Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

“Sancteiddier Dy Enw”

“Sancteiddier Dy Enw”

“O ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth.”—SALM 135:13.

CÂN 10 Clodfori Ein Duw Jehofa

CIPOLWG *

1-2. Pa bynciau sydd o ddiddordeb mawr i Dystion Jehofa?

MAE ’na faterion pwysig iawn yn hawlio ein sylw ni heddiw—sofraniaeth Jehofa a sancteiddiad ei enw. A ninnau’n Dystion Jehofa, rydyn ni’n hoff iawn o drafod y pynciau diddorol hynny. Ond ydy sofraniaeth Duw a sancteiddiad ei enw yn ddau fater hollol wahanol? Nac ydyn.

2 Rydyn ni i gyd wedi dod i ddeall fod enw Duw angen cael ei sancteiddio. A hefyd, rydyn ni wedi dysgu bod angen profi mai sofraniaeth Jehofa, neu ei ffordd o reoli, yw’r gorau. Mae’r ddau fater hyn yn haeddu ein sylw a’n parch.

3. Beth sydd ynghlwm wrth enw Jehofa?

3 Mewn gwirionedd, mae’r enw Jehofa yn cwmpasu popeth am ein Duw, gan gynnwys ei ffordd o reoli. Felly drwy ddweud mai adfer enw da Jehofa yw’r mater pwysicaf oll, rydyn ni hefyd yn dweud bod rhaid profi mai ffordd Jehofa o reoli yw’r gorau. Mae enw Jehofa ynghlwm wrth y ffordd y mae’n rheoli fel y Sofran hollalluog.—Gweler y blwch “ Agweddau ar Fater Pwysig.”

4. Sut mae Salm 135:13 yn disgrifio enw Duw, a pha gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

4 Mae’r enw Jehofa yn unigryw. (Darllen Salm 135:13.) Pam mae enw Duw mor bwysig? Sut cafodd ei bardduo y tro cyntaf? Sut mae Duw yn ei sancteiddio? A sut gallwn ni helpu i amddiffyn ei enw? Gad inni ateb y cwestiynau hynny.

PWYSIGRWYDD ENW

5. Beth gallai rhai ei ofyn wrth ystyried sancteiddio enw Duw?

5 “Sancteiddier dy enw.” (Math. 6:9, BCND) Dywedodd Iesu y dylen ni flaenoriaethu hynny yn ein gweddïau. Ond beth yw ystyr geiriau Iesu? Mae sancteiddio rhywbeth yn golygu ei wneud yn sanctaidd, yn lân, neu’n bur. Ond efallai bod rhai yn gofyn, ‘Onid ydy enw Jehofa yn sanctaidd, yn lân, ac yn bur yn barod?’ Er mwyn ateb hynny, mae’n rhaid inni ystyried beth sydd ynghlwm wrth enw.

6. Beth sy’n gwneud enw yn werthfawr?

6 Mae mwy i enw na chasgliad o lythrennau ar lafar neu ar bapur. Sylwa ar beth mae’r Beibl yn ei ddweud: “Mae enw da yn well na chyfoeth mawr.” (Diar. 22:1; Preg. 7:1) Pam mae enw mor werthfawr? Oherwydd bod barn eraill am rywun ynghlwm wrth ei enw. Felly nid y ffordd mae enw yn ymddangos ar dudalen, na hyd yn oed y ffordd mae’n cael ei ynganu, yw’r peth pwysicaf; beth sy’n wirioneddol bwysig ydy pwy neu beth mae’r enw yn ei gynrychioli ym meddyliau a chalonnau pobl eraill.

7. Sut mae pobl wedi ymosod ar enw Duw?

7 Pan fydd pobl yn dweud celwyddau am Jehofa, maen nhw’n ymosod ar ei enw da. Drwy wneud hyn, maen nhw’n ceisio pardduo enw Duw. Y tro cyntaf gwnaeth rhywun ymosod ar enw Duw oedd yng Ngardd Eden. Ystyria beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ymosodiad hwn.

Y TRO CYNTAF CAFODD YR ENW EI BARDDUO

8. Beth roedd Adda ac Efa yn ei wybod, a pha gwestiynau sy’n codi?

8 Roedd Adda ac Efa yn gwybod mai Jehofa oedd enw Duw, yn ogystal â gwirioneddau pwysig amdano. Roedden nhw’n ei adnabod fel y Creawdwr; yr Un a roddodd fywyd, cartref hyfryd i fyw ynddo, a chymar perffaith iddyn nhw. (Gen. 1:26-28; 2:18) Er hynny, a fydden nhw’n parhau i ddefnyddio eu meddyliau perffaith i fyfyrio ar y cwbl roedd Jehofa wedi ei wneud drostyn nhw? A fydden nhw’n dal ati i feithrin eu gwerthfawrogiad a’u cariad tuag at Jehofa? Daeth yr atebion yn amlwg pan gawson nhw eu profi gan elyn Duw.

9. Yn ôl Genesis 2:16, 17 a 3:1-5, beth ddywedodd Jehofa wrth y cwpl cyntaf, a sut plygodd Satan y gwir?

9 Darllen Genesis 2:16, 17 a 3:1-5. Gan wneud iddi edrych fel bod sarff yn siarad, gofynnodd Satan gwestiwn i Efa: “Ydy Duw wir wedi dweud, ‘Peidiwch bwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd’?” Roedd y cwestiwn hwnnw’n cynnwys celwydd cyfrwys oedd fel gwenwyn cudd. Yr hyn a ddywedodd Duw mewn gwirionedd oedd eu bod nhw’n cael bwyta o bob coeden, heblaw am un. Mae’n rhaid fod yr amrywiaeth oedd ar gael i Adda ac Efa yn anhygoel. (Gen. 2:9) Mae Jehofa yn bendant yn hael. Er hynny, roedd Duw wedi gwahardd Adda ac Efa rhag bwyta ffrwyth un goeden benodol. Felly, roedd cwestiwn Satan yn plygu’r gwir. Roedd Satan yn awgrymu nad oedd Duw yn hael. Efallai fod Efa wedi meddwl, ‘Ydy Duw yn dal rhywbeth da yn ôl?’

10. Sut pardduodd Satan enw Duw yn gwbl agored, a beth oedd y canlyniad?

10 Ar yr adeg honno, roedd Efa yn dal i ystyried Jehofa fel ei Rheolwr. Atebodd hi drwy adrodd cyfarwyddiadau clir Duw wrth Satan. Ychwanegodd na ddylen nhw hyd yn oed gyffwrdd â’r goeden. Roedd hi’n gwybod am rybudd Duw y byddai anufudd-dod yn arwain at farwolaeth. Ond atebodd Satan: “Na! Fyddwch chi ddim yn marw.” (Gen. 3:2-4) Roedd Satan wedi rhoi’r gorau i fod yn gyfrwys. Erbyn hyn, roedd yn pardduo enw Duw yn gwbl agored, gan ddweud wrth Efa fod Jehofa yn gelwyddog. Dyna sut daeth Satan yn ddiafol, neu’n enllibiwr. Cafodd Efa ei thwyllo’n llwyr; fe wnaeth hi gredu Satan. (1 Tim. 2:14) Ymddiriedodd fwy yn Satan na Jehofa. Oherwydd hynny, roedd hi’n haws i Efa wneud y penderfyniad gwaethaf posib. Penderfynodd anufuddhau i Jehofa. Dechreuodd fwyta’r ffrwyth roedd Jehofa wedi ei gwahardd rhag ei fwyta. Ac yna, rhoddodd rywfaint i Adda.—Gen. 3:6.

11. Beth dylai Adda ac Efa fod wedi ei wneud, ond sut gwnaethon nhw fethu?

11 Meddylia am funud am beth dylai Efa fod wedi ei ddweud wrth Satan. Dychmyga ei bod hi wedi dweud rhywbeth fel hyn: “Dw i ddim yn dy ’nabod di, ond dw i yn ’nabod fy Nhad, Jehofa, a dw i’n ei garu a’i drystio. Mae popeth sydd gen i ac Adda wedi dod oddi wrtho. Rhag dy gywilydd di am ddweud y fath bethau amdano! Cer o ’ma!” Fe fyddai Jehofa wedi bod wrth ei fodd yn clywed y fath ffyddlondeb gan ferch annwyl! (Diar. 27:11) Ond, doedd gan Efa, nac Adda, gariad ffyddlon tuag at Jehofa. Heb y fath gariad tuag at eu Tad, methodd Adda ac Efa amddiffyn ei enw rhag cael ei bardduo.

12. Sut gwnaeth Satan hau hadau amheuaeth ym meddwl Efa, a beth methodd Adda ac Efa ei wneud?

12 Fel y gwelon ni, dechreuodd Satan ymosod ar enw da Jehofa drwy geisio gwneud i Efa amau nad oedd Jehofa yn Dad da. Yna, methodd Adda ac Efa amddiffyn enw Jehofa rhag celwyddau maleisus Satan. Oherwydd hyn, wnaethon nhw ddim gwrthod awgrymiad Satan i wrthryfela yn erbyn eu Tad. Mae Satan yn defnyddio dulliau tebyg heddiw. Mae’n ymosod ar enw Duw drwy ei bardduo. Mae pobl sy’n credu celwyddau Satan yn cael eu dylanwadu’n hawdd i wrthod ffordd Jehofa o reoli.

MAE JEHOFA’N SANCTEIDDIO EI ENW

13. Sut mae Eseciel 36:23 yn tynnu sylw at brif neges y Beibl?

13 Ydy Jehofa yn derbyn y fath gelwyddau heb wneud dim amdanyn nhw? Nac ydy, ddim o gwbl! Mae’r Beibl cyfan yn canolbwyntio ar sut mae Jehofa wedi gweithredu i glirio ei enw ar ôl iddo gael ei bardduo yn Eden. (Gen. 3:15) Mewn gwirionedd, gallwn grynhoi prif neges y Beibl fel hyn: Mae Jehofa yn sancteiddio ei enw ac yn adfer cyfiawnder a heddwch i’r ddaear drwy gyfrwng y Deyrnas a reolir gan ei Fab. Mae ’na wybodaeth yn y Beibl sy’n ein helpu i ddeall sut mae Jehofa’n mynd ati i sancteiddio ei enw.—Darllen Eseciel 36:23.

14. Sut mae ymateb Jehofa i’r gwrthryfel yn Eden wedi sancteiddio ei enw?

14 Mae Satan wedi gwneud popeth yn ei allu i stopio Jehofa rhag cyflawni Ei ewyllys. Ond mae Satan wedi methu dro ar ôl tro. Mae’r Beibl yn dangos beth mae Jehofa wedi ei wneud, ac yn profi nad oes neb tebyg i Jehofa. Mae’n wir fod gwrthryfel Satan a phawb sydd ar ei ochr wedi achosi poen mawr i Jehofa. (Salm 78:40) Ond eto, mae wedi ymateb i’r her hon gyda doethineb, amynedd, a chyfiawnder. Mae hefyd wedi dangos ei rym anhygoel mewn ffyrdd di-rif. Ac yn fwy na dim, mae ei gariad yn treiddio drwy bopeth mae’n ei wneud. (1 Ioan 4:8) Mae Jehofa wedi gweithio’n ddi-baid i sancteiddio ei enw.

Dywedodd Satan gelwydd am Jehofa wrth Efa, a thros y canrifoedd mae’r Diafol wedi parhau i enllibio Duw (Gweler paragraffau 9-10, 15) *

15. Sut mae Satan yn pardduo enw Duw heddiw, a beth yw’r canlyniad?

15 Mae Satan yn dal i bardduo enw Duw hyd heddiw. Mae’n twyllo pobl i amau nad ydy Duw yn bwerus, cyfiawn, doeth, a chariadus. Er enghraifft, mae Satan yn ceisio perswadio pobl nad Jehofa yw’r Creawdwr. Ac os ydy rhywun yn credu bod Duw yn bodoli, mae Satan yn ceisio gwneud iddo gredu bod Duw a’i safonau yn gul ac yn annheg. Mae hyd yn oed yn dysgu pobl fod Jehofa yn Dduw creulon a dideimlad sy’n llosgi pobl mewn uffern danllyd. Unwaith iddyn nhw gredu’r fath gelwyddau, maen nhw’n fwy tebygol o gymryd y cam nesaf, sef gwrthod brenhiniaeth gyfiawn Jehofa. Hyd nes bydd Satan yn cael ei drechu’n llwyr, fe fydd yn parhau i enllibio Jehofa, a bydd yn dy dargedu dithau hefyd. A fydd ef yn llwyddo?

DY RAN DI YN Y MATER PWYSICAF

16. Beth gelli di ei wneud yn wahanol i Adda ac Efa?

16 Mae Jehofa yn caniatáu i bobl amherffaith gyfrannu at sancteiddio ei enw. Mewn ffordd, gelli di wneud yr hyn a fethodd Adda ac Efa ei wneud. Er dy fod ti’n byw mewn byd llawn pobl sy’n pardduo a chablu enw Jehofa, mae gen ti’r cyfle i sefyll i fyny a dweud y gwir—bod Jehofa yn sanctaidd, cyfiawn, da, a chariadus. (Esei. 29:23) Gelli di gefnogi ei sofraniaeth. Gelli di helpu pobl i ddeall mai dim ond ffordd Duw o reoli sy’n hollol gyfiawn ac sy’n gallu dod â heddwch a hapusrwydd i’r holl greadigaeth.—Salm 37:9, 37; 146:5, 6, 10.

17. Sut dangosodd Iesu i bobl pwy yw ei Dad?

17 Pan ydyn ni’n amddiffyn enw Jehofa, rydyn ni’n dilyn esiampl Iesu Grist. (Ioan 17:26) Dangosodd Iesu i bobl pwy yw ei Dad, nid yn unig drwy ddefnyddio ei enw, ond hefyd drwy eu dysgu sut un ydy Jehofa mewn gwirionedd. Er enghraifft, yn groes i’r Phariseaid a ddywedodd fod Jehofa yn greulon, yn anodd ei blesio, yn oeraidd, ac yn ddidrugaredd, helpodd Iesu bobl i weld bod ei Dad yn rhesymol, yn amyneddgar, yn gariadus ac yn faddeugar. Hefyd, fe helpodd bobl i weld sut un ydy Jehofa drwy’r ffordd roedd yn efelychu rhinweddau ei Dad yn berffaith yn ei fywyd bob dydd.—Ioan 14:9.

18. Sut gallwn ni wrthbrofi’r celwyddau sy’n pardduo enw Jehofa?

18 Fel Iesu, gallwn ninnau rannu’r hyn rydyn ni’n ei wybod am Jehofa, gan ddysgu pobl ei fod yn Dduw hynod o garedig a chariadus. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n gwrthbrofi’r celwyddau sy’n pardduo enw Jehofa. Gallwn ni sancteiddio enw Jehofa drwy ei wneud yn sanctaidd ym meddyliau a chalonnau pobl. Gallwn ninnau hefyd efelychu Jehofa. Mae hynny’n bosib er ein bod ni’n amherffaith. (Eff. 5:1, 2) Pan fydd ein geiriau a’n gweithredoedd yn dangos i eraill sut un ydy Jehofa mewn gwirionedd, byddwn ni’n helpu i sancteiddio ei enw. Rydyn ni hefyd yn gwneud hynny drwy helpu eraill i wybod y gwir am Dduw. * Rydyn ni hefyd yn profi bod pobl amherffaith yn gallu cadw’n ffyddlon i Dduw.—Job 27:5.

Rydyn ni eisiau helpu ein myfyrwyr y Beibl i ddod i ddeall personoliaeth gariadus a charedig Jehofa (Gweler paragraffau 18-19) *

19. Sut mae Eseia 63:7 yn amlygu ein prif nod wrth ddysgu eraill?

19 Mae ’na rywbeth arall gallwn ni ei wneud i sancteiddio enw Duw. Yn aml, wrth ddysgu gwirioneddau’r Beibl i eraill, rydyn ni’n pwysleisio sofraniaeth Duw, hynny yw, bod gan Jehofa’r hawl i reoli’r bydysawd, ac mae hynny’n berffaith wir. Sut bynnag, er ei bod yn bwysig canolbwyntio ar ddeddfau Duw, ein prif nod yw helpu eraill i ddod i garu ein Tad Jehofa, a bod yn ffyddlon iddo. Felly, mae angen inni dynnu sylw at rinweddau apelgar Jehofa, gan bwysleisio’r fath o Berson mae’r enw Jehofa yn ei gynrychioli. (Darllen Eseia 63:7.) Drwy wneud hynny, byddwn yn helpu eraill i garu Jehofa ac ufuddhau iddo oherwydd eu bod, o wirfodd calon, eisiau bod yn ffyddlon iddo.

20. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl nesaf?

20 Felly, sut gallwn ni sicrhau bod ein hymddygiad a’n ffordd o ddysgu yn adlewyrchu’n dda ar enw Jehofa ac yn denu eraill ato? Bydd yr erthygl nesaf yn ateb y cwestiwn hwnnw.

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

^ Par. 5 Pa fater sy’n bwysig i’r holl greadigaeth ddeallus? Pam mae’r mater mor bwysig, a pha ran rydyn ni’n ei chwarae ynddo? Bydd deall yr atebion i’r cwestiynau hynny a rhai tebyg yn ein helpu i gryfhau ein perthynas â Jehofa.

^ Par. 18 Ar adegau, mae ein cyhoeddiadau wedi dysgu nad oes angen cyfiawnhau enw Jehofa oherwydd nad oes neb wedi cwestiynu ei hawl i ddwyn yr enw hwnnw. Ond, yn ystod cyfarfod blynyddol 2017, cafodd dealltwriaeth gliriach ei chyflwyno. Dywedodd y cadeirydd: “Yn syml, dydy hi ddim yn anghywir i ddweud ein bod yn gweddïo am i enw Jehofa gael ei gyfiawnhau oherwydd mae ei enw da yn sicr angen ei gyfiawnhau.”—Gweler rhaglen Ionawr 2018 ar wefan Saesneg jw.org®. Edrycha o dan LIBRARY > JW BROADCASTING®.

^ Par. 62 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Gwnaeth y Diafol enllibio Duw, gan ddweud wrth Efa fod Duw yn gelwyddog. Dros y canrifoedd, mae Satan wedi hyrwyddo gau ddysgeidiaethau, fel y syniadau bod Duw yn greulon, ac na chafodd bodau dynol eu creu ganddo.

^ Par. 64 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Wrth iddo gynnal astudiaeth Feiblaidd, mae brawd yn pwysleisio personoliaeth Duw.