Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 26

Tro yn ôl Ata I

Tro yn ôl Ata I

“Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi.”—MAL. 3:7.

CÂN 102 Helpu’r Rhai Gwan

CIPOLWG *

1. Sut mae Jehofa’n teimlo pan gaiff un o’i ddefaid ei hachub?

FEL gwnaethon ni drafod yn yr erthygl flaenorol, mae Jehofa yn cymharu ei hun â bugail da sy’n gofalu’n dyner am bob un o’i ddefaid. Ac mae’n chwilio am unrhyw un sy’n crwydro. Dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid oedd wedi ei adael: “Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi.” Rydyn ni’n gwybod ei fod yn dal i deimlo’r un fath am ei fod yn dweud: “Dw i ddim wedi newid.” (Mal. 3:6, 7) Dywedodd Iesu fod Jehofa a’r angylion yn gorfoleddu pan fydd hyd yn oed un o’i weision coll yn dychwelyd ato.—Luc 15:10, 32.

2. Beth gwnawn ni ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Gad inni ystyried tair o ddamhegion Iesu sy’n canolbwyntio ar helpu’r rhai sydd wedi crwydro oddi wrth Jehofa. Byddwn ni’n trafod rhai rhinweddau penodol sydd eu hangen arnon ni er mwyn helpu defaid coll i ddychwelyd ato. A chawn weld pam mae hi werth yr ymdrech i gefnogi’r rhai sy’n wan.

CHWILIA AM Y DARN ARIAN COLL

3-4. Pam chwiliodd y ddynes y soniodd Luc 15:8-10 amdani mor drylwyr am ei drachma coll?

3 Mae angen inni weithio’n galed er mwyn dod o hyd i’r rhai sydd eisiau dod yn ôl at Jehofa. Mewn dameg yn Efengyl Luc, disgrifiodd Iesu sut chwiliodd dynes am rywbeth gwerthfawr a gafodd ei golli—darn arian o’r enw drachma. Rhan bwysig y ddameg hon yw pa mor drylwyr wnaeth hi chwilio am y darn arian.—Darllen Luc 15:8-10.

4 Disgrifiodd Iesu deimladau dynes pan ddaeth hi o hyd i ddrachma gwerthfawr a oedd ar goll. Yn adeg Iesu, roedd yn arferiad gan rai mamau Iddewig i roi deg darn drachma i ferch ar ddydd ei phriodas. Efallai roedd y darn arian hwn yn un o’r rhai a gafodd gan ei mam. Mae’r ddynes yn cymryd bod y darn arian wedi disgyn ar y llawr. Felly, mae hi’n cynnau lamp ac yn edrych o gwmpas, ond yn methu ei weld. Efallai nad yw ei lamp olew yn rhoi digon o olau iddi allu gweld y darn arian bach. Yn y pen draw, mae hi’n mynd ati i sgubo drwy’r tŷ yn ofalus. Er mawr ryddhad iddi, yno yn y llwch yn sgleinio yng ngolau’r lamp, mae ei drachma gwerthfawr! Mae hi’n galw ei ffrindiau a’i chymdogion at ei gilydd i rannu’r newyddion da.

5. Pam mae hi’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r rhai sydd wedi gadael y gynulleidfa?

5 Fel y gwelwn ni yn nameg Iesu, mae’n rhaid inni weithio’n galed i ddod o hyd i rywbeth sydd ar goll. Mewn ffordd debyg, efallai bydd rhaid inni weithio’n galed i ddod o hyd i’r rhai sydd wedi crwydro oddi wrth y gynulleidfa. Hwyrach bod blynyddoedd wedi mynd heibio ers iddyn nhw stopio cymdeithasu gyda ni. Ac efallai eu bod nhw wedi symud i ardal lle nad yw’r brodyr lleol yn eu hadnabod nhw. Ond yn sicr mae ’na rai anweithredol sydd, ar y foment hon, yn dyheu am ddychwelyd at Jehofa. Maen nhw eisiau gwasanaethu Jehofa unwaith eto gyda’u brodyr a’u chwiorydd, ond allan nhw ddim gwneud hynny heb help.

6. Sut gall pawb yn y gynulleidfa helpu i chwilio am y rhai anweithredol?

6 Pwy all helpu i chwilio am rai anweithredol? Pawb—henuriaid, arloeswyr, aelodau’r teulu, a chyhoeddwyr y gynulleidfa. A oes gen ti ffrind neu berthynas sydd wedi mynd yn anweithredol? A wyt ti wedi cyfarfod rhywun anweithredol wrth bregethu o ddrws i ddrws neu wrth dystiolaethu’n gyhoeddus? Esbonia i’r unigolyn, os byddai’n hoffi i rywun alw arno, y byddet ti’n hapus i roi ei fanylion cyswllt i’r henuriaid lleol.

7. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o sylwadau henuriad o’r enw Thomas?

7 Pa gamau ymarferol gall henuriaid yn enwedig eu cymryd i ddod o hyd i’r rhai sydd eisiau dod yn ôl at Jehofa? Sylwa ar beth ddywedodd un henuriad o’r enw Thomas, * sy’n byw yn Sbaen. Mae wedi helpu mwy na 40 o Dystion i ddychwelyd i’r gynulleidfa. Dywedodd Thomas: “Yn gyntaf, bydda’ i’n gofyn i amryw o frodyr a chwiorydd a ydyn nhw’n gwybod lle mae’r rhai anweithredol yn byw nawr. Neu bydda’ i’n gofyn i’r cyhoeddwyr a ydyn nhw’n cofio am unrhyw rai sydd ddim yn dod i’r cyfarfodydd bellach. Mae’r rhan fwyaf yn y gynulleidfa yn ymateb yn frwdfrydig am eu bod yn teimlo’n rhan o’r gwaith chwilio. Yn hwyrach ymlaen, pan dw i’n galw ar frodyr neu chwiorydd anweithredol, dw i’n holi am eu plant a’u perthnasau eraill. Roedd rhai sydd bellach yn anweithredol arfer dod â’u plant i’r cyfarfodydd, ac efallai bod y plant hefyd wedi bod yn gyhoeddwyr ar un adeg. Mae’n bosib helpu nhwthau hefyd i ddychwelyd at Jehofa.”

HELPA FEIBION A MERCHED COLL JEHOFA YN EU HOLAU

8. Yn y ddameg am y mab afradlon yn Luc 15:17-24, sut gwnaeth y tad drin ei fab edifar?

8 Pa rinweddau sydd eu hangen arnon ni os ydyn ni am helpu’r rhai sydd eisiau dod yn ôl at Jehofa? Sylwa ar rai gwersi gallwn ni eu dysgu o ddameg Iesu am y mab afradlon. (Darllen Luc 15:17-24.) Esboniodd Iesu sut y calliodd y mab yn y pen draw a phenderfynu mynd yn ôl gartref. Rhedodd y tad i gyfarfod ei fab, a’i gofleidio’n gynnes, gan ei sicrhau o’i gariad. Roedd cydwybod y mab yn ei boeni, gan wneud iddo deimlo nad oedd yn haeddu cael ei alw’n fab. Teimlodd y tad dros ei fab a agorodd ei galon iddo. Ac yna cymerodd gamau ymarferol i sicrhau ei fab fod ’na groeso mawr iddo, nid fel gwas, ond fel aelod annwyl o’r teulu. I brofi hynny, trefnodd y tad wledd i’w fab edifar a rhoddodd ddillad da iddo.

9. Pa rinweddau sy’n rhaid inni eu cael er mwyn helpu’r rhai anweithredol i ddychwelyd at Jehofa? (Gweler y blwch “ Sut i Helpu’r Rhai Sydd Eisiau Dychwelyd.”)

9 Mae Jehofa yn debyg i’r tad yn y ddameg honno. Mae’n caru ein brodyr a’n chwiorydd anweithredol ac eisiau iddyn nhw ddod yn ôl ato. Drwy efelychu Jehofa, gallwn ni eu helpu i ddychwelyd. Mae hyn yn gofyn am amynedd, empathi, trugaredd, a chariad ar ein rhan ni. Pam dylen ni ddangos y rhinweddau penodol hynny, a sut gallwn ni fynd ati?

10. Pam mae angen amynedd i helpu rhywun i wella’n ysbrydol?

10 Rydyn ni angen amynedd oherwydd ei bod yn cymryd amser i rywun wella’n ysbrydol. Mae llawer a oedd yn anweithredol ar un adeg yn cyfaddef y gwnaeth hi gymryd sawl ymweliad gan yr henuriaid ac eraill yn y gynulleidfa cyn iddyn nhw ymateb. Ysgrifennodd un chwaer o’r enw Nancy, o Dde-ddwyrain Asia: “Wnaeth ffrind agos yn y gynulleidfa fy helpu’n fawr iawn. Oedd hi fel chwaer fawr imi. Wnaeth hi fy atgoffa o’r amserau da gawson ni yn y gorffennol. Byddai hi’n gwrando’n amyneddgar wrth imi fwrw fy mol, a wnaeth hi ddim dal yn ôl rhag rhoi cyngor imi. Oedd hi’n ffrind go iawn, yn llawn cariad, ac yn barod i helpu ar unrhyw adeg.”

11. Pan fydd teimladau rhywun wedi brifo, pam rydyn ni angen empathi i’w helpu?

11 Mae empathi fel eli cryf; mae’n gallu helpu i leddfu’r boen. Mae rhai anweithredol wedi stryffaglu am flynyddoedd gyda theimladau chwerw tuag at rywun yn y gynulleidfa. Oherwydd y teimladau hynny, dydyn nhw ddim eisiau troi’n ôl at Jehofa. Hwyrach bod rhai’n teimlo eu bod wedi cael eu trin yn annheg. Efallai bod nhw angen rhywun fydd yn gwrando arnyn nhw ac yn deall eu teimladau. (Iago 1:19) Dywedodd María, a oedd yn anweithredol ar un adeg: “Oeddwn i angen clust i wrando, ysgwydd i grio arni, a help llaw i fy arwain i.”

12. Sut mae cariad Jehofa fel rhaff?

12 Mae’r Beibl yn disgrifio cariad Jehofa tuag at ei bobl fel tennyn, neu raff. Ym mha ffordd mae cariad Duw fel rhaff? Ystyria’r eglureb hon: Dychmyga dy fod yn boddi mewn moroedd gwyllt, ac mae rhywun yn taflu siaced achub iti. Wrth gwrs, byddet ti’n gwerthfawrogi’r help achos gallai hynny dy helpu i beidio â suddo o dan y don. Ond fydd siaced achub ddim yn ddigon i dy gadw’n fyw. Mae’r dŵr yn oer, a fyddi di ddim yn goroesi oni bai dy fod ti’n cyrraedd y bad achub. Rwyt ti angen i rywun daflu rhaff atat ti a dy dynnu i mewn i’r bad achub. Dywedodd Jehofa am yr Israeliaid oedd wedi crwydro: “Fi wnaeth eu harwain gyda thennyn lledr—tennyn cariad.” (Hos. 11:4) Mae Duw’n teimlo yr un ffordd heddiw am y rhai sydd wedi stopio ei wasanaethu ac sy’n boddi dan broblemau a phryderon. Mae eisiau iddyn nhw wybod ei fod yn eu caru, ac eisiau eu tynnu nhw’n ôl ato. Ac fe all Jehofa dy ddefnyddio di i fynegi ei gariad iddyn nhw.

13. Sut mae profiad Pablo yn dangos bod ein cariad ni yn gallu helpu eraill i ddod yn ôl at Jehofa?

13 Mae’n bwysig i sicrhau bod y rhai anweithredol yn gwybod bod Jehofa yn eu caru, a bod ninnau’n eu caru nhw hefyd. Roedd Pablo, y soniwyd amdano yn yr erthygl flaenorol, yn anweithredol am dros 30 mlynedd. Dywedodd: “Un bore, wrth imi adael y tŷ, daeth hen chwaer annwyl ata i, a siarad â mi mewn ffordd gariadus. Dechreuais grio fel babi. Dywedais wrthi mae’n rhaid bod Jehofa wedi ei hanfon hi i siarad â mi. Ar y foment honno penderfynais droi yn ôl at Jehofa.”

CEFNOGA’R GWAN GYDA CHARIAD

14. Yn ôl y ddameg yn Luc 15:4, 5, beth wnaeth y bugail unwaith iddo gael hyd i’r ddafad goll?

14 Mae’r rhai anweithredol angen cefnogaeth gyson gynnon ni. Fel y mab colledig yn nameg Iesu, efallai eu bod nhw’n delio â chreithiau emosiynol. Ac mae’n debyg eu bod nhw’n ysbrydol wan oherwydd yr hyn maen nhw wedi ei brofi ym myd Satan. Mae angen inni eu helpu i gryfhau eu ffydd yn Jehofa. Yn nameg y ddafad goll, mae Iesu’n disgrifio sut mae’r bugail yn rhoi’r ddafad ar ei ysgwyddau ac yn ei chario hi’n ôl i’r praidd. Mae’r bugail eisoes wedi rhoi llawer o amser ac egni er mwyn dod o hyd i’r ddafad goll. Ond mae’n sylweddoli y bydd rhaid iddo ei chario’n ôl i’r praidd achos fydd ganddi mo’r nerth i ddychwelyd ar ei phen ei hun.—Darllen Luc 15:4, 5.

15. Sut gallwn ni gefnogi’r rhai gwan sydd eisiau dychwelyd at Jehofa? (Gweler y blwch “ Adnodd Gwerthfawr.”)

15 Efallai bydd angen buddsoddi amser ac egni er mwyn helpu’r rhai anweithredol i drechu eu gwendidau. Ond, gydag ysbryd Jehofa, ei Air, a’r llenyddiaeth sy’n dod drwy’r gynulleidfa, gallwn ni eu helpu i ddod yn ysbrydol gryf unwaith eto. (Rhuf. 15:1) Sut gallwn ni wneud hynny? Dywed un henuriad profiadol, “Mae’r rhan fwyaf o’r rhai anweithredol angen astudiaeth Feiblaidd ar ôl iddyn nhw benderfynu eu bod nhw wir eisiau dychwelyd at Jehofa.” * Felly, os bydd rhywun yn gofyn iti astudio gyda rhywun anweithredol, beth am groesawu’r fraint? Mae’r un henuriad hefyd yn dweud, “Mae’n rhaid i’r cyhoeddwr sy’n cynnal yr astudiaeth fod yn ffrind da, rhywun y gall yr un anweithredol ymddiried ynddo.”

LLAWENYDD YN Y NEF AC AR Y DDAEAR

16. Sut rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddibynnu ar gefnogaeth yr angylion?

16 Mae ’na lawer o brofiadau yn dangos bod yr angylion yn ein helpu ni i ddod o hyd i’r rhai anweithredol sydd eisiau dod yn ôl at Jehofa. (Dat. 14:6) Er enghraifft, gweddïodd Silvio o Ecwador yn daer am help i ddychwelyd i’r gynulleidfa. Tra oedd yn dal i weddïo, dyma’r gloch yn canu. Roedd dau henuriad wrth y drws. Yn ystod yr ymweliad hwnnw, roedden nhw’n hapus i ddechrau rhoi’r help roedd ei angen arno.

17. Pa deimlad gawn ni o helpu rhai anweithredol?

17 Cawn lawenydd mawr o helpu’r rhai sy’n wan yn ysbrydol i ddychwelyd at Jehofa. Sylwa ar beth ddywedodd Salvador, arloeswr sy’n gwneud ymdrech arbennig i helpu’r rhai anweithredol: “Ar adegau, dw i’n ei chael hi’n anodd peidio â gollwng dagrau o lawenydd. Mae’n bleser pur gwybod bod Jehofa wedi achub un o’i ddefaid annwyl o afael byd Satan, a fy mod i wedi cael y fraint o gydweithio ag Ef i wneud hynny.”—Act. 20:35.

18. Os wyt ti’n anweithredol, beth gelli di fod yn sicr ohono?

18 Os wyt ti’n anweithredol, plîs cofia bod Jehofa yn dal i dy garu di. Mae Ef eisiau iti ddod yn ôl ato. Bydd hyn yn gofyn am ymdrech ar dy ran di. Ond fel y tad yn nameg Iesu, mae Jehofa yn disgwyl amdanat ti, a bydd yn dy groesawu di’n ôl â breichiau agored.

CÂN 103 Bugeiliaid—Dynion yn Rhoddion

^ Par. 5 Mae Jehofa eisiau i’r rhai sydd ddim yn pregethu nac yn mynd i’r cyfarfodydd ddod yn ôl ato. Mae ’na lawer gallwn ni ei wneud i annog y rhai sydd eisiau derbyn gwahoddiad Jehofa: “Trowch yn ôl ata i.” Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni eu helpu i wneud hynny.

^ Par. 7 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 15 Efallai bydd astudio rhannau o’r llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duwyn helpu rhai unigolion anweithredol, tra bydd eraill yn elwa o adolygu penodau o’r llyfr Draw Close to Jehovah. Bydd Pwyllgor Gwasanaeth y Gynulleidfa yn penderfynu pwy sydd fwyaf cymwys i gynnal yr astudiaeth.

^ Par. 68 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Tri gwahanol frawd yn helpu brawd arall sydd eisiau dychwelyd. Maen nhw’n gwneud hynny drwy gadw mewn cysylltiad, ei sicrhau bod eraill yn ei garu, a gwrando arno’n llawn empathi.