Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 29

“Pan Dw i’n Wan, Mae Gen i Nerth Go Iawn”

“Pan Dw i’n Wan, Mae Gen i Nerth Go Iawn”

“Dw i’n falch fy mod i’n wan, yn cael fy sarhau, yn cael amser caled, yn cael fy erlid, ac weithiau’n anobeithio, er mwyn y Meseia.”—2 COR. 12:10.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

CIPOLWG *

1. Beth roedd yr apostol Paul yn ei gydnabod yn agored?

CYDNABYDDODD yr apostol Paul yn agored ei fod yn teimlo’n wan ar adegau. Roedd yn cyfaddef ei fod yn “darfod yn gorfforol,” ei fod yn stryffaglu i wneud y peth iawn, a doedd Jehofa ddim bob amser yn ateb ei weddïau yn y ffordd yr oedd yn gobeithio amdani. (2 Cor. 4:16; 12:7-9; Rhuf. 7:21-23) Gwnaeth Paul hefyd gydnabod bod ei wrthwynebwyr yn ei ystyried yn wan. * Ond wnaeth ef ddim caniatáu i agwedd negyddol pobl eraill, na’i wendidau ei hun, wneud iddo deimlo’n ddiwerth.—2 Cor. 10:10-12, 17, 18.

2. Yn ôl 2 Corinthiaid 12:9, 10, pa wers bwysig a ddysgodd Paul?

2 Dysgodd Paul wers bwysig—gall rhywun fod yn gryf er ei fod yn teimlo’n wan. (Darllen 2 Corinthiaid 12:9, 10.) Dywedodd Jehofa wrth Paul fod Ei nerth yn “gweithio orau mewn gwendid,” hynny yw, byddai Jehofa yn rhoi i Paul y nerth roedd ei angen arno. Yn gyntaf, gad inni weld pam na ddylen ni boeni pan fydd ein gwrthwynebwyr yn ein sarhau.

BYDDA’N FALCH O GAEL DY SARHAU

3. Pam gallwn ni fod yn falch o gael ein sarhau?

3 Does neb yn hoffi cael ei sarhau. Ond, os ydy ein gelynion yn ein sarhau, a ninnau’n poeni gormod am beth maen nhw’n ei ddweud, gallwn ddigalonni. (Diar. 24:10) Felly sut dylen ni ystyried sarhad ein gwrthwynebwyr? Fel Paul, gallwn ninnau fod yn ‘falch i gael ein sarhau.’ (2 Cor. 12:10) Pam? Am fod cael ein sarhau a’n gwrthwynebu yn dangos ein bod ni’n wir ddisgyblion i Iesu. (1 Pedr 4:14) Dywedodd Iesu y byddai ei ddilynwyr yn cael eu herlid. (Ioan 15:18-20) Dyna a ddigwyddodd yn y ganrif gyntaf. Bryd hynny, o dan ddylanwad diwylliant Groegaidd, roedd rhai yn ystyried Cristnogion yn wirion ac yn israddol. Ac ymysg yr Iddewon, roedd Cristnogion yn cael eu hystyried yn bobl ‘gyffredin ddi-addysg,’ fel yr apostolion Pedr ac Ioan. (Act. 4:13) Roedd Cristnogion yn ymddangos yn wan; doedd ganddyn nhw ddim dylanwad gwleidyddol na grym milwrol, a doedden nhw ddim yn cael eu parchu yn y gymuned.

4. Sut gwnaeth Cristnogion cynnar ymateb i’r agwedd negyddol roedd gan eu gwrthwynebwyr tuag atyn nhw?

4 A wnaeth y Cristnogion hynny ganiatáu i agwedd negyddol eu gwrthwynebwyr eu stopio nhw? Naddo. Er enghraifft, roedd yr apostolion Pedr ac Ioan yn ei hystyried hi’n fraint cael eu herlid am eu bod nhw’n dilyn Iesu ac yn dysgu eraill amdano. (Act. 4:18-21; 5:27-29, 40-42) Doedd gan y disgyblion ddim byd i deimlo cywilydd amdano. Yn y pen draw, gwnaeth y Cristnogion gostyngedig hynny fwy dros ddynolryw na wnaeth unrhyw un o’u gwrthwynebwyr. Er enghraifft, mae’r llyfrau o’r Beibl a ysgrifennwyd gan rai o’r Cristnogion hynny yn dal i roi help a gobaith i filiynau o bobl. Ac mae’r Deyrnas roedden nhw’n pregethu amdani yn rheoli nawr, ac yn fuan fe fydd yn rheoli dros y ddynoliaeth gyfan. (Math. 24:14) Ar y llaw arall, mae’r grym gwleidyddol a erlidiodd y Cristnogion wedi diflannu i’r gorffennol. Mae’r disgyblion ffyddlon hynny bellach yn frenhinoedd yn y nef. Ond mae eu gwrthwynebwyr wedi hen farw; ac os cân nhw eu hatgyfodi o gwbl, byddan nhw o dan reolaeth y Deyrnas a gyhoeddwyd gan y Cristnogion roedden nhw’n eu casáu.—Dat. 5:10.

5. Yn ôl Ioan 15:19, pam mae pobl y byd yn edrych i lawr ar bobl Jehofa?

5 Heddiw, mae rhai yn edrych i lawr arnon ni fel pobl Jehofa ac yn ein gwawdio, gan feddwl ein bod ni’n ddi-addysg ac yn israddol. Pam? Am ein bod ni ddim yn cydymffurfio ag agweddau’r rhai o’n cwmpas. Rydyn ni’n ceisio bod yn ostyngedig, yn addfwyn, ac yn ufudd. Mae’r byd, ar y llaw arall, yn edmygu’r balch, y ffroenuchel, a’r anufudd. Dydyn ni ddim chwaith yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, nac yn ymuno â byddin unrhyw wlad. Rydyn ni’n wahanol i bobl y byd heddiw, felly maen nhw’n ein hystyried ni’n is nag eraill.—Darllen Ioan 15:19; Rhuf. 12:2.

6. Pa waith rhyfeddol mae Jehofa yn helpu ei bobl i’w wneud?

6 Er gwaethaf barn y byd, mae Jehofa yn ein defnyddio i wneud pethau gwych. Mae’n cyflawni’r gwaith pregethu mwyaf erioed. Mae ei weision heddiw yn cynhyrchu’r cylchgronau sy’n cael eu dosbarthu a’u cyfieithu fwyaf yn y byd, ac yn defnyddio’r Beibl i helpu miliynau o bobl i wella eu bywydau. Mae’r clod am hyn i gyd yn mynd i Jehofa sy’n defnyddio grŵp o bobl sy’n ymddangos yn wan i wneud y pethau rhyfeddol hyn. Ond beth amdanon ni fel unigolion? A all Jehofa ein helpu ni i fod yn nerthol? Os felly, beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael ei help? Gad inni ystyried tri pheth penodol gallwn ni ei ddysgu oddi wrth yr esiampl a osododd yr apostol Paul.

PAID Â DIBYNNU AR DY NERTH DY HUN

7. Beth yw un wers rydyn ni’n ei dysgu o esiampl Paul?

7 Un wers rydyn ni’n ei dysgu o esiampl Paul yw hyn: Paid â dibynnu ar dy nerth na dy alluoedd dy hun wrth wasanaethu Jehofa. O safbwynt dynol, roedd gan Paul reswm dros fod yn ddyn balch ac annibynnol. Cafodd ei fagu yn Nharsus, prifddinas talaith Rufeinig. Roedd Tarsus yn gyfoethog, ac yn enwog am ei phrifysgol. Roedd gan Paul addysg dda—cafodd ei ddysgu gan un o’r arweinwyr Iddewig mwyaf ei barch ar y pryd, dyn o’r enw Gamaliel. (Act. 5:34; 22:3) Ac ar un adeg, roedd Paul yn bwysig yn y gymuned Iddewig. Dywedodd ei fod yn gwneud cynnydd mawr yn y grefydd Iddewig, ac roedd “ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed.” (Gal. 1:13, 14; Act. 26:4) Ond wnaeth Paul ddim dibynnu arno’i hun.

Roedd Paul yn ystyried manteision honedig y byd fel “sbwriel” o’i gymharu â’r fraint o ddilyn Crist (Gweler paragraff 8) *

8. Yn ôl Philipiaid 3:8, sut roedd Paul yn ystyried y pethau a roddodd heibio, a pham roedd yn ‘falch ei fod yn wan’?

8 Roedd Paul yn hapus i roi’r heibio’r pethau a oedd yn ei wneud yn bwysig yng ngolwg y byd. Mewn gwirionedd, daeth i ystyried y pethau hynny i gyd yn “sbwriel.” (Darllen Philipiaid 3:8.) Talodd Paul bris am ei fod yn dilyn Crist. Roedd ei genedl ei hun yn ei gasáu. (Act. 23:12-14) A chafodd ei guro a’i garcharu gan ei gyd-ddinasyddion, y Rhufeiniaid. (Act. 16:19-24, 37) Hefyd, fe ddaeth yn hollol ymwybodol o’i amherffeithrwydd ei hun. (Rhuf. 7:21-25) Ond yn hytrach na chaniatáu i’w wrthwynebwyr a’i wendidau ei hun ei lethu, roedd yn ‘falch ei fod yn wan.’ Pam? Oherwydd pan oedd yn wan, dyna pryd y gwelodd nerth Duw ar waith yn ei fywyd.—2 Cor. 4:7; 12:10.

9. Sut dylen ni deimlo am y pethau sy’n gwneud inni ymddangos yn wan?

9 Os ydyn ni eisiau nerth oddi wrth Jehofa, mae’n rhaid inni beidio â meddwl bod nerth corfforol, addysg, diwylliant, neu gyfoeth yn dweud pa mor werthfawr ydyn ni. Nid y pethau hynny sy’n ein gwneud ni’n ddefnyddiol i Jehofa. Mewn gwirionedd, does dim llawer o bobl Dduw yn “arbennig o glyfar, neu ddylanwadol, neu bwysig.” Yn hytrach, mae Jehofa wedi dewis defnyddio pobl sy’n “gyffredin yng ngolwg y byd.” (1 Cor. 1:26, 27) Felly os nad oes gen ti’r pethau a soniwyd amdanyn nhw ar ddechrau’r paragraff, mae hi’n dal yn bosib iti wasanaethu Jehofa. Edrycha ar ochr bositif dy sefyllfa. Heb y pethau hynny, gelli di weld grym Jehofa yn gweithio drwyddot ti. Er enghraifft, os yw’r rhai sy’n ceisio gwneud iti amau dy ddaliadau yn codi ofn arnat ti, gweddïa ar Jehofa am ddewrder i amddiffyn dy ffydd. (Eff. 6:19, 20) Os wyt ti’n stryffaglu i ymdopi â salwch hirdymor, gofynna i Jehofa roi’r nerth iti gadw mor brysur ag y gelli di yn ei wasanaeth. Bob tro byddi di’n gweld Jehofa yn dy helpu, bydd dy ffydd yn tyfu a byddi di’n gryfach fyth.

DYSGA ODDI WRTH ESIAMPLAU BEIBLAIDD

10. Pam dylen ni astudio’r esiamplau a osododd cymeriadau ffyddlon y Beibl, fel y rhai yn Hebreaid 11:32-34?

10 Roedd Paul yn astudio’r Ysgrythurau yn drylwyr. Dysgodd lawer o ffeithiau, ond hefyd dysgodd oddi wrth esiamplau gweision ffyddlon Jehofa sydd yng Ngair Duw. Pan ysgrifennodd at Gristnogion Hebraeg, gofynnodd Paul iddyn nhw feddwl am yr esiamplau hynny. (Darllen Hebreaid 11:32-34.) Ystyria’r Brenin Dafydd. Roedd rhaid iddo ddelio â gwrthwynebiad, nid yn unig gan ei elynion, ond hefyd gan rai a oedd yn arfer bod yn ffrindiau iddo. Wrth inni edrych ar esiampl Dafydd, byddwn yn gweld sut cafodd Paul ei atgyfnerthu drwy fyfyrio ar fywyd Dafydd, a sut gallwn ninnau efelychu Paul.

Doedd gan Dafydd ddim ofn ymladd yn erbyn Goliath er ei fod yn ifanc ac yn ymddangos yn wan. Dibynnodd ar Jehofa gan wybod y byddai’n rhoi’r nerth iddo allu trechu Goliath, a dyna a ddigwyddodd (Gweler paragraff 11)

11. Pam roedd Dafydd yn ymddangos yn wan? (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Roedd y rhyfelwr nerthol Goliath yn ystyried Dafydd yn wan. Pan welodd Goliath Dafydd, “roedd e’n ei wfftio.” Wedi’r cwbl, roedd Goliath yn fwy, wedi ei arfogi’n well, ac wedi ei hyfforddi ar gyfer rhyfela. Roedd Dafydd, ar y llaw arall, yn fachgen dibrofiad a oedd yn ôl pob golwg heb ei arfogi’n ddigonol ar gyfer y frwydr. Ond trodd Dafydd yr hyn oedd yn ymddangos yn wendid yn gryfder. Dibynnodd ar Jehofa am nerth, a threchodd ei elyn.—1 Sam. 17:41-45, 50.

12. Pa her arall roedd rhaid i Dafydd ddelio â hi?

12 Roedd rhaid i Dafydd ddelio â her arall a allai fod wedi gwneud iddo deimlo’n wan ac yn ddiymadferth. Roedd Dafydd yn ffyddlon yn ei wasanaeth i’r un roedd Jehofa wedi ei benodi’n frenin Israel, sef Saul. Roedd y Brenin Saul yn parchu Dafydd ar y cychwyn. Ond yn hwyrach ymlaen, daeth Saul, yn ei falchder, yn genfigennus o Dafydd. Gwnaeth Saul drin Dafydd yn wael, a cheisio ei ladd hyd yn oed.—1 Sam. 18:6-9, 29; 19:9-11.

13. Sut gwnaeth Dafydd ymateb i’r ffordd annheg cafodd ei drin gan y Brenin Saul?

13 Er gwaethaf y ffordd annheg cafodd ei drin gan y Brenin Saul, parhaodd Dafydd i ddangos parch tuag at frenin apwyntiedig Jehofa. (1 Sam. 24:6) Ni roddodd y bai ar Jehofa am y pethau drwg a wnaeth Saul. Yn hytrach, dibynnodd Dafydd ar Jehofa am y nerth roedd ei angen arno i oddef y cyfnod anodd hwn.—Salm 18:1, uwchysgrif.

14. Pa sefyllfa a wynebodd yr apostol Paul a oedd yn debyg i un Dafydd?

14 Wynebodd yr apostol Paul sefyllfa debyg i un Dafydd. Roedd gelynion Paul yn llawer mwy pwerus nag ef. Roedd llawer o arweinwyr blaenllaw ei ddydd yn ei gasáu. Yn aml, trefnon nhw iddo gael ei guro a’i daflu i’r carchar. Fel Dafydd, cafodd Paul ei drin yn wael gan rai a oedd i fod yn ffrindiau iddo. Roedd hyd yn oed rhai yn y gynulleidfa Gristnogol yn ei wrthwynebu. (2 Cor. 12:11; Phil. 3:18) Ond trechodd Paul bawb oedd yn ei erbyn. Sut? Daliodd ati i bregethu er gwaethaf gwrthwynebiad. Arhosodd yn ffyddlon i’w frodyr a chwiorydd hyd yn oed pan wnaethon nhw ei siomi. Yn fwy na dim, roedd yn ffyddlon i Dduw am weddill ei fywyd. (2 Tim. 4:8) Er gwaethaf problemau mawr, trechodd Paul y cyfan, nid am ei fod yn gorfforol gryf, ond am iddo ddibynnu ar Jehofa.

Bydda’n barchus ac yn garedig wrth geisio rhesymu â’r rhai sy’n herio dy ddaliadau Cristnogol (Gweler paragraff 15) *

15. Beth yw ein nod, a sut gallwn ni ei gyrraedd?

15 A wyt ti’n cael dy sarhau neu dy erlid gan gyd-ddisgyblion, cyd-weithwyr, neu aelodau dy deulu sydd ddim yn Dystion? Wyt ti erioed wedi cael dy drin yn wael gan rywun yn y gynulleidfa? Os felly, cofia esiamplau Dafydd a Paul. Gelli di ‘drechu drygioni drwy wneud daioni’ dro ar ôl tro. (Rhuf. 12:21) Yn wahanol i Dafydd, nid sodro carreg yn nhalcen rhywun yw dy nod, ond plannu Gair Duw ym meddyliau a chalonnau’r rhai sy’n barod i’w dderbyn. Gelli di gyrraedd y nod hwnnw drwy ddefnyddio’r Beibl i ateb cwestiynau pobl, drwy fod yn barchus ac yn garedig wrth y rhai sy’n dy drin yn wael, a thrwy wneud daioni i bawb, hyd yn oed dy elynion.—Math. 5:44; 1 Pedr 3:15-17.

DERBYNIA HELP GAN ERAILL

16-17. Beth wnaeth Paul erioed ei anghofio?

16 Cyn i’r apostol Paul ddod yn ddisgybl i Grist, roedd yn ddyn ifanc digywilydd a oedd yn erlid dilynwyr Iesu. (Act. 7:58; 1 Tim. 1:13) Iesu ei hun a rwystrodd Paul, a oedd yn cael ei alw’n Saul ar y pryd, rhag ymosod ar y gynulleidfa Gristnogol. Siaradodd Iesu â Paul o’r nef gan ei daro’n ddall. I adennill ei olwg, roedd rhaid i Paul geisio help yr union bobl roedd wedi bod yn eu herlid. Yn ostyngedig, derbyniodd Paul gymorth gan ddisgybl o’r enw Ananias, a adferodd ei olwg.—Act. 9:3-9, 17, 18.

17 Yn nes ymlaen, daeth Paul yn aelod adnabyddus o’r gynulleidfa Gristnogol, ond wnaeth ef erioed anghofio’r wers a gafodd gan Iesu ar y ffordd i Ddamascus. Arhosodd Paul yn ostyngedig, ac roedd yn fodlon derbyn help ei frodyr a chwiorydd. Cydnabyddodd eu bod nhw wedi ei atgyfnerthu drwy fod yn “gysur mawr” iddo.—Col. 4:10, 11.

18. Pam gallwn ni fod yn gyndyn o dderbyn help gan eraill?

18 Beth gallwn ni ei ddysgu oddi wrth Paul? Pan oedden ni’n newydd yn y gwir, mae’n debyg roedden ni’n awyddus i dderbyn help gan eraill gan gydnabod ein bod ni’n fabanod ysbrydol â llawer i’w ddysgu. (1 Cor. 3:1, 2) Ond beth am heddiw? Os ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa ers blynyddoedd lawer a bellach yn brofiadol iawn, efallai na fyddwn ni mor awyddus i dderbyn help, yn enwedig os yw’n dod oddi wrth rywun sydd heb fod yn y gwirionedd cyn hired â ni. Ond, mae Jehofa yn aml yn defnyddio ein brodyr a’n chwiorydd i’n cryfhau. (Rhuf. 1:11, 12) Mae’n rhaid inni gydnabod y ffaith honno os ydyn ni am elwa ar y nerth mae Jehofa yn ei roi.

19. Pam roedd Paul yn llwyddiannus?

19 Gwnaeth Paul bethau rhyfeddol ar ôl iddo ddod yn Gristion. Pam? Oherwydd dysgodd fod llwyddiant yn dibynnu, nid ar nerth corfforol, addysg, cyfoeth, na statws cymdeithasol, ond ar fod yn ostyngedig a dibynnu ar Jehofa. Gad i bob un ohonon ni efelychu Paul (1) drwy ddibynnu ar Jehofa, (2) drwy ddysgu oddi wrth esiamplau yn y Beibl, a (3) drwy dderbyn help gan gyd-gredinwyr. Yna, ni waeth pa mor wan rydyn ni’n teimlo, bydd Jehofa yn rhoi nerth go iawn inni!

CÂN 71 Byddin Jehofa Ydym!

^ Par. 5 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried esiampl yr apostol Paul. Cawn weld, os ydyn ni’n ostyngedig, bydd Jehofa’n rhoi’r nerth sydd ei angen arnon ni i allu goddef cael ein gwawdio ac i drechu ein gwendidau.

^ Par. 1 ESBONIAD: Efallai ein bod ni’n teimlo’n wan am nifer o resymau—oherwydd ein bod ni’n amherffaith, yn dlawd, yn sâl, neu heb lawer o addysg. Ar ben hynny, mae ein gelynion yn ceisio gwneud inni deimlo’n wan drwy ddweud pethau cas neu drwy ymosod arnon ni’n gorfforol.

^ Par. 57 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Pan aeth Paul i bregethu am y Crist, rhoddodd heibio’r pethau oedd yn rhan o’i fywyd gynt fel Pharisead. Gallai’r rhain fod wedi cynnwys sgroliau seciwlar a blwch gweddi.

^ Par. 61 DISGRIFIADAU O’R LLUNIAU: Cyd-weithwyr yn rhoi pwysau ar frawd i ymuno â pharti pen-blwydd rhywun yn y gweithle.