Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 40

“Cadw’n Saff Bopeth Mae Duw Wedi ei Roi yn Dy Ofal”

“Cadw’n Saff Bopeth Mae Duw Wedi ei Roi yn Dy Ofal”

“Timotheus, cadw’n saff bopeth mae Duw wedi ei roi yn dy ofal.”—1 TIM. 6:20.

CÂN 29 Mae Dy Enw Arnom

CIPOLWG *

1-2. Yn ôl 1 Timotheus 6:20, beth gafodd Timotheus?

YN AML byddwn ni’n rhoi ein pethau gwerthfawr yng ngofal eraill. Er enghraifft, pan fyddwn ni’n rhoi arian yn y banc, rydyn ni’n disgwyl iddo gael ei gadw’n saff heb gael ei golli neu ei ddwyn. Felly deallwn beth mae’n ei olygu i roi rhywbeth gwerthfawr yng ngofal rhywun arall.

2 Darllen 1 Timotheus 6:20. Cafodd Timotheus ei atgoffa gan yr Apostol Paul ei fod wedi derbyn rhywbeth gwerthfawr—gwybodaeth gywir o fwriad Duw ar gyfer dynolryw. Roedd Jehofa hefyd wedi rhoi’r fraint i Timotheus o “gyhoeddi neges Duw” a ‘rhannu’r newyddion da gyda phobl.’ (2 Tim. 4:2, 5) Anogodd Paul Timotheus i warchod yr hyn a gafodd ei roi yn ei ofal. Fel Timotheus, mae pethau gwerthfawr wedi cael eu rhoi yn ein gofal ni. Beth ydyn nhw? A pham dylen ni warchod y trysor mae Jehofa wedi ei roi inni?

GWIRIONEDDAU YN EIN GOFAL

3-4. Beth yw rhai rhesymau y mae gwirioneddau’r Beibl mor werthfawr?

3 Yn ei garedigrwydd, mae Jehofa wedi rhoi gwybodaeth gywir o’r gwirioneddau gwerthfawr sydd yn ei Air, y Beibl. Mae’r gwirioneddau hyn yn werthfawr am eu bod nhw’n dysgu ni sut i gael perthynas dda â Jehofa ac yn esbonio beth sy’n dod â gwir hapusrwydd mewn bywyd. Pan fyddwn ni’n credu’r gwirioneddau hynny, ac yn byw’n unol â nhw, byddwn ni’n byw bywydau moesol lân heb gael ein twyllo gan gau ddysgeidiaethau.—1 Cor. 6:9-11.

4 Rheswm arall mae gwirioneddau Gair Duw yn werthfawr yw’r ffaith fod Jehofa ddim ond yn eu datgelu i rai gostyngedig sydd â’r “agwedd gywir.” (Act. 13:48, NWT) Mae unigolion felly yn derbyn mai’r gwas ffyddlon a chall sy’n ein dysgu ni am y Beibl heddiw. (Math. 11:25; 24:45) Allwn ni ddim dysgu’r gwirioneddau hynny ar ein pennau’n hunain, a does dim byd mwy gwerthfawr na deall y Beibl.—Diar. 3:13, 15.

5. Beth arall mae Jehofa wedi rhoi yn ein gofal?

5 Mae Jehofa hefyd wedi rhoi’r fraint inni o ddysgu eraill amdano ef a’i fwriadau. (Math. 24:14) Mae’r neges rydyn ni’n ei phregethu yn amhrisiadwy am ei bod yn helpu pobl i fod yn rhan o deulu Jehofa ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gael bywyd tragwyddol. (1 Tim. 4:16) P’un a ydyn ni’n gallu cael rhan fawr neu fach yn y weinidogaeth, rydyn ni’n cefnogi gwaith pwysicaf yr adeg hon. (1 Tim. 2:3, 4) Am fraint yw cyd-weithio â Duw!—1 Cor. 3:9.

DAL DY AFAEL YN DY RODD!

Pan ddewisodd eraill gefnu ar Jehofa, glynodd Timotheus at y gwir (Gweler paragraff 6)

6. Beth ddigwyddodd i’r rhai a fethodd ag aros yn wyliadwrus?

6 Methodd rhai Cristnogion adeg Timotheus â gwerthfawrogi eu braint o gyd-weithio â Duw. Am fod Demas yn caru’r byd, cefnodd ar ei fraint o wasanaethu gyda Paul. (2 Tim. 4:10) Mae’n ymddangos bod Phygelus a Hermogenes wedi stopio pregethu am fod ganddyn nhw ofn cael eu herlid fel gafodd Paul. (2 Tim. 1:15) Daeth Hymenaeus, Alecsander, a Philetus yn wrthgilwyr a gadael y gwir. (1 Tim. 1:19, 20; 2 Tim. 2:16-18) Ar un adeg, roedd y rhain i gyd yn ysbrydol gryf, ond fe gollon nhw olwg o’r hyn a oedd yn wirioneddol werthfawr.

7. Pa dactegau mae Satan yn eu defnyddio yn ein herbyn?

7 Sut mae Satan yn ceisio gwneud inni ollwng ein gafael ar y trysorau mae Jehofa wedi eu rhoi yn ein gofal? Sylwa ar rai o’i dactegau. Mae’n defnyddio adloniant a’r cyfryngau i wneud inni feddwl ac ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi inni lacio ein gafael ar y gwir. Mae’n defnyddio pwysau gan gyfoedion neu erledigaeth i geisio codi ofn arnon ni fel y byddwn ni’n stopio pregethu. Ac mae’n ceisio ein denu i wrando ar yr hyn ‘sy’n cael eu galw ar gam yn “wybodaeth,”’ sef celwyddau gwrthgilwyr, er mwyn inni adael y gwir.—1 Tim. 6:20, 21.

8. Beth wyt ti’n ei ddysgu o brofiad Daniel?

8 Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni golli ein gafael ar y gwir fesul tipyn. Ystyria brofiad Daniel, * a oedd yn hoff iawn o gemau fideo. Mae’n esbonio: “Dechreuais chwarae gemau fideo pan o’n i tua deg oed. Ar y cychwyn, o’n i’n chwarae gemau oedd yn weddol ddiniwed. Ond yn raddol, wnes i ddechrau chwarae gemau oedd yn dreisgar ac yn cynnwys pethau uwch-naturiol.” Yn y pen draw, roedd yn chwarae gemau fideo am tua 15 awr bob dydd. “O’n i’n gwybod yn fy nghalon fod y gemau o’n i’n chwarae, a’r amser o’n i’n treulio arnyn nhw, yn creu bwlch rhyngo i a Jehofa. Ond, o’n i wedi twyllo fy hun i gredu nad oedd egwyddorion y Beibl yn berthnasol i mi,” meddai Daniel. Heb inni sylwi, gallai dylanwad adloniant wneud inni lacio ein gafael ar y gwir. Petai hynny’n digwydd, gallen ni golli’r pethau gwerthfawr y mae Jehofa wedi eu rhoi inni.

SUT GALLWN NI DDAL GAFAEL AR Y GWIR?

9. Yn ôl 1 Timotheus 1:18, 19, â phwy roedd Paul yn cymharu Timotheus?

9 Darllen 1 Timotheus 1:18, 19. Cymharodd Paul Timotheus â milwr a’i annog i ddal ati i “ymladd yn dda yn y frwydr.” Nid brwydr lythrennol oedd hyn, ond un ysbrydol. Ym mha ffyrdd mae Cristnogion fel milwyr yng nghanol brwydr? Pa rinweddau sy’n rhaid inni eu meithrin fel milwyr Crist? Gad inni ystyried pum gwers y gallwn ni eu dysgu o eglureb Paul. Gall y gwersi hyn ein helpu i ddal gafael ar y gwir.

10. Beth yw defosiwn dwyfol, a pham rydyn ni ei angen?

10 Datblyga ddefosiwn dwyfol. Mae milwr da yn deyrngar. Bydd yn brwydro’n galed i amddiffyn rhywun mae’n ei garu neu rywbeth mae’n ei werthfawrogi. Anogodd Paul Timotheus i ddatblygu defosiwn dwyfol—hynny yw, glynu’n ffyddlon wrth Dduw. (1 Tim. 4:7) Y cryfaf bydd ein cariad a’n defosiwn tuag at Dduw, y cryfaf bydd ein dymuniad i ddal gafael yn y gwir.—1 Tim. 4:8-10; 6:6.

Ar ôl diwrnod hir o waith, efallai bydd rhaid inni wthio ein hunain i fynd i’r cyfarfod. Ond o wneud hynny, cawn ein bendithio! (Gweler paragraff 11)

11. Pam mae angen hunanddisgyblaeth arnon ni?

11 Meithrin hunanddisgyblaeth. Mae’n rhaid i filwr ddisgyblu ei hun fel ei fod yn barod i frwydro ar unrhyw adeg. Arhosodd Timotheus yn ysbrydol iach am ei fod wedi dilyn cyngor ysbrydoledig Paul i ffoi rhag chwantau drwg, i feithrin rhinweddau da, ac i gymdeithasu â’i frodyr a chwiorydd Cristnogol. (2 Tim. 2:22) Roedd hynny’n gofyn am hunanddisgyblaeth. Mae angen y rhinwedd honno arnon ninnau i ennill y frwydr yn erbyn ein chwantau cnawdol. (Rhuf. 7:21-25) Ar ben hynny, rydyn ni angen hunanddisgyblaeth i ddal ati i geisio diosg yr hen bersonoliaeth a gwisgo’r un newydd. (Eff. 4:22, 24) A phan fyddwn ni wedi blino ar ddiwedd diwrnod hir, efallai bydd rhaid inni wthio’n hunain i fynd i’r cyfarfod.—Heb. 10:24, 25.

12. Ym mha ffyrdd gallwn ni wella yn ein defnydd o’r Beibl?

12 Mae milwr angen ymarfer defnyddio ei arfau. Mae rhaid iddo wneud hynny’n rheolaidd er mwyn eu meistroli. Mewn ffordd debyg, mae’n rhaid i ninnau ddysgu sut i ddefnyddio Gair Duw yn gelfydd. (2 Tim. 2:15) Gallwn ddysgu sut i wneud hynny yn ein cyfarfodydd. Ond, os ydyn ni am berswadio eraill fod gwirioneddau’r Beibl yn werthfawr, mae’n rhaid glynu wrth rwtîn rheolaidd o astudiaeth Feiblaidd bersonol. Mae’n rhaid inni ddefnyddio Gair Duw i gryfhau ein ffydd. Mae hyn yn gofyn am fwy na darllen y Beibl yn unig. Mae’n gofyn ein bod ni’n myfyrio ar yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen, ac yn gwneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau er mwyn inni allu deall a chymhwyso’r Ysgrythurau’n gywir. (1 Tim. 4:13-15) Yna byddwn ni’n gallu defnyddio Gair Duw i ddysgu eraill. Eto, mae hyn yn gofyn am fwy na darllen adnodau o’r Beibl iddyn nhw’n unig. Rydyn ni eisiau helpu ein gwrandawyr i ddeall yr adnod a gweld sut mae’n berthnasol iddyn nhw. Felly drwy astudio’r Beibl yn rheolaidd, gallwn fod yn well athrawon y Beibl.—2 Tim. 3:16, 17.

13. Yn ôl Hebreaid 5:14, pam dylen ni fod yn graff?

13 Bydda’n graff. Mae rhaid i filwr allu rhagweld peryg a’i osgoi. Mae’n rhaid i ninnau ddysgu adnabod sefyllfaoedd a allai ein niweidio, ac yna gweithredu i osgoi’r peryg. (Diar. 22:3; darllen Hebreaid 5:14.) Er enghraifft, mae eisiau inni fod yn ddoeth wrth ddewis ein hadloniant a’r hyn a wnawn yn ein hamser hamdden. Mae rhaglenni teledu a ffilmiau yn aml yn dangos ymddygiad anfoesol. Mae ymddygiad o’r fath yn brifo Duw ac yn sicr o achosi niwed yn y pen draw. Dyna pam rydyn ni’n osgoi adloniant a allai, yn raddol, danseilio ein cariad tuag at Dduw.—Eff. 5:5, 6.

14. Sut roedd bod yn graff yn help i Daniel?

14 Dechreuodd Daniel, y soniwyd amdano gynt, sylweddoli bod chwarae gemau fideo treisgar ac uwch-naturiol yn broblem. Ymchwiliodd yn Watchtower Library am ddeunydd i’w helpu gyda’i broblem. Pa effaith gafodd hyn arno? Stopiodd chwarae gemau fideo anaddas. Fe ganslodd ei danysgrifiadau i gemau ar-lein a stopio cymdeithasu â chwaraewyr eraill. Dywedodd Daniel, “Yn hytrach na chwarae gemau fideo, wnes i ddechrau treulio amser tu allan neu’n cymdeithasu gyda ffrindiau o’r gynulleidfa.” Erbyn hyn mae Daniel yn gwasanaethu fel arloeswr a henuriad.

15. Pam mae straeon ffug yn beryglus?

15 Fel Timotheus, mae’n rhaid inni adnabod y peryg o wybodaeth anghywir sy’n cael ei lledaenu gan wrthgilwyr. (1 Tim. 4:1, 7; 2 Tim. 2:16) Er enghraifft, efallai byddan nhw’n ceisio lledaenu straeon ffug am ein brodyr neu godi amheuon am gyfundrefn Jehofa. Gall y fath wybodaeth anghywir danseilio ein ffydd. Mae’n rhaid inni osgoi cael ein twyllo gan y propaganda hyn. Pam? Am fod meddyliau pobl sy’n lledaenu straeon felly “wedi eu llygru. Maen nhw wedi colli gafael yn beth sy’n wir.” Maen nhw’n benderfynol o “godi dadl a hollti blew.” (1 Tim. 6:4, 5) Maen nhw eisiau inni gredu eu celwyddau maleisus a datblygu amheuon am ein brodyr.

16. Beth dylen ni ei osgoi?

16 Canolbwyntia. “Fel milwr da i Iesu,” roedd yn rhaid i Timotheus ganolbwyntio ar y weinidogaeth yn hytrach na thalu gormod o sylw i bethau seciwlar neu bethau materol. (2 Tim. 2:3, 4) Fel Timotheus, allwn ni ddim fforddio cael ein denu gan y chwant am fwy o bethau materol. Gallai twyll cyfoeth dagu ein cariad tuag at Jehofa, ein gwerthfawrogiad am ei Air, a’n dymuniad i’w rannu ag eraill. (Math. 13:22) Mae’n rhaid inni gadw ein bywydau’n syml a defnyddio ein hamser a’n hegni i ddal ati i roi’r Deyrnas yn gyntaf.—Math. 6:22-25, 33.

17-18. Beth gallwn ei wneud i amddiffyn ein perthynas â Jehofa?

17 Bydda’n barod i weithredu’n gyflym. Mae milwr angen cynllunio o flaen llaw sut mae’n mynd i weithredu. Os ydyn ni am ddiogelu’r pethau mae Jehofa wedi eu rhoi yn ein gofal, mae’n rhaid inni weithredu’n gyflym pan welwn unrhyw beryg. Beth all helpu ni i wneud hynny? Rhaid inni gynllunio o flaen llaw sut byddwn ni’n ymateb i beryglon.

18 Er enghraifft, pan fyddwn ni’n mynd i weld cyngerdd, bydd aelodau’r gynulleidfa yn cael eu hatgoffa i edrych am yr allanfa agosaf cyn i’r rhaglen gychwyn. Pam? Fel eu bod yn gallu dianc yn sydyn mewn argyfwng. Yn yr un ffordd, gallwn ninnau baratoi pa “allanfa” byddwn ni’n ei chymryd os bydd rhywbeth anfoesol, treisgar ofnadwy, neu wrthgiliol yn codi’n sydyn ar y We, mewn ffilm, neu ar raglen deledu. Drwy baratoi ar gyfer beth allai ddigwydd, gallwn ni weithredu’n gyflym i amddiffyn ein perthynas â Jehofa ac aros yn lân yn ei olwg.—Salm 101:3; 1 Tim. 4:12.

19. Pa fendithion gawn ni o warchod y pethau gwerthfawr mae Jehofa wedi eu rhoi inni?

19 Mae’n rhaid inni warchod y pethau gwerthfawr mae Jehofa wedi eu rhoi inni—gwirioneddau gwerthfawr y Beibl a’r fraint o’u dysgu nhw i eraill. Drwy wneud hynny, cawn gydwybod lân, bywyd llawn pwrpas, a’r pleser o helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa. Gyda’i help, byddwn ni’n gallu gwarchod yr hyn sydd wedi cael ei roi yn ein gofal.—1 Tim. 6:12, 19.

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

^ Par. 5 Mae gynnon ni’r fraint anhygoel o wybod y gwir a’i ddysgu i eraill. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu i warchod y fraint a pheidio byth â gollwng ein gafael arni.

^ Par. 8 Newidiwyd yr enw.