Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 25

Dw i Fy Hun am Chwilio am Fy Nefaid

Dw i Fy Hun am Chwilio am Fy Nefaid

“Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid . . . Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw.”—ESEC. 34:11, 15.

CÂN 105 “Cariad Ydy Duw”

CIPOLWG *

1. Pam mae Jehofa yn ei gymharu ei hun â mam?

“YDY gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron?” Dyna gwestiwn a ofynnodd Jehofa yn nyddiau’r proffwyd Eseia. Dywedodd wrth ei bobl: “Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio, fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di!” (Esei. 49:15) Anaml y bydd Duw yn cymharu ei hun â mam. Ond fe wnaeth yn yr achos hwnnw. Defnyddiodd Jehofa y cariad cryf rhwng mam a’i phlentyn i fynegi cymaint mae’n caru ei weision. Gall y rhan fwyaf o famau uniaethu â’r hyn ddywedodd chwaer o’r enw Jasmin, “Pan wyt ti’n magu plentyn yn dy freichiau, ti’n ffurfio rhwymyn arbennig sy’n para am oes.”

2. Sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd un o’i blant yn crwydro oddi wrtho?

2 Mae Jehofa yn sylwi pan fydd hyd yn oed un o’i blant yn stopio pregethu a mynd i’r cyfarfodydd. Felly meddylia cymaint mae’n ei frifo i weld miloedd o’i weision yn mynd yn anweithredol * bob blwyddyn.

3. Beth mae Jehofa eisiau?

3 Mae llawer o’r brodyr a chwiorydd hyn sydd wedi mynd yn anweithredol yn dod yn ôl i’r gynulleidfa, lle mae ’na groeso mawr iddyn nhw! Mae Jehofa eisiau iddyn nhw ddod yn ôl, ac rydyn ninnau hefyd. (1 Pedr 2:25) Sut gallwn ni helpu? Cyn inni ateb y cwestiwn hwnnw, byddai’n dda inni wybod pam mae rhai yn stopio mynd i’r cyfarfodydd a rhannu yn y weinidogaeth.

PAM MAE RHAI YN STOPIO GWASANAETHU JEHOFA?

4. Pa effaith gall gwaith seciwlar ei gael ar rai?

4 Mae rhai wedi ymgolli’n llwyr yn eu gwaith. Mae Hung, * brawd o Dde-ddwyrain Asia, yn cyfaddef, “Wnes i adael i ngwaith seciwlar sugno gormod o fy amser ac egni. Wnes i dwyllo fy hun i feddwl y byddwn i’n gallu gwasanaethu Jehofa’n well petaswn i’n ennill mwy o arian. Felly wnes i weithio mwy o oriau. Dechreuais fethu mwy a mwy o gyfarfodydd, nes yn y pen draw wnes i stopio mynd yn gyfan gwbl. Mae’n ymddangos bod y byd wedi ei ddylunio i ddenu pobl oddi wrth Dduw fesul tipyn.”

5. Sut gwnaeth un chwaer ymateb i’r holl broblemau yr oedd ganddi?

5 Mae rhai brodyr a chwiorydd yn cael eu llethu gan broblemau. Mae Anne, o Brydain, yn fam i bump o blant. “Cafodd un o mhlant ei eni gydag anableddau difrifol,” esboniodd. “Ymhen amser, cafodd un o’r merched ei diarddel a datblygodd y mab hynaf salwch meddwl. Es i mor isel wnes i stopio mynd i’r cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth. Ac yn y pen draw, es i’n anweithredol.” Mae’n brifo ein calonnau i weld Anne a’i theulu, yn ogystal ag eraill, yn mynd trwy’r fath heriau!

6. Sut gallai methu â rhoi Colosiaid 3:13 ar waith achosi i rywun grwydro oddi wrth bobl Jehofa?

6 Darllen Colosiaid 3:13. Mae rhai o weision Jehofa wedi cael eu brifo gan gyd-grediniwr. Roedd yr apostol Paul yn cydnabod y bydd gynnon ni, ar adegau, achos i gwyno yn erbyn brawd neu chwaer. Efallai ein bod ni wedi cael ein trin yn annheg. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni ddod yn chwerw. A gall hynny, ymhen amser, achosi i rywun grwydro oddi wrth bobl Jehofa. Ystyria brofiad Pablo, brawd yn Ne America. Cafodd ei gyhuddo ar gam o wneud rhywbeth drwg, ac o ganlyniad, collodd fraint yn y gynulleidfa. Beth oedd ei ymateb? “Gwnaeth hynny fy nghorddi,” meddai Pablo, “ac yn raddol, wnes i grwydro oddi wrth y gynulleidfa.”

7. Pa effaith gall cydwybod euog ei gael ar rywun?

7 Neu, gall cydwybod euog boeni meddwl rhywun sydd wedi pechu’n ddifrifol yn y gorffennol, gan wneud iddo deimlo nad yw’n haeddu cariad Duw. Hyd yn oed os oedd yn edifar ac wedi cael maddeuant, gallai deimlo nad yw’n ddigon da bellach i fod yn un o bobl Dduw. Dyna sut roedd brawd o’r enw Francisco yn teimlo. “Ces i fy ngheryddu am anfoesoldeb rhywiol,” meddai. “Er imi barhau i fynd i’r cyfarfodydd ar y cychwyn, es i’n isel a theimlo nad oeddwn i’n ddigon da i fod ymysg pobl Jehofa. Roedd fy nghydwybod yn dal i fy mhigo, ac o’n i’n siŵr nad oedd Jehofa wedi maddau imi. Maes o law, wnes i stopio pregethu a mynd i’r cyfarfodydd.” Sut rwyt ti’n teimlo am frodyr a chwiorydd sy’n wynebu problemau tebyg i’r rhai rydyn ni wedi eu trafod hyd yma? Wyt ti’n cydymdeimlo â nhw? Ac yn bwysicach fyth, sut mae Jehofa’n teimlo amdanyn nhw?

MAE JEHOFA YN CARU EI DDEFAID

Roedd bugeiliaid yn Israel yn gofalu’n fawr am ddefaid coll (Gweler paragraffau 8-9) *

8. Ydy Jehofa’n anghofio’r rhai sydd wedi ei wasanaethu ar un adeg? Esbonia.

8 Dydy Jehofa ddim yn anghofio’r rhai oedd arfer ei wasanaethu ond sydd wedi stopio am gyfnod; dydy ef ddim chwaith yn anghofio’r hyn a wnaethon nhw yn ei wasanaeth. (Heb. 6:10) Cofnododd y proffwyd Eseia eglureb hyfryd i ddangos sut mae Jehofa yn gofalu am ei bobl. Ysgrifennodd: “Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail; bydd yn codi’r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl.” (Esei. 40:11) Sut mae’r Bugail Mawr yn teimlo pan fydd un o’i ddefaid yn crwydro oddi wrth y praidd? Datgelodd Iesu deimladau Jehofa pan ofynnodd i’w ddisgyblion: “Beth ydych chi’n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw’n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai’n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll? Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae’r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na’r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll!”—Math. 18:12, 13.

9. Sut roedd bugeiliaid da yn adeg y Beibl yn trin eu defaid? (Gweler y llun ar y clawr.)

9 Pam gallwn ni gymharu Jehofa â bugail? Oherwydd yng nghyfnod y Beibl roedd gan fugail da ofal mawr am ei ddefaid. Er enghraifft, brwydrodd Dafydd yn erbyn llew ac arth er mwyn amddiffyn ei braidd. (1 Sam. 17:34, 35) Byddai bugail da yn sicr o sylwi petai hyd yn oed un o’i ddefaid yn mynd ar goll. (Ioan 10:3, 14) Byddai bugail o’r fath yn gadael y 99 dafad yn ddiogel mewn corlan neu o dan ofal bugeiliaid eraill, tra bod yntau’n mynd i chwilio am yr un goll. Defnyddiodd Iesu yr eglureb honno i ddysgu gwirionedd pwysig inni: “Dydy’ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o’r rhai bach yma gael eu colli.”—Math. 18:14.

Bugail o Israel gynt yn gofalu am ddafad goll (Gweler paragraff 9)

MAE JEHOFA YN CHWILIO AM EI DDEFAID

10. Yn ôl Eseciel 34:11-16, beth addawodd Jehofa ei wneud ar gyfer ei ddefaid coll?

10 Mae Jehofa yn caru bob un ohonon ni, gan gynnwys y “rhai bach” sydd wedi crwydro oddi wrth ei braidd. Drwy’r proffwyd Eseciel, addawodd Duw y byddai’n chwilio am ei ddefaid coll ac yn eu helpu nhw i adfer eu hiechyd ysbrydol. Rhestrodd gamau penodol y byddai’n eu cymryd er mwyn eu hachub nhw, camau y byddai unrhyw fugail yn Israel yn eu cymryd petai dafad yn mynd ar goll. (Darllen Eseciel 34:11-16.) Yn gyntaf, byddai’r bugail yn chwilio am y ddafad, rhywbeth a allai gymryd llawer o amser ac ymdrech. Yna, unwaith iddo ddod o hyd iddi, byddai’n ei dychwelyd i’r praidd. Ar ben hynny, petai’r ddafad yn llwgu neu wedi ei chlwyfo, byddai’r bugail cariadus yn helpu’r anifail gwan, gan rwymo ei briwiau, ei chario hi, a’i bwydo. Mae’n rhaid i henuriaid, bugeiliaid praidd Duw, gymryd yr un camau er mwyn helpu’r rhai sydd wedi crwydro oddi wrth y gynulleidfa. (1 Pedr 5:2, 3) Mae’r henuriaid yn chwilio amdanyn nhw, yn eu helpu i ddychwelyd i’r praidd, ac yn dangos cariad tuag atyn nhw drwy eu cefnogi’n ysbrydol. *

11. Beth roedd bugail da yn ei ddeall?

11 Roedd bugail da yn deall bod defaid yn gallu mynd ar goll. A phetai dafad yn crwydro oddi wrth y praidd, fyddai’r bugail ddim yn ei chosbi. Ystyria’r esiampl a osododd Jehofa pan helpodd rai o’i weision a grwydrodd oddi wrtho am gyfnod.

12. Sut gwnaeth Jehofa ddelio â Jona?

12 Rhedodd y proffwyd Jona oddi wrth ei aseiniad. Er hynny, ni chefnodd Jehofa ar Jona. Fel bugail da, gwnaeth Jehofa ei achub a’i helpu i fagu’r nerth oedd ei angen arno i gyflawni ei aseiniad. (Jona 2:7; 3:1, 2) Yn nes ymlaen, defnyddiodd Duw blanhigyn bach i helpu Jona i ddeall bod bywyd pob unigolyn yn werthfawr. (Jona 4:10, 11) Y wers? Ni ddylai henuriaid anobeithio’n llwyr yn achos y rhai sy’n mynd yn anweithredol. Yn hytrach, mae’r henuriaid yn ceisio deall beth achosodd i’r ddafad grwydro oddi wrth y praidd. A phan ddaw’r ddafad honno yn ôl at Jehofa, mae’r henuriaid yn parhau i ddangos diddordeb yn y ddafad a’i charu.

13. Beth gallwn ni ei ddysgu o ymateb Jehofa i eiriau ysgrifennwr Salm 73?

13 Daeth ysgrifennwr Salm 73 yn ddigalon wrth sylwi fod pobl ddrwg i weld yn llwyddo bob amser. Dechreuodd feddwl tybed a oes unrhyw fudd o wneud ewyllys Duw. (Salm 73:12, 13, 16) Sut gwnaeth Jehofa ymateb? Wnaeth ef ddim ei gondemnio. Sicrhaodd Duw fod ei eiriau yn cael eu cofnodi yn y Beibl. Yn y pen draw, daeth y salmydd i ddeall fod perthynas dda â Jehofa yn fwy gwerthfawr na dim, ac yn gwneud bywyd yn werth ei fyw. (Salm 73:23, 24, 26, 28) Y wers? Dylai henuriaid beidio â bod yn gyflym i feirniadu’r rhai sy’n dechrau cwestiynu buddion gwasanaethu Jehofa. Yn hytrach na’u condemnio, dylai henuriaid geisio deall pam eu bod nhw’n siarad ac yn ymddwyn fel y maen nhw. Dim ond wedyn gall yr henuriaid ddefnyddio’r Beibl i’w hannog nhw.

14. Pam roedd angen help ar Elias, a sut aeth Jehofa ati i’w helpu?

14 Gwnaeth y proffwyd Elias ffoi oddi wrth y Frenhines Jesebel. (1 Bren. 19:1-3) Roedd yn meddwl nad oedd neb arall yn broffwyd i Jehofa, a theimlodd fod ei waith yn dda i ddim. Aeth Elias mor isel nes ei fod eisiau marw. (1 Bren. 19:4, 10) Yn hytrach na chondemnio Elias, sicrhaodd Jehofa ef nad oedd ar ei ben ei hun, ei fod yn gallu ymddiried yn nerth Duw, a bod ganddo lawer o waith eto i’w wneud. Gwrandawodd Jehofa yn amyneddgar ar bryderon Elias a rhoi aseiniadau newydd iddo. (1 Bren. 19:11-16, 18) Y wers? Dylen ni i gyd, yn enwedig yr henuriaid, drin defaid Jehofa yn garedig. P’un a ydy rhywun yn chwerw neu’n teimlo nad yw’n haeddu trugaredd Jehofa, bydd yr henuriaid yn gwrando arno wrth iddo dywallt ei galon. Yna byddan nhw’n ceisio sicrhau’r ddafad goll fod Jehofa yn ei charu.

SUT DYLEN NI DEIMLO AM DDEFAID COLL DUW?

15. Yn ôl Ioan 6:39, sut roedd Iesu’n teimlo am ddefaid Jehofa?

15 Sut mae Jehofa eisiau inni deimlo am ei ddefaid coll? Gosododd Iesu yr esiampl inni. Gwyddai fod pob un o ddefaid Jehofa yn werthfawr iddo, felly gwnaeth Iesu bopeth yn ei allu i helpu defaid coll Israel i ddychwelyd at Jehofa. (Math. 15:24; Luc 19:9, 10) Fel y bugail da, gwnaeth Iesu ei orau glas i osgoi colli unrhyw un o ddefaid Jehofa.—Darllen Ioan 6:39.

16-17. Sut dylai henuriaid deimlo am helpu’r rhai sydd wedi crwydro? (Gweler y blwch “ Sut Gall Dafad Goll Deimlo.”)

16 Anogodd yr apostol Paul yr henuriaid yng nghynulleidfa Effesus i efelychu esiampl Iesu. Dangosodd fod rhaid helpu’r rhai gwan, a dywedodd: “Dych chi’n cofio fod yr Arglwydd Iesu ei hun wedi dweud: ‘Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.’” (Act. 20:17, 35) Yn amlwg felly, mae gan henuriaid heddiw gyfrifoldeb arbennig yn hyn o beth. Dywedodd Salvador, henuriad yn Sbaen, “Mae meddwl am y ffordd mae Jehofa yn gofalu am ei ddefaid coll yn fy nghymell i wneud popeth a alla’ i i’w helpu nhw. Fel bugail ysbrydol, dw i’n hollol sicr fod Jehofa eisiau imi ofalu amdanyn nhw.”

17 Cafodd pawb yn yr erthygl hon a oedd wedi crwydro i ffwrdd help i ddychwelyd at Jehofa. Y funud hon, mae llawer mwy sydd wedi crwydro eisiau gwneud yr un peth. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod ymhellach beth gallwn ni ei wneud i’w helpu nhw i ddychwelyd at Jehofa.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

^ Par. 5 Pam mae rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd wedi crwydro oddi wrth y gynulleidfa? Sut mae Duw yn teimlo amdanyn nhw? Mae’r erthygl hon yn trafod atebion i’r cwestiynau hynny, yn ogystal â’r hyn gallwn ei ddysgu o’r ffordd a wnaeth Jehofa helpu rhai yn adeg y Beibl a grwydrodd oddi wrtho am gyfnod.

^ Par. 2 ESBONIAD: Cyhoeddwr anweithredol yw rhywun sydd heb adrodd unrhyw waith pregethu am chwe mis neu fwy. Er hynny, mae rhywun anweithredol yn dal yn frawd neu’n chwaer inni, ac rydyn ni’n ei garu.

^ Par. 4 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 10 Bydd yr erthygl nesaf yn trafod ffyrdd penodol y gall henuriaid ddilyn y camau hyn.

^ Par. 60 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Yn llawn pryder am ddafad goll, byddai bugail yn Israel yn chwilio amdani a’i helpu hi yn ôl i’r praidd. Heddiw, mae bugeiliaid ysbrydol yn gwneud yr un peth.

^ Par. 64 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Tra bod chwaer anweithredol yn disgwyl i’w bws adael, mae hi’n gweld dau Dyst yn mwynhau tystiolaethu’n gyhoeddus.