Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 39

Cefnoga’r Chwiorydd yn y Gynulleidfa

Cefnoga’r Chwiorydd yn y Gynulleidfa

“Mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi’r newyddion da.”—SALM 68:11.

CÂN 137 Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol

CIPOLWG *

Mae ein chwiorydd selog, prysur yn cael rhan yn y cyfarfodydd, yn mynd ar y weinidogaeth, yn helpu i gynnal Neuaddau’r Deyrnas, ac yn dangos diddordeb yn eu cyd-addolwyr (Gweler paragraff 1)

1. Sut mae chwiorydd yn cefnogi’r gyfundrefn, ond pa heriau mae llawer ohonyn nhw’n eu hwynebu? (Gweler y llun ar y clawr.)

RYDYN ni wrth ein boddau i gael cymaint o chwiorydd yn gweithio’n galed yn y gynulleidfa! Er enghraifft, maen nhw’n cael rhan yn y cyfarfodydd ac yn y weinidogaeth. Mae rhai yn helpu cynnal a chadw Neuadd y Deyrnas, ac yn dangos diddordeb personol yn eu cyd-gredinwyr. Ond wrth gwrs, mae ganddyn nhw eu heriau. Mae rhai yn gofalu am rieni oedrannus. Mae eraill yn dioddef gwrthwynebiad gan aelodau’r teulu. Ac eraill eto yn rhieni sengl sy’n gweithio’n galed i ofalu am anghenion eu plant.

2. Pam dylen ni wneud yr ymdrech i gefnogi ein chwiorydd?

2 Pam dylen ni gefnogi ein chwiorydd? Oherwydd dydy’r byd ddim wastad yn trin merched â’r urddas maen nhw’n ei haeddu. Hefyd, mae’r Beibl yn ein hannog i’w cefnogi. Er enghraifft, gofynnodd Paul i’r gynulleidfa yn Rhufain groesawu Phebe a ‘rhoi iddi pa help bynnag sydd arni ei angen.’ (Rhuf. 16:1, 2) Pan oedd Paul yn Pharisead, roedd trin merched yn israddol yn rhan o’i ddiwylliant. Ond, nawr ei fod yn Gristion, aeth ati i efelychu Iesu gan drin merched ag urddas a charedigrwydd.—1 Cor. 11:1.

3. Sut gwnaeth Iesu drin merched, a sut roedd yn ystyried merched a oedd yn gwneud ewyllys ei Dad?

3 Roedd Iesu bob amser yn trin merched ag urddas. (Ioan 4:27) Nid oedd yn ystyried merched fel roedd arweinwyr crefyddol Iddewig ei ddydd. Yn hytrach, yn ôl un cyfeirlyfr Beiblaidd: “Wnaeth Iesu erioed ddweud rhywbeth a oedd yn amharchu neu’n bychanu merched.” Ond, roedd ganddo barch arbennig tuag at ferched a oedd yn gwneud ewyllys ei Dad. Roedd yn eu cyfri fel chwiorydd iddo a chawson nhw eu rhestru ynghyd â dynion roedd yn eu hystyried fel rhan o’i deulu ysbrydol.—Math. 12:50.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Roedd Iesu wastad yn barod i helpu ei chwiorydd ysbrydol. Roedd yn eu gwerthfawrogi ac yn barod i gadw eu hochr. Gad inni drafod sut gallwn ni efelychu Iesu wrth ddangos parch tuag at ein chwiorydd.

YSTYRIA EIN CHWIORYDD GWERTHFAWR

5. Pam gall chwiorydd ei chael hi’n anodd elwa ar gwmni da?

5 Mae pob un ohonon ni, brodyr a chwiorydd, angen cwmni da. Ond ar adegau, gall chwiorydd ei chael hi’n anodd cael y cwmni sydd ei angen arnyn nhw. Pam? Ystyria’r sylwadau canlynol. Dywedodd un chwaer o’r enw Llinos, * “Am fy mod i’n sengl, dw i’n aml yn teimlo na alla i ffeindio fy lle yn y gynulleidfa, a mod i ddim wir yn ffitio mewn.” Mae Kristen, arloeswraig a symudodd i ehangu ei gweinidogaeth, yn dweud, “Pan wyt ti’n symud i gynulleidfa newydd, gelli di deimlo’n unig.” Efallai bod rhai brodyr yn gallu uniaethu â hyn. Gall y rhai sy’n byw gyda theulu sydd ddim yn Dystion Jehofa deimlo ar wahân i’w deulu rywsut, ac ar yr un pryd, teimlo’n bell oddi wrth ei deulu ysbrydol. Gall y rhai sy’n gaeth i’r tŷ deimlo’n unig, fel gall y rhai sy’n gorfod gofalu am aelodau’r teulu sy’n sâl. Dywedodd Annette, “Oeddwn i’n methu treulio amser gyda fy mrodyr a chwiorydd, oherwydd fi yn bennaf oedd yn gofalu am fy mam.”

Fel Iesu, gallwn ddangos gofal cariadus dros ein chwiorydd ffyddlon (Gweler paragraffau 6-9) *

6. Beth gallwn ni ei ddysgu o Luc 10:38-42 am sut helpodd Iesu Martha a Mair?

6 Treuliodd Iesu amser gyda’i chwiorydd ysbrydol, ac roedd yn wir ffrind iddyn nhw. Ystyria ei gyfeillgarwch gyda Mair a Martha. Roedd y ddwy yn ôl pob tebyg yn sengl. (Darllen Luc 10:38-42.) Drwy ei eiriau a’i weithredoedd, mae’n amlwg fod Iesu wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus. Er enghraifft, roedd Mair yn teimlo’n ddigon cyfforddus i eistedd wrth ei draed fel disgybl. * A phan oedd Martha wedi cynhyrfu am fod Mair yn gwrthod ei helpu, teimlodd yn rhydd i ddweud wrth Iesu beth oedd ar ei meddwl. Roedd Iesu’n gallu helpu’r ddwy ohonyn nhw yn ysbrydol yn y sefyllfa anffurfiol honno. A dangosodd ei ofal dros y ddwy ddynes a’u brawd, Lasarus, drwy ymweld â nhw ar adegau eraill hefyd. (Ioan 12:1-3) Does dim syndod felly fod Mair a Martha yn gwybod y gallen nhw droi at Iesu am help pan aeth Lasarus yn ddifrifol wael.—Ioan 11:3, 5.

7. Beth yw un ffordd y gallwn ni galonogi chwiorydd?

7 I rai chwiorydd, y cyfarfodydd yw un o’u ychydig gyfleoedd i fod gyda’u cyd-addolwyr. Felly, dylen ni ddefnyddio’r cyfleoedd hynny i’w croesawu nhw, i siarad â nhw, a gadael iddyn nhw wybod ein bod ni’n eu caru nhw. Meddai Llinos, a soniwyd amdani gynt, “Mae’n beth mawr i mi pan fydd eraill yn sylwi ar fy atebion, yn trefnu i weithio gyda mi ar y weinidogaeth, neu’n dangos mewn ffordd arall eu bod nhw’n gofalu amdana i.” Mae’n rhaid inni ddangos i’n chwiorydd eu bod nhw’n bwysig inni. “Os ydw i’n methu cyfarfod,” meddai Kia, “dw i’n gwybod bydd rhywun yn tecstio i weld os dw i’n iawn. Mae hynny’n dangos imi fod y brodyr a chwiorydd yn fy ngharu i.”

8. Ym mha ffyrdd eraill gallwn ni efelychu Iesu?

8 Fel Iesu, gallwn ni wneud ymdrech i dreulio amser gyda chwiorydd. Hwyrach gallwn ni eu gwahodd nhw draw am bryd bach syml neu am adloniant. Pan wnawn ni hynny, dylen ni gadw’r sgwrs yn adeiladol. (Rhuf. 1:11, 12) Dylai henuriaid ddangos yr un agwedd â Iesu. Gwyddai y byddai’n anodd i rai fod yn sengl, ond roedd ei neges yn glir: Dydy hapusrwydd parhaol ddim yn dibynnu ar briodi na chael plant. (Luc 11:27, 28) Yn hytrach, mae hapusrwydd hirdymor yn dod o roi ein gwasanaeth i Jehofa yn gyntaf.—Math. 19:12.

9. Beth gall henuriaid ei wneud i helpu chwiorydd?

9 Mae henuriaid yn enwedig angen trin merched Cristnogol fel mamau a chwiorydd ysbrydol. (1 Tim. 5:1, 2) Mae’r cyfnod cyn ac ar ôl y cyfarfodydd yn gyfle da i henuriaid siarad â chwiorydd. “Sylwodd un henuriad mod i’n brysur iawn, ac oedd o eisiau deall mwy am fy rwtîn,” meddai Kristen. “O’n i wir yn gwerthfawrogi ei gonsýrn.” Pan fydd henuriaid yn neilltuo amser i siarad â’u chwiorydd ysbrydol yn rheolaidd, byddan nhw’n dangos eu bod nhw’n gofalu amdanyn nhw. * Mae Annette, a soniwyd amdani gynt, yn esbonio pam mae’n dda i siarad â’r henuriaid yn aml. “Dw i’n dod i’w nabod nhw’n well, ac maen nhw’n dod i nabod fi,” meddai. “Yna, pan dw i’n mynd drwy gyfnod anodd, dw i’n teimlo’n fwy cyfforddus i ofyn am eu help.”

GWERTHFAWROGA CHWIORYDD

10. Beth all helpu ein chwiorydd i ffynnu?

10 Rydyn ni i gyd, dynion a merched, yn ffynnu pan fydd eraill yn cydnabod ein galluoedd ac yn diolch inni am ein gwaith. Ar y llaw arall, os bydd pobl yn cymryd ein gwaith a’n doniau yn ganiataol, byddwn ni’n digalonni. Mae Abigail, arloeswraig sengl, yn cyfaddef ei bod hi weithiau’n teimlo bod eraill yn anghofio amdani: “Mae pobl yn fy ngweld i fel chwaer hwn a hwn neu ferch hwn a hwn. Weithiau dw i’n teimlo’n anweledig.” Ond sylwa ar brofiad chwaer o’r enw Pam. Gwasanaethodd am flynyddoedd fel cenhades sengl, ac yna aeth hi’n ôl adref i ofalu am ei rhieni. Erbyn hyn mae hi yn ei 70au, ac yn dal i arloesi. Dywed Pam, “Yr hyn sydd wedi helpu fi fwyaf ydy pan mae eraill yn dweud cymaint maen nhw’n fy ngwerthfawrogi.”

11. Sut dangosodd Iesu ei fod yn gwerthfawrogi’r merched oedd gydag ef yn ei weinidogaeth?

11 Gwerthfawrogodd Iesu’r help a gafodd gan ferched ffyddlon a oedd “yn defnyddio eu harian” i weini arno. (Luc 8:1-3) Nid yn unig y caniataodd iddyn nhw gael y fraint honno, ond hefyd datgelodd wirioneddau ysbrydol dwfn iddyn nhw. Er enghraifft, dywedodd wrthyn nhw pryd y byddai’n marw ac yn cael ei atgyfodi. (Luc 24:5-8) Fel y gwnaeth ar gyfer yr apostolion, paratôdd y merched hyn ar gyfer y treialon y bydden nhw’n eu hwynebu. (Marc 9:30-32; 10:32-34) Ond mae’n werth nodi, er i’r apostolion ffoi pan gafodd Iesu ei arestio, roedd rhai o’r merched oedd wedi ei gefnogi yn dal wrth ei ochr pan oedd yn marw ar y pren.—Math. 26:56; Marc 15:40, 41.

12. Pa waith roddodd Iesu i ferched?

12 Rhoddodd Iesu waith pwysig yng ngofal merched. Er enghraifft, merched duwiol oedd y cyntaf i weld ei fod wedi ei atgyfodi. Gofynnodd i’r merched hynny ddweud wrth yr apostolion ei fod wedi dod yn ôl yn fyw. (Math. 28:5, 9, 10) Ac efallai fod merched wedi bod yn bresennol pan gafodd yr ysbryd glân ei dywallt ym Mhentecost 33 OG. Os felly, efallai eu bod nhwthau hefyd wedi cael y gallu i siarad ieithoedd gwahanol a dweud wrth eraill am “y pethau rhyfeddol mae Duw wedi eu gwneud!”—Act. 1:14; 2:2-4, 11.

13. Beth mae merched Cristnogol yn ei wneud heddiw, a sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith?

13 Mae ein chwiorydd yn haeddu canmoliaeth am bopeth maen nhw’n ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa. Mae hynny’n cynnwys codi adeiladau a’u cynnal, cefnogi grwpiau mewn iaith arall, a gwirfoddoli yn y Bethel. Maen nhw’n helpu yn y gwaith cymorth ar ôl trychineb, yn helpu i gyfieithu ein cyhoeddiadau, ac yn gwasanaethu fel arloeswyr a chenhadon. Fel yn achos brodyr, mae chwiorydd yn mynd i’r ysgol arloesi, yr Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, ac Ysgol Gilead. Ar ben hynny, mae gwragedd yn helpu eu gwŷr i gyflawni eu cyfrifoldebau yn y gynulleidfa ac yn y gyfundrefn. Mae’r brodyr hyn yn “rhoddion,” ond ni fydden nhw’n gallu gwneud cymaint oni bai am gefnogaeth eu gwragedd. (Eff. 4:8) A elli di feddwl am ffyrdd i gefnogi ein chwiorydd yn y gwaith maen nhw’n ei wneud?

14. O ystyried geiriau Salm 68:11, beth mae henuriaid doeth yn ei wneud?

14 Mae henuriaid doeth yn deall bod chwiorydd yn fyddin fawr o weithwyr parod, a’u bod nhw’n aml ymysg pregethwyr mwyaf medrus y newyddion da. (Darllen Salm 68:11.) Felly, mae henuriaid yn ceisio dysgu oddi wrth chwiorydd. Mae Abigail, a soniwyd amdani gynt, yn gwerthfawrogi pan fydd brodyr yn gofyn iddi am ffyrdd effeithiol i ddechrau sgwrs yn y weinidogaeth. Dywedodd hi: “Mae hynny’n fy helpu i weld bod gan Jehofa le imi yn ei gyfundrefn.” Yn ogystal, mae henuriaid yn cydnabod bod chwiorydd aeddfed, ffyddlon, yn dda iawn am helpu chwiorydd iau i ddelio â heriau. (Titus 2:3-5) Yn bendant, mae chwiorydd yn haeddu ein cariad a’n gwerthfawrogiad!

AMDDIFFYNNA EIN CHWIORYDD

15. Pryd efallai bydd chwiorydd angen rhywun i siarad ar eu rhan?

15 Ar brydiau, efallai bydd chwiorydd angen rhywun i siarad ar eu rhan nhw pan fyddan nhw’n wynebu her benodol. (Esei. 1:17) Er enghraifft, efallai bydd gweddw neu chwaer sydd wedi cael ysgariad angen rhywun i’w helpu i ofalu am rai tasgau oedd ei gŵr arfer eu gwneud. Efallai bydd chwaer oedrannus angen help i siarad â doctoriaid. Neu efallai bydd arloeswraig sy’n gweithio ar brosiectau theocrataidd eraill angen rhywun i gadw ei hochr os ydy hi’n cael ei beirniadu am beidio â bod allan ar y weinidogaeth gymaint ag arloeswyr eraill. Ym mha ffyrdd eraill gallwn ni helpu ein chwiorydd? Beth am inni ystyried esiampl Iesu eto.

16. Yn ôl Marc 14:3-9, sut amddiffynnodd Iesu Mair?

16 Roedd Iesu’n gyflym i amddiffyn ei chwiorydd ysbrydol pan gawson nhw eu camddeall. Er enghraifft, cadwodd ochr Mair pan gafodd hi ei beirniadu gan Martha. (Luc 10:38-42) Amddiffynnodd Mair eilwaith pan oedd eraill yn lladd arni am wneud penderfyniad gwael yn eu tyb nhw. (Darllen Marc 14:3-9.) Deallodd Iesu gymhelliad Mair gan ei chanmol hi drwy ddweud: “Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. . . . Gwnaeth hi beth allai ei wneud.” Hefyd, proffwydodd y byddai ei gweithredoedd caredig hi yn cael eu cofio “ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd,” yn union fel mae’r erthygl hon yn ei wneud nawr. Mae’n rhyfeddol bod Iesu wedi sôn am y newyddion da yn cael ei bregethu ar draws y byd wrth iddo ganmol Mair am ei gweithred anhunanol! Heb os, roedd ei eiriau yn gysur mawr i Mair ar ôl iddi gael ei chamfarnu!

17. Rho esiampl o pryd efallai bydd rhaid inni amddiffyn chwaer.

17 Wyt ti’n amddiffyn dy chwiorydd ysbrydol pan fyddan nhw angen? Er enghraifft, ystyria’r sefyllfa ganlynol. Mae rhai cyhoeddwyr yn gweld bod chwaer mewn cartref rhanedig yn aml yn hwyr i’r cyfarfodydd ac yn gadael yn syth ar y diwedd. Maen nhw’n sylwi mai anaml bydd hi’n dod â’i phlant gyda hi. Felly maen nhw’n cwestiynu pam nad ydy hi’n mynnu bod ei gŵr yn gadael iddi ddod â’r plant i’r cyfarfodydd, ac yn ei beirniadu. Ond mewn gwirionedd, mae’r chwaer yn gwneud ei gorau. Does ganddi ddim rheolaeth lwyr dros ei hamserlen, a does ganddi ddim y gair olaf ynglŷn â’i phlant chwaith. Beth elli di ei wneud am hyn? Os byddi di’n canmol y chwaer ac yn dweud wrth eraill am y pethau da mae hi’n eu gwneud, gallet ti stopio eraill rhag siarad yn negyddol amdani.

18. Ym mha ffyrdd eraill gallwn helpu’n chwiorydd?

18 Gallwn ni ddangos i’n chwiorydd gymaint rydyn ni’n eu caru drwy gynnig help ymarferol iddyn nhw. (1 Ioan 3:18) Dywedodd Annette, y chwaer oedd yn gofalu am ei mam: “Byddai rhai brodyr a chwiorydd yn dod draw i’r tŷ i ofalu am Mam i’m rhyddhau i i wneud rhywbeth arall, neu bydden nhw’n dod â bwyd. Oherwydd hyn, o’n i’n teimlo eu cariad ac yn teimlo’n rhan o’r gynulleidfa.” Cafodd Llinos help hefyd. Dangosodd un brawd iddi sut i edrych ar ôl ei char. Dywedodd hi: “Mae’n braf gwybod bod fy mrodyr a chwiorydd yn meddwl am fy niogelwch.”

19. Ym mha ffyrdd eraill gall henuriaid helpu chwiorydd?

19 Mae’r henuriaid hefyd yn ceisio gofalu am anghenion chwiorydd. Maen nhw’n gwybod bod Jehofa eisiau i chwiorydd gael eu trin yn dda. (Iago 1:27) Felly, maen nhw’n rhesymol fel Iesu. Dydyn nhw ddim yn gwneud rheolau pan fyddai’n well bod yn garedig a gwneud eithriad. (Math. 15:22-28) Mae henuriaid sy’n ymdrechu i helpu yn gwneud i’w chwiorydd deimlo bod Jehofa a’i gyfundrefn yn gofalu amdanyn nhw. Pan glywodd arolygwr grŵp Kia ei bod hi’n symud tŷ, trefnodd help iddi ar unwaith. “Gwnaeth hynny leihau cymaint o’r stres,” meddai Kia. “Rhwng eu geiriau calonogol a’u help ymarferol, dangosodd yr henuriaid yn glir fy mod i’n rhan bwysig o’r gynulleidfa, a fydda i byth ar ben fy hun pan fydd sefyllfa anodd yn codi.”

MAE POB CHWAER ANGEN EIN CEFNOGAETH

20-21. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori pob un o’n chwiorydd Cristnogol?

20 Wrth edrych o gwmpas ein cynulleidfaoedd heddiw, gwelwn esiamplau di-rif o ferched Cristnogol sy’n gweithio’n galed ac yn haeddu ein cefnogaeth. Fel y dysgon ni o esiampl Iesu, gallwn ni eu helpu drwy dreulio amser gyda nhw a dod i’w hadnabod. Gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad am yr hyn maen nhw’n ei wneud yng ngwasanaeth Duw. A gallwn ni eu cefnogi mewn gair a gweithred pan fydd angen.

21 Ar ddiwedd ei lythyr at y Rhufeiniaid, soniodd yr apostol Paul yn benodol am naw dynes Gristnogol. (Rhuf. 16:1, 3, 6, 12, 13, 15) Mae’n siŵr fod y merched hyn wedi cael eu calonogi o glywed ei gyfarchion a’i ganmoliaeth. Dylen ninnau hefyd gefnogi pob chwaer yn ein cynulleidfa. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n eu trysori nhw fel rhan o’n teulu ysbrydol.

CÂN 136 “Tâl Llawn” gan Jehofa

^ Par. 5 Mae chwiorydd yn y gynulleidfa yn wynebu llawer o heriau. Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gallwn ni gefnogi ein chwiorydd ysbrydol drwy efelychu esiampl Iesu. Gallwn ni ddysgu oddi wrth y ffordd wnaeth Iesu dreulio amser gyda merched, eu gwerthfawrogi nhw, a’u hamddiffyn.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 6 Yn ôl un cyfeirlyfr: “Byddai disgyblion yn eistedd wrth draed eu hathrawon. Bydden nhw’n gwneud hynny pan oedden nhw’n paratoi i fod yn athrawon. Ond, doedd merched ddim yn cael bod yn athrawon. Felly byddai’r rhan fwyaf o ddynion Iddewig wedi cael sioc o weld Mair yn eistedd wrth draed Iesu yn awyddus iawn i ddysgu oddi wrtho.”

^ Par. 9 Mae henuriaid yn ofalus wrth helpu chwiorydd. Er enghraifft, dylen nhw osgoi mynd ar eu pennau eu hunain i weld chwaer.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gan efelychu agwedd Iesu tuag at ferched ffyddlon, mae brawd yn helpu dwy chwaer i newid olwyn ar eu car, mae un arall yn mynd i weld chwaer fregus, a’r trydydd yn mynd gyda’i wraig i fwynhau addoliad teuluol gyda chwaer a’i merch.