Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Ai dim ond y rhinweddau a restrir yn Galatiaid 5:22, 23 sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd?

Mae’r adnodau hynny yn rhestru naw rhinwedd Gristnogol: “Dyma’r ffrwyth mae’r Ysbryd Glân yn ei dyfu . . . cariad, llawenydd, heddwch dwfn, amynedd, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanreolaeth.” Ond nid dyna’r unig rinweddau mae ysbryd Duw yn gallu ein helpu i’w meithrin.

Yn yr adnodau blaenorol, ysgrifennodd yr apostol Paul fod y natur bechadurus yn cynnwys “anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg.” (Gal. 5:19-21) Felly, gallai Paul fod wedi rhestru pethau eraill yn rhan o’r “natur bechadurus,” fel y rhai sy’n cael eu rhestru yn Colosiaid 3:5. Gwnaeth rywbeth tebyg ar ôl rhestru naw rhinwedd da pan ddywedodd: “Does dim cyfraith yn erbyn pethau felly.” Felly doedd Paul ddim yn ceisio rhestru pob un o’r rhinweddau gallwn ni eu meithrin gyda help yr ysbryd glân.

Mae hyn yn amlwg o gymharu ffrwyth yr ysbryd â ffrwyth y golau y soniodd Paul amdano yn ei lythyr at y gynulleidfa yn Effesus: “Pethau da a chyfiawn a gwir ydy’r ffrwyth sy’n tyfu yn y golau.” (Eff. 5:8, 9) Yn wir, mae “pethau da,” neu ddaioni, yn ogystal â chyfiawnder a gwirionedd, yn rhan o ffrwyth y golau, ond mae daioni hefyd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd.

Yn yr un modd, anogodd Paul Timotheus i geisio “uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder”—chwe rhinwedd hyfryd. (1 Tim. 6:11, BCND) Dim ond tri o’r rheini (ffydd, cariad, ac addfwynder) sy’n cael eu cynnwys fel rhan o ffrwyth yr ysbryd. Byddai Timotheus hefyd angen help yr ysbryd i feithrin y rhinweddau eraill yn yr adnod: uniondeb, duwioldeb, ac addfwynder.—Cymharer Colosiaid 3:12; 2 Pedr 1:5-7.

Felly, dydy Galatiaid 5:22, 23 ddim yn rhoi rhestr gyfan o rinweddau Cristnogol. Gall ysbryd Duw ein helpu i feithrin y naw rhinwedd sy’n cael eu rhestru fel rhan o ffrwyth yr ysbryd. Ond mae ’na fwy o rinweddau gallwn ni eu meithrin wrth inni aeddfedu’n ysbrydol a gwisgo’r bersonoliaeth newydd, “natur sydd wedi ei fodelu ar gymeriad Duw ei hun, yn gyfiawn a glân.”—Eff. 4:24.