Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Onésime a Géraldine

Bendithion Mawr i’r Rhai sy’n Dychwelyd i’w Gwlad Enedigol

Bendithion Mawr i’r Rhai sy’n Dychwelyd i’w Gwlad Enedigol

MAE nifer sylweddol o frodyr a chwiorydd a ymfudodd o wledydd tlotach i wledydd y Gorllewin, bellach wedi dychwelyd i’w gwlad enedigol. Wedi eu cymell gan eu cariad tuag at Jehofa a’u cyd-ddyn, maen nhw wedi symud i ardaloedd lle mae mwy o angen am gyhoeddwyr y Deyrnas. (Math. 22:37-39) Pa aberthau wnaethon nhw, a sut gwnaeth Jehofa eu gwobrwyo? Er mwyn cael yr ateb, gad inni ganolbwyntio ar y Camerŵn yng ngorllewin Affrica.

“YN Y LLE IAWN I ‘BYSGOTA’”

Ym 1998 ymfudodd brawd o’r enw Onésime o’i gartref yn y Camerŵn. Treuliodd 14 blynedd yn byw dramor. Un diwrnod, yn y cyfarfod, clywodd eglureb am y gwaith pregethu. Dywedodd y siaradwr, “Petasai dau ffrind yn pysgota mewn gwahanol fannau, ac un yn dal mwy o bysgod na’r llall, oni fyddai’r ffrind oedd yn dal llai yn symud i’r man lle oedd y ddalfa yn fwy?”

Achosodd yr eglureb honno i Onésime feddwl am ddychwelyd i’r Camerŵn lle roedd llawer o bobl eisiau astudio’r Beibl, er mwyn helpu’r cyhoeddwyr lleol i bysgota am ddynion. Ond roedd ganddo bryderon. A fyddai’n gallu dod i arfer â byw yn ei wlad enedigol eto ar ôl yr holl flynyddoedd o fyw dramor? Er mwyn gweld a fyddai’n bosib, aeth Onésime i’r Camerŵn am chwe mis. Ac yna yn 2012, symudodd yno i fyw.

Dywedodd: “O’n i’n gorfod addasu i’r tywydd poeth a’r ffordd o fyw. Yn Neuadd y Deyrnas, roedd rhaid imi ddod i arfer ag eistedd ar feinciau caled unwaith eto.” Ond yna, dywedodd dan wenu, “Y mwyaf o’n i’n canolbwyntio ar y rhaglen, y mwyaf oedd yr atgofion am seti moethus yn dechrau diflannu.”

Yn 2013, priododd Onésime Géraldine, a oedd wedi symud yn ôl i’r Camerŵn ar ôl byw yn Ffrainc am naw mlynedd. Sut gwnaeth Jehofa eu gwobrwyo nhw am roi ei ewyllys ef yn gyntaf yn eu bywydau? Dywedodd Onésime: “Aethon ni i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas fel cwpl a gwasanaethu yn y Bethel. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 20 o fyfyrwyr y Beibl yn ein cynulleidfa ni wedi cael eu bedyddio. Bellach dw i’n teimlo fy mod i yn y lle iawn i ‘bysgota.’” (Marc 1:17, 18) Mae Géraldine yn ychwanegu: “Dw i wedi cael bendithion y tu hwnt i bob disgwyl.”

Y LLAWENYDD O WNEUD DISGYBLION

Judith a Sam-Castel

Roedd Judith wedi symud i’r Unol Daleithiau ond roedd hi’n dyheu am ehangu ei gweinidogaeth. Wrth gofio yn ôl meddai, “Ar ddiwedd pob ymweliad â’r teulu yn y Camerŵn, o’n i’n crio oherwydd oedd rhaid imi ffarwelio â sawl unigolyn oedd wedi dechrau astudio’r Beibl.” Ond, daliodd Judith yn ôl rhag dychwelyd i’r Camerŵn. Roedd hi’n ennill cyflog da a oedd yn caniatáu iddi dalu am ofal meddygol ei thad yn y Camerŵn. Er hynny, gwnaeth Judith ymddiried yn Jehofa a symud yn ôl i’r Camerŵn. Mae hi’n cyfaddef ei bod hi wedi methu’r bywyd cyfforddus oedd hi wedi ei fwynhau dramor. Gweddïodd ar Jehofa am help i addasu, a chafodd ei helpu drwy anogaeth arolygwr cylchdaith a’i wraig.

Wrth edrych yn ôl, dywedodd Judith, “O fewn tair blynedd ges i’r pleser o helpu pedwar person i gyrraedd bedydd.” Dechreuodd Judith wasanaethu fel arloeswraig arbennig. A bellach, mae hi’n gwasanaethu gyda’i gŵr, Sam-Castel, ar y gwaith cylch. Ond beth ddigwyddodd i dad Judith? Llwyddodd hi a’i theulu i ddod o hyd i ysbyty mewn gwlad arall a oedd yn fodlon talu am lawdriniaeth ei thad. Mae’n dda gynnon ni ddweud, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus.

PROFI CEFNOGAETH JEHOFA

Caroline a Victor

Symudodd brawd o’r enw Victor i Ganada. Ar ôl darllen erthygl yn y Tŵr Gwylio oedd yn trafod addysg uwch, meddyliodd am ei addysg ei hun. Stopiodd fynd i’r brifysgol a dechreuodd gwrs byrrach mewn coleg technegol. “Caniataodd hyn imi gael swydd ynghynt, a gwneud beth o’n i wedi bod eisiau ei wneud ers tro byd—arloesi.” Yn hwyrach ymlaen, priododd Victor Caroline, ac aeth y cwpl i ymweld â’r Camerŵn. Yno, yn ystod ymweliad i swyddfa’r gangen, cawson nhw eu hannog i ystyried gwasanaethu yn y Camerŵn. Meddai Victor, “Doedd gynnon ni ddim rheswm i wrthod, a gan ein bod ni wedi cadw ein bywyd yn syml, oedden ni’n gallu derbyn y gwahoddiad.” Er bod gan Caroline ambell i broblem iechyd, penderfynon nhw symud.

Dechreuodd Victor a Caroline arloesi’n llawn amser er mwyn helpu i ofalu am yr holl bobl oedd â diddordeb yn y Beibl. Am gyfnod roedden nhw’n gallu byw oddi ar eu cynilion. Wedi hynny, gweithion nhw yng Nghanada am ychydig o fisoedd fel eu bod nhw’n gallu mynd yn ôl i’r Camerŵn a dal ati i arloesi. Pa fendithion gawson nhw? Aethon nhw i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, gwasanaethu fel arloeswyr arbennig, a bellach maen nhw’n gwasanaethu fel weision adeiladu. Dywedodd Victor, “Gwnaeth gadael ein bywyd cyfforddus ganiatáu inni brofi cefnogaeth Jehofa.”

Y LLAWENYDD O HELPU POBL I GYSEGRU EU HUNAIN I JEHOFA

Stéphanie ac Alain

Yn 2002, darllenodd Alain, myfyriwr mewn prifysgol yn yr Almaen, y daflen Youths—What Will You Do With Your Life? Gwnaeth y wybodaeth ynddi ei sbarduno i osod amcanion newydd. Yn 2006, aeth drwy’r Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol ac fe gafodd ei aseinio i’r Camerŵn, ei wlad enedigol.

Yn y Camerŵn, cafodd Alain hyd i waith rhan amser. Yn hwyrach ymlaen, cafodd hyd i swydd oedd yn talu’n well, ond roedd yn poeni y byddai hyn yn achosi iddo wneud llai yn y weinidogaeth. Felly, pan gafodd ei wahodd i wasanaethu fel arloeswr arbennig, derbyniodd y gwahoddiad heb oedi. Cynigiodd ei gyflogwr fwy o bres iddo, ond glynodd Alain at ei benderfyniad. Yn nes ymlaen, priododd Alain Stéphanie, a oedd wedi byw yn Ffrainc am flynyddoedd. Pa drafferthion gafodd hi ar ôl symud i’r Camerŵn?

Dywedodd Stéphanie: “Wnes i ddatblygu alergedd i wahanol bethau a ches i nifer o broblemau iechyd bach, ond wnes i lwyddo i gael triniaeth reolaidd a roddodd ryddhad imi.” Cafodd y cwpl eu gwobrwyo am eu dyfalbarhad. Meddai Alain: “Pan aethon ni i bregethu mewn pentref anghysbell o’r enw Katé, cawson ni hyd i nifer o bobl oedd eisiau astudio’r Beibl. Maes o law, oedden ni’n gallu cynnal astudiaethau Beiblaidd gyda nhw dros y ffôn. Cafodd dau o’r myfyrwyr hyn eu bedyddio, a chafodd grŵp o gyhoeddwyr ei ffurfio.” Ychwanegodd Stéphanie: “Does dim llawenydd gwell na helpu pobl i gysegru eu hunain i Jehofa. Drwy wasanaethu fan hyn, ’dyn ni wedi profi’r llawenydd hwnnw nifer o weithiau.” Heddiw, mae Alain a Stéphanie yn gwasanaethu yn y gwaith cylch.

MI WNAETHON NI YR UNION BETH OEDD ANGEN INNI EI WNEUD

Léonce a Gisèle

Cafodd Gisèle ei bedyddio tra oedd hi’n mynychu ysgol feddygaeth yn yr Eidal. Roedd y cwpl oedd wedi cynnal ei hastudiaeth Feiblaidd yn arloeswyr, a chafodd eu bywyd syml gymaint o argraff arni roedd hi eisiau gwneud mwy yn y weinidogaeth. Felly dechreuodd Gisèle arloesi’n llawn amser tra oedd hi’n gorffen ei haddysg.

Roedd Gisèle eisiau gwneud mwy i Jehofa yn ôl yn y Camerŵn, ond roedd ganddi bryderon. “Mi oedd rhaid imi ildio fy hawl i fyw yn yr Eidal, a symud i ffwrdd o nheulu a’n ffrindiau oedd yn byw yno.” Er hynny, ym mis Mai 2016, symudodd Gisèle yn ôl i’r Camerŵn. Beth amser wedyn, priododd Léonce, ac yna gwnaeth swyddfa gangen y Camerŵn argymell eu bod nhw’n symud i Ayos, tref oedd ag angen mawr am gyhoeddwyr y Deyrnas.

Sut roedd bywyd yn Ayos? Aeth Gisèle yn ei blaen: “Yn aml, doedd ’na ddim trydan am wythnosau, a doedden ni ddim yn gallu tsiarjo’n ffonau. Doedden nhw ddim yn gweithio’r rhan fwyaf o’r amser. Dysgais goginio ar dân agored, ac aethon ni’n dau â berfa a thortsh i nôl dŵr gyda’r nos pan oedd y ffynnon yn llai prysur.” Beth helpodd y cwpl i ymdopi? Atebodd Gisèle: “Ysbryd Jehofa, cymar cefnogol, ac anogaeth gan deulu a ffrindiau yn ogystal â’u cefnogaeth ariannol o bryd i’w gilydd.”

A ydy Gisèle yn hapus ei bod hi wedi symud yn ôl i’w gwlad enedigol? “Ydw! Heb unrhyw amheuaeth,” meddai. “Mi oedd ’na anawsterau a theimladau o ddigalondid i ddechrau, ond ar ôl inni drechu’r rheini, oedd fy ngŵr a minnau’n teimlo ein bod ni wedi gwneud yr union beth oedd angen inni ei wneud. ’Dyn ni’n trystio Jehofa ac yn teimlo’n agosach ato.” Aeth Léonce a Gisèle i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, ac erbyn hyn, maen nhw’n gwasanaethu fel arloeswyr arbennig dros dro.

Fel pysgotwyr sy’n dangos dewrder yn wyneb amgylchiadau anodd er mwyn cael dalfa dda, mae’r rhai sy’n dychwelyd i’w gwlad enedigol yn fodlon gwneud aberthau er mwyn helpu’r rhai â’r agwedd iawn sy’n ymateb i neges y Deyrnas. Yn sicr, bydd Jehofa yn cofio gwaith caled y cyhoeddwyr hyn, a’r cariad ddangoson nhw tuag at ei enw. (Neh. 5:19; Heb. 6:10) Os wyt ti’n byw dramor ac mae ’na angen am gyhoeddwyr y Deyrnas yn dy wlad enedigol, a oes modd iti ddychwelyd? Os gwnei di hynny, fe fydd bendithion mawr yn disgwyl amdanat ti.—Diar. 10:22.