Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 45

Sut i Helpu Eraill i Ufuddhau i Orchmynion Crist

Sut i Helpu Eraill i Ufuddhau i Orchmynion Crist

“Ewch i wneud pobl o bob gwlad yn ddisgyblion i mi, . . . a dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi.”—MATH. 28:19, 20.

CÂN 89 Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion

CIPOLWG *

1. Beth orchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion ei wneud yn Mathew 28:18-20?

AR ÔL i Iesu gael ei atgyfodi, ymddangosodd i’w ddisgyblion a oedd wedi dod at ei gilydd yng Ngalilea. Roedd ganddo rywbeth pwysig i’w ddweud wrthyn nhw. Beth oedd hynny? Gwelwn ei eiriau yn Mathew 28:18-20.—Darllen.

2. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried?

2 Mae gorchymyn Iesu i wneud disgyblion yr un mor berthnasol i weision Duw heddiw. Felly, gad inni ystyried tri chwestiwn sydd ynghlwm â’r aseiniad y mae Iesu wedi ei roi inni. Yn gyntaf, yn ogystal â dysgu gofynion Duw i ddisgyblion newydd, beth arall dylen ni ei wneud? Yn ail, sut gall cyhoeddwyr y gynulleidfa gyfrannu at gynnydd ysbrydol myfyrwyr y Beibl? Yn drydydd, sut gallwn ni helpu ein brodyr a chwiorydd anweithredol i gael rhan yn y gwaith o wneud disgyblion unwaith eto?

DYSGA NHW I UFUDDHAU

3. Pa gyfarwyddiadau penodol wnaeth Iesu eu cynnwys yn ei orchymyn?

3 Mae cyfarwyddiadau Iesu yn glir. Mae’n rhaid inni ddysgu eraill am ei orchmynion. Ond, dylen ni gofio un pwynt pwysig. Ni ddywedodd Iesu: ‘Dysgwch nhw bopeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi.’ Yn hytrach, dywedodd: “Dysgwch nhw i wneud popeth dw i wedi’i ddweud wrthoch chi.” I roi’r cyfarwyddyd hwnnw ar waith, nid yn unig dylen ni ddysgu ein myfyrwyr y Beibl beth i’w wneud, ond hefyd dylen ni ddangos iddyn nhw sut i fynd ati. (Act. 8:31) Pam mae hynny’n bwysig?

4. Eglura sut gallwn ni ddysgu rhywun i ufuddhau i orchmynion Crist.

4 Sut gallwn ni ddysgu rhywun i ufuddhau i’r hyn a orchmynnodd Crist? Gall yr enghraifft ganlynol ein helpu ni i ddeall sut i fynd ati. Sut mae hyfforddwr gyrru yn dysgu ei fyfyrwyr i ufuddhau i reolau’r ffordd? Efallai bydd yr hyfforddwr yn mynd dros y rheolau hynny ar lafar yn gyntaf. Ond, er mwyn dysgu ei fyfyrwyr sut i ufuddhau i’r rheolau, mae’n rhaid iddo wneud rhywbeth arall. Mae’n rhaid iddo fynd gyda’i fyfyrwyr a rhoi cyngor wrth iddyn nhw yrru mewn traffig a cheisio rhoi’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu ar waith. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r enghraifft honno?

5. (a) Yn ôl Ioan 14:15 a 1 Ioan 2:3, beth sy’n rhaid inni ddysgu ein myfyrwyr y Beibl i’w wneud? (b) Rho enghreifftiau o sut gallwn ni arwain ein myfyrwyr.

5 Pan fyddwn ni’n astudio’r Beibl gydag eraill, rydyn ni’n eu dysgu yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ganddyn nhw. Ond mae’n rhaid inni wneud mwy. Mae’n rhaid inni ddysgu ein myfyrwyr y Beibl i roi’r hyn maen nhw’n ei ddysgu ar waith yn eu bywyd bob dydd. (Darllen Ioan 14:15; 1 Ioan 2:3.) Drwy ein hesiampl, gallwn ddangos i’n myfyrwyr sut gallan nhwthau roi egwyddorion sylfaenol y Beibl ar waith yn yr ysgol, yn y gweithle, neu yn ystod amser hamdden. Gallwn sôn am brofiad personol sy’n dangos iddyn nhw sut gwnaeth rhoi cyngor y Beibl ar waith ein hamddiffyn rhag niwed, neu’n helpu i wneud penderfyniad doeth. Pan fyddwn ni gyda’n myfyrwyr, gallwn weddïo ar Jehofa gan ofyn iddo eu harwain nhw â’i ysbryd glân.—Ioan 16:13.

6. Beth sydd ynghlwm wrth ddysgu eraill i ufuddhau i orchmynion Iesu?

6 Beth sydd ynghlwm wrth ddysgu eraill i ufuddhau i orchmynion Iesu? Mae’n rhaid inni helpu ein myfyrwyr y Beibl i feithrin yr awydd i wneud disgyblion. I rai myfyrwyr, mae’r syniad o gael rhan yn y gwaith pregethu yn codi ofn arnyn nhw. Felly, mae angen inni fod yn amyneddgar wrth roi y math o hyfforddiant sy’n cyffwrdd â’u calonnau, yn cryfhau eu ffydd, ac yn eu sbarduno nhw i weithredu. Beth gallwn ni ei wneud i helpu myfyrwyr i feithrin yr awydd i rannu’r newyddion da ag eraill?

7. Sut gallwn ni helpu myfyriwr i feithrin yr awydd i rannu’r newyddion da ag eraill?

7 Gallwn ofyn cwestiynau fel hyn i’n myfyriwr: “Sut mae derbyn neges y Deyrnas wedi newid dy fywyd er gwell? Wyt ti’n meddwl bod eraill angen clywed y neges hon? Beth gelli di ei wneud i’w helpu nhw?” (Diar. 3:27; Math. 9:37, 38) Dangosa ein taflenni o’r bocs tŵls dysgu i’r myfyriwr, a gad iddo ddewis y rhai y mae ef yn meddwl byddai’n apelio at ei berthnasau, ei ffrindiau, neu ei gyd-weithwyr. * Rho nifer o’r taflenni hyn iddo. Beth am gael sesiwn ymarfer gydag ef ar sut i gynnig taflen â thact? Wrth gwrs, ar ôl i’n myfyriwr gael ei gymeradwyo fel cyhoeddwr di-fedydd, byddwn ni eisiau bod wrth ei ochr i’w hyfforddi.—Preg. 4:9, 10; Luc 6:40.

SUT MAE’R GYNULLEIDFA YN HELPU MYFYRWYR Y BEIBL I WNEUD CYNNYDD?

8. Pam mae’n bwysig fod ein myfyrwyr yn datblygu cariad dwfn tuag at Dduw a chymydog? (Gweler hefyd y blwch “ Sut i Gryfhau Cariad Ein Myfyrwyr y Beibl Tuag at Dduw.”)

8 Cofia fod Iesu wedi gofyn inni ddysgu eraill “i wneud popeth” y mae wedi ei orchymyn. Yn bendant, mae hynny’n cynnwys y ddau orchymyn mwyaf, sef caru Duw a dy gymydog. Mae gan y ddau gysylltiad agos â’r gwaith pregethu a gwneud disgyblion. (Math. 22:37-39) Beth yw’r cysylltiad? Un o’n prif gymhellion dros bregethu yw cariad—ein cariad at Dduw a chymydog. Mae’n ddigon naturiol fod y syniad o gael rhan yn y gwaith pregethu yn codi ofn ar rai myfyrwyr. Ond gallwn eu sicrhau nhw y gallan nhw drechu ofn dyn fesul tipyn gyda help Jehofa. (Salm 18:1-3; Diar. 29:25) Mae’r blwch sydd ynghlwm â’r erthygl hon yn disgrifio’r camau gallwn ni eu cymryd i helpu ein myfyriwr i dyfu yn ei gariad tuag at Dduw. Ar ben hynny, beth gall y gynulleidfa ei wneud i helpu disgyblion newydd i ddangos mwy o gariad?

9. Yn enghraifft y gyrrwr sy’n dysgu, ym mha ffyrdd mae’r myfyriwr yn dysgu gwersi gwerthfawr?

9 Meddylia eto am enghraifft y gyrrwr sy’n dysgu. Wrth iddo yrru gyda’r hyfforddwr wrth ei ochr, ym mha ffyrdd mae’r myfyriwr yn dysgu? Drwy wrando ar ei hyfforddwr, a thrwy wylio gyrwyr gofalus eraill. Er enghraifft, efallai bydd yr hyfforddwr yn tynnu sylw at yrrwr sy’n ddigon caredig i adael i rywun arall ymuno â’r traffig o’i flaen. Neu efallai y bydd yn tynnu sylw at yrrwr cwrtais sy’n dipio golau’r car fel nad yw’n dallu gyrwyr eraill. Gall y myfyriwr ddysgu gwersi gwerthfawr o’r fath esiamplau, a’u hefelychu wrth iddo yntau yrru.

10. Beth fydd yn helpu myfyriwr y Beibl i wneud cynnydd ysbrydol?

10 Yn yr un modd, bydd myfyriwr sy’n cychwyn ar hyd y ffordd tuag at fywyd yn dysgu, nid yn unig gan ei athro, ond hefyd oddi wrth esiamplau rhagorol gweision eraill Jehofa. Felly, beth fydd yn help mawr i fyfyrwyr y Beibl wneud cynnydd ysbrydol? Mynychu ein cyfarfodydd Cristnogol. Pam felly? Bydd yr hyn maen nhw’n ei glywed yn y cyfarfodydd yn ehangu eu gwybodaeth, yn cryfhau eu ffydd, ac yn helpu i’w cariad tuag at Dduw dyfu. (Act. 15:30-32) Hefyd, gall yr athro gyflwyno’r myfyriwr i frodyr a chwiorydd sydd wedi mynd trwy bethau tebyg iddo ef. Pa esiamplau o gariad Cristnogol ar waith gall y myfyriwr eu gweld yn y gynulleidfa? Ystyria’r sefyllfaoedd canlynol.

11. Pa esiamplau gall y myfyriwr eu gweld yn y gynulleidfa, a pha effaith gall hyn ei chael arno?

11 Mae myfyriwr y Beibl sy’n rhiant sengl yn sylwi ar chwaer Gristnogol sydd mewn sefyllfa debyg. Mae’n cyffwrdd calon y myfyriwr i weld cymaint o ymdrech mae’r chwaer yn ei wneud i ddod i’r Neuadd gyda’i phlant ifanc. Mae myfyriwr sy’n cael trafferth rhoi’r gorau i ysmygu yn cyfarfod cyhoeddwr a gafodd frwydr debyg, ond a lwyddodd yn y diwedd. Mae’r cyhoeddwr yn dweud wrth y myfyriwr am y ffordd wnaeth ei gariad yntau tuag at Jehofa dyfu a’i gymell i ufuddhau i orchmynion Duw. (2 Cor. 7:1; Phil. 4:13, BCND) Ar ôl gwrando ar hanes personol y cyhoeddwr, mae’r myfyriwr yn teimlo’n fwy hyderus pan mae’r brawd yn ei sicrhau, “Gelli dithau rhoi’r gorau iddi hefyd.” Mae myfyrwraig ifanc yn sylwi ar chwaer ifanc sydd yn amlwg yn mwynhau ei bywyd fel Tyst. Mae agwedd bositif y chwaer yn gwneud i’r fyfyrwraig eisiau dysgu mwy am pam mae’r chwaer hon wastad i weld yn hapus.

12. Pam gallwn ddweud bod pawb yn y gynulleidfa yn gallu gwneud rhywbeth i helpu myfyrwyr y Beibl?

12 Pan fydd myfyrwyr y Beibl yn dod i adnabod gwahanol gyhoeddwyr ffyddlon, bydd y myfyrwyr yn dysgu oddi wrth eu hesiamplau yr hyn mae’n ei olygu i ufuddhau i orchymyn Crist i garu Duw a chymydog. (Ioan 13:35; 1 Tim. 4:12) Ac fel rydyn ni wedi gweld yn barod, gall myfyrwyr y Beibl ddysgu oddi wrth gyhoeddwyr sydd wedi delio â heriau tebyg i’w rhai nhw. O’r esiamplau hyn, mae’r myfyriwr yn dysgu bod y newidiadau angenrheidiol i fod yn ddisgybl i Grist o fewn ei gyrraedd. (Deut. 30:11) Gall pob un yn y gynulleidfa gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd i gynnydd ysbrydol myfyrwyr y Beibl. (Math. 5:16) Pa ymdrechion fyddi di’n eu gwneud i annog myfyrwyr y Beibl sy’n dod i’r cyfarfodydd?

HELPA RAI ANWEITHREDOL I BREGETHU UNWAITH ETO

13-14. Sut gwnaeth Iesu drin ei apostolion digalon?

13 Rydyn ni eisiau helpu ein brodyr a chwiorydd anweithredol i rannu unwaith eto yn y gwaith pregethu a gwneud disgyblion. Mae’r ffordd y gwnaeth Iesu drin ei apostolion digalon yn dangos beth gallwn ni ei wneud heddiw.

14 Ar ddiwedd gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, ychydig cyn iddo gael ei ladd, dyma ei ddisgyblion “i gyd yn ei adael, a dianc.” (Marc 14:50; Ioan 16:32) Sut gwnaeth Iesu drin ei apostolion digalon yn y cyfnod hwnnw? Yn fuan ar ôl ei atgyfodiad, dywedodd Iesu wrth rai o’i ddilynwyr: “Peidiwch bod ag ofn; . . . ewch i ddweud wrth fy mrodyr [fy mod i yn ôl yn fyw].” (Math. 28:10a) Er bod ei apostolion wedi cefnu arno, ni wnaeth Iesu anobeithio, daliodd ati i’w galw nhw’n “fy mrodyr.” Fel Jehofa, roedd Iesu yn drugarog ac yn faddeugar.—2 Bren. 13:23.

15. Sut rydyn ni’n teimlo am y rhai sydd wedi stopio cael rhan yn y weinidogaeth?

15 Yn yr un modd, mae gynnon ni gonsýrn mawr dros y rhai sydd wedi stopio cael rhan yn y weinidogaeth. Maen nhw’n frodyr ac yn chwiorydd inni, ac rydyn ni’n eu caru nhw! Dydyn ni ddim wedi anghofio eu holl ymdrechion yng ngwasanaeth Jehofa dros y blynyddoedd—rhai am ddegawdau. (Heb. 6:10) Mae’n chwith gynnon ni ar eu holau nhw! (Luc 15:4-7) Sut gallwn ni efelychu Iesu yn y ffordd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw?

16. Sut gallwn ni ddangos ein consýrn dros ein brodyr a chwiorydd anweithredol?

16 Estynna wahoddiad cynnes. Un ffordd anogodd Iesu ei apostolion digalon oedd eu gwahodd i gyfarfod. (Math. 28:10b; 1 Cor. 15:6) Gallwn ni wneud yr un peth heddiw, wrth annog y rhai anweithredol i ddod i gyfarfodydd y gynulleidfa. Y ffaith amdani yw, efallai bydd rhaid inni eu gwahodd nhw sawl gwaith cyn iddyn nhw ddod. Yn sicr, roedd Iesu wrth ei fodd fod ei ddisgyblion wedi derbyn ei wahoddiad.—Cymhara Mathew 28:16 a Luc 15:6.

17. Sut dylen ni ymateb pan ddaw rhywun anweithredol i’r cyfarfod?

17 Rho groeso mawr. Roedd Iesu yn gwneud i’w ddisgyblion deimlo’n gartrefol pan oedden nhw yn ei gwmni; aeth atyn nhw i siarad yn hytrach nag aros nes eu bod nhw’n dod ato ef. (Math. 28:18) Sut byddwn ni’n ymateb pan ddaw rhywun anweithredol i’r Neuadd? Dylen ni gymryd y cam cyntaf i roi croeso cynnes iddo. Efallai byddwn ni’n poeni ar y cychwyn na fyddwn ni’n gwybod beth i’w ddweud. Ond, heb wneud iddo deimlo’n anghyfforddus, gallwn ddweud yn ddigon syml ein bod ni’n falch o’i weld.

18. Sut gallwn ni annog ein cyhoeddwyr anweithredol?

18 Rho anogaeth ddiffuant. Mae’n debyg y teimlodd disgyblion Iesu fod y gorchymyn i bregethu drwy’r byd i gyd y tu hwnt i’w gallu. Ond, anogodd Iesu ei ddilynwyr drwy ddweud: “Bydda i gyda chi bob amser.” (Math. 28:20) A wnaeth hynny helpu? Do. Cyn bo hir, roedden nhw’n brysur yn y gwaith o “ddysgu’r bobl a chyhoeddi’r newyddion da.” (Act. 5:42) Mae cyhoeddwyr anweithredol hefyd angen anogaeth. Efallai bod y syniad o bregethu eto yn gwneud iddyn nhw boeni. Gallwn ni eu sicrhau na fyddan nhw’n gorfod pregethu ar eu pennau eu hunain. Pan fyddan nhw’n barod, gallwn ni fynd gyda nhw ar y weinidogaeth. Byddan nhw’n bendant yn gwerthfawrogi ein cefnogaeth wrth iddyn nhw ailgychwyn pregethu’r newyddion da. Pan ydyn ni’n ystyried y rhai anweithredol yn frodyr a chwiorydd inni, cawn weld canlyniadau calonogol yn ein cynulleidfa.

RYDYN NI EISIAU GORFFEN Y GWAITH A RODDODD IESU INNI

19. Beth yw ein dymuniad, a pham?

19 Tan bryd dylen ni ddal ati i wneud disgyblion? Hyd at ddiwedd y system hon. (Math. 28:20; gweler geirfa NWT, Conclusion of the system of things.”) A fyddwn ni’n gallu cyflawni’r rhan hon o gomisiwn Iesu? Rydyn ni’n benderfynol o’i wneud! Rydyn ni’n gwbl hapus i roi o’n hamser, egni, ac arian er mwyn dod o hyd i’r rhai sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.” (Act. 13:48, NWT) Drwy wneud hyn, dilynwn esiampl Iesu. Dywedodd: “Gwneud beth mae Duw’n ddweud ydy fy mwyd i, . . . a gorffen y gwaith mae wedi’i roi i mi.” (Ioan 4:34; 17:4) Dyna ein dymuniad ninnau hefyd. Rydyn ni eisiau gorffen y gwaith a roddodd Iesu inni. (Ioan 20:21) Ac rydyn ni eisiau i eraill, gan gynnwys rhai anweithredol, ddal ati yn y gwaith gyda ni.—Math. 24:13.

20. Yn ôl Philipiaid 4:13, pam mae’n bosib inni gyflawni’r gwaith y mae Iesu wedi ei roi inni?

20 Y gwir amdani yw, mae cyflawni comisiwn Iesu yn her. Ond, dydyn ni ddim yn ei hwynebu ar ein pennau ein hunain. Addawodd Iesu y byddai gyda ni. Wrth wneud disgyblion, rydyn ni’n “gweithio fel tîm i Dduw,” a hynny yng nghwmni Crist. (1 Cor. 3:9; 2 Cor. 2:17) Felly, fe allwn ni ei gyflawni. Dyna i chi fraint a phleser yw cyflawni’r aseiniad hwn a helpu eraill i wneud hynny hefyd!—Darllen Philipiaid 4:13, BCND.

CÂN 79 Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn

^ Par. 5 Rhoddodd Iesu gomisiwn i’w ddilynwyr ddysgu eraill i wneud popeth yr oedd wedi ei orchymyn. Mae’r erthygl hon yn ystyried sut gallwn ni ddilyn y cyfarwyddyd hwn gan Iesu.

^ Par. 7 Yn yr erthygl hon, mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr hefyd yn berthnasol i fyfyrwraig.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae’r chwaer sy’n arwain yr astudiaeth Feiblaidd yn esbonio pa gamau mae’r fyfyrwraig angen eu cymryd er mwyn cryfhau ei chariad tuag at Dduw. Yn hwyrach ymlaen, mae’r fyfyrwraig yn rhoi’r tri awgrym a gafodd gan ei hathrawes ar waith.