. Ym mha ffordd gall yr ysbryd glân ein helpu?

11 Gall ysbryd glân ein helpu i gyflawni ein haseiniadau a’n cyfrifoldebau yng ngwasanaeth Duw. Gall ysbryd Duw wella’r doniau a’r galluoedd sydd gynnon ni. Gwyddon ni mai dim ond â chymorth ei ysbryd y cawn ni ganlyniadau da yng ngwasanaeth Duw, nid drwy ein hymdrechion ni yn unig.

12. Yn ôl Salm 139:23, 24, sut gall yr ysbryd glân ein helpu os gweddïwn amdano?

12 Ffordd arall o ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ysbryd glân Duw yw drwy weddïo am ei help i ddirnad unrhyw feddyliau neu chwantau drwg yn ein calonnau. (Darllen Salm 139:23, 24.) Os gweddïwn am hyn gall Jehofa, drwy ei ysbryd, ddatgelu’r fath feddyliau a chwantau drwg inni. Ac os daw unrhyw feddwl neu chwant drwg i’n sylw, dylen ni weddïo am ysbryd Duw i roi’r nerth inni wrthod y meddwl neu’r chwant hwnnw. Drwy wneud hynny, byddwn yn dangos ein bod ni’n benderfynol o osgoi gwneud unrhyw beth a fyddai’n achosi i Jehofa stopio ein helpu â’i ysbryd glân.—Eff. 4:30.

13. Sut gallwn ddod i werthfawrogi’r ysbryd glân yn fwy?

13 Gallwn ddod i werthfawrogi’r ysbryd glân yn fwy drwy fyfyrio ar beth mae’r ysbryd hwnnw wedi ei gyflawni yn ein hamser ni. Cyn i Iesu esgyn i’r nef, dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Bydd yr Ysbryd Glân yn disgyn arnoch chi, ac yn rhoi nerth i chi ddweud amdana i wrth bawb . . . drwy’r byd i gyd.” (Act. 1:8) Mae’r geiriau hyn yn cael eu cyflawni mewn ffordd ryfeddol. Gyda chefnogaeth yr ysbryd glân, mae tua wyth miliwn a hanner o addolwyr Jehofa wedi cael eu casglu o bedwar ban byd. Hefyd, rydyn ni’n mwynhau’r baradwys ysbrydol am fod ysbryd Duw yn ein helpu i feithrin rhinweddau hardd fel cariad, llawenydd, heddwch, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffydd, addfwynder a hunanreolaeth. Mae’r rhinweddau hyn yn rhan o’r “ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu.” (Gal. 5:22, 23) Am rodd werthfawr yw’r ysbryd glân!

CEFNOGAETH NEFOL YN EIN GWEINIDOGAETH

14. Pa gefnogaeth anweledig sydd gynnon ni yn y weinidogaeth?

14 Mae gynnon ni’r trysor anweledig o gael “cydweithio” â Jehofa a rhan nefol ei gyfundrefn. (2 Cor. 6:1) Gwnawn hynny bob tro rydyn ni yn y weinidogaeth. Dywedodd Paul amdano ef ei hun ac eraill sy’n gwneud y gwaith hwn: “Dŷn ni’n gweithio fel tîm i Dduw.” (1 Cor. 3:9) Wrth gael rhan yn y weinidogaeth Gristnogol, rydyn ni hefyd yn gyd-weithwyr â Iesu. Cofia, ar ôl iddo orchymyn i’w ddilynwyr “wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion,” fe ddywedodd Iesu: “Bydda i gyda chi.” (Math. 28:19, 20) A beth am yr angylion? Dyna iti fendith yw cael ein cyfarwyddo gan angylion wrth inni gyhoeddi “neges dragwyddol . . . i bawb sy’n byw ar y ddaear”!—Dat. 14:6.

15. Rho enghraifft Feiblaidd o sut mae Jehofa yn cael rhan bwysig yn ein gweinidogaeth.

15 Beth mae’r fath gefnogaeth nefol yn ein helpu ni i’w gyflawni? Wrth inni hau neges y Deyrnas, mae rhai hadau yn disgyn ar galonnau agored ac yn tyfu. (Math. 13:18, 23) Pwy sy’n gwneud i hadau’r gwirionedd dyfu a dwyn ffrwyth? Esboniodd Iesu na all neb ei ddilyn oni bai bod “y Tad . . . yn eu tynnu nhw.” (Ioan 6:44) Mae’r Beibl yn rhoi esiampl benodol o hyn. Cofia’r achlysur pan dystiolaethodd Paul i grŵp o ferched y tu allan i ddinas Philipi. Sylwa ar yr hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am un ohonyn nhw, sef dynes o’r enw Lydia: “Agorodd yr Arglwydd ddrws ei chalon hi, a dyma hi’n ymateb i neges Paul.” (Act. 16:13-15) Fel Lydia, cafodd miliynau o bobl eraill eu denu gan Jehofa.

16. Pwy ddylai gael y clod am unrhyw lwyddiant a gawn yn y weinidogaeth?

16 Pwy mewn gwirionedd sy’n gyfrifol am ein llwyddiant yn y weinidogaeth? Atebodd Paul y cwestiwn hwnnw pan ysgrifennodd y geiriau hyn ynglŷn â chynulleidfa Corinth: “Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio. Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! Dydy’r plannwr a’r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy’n rhoi’r tyfiant.” (1 Cor. 3:6, 7) Fel Paul, dylen ni wastad roi’r clod i Jehofa am unrhyw lwyddiant a gawn yn y weinidogaeth.

17. Sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am gael “cydweithio” â Duw, Crist, a’r angylion?

17 Sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am y fraint o ‘gydweithio’ â Duw, Crist, a’r angylion? Drwy chwilio’n selog am gyfleoedd i rannu’r newyddion da ag eraill. Mae ’na sawl ffordd o wneud hyn, fel tystiolaethu’n gyhoeddus a phregethu “o un tŷ i’r llall.” (Act. 20:20) Mae llawer hefyd yn mwynhau tystiolaethu anffurf-iol. Pan fyddan nhw’n cyfarfod dieithryn, byddan nhw’n ei gyfarch mewn ffordd gyfeillgar ac yn ceisio dechrau sgwrs. Os bydd y person yn fodlon siarad, byddan nhw’n defnyddio tact i droi’r sgwrs at neges y Deyrnas.

(Gweler paragraff 18) *

18-19. (a) Sut rydyn ni’n dyfrio hadau’r gwirionedd? (b) Rho enghraifft o sut helpodd Jehofa un myfyriwr y Beibl.

18 A ninnau’n “gweithio fel tîm i Dduw,” mae’n rhaid inni wneud mwy na phlannu hadau’r gwirionedd—rhaid eu dyfrio hefyd. Pan fydd rhywun yn dangos diddordeb, rydyn ni eisiau gwneud ein gorau i alw yn ôl arno, neu drefnu i rywun arall gysylltu er mwyn ceisio cychwyn astudiaeth Feiblaidd. Wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen, llawenhawn pan welwn sut mae Jehofa yn mowldio calon a meddwl disgybl posib y dyfodol.

19 Ystyria esiampl Raphalalani, dyn hysbys yn Ne Affrica oedd yn iacháu pobl â dewiniaeth. Roedd wrth ei fodd â’r hyn roedd yn ei ddysgu yn ei astudiaeth Feiblaidd. Ond roedd yn anodd iawn iddo dderbyn yr hyn mae Gair Duw yn ei ddweud am gyfathrebu â’r meirw. (Deut. 18:10-12) Fesul tipyn, caniataodd i Dduw fowldio ei feddwl. Ac ymhen amser, rhoddodd y gorau i fod yn ddyn hysbys, er mai dyna oedd ei unig swydd. Dywedodd Raphalalani sydd bellach yn 60: “Dw i’n ddiolchgar iawn i Dystion Jehofa am fy helpu mewn cymaint o ffyrdd gan gynnwys cael hyd i swydd. Yn fwy na dim, dw i’n ddiolchgar i Jehofa am fy helpu i wneud newidiadau yn fy mywyd, fel fy mod i’n gallu cael rhan yn y weinidogaeth yn un o’i Dystion bedyddiedig.”

20. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?

20 Yn yr erthygl hon, rydyn ni wedi trafod pedwar trysor anweledig. Yr un mwyaf oll yw’r fraint o gael Jehofa yn Ffrind gorau inni. Mae hyn yn agor y ffordd inni elwa ar y trysorau anweledig eraill—siarad ag ef mewn gweddi, profi help ei ysbryd glân, a chael cefnogaeth nefol yn ein gweinidogaeth. Gad inni fod yn benderfynol o ddyfnhau ein gwerthfawrogiad am y trysorau anweledig hyn. A boed inni beidio byth ag anghofio diolch i Jehofa am fod yn Ffrind mor wych.

CÂN 145 Addewid Duw am Baradwys

^ Par. 5 Yn yr erthygl flaenorol, gwnaethon ni ystyried sawl trysor gan Dduw y gallwn ni ei weld. Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar drysorau na allwn ni eu gweld a sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n eu gwerthfawrogi. Bydd hefyd yn dyfnhau ein gwerthfawrogiad am Ffynhonnell y fath drysorau, Jehofa Dduw.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: (1) Wrth edrych ar greadigaeth Jehofa, mae chwaer yn myfyrio ar ei chyfeillgarwch â Jehofa.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: (2) Mae’r un chwaer yn gofyn i Jehofa am nerth i dystiolaethu.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: (3) Mae ysbryd glân yn helpu’r chwaer i fod yn ddigon dewr i rannu neges y Deyrnas yn anffurfiol.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: (4) Mae’r chwaer yn cynnal astudiaeth Feiblaidd â’r un y tystiolaethodd yn anffurfiol iddi. Mae’r chwaer yn pregethu ac yn gwneud disgyblion gyda chefnogaeth yr angylion.