Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 46

Bydda’n Ddewr—Mae Jehofa yn Dy Helpu

Bydda’n Ddewr—Mae Jehofa yn Dy Helpu

“Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.”—HEB. 13:5.

CÂN 55 Paid â’u Hofni!

CIPOLWG *

1. Beth fydd yn ein cysuro ni pan fyddwn ni’n teimlo’n unig neu’n methu delio â’n problemau? (Salm 118:5-7)

A WYT ti erioed wedi teimlo dy fod ar dy ben dy hun, gyda neb i dy helpu i ddelio â her roeddet ti’n ei hwynebu? Mae llawer wedi teimlo felly, gan gynnwys gweision ffyddlon Jehofa. (1 Bren. 19:14) Os bydd hyn yn digwydd i ti, cofia addewid Jehofa: “Wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi.” Felly gallwn ddweud yn llawn hyder: “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn.” (Heb. 13:5, 6) Ysgrifennodd yr apostol Paul y geiriau hynny at Gristnogion yn Jwdea tua 61 OG. Mae ei eiriau yn ein hatgoffa o’r hyn ysgrifennodd y salmydd yn Salm 118:5-7.—Darllen.

2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon, a pham?

2 Fel y salmydd, gwyddai Paul o brofiad personol mai Jehofa oedd ei Helpwr. Er enghraifft, dros ddwy flynedd cyn iddo ysgrifennu ei lythyr at yr Hebreaid, aeth Paul ar daith beryglus dros fôr tymhestlog. (Act. 27:4, 15, 20) Drwy gydol y siwrnai honno, ac yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, helpodd Jehofa Paul mewn amryw o ffyrdd. Byddwn ni’n ystyried tair ohonyn nhw. Rhoddodd Jehofa help drwy gyfrwng Iesu a’r angylion, pobl mewn awdurdod, a chyd-gredinwyr. Bydd atgoffa’n hunain o’r digwyddiadau hyn ym mywyd Paul yn cryfhau ein hyder yn addewid Jehofa y bydd yn ateb ein gweddïau am help.

HELP GAN IESU A’R ANGYLION

3. Beth efallai aeth drwy feddwl Paul, a pham?

3 Roedd angen help ar Paul. Tua 56 OG, cafodd ei lusgo y tu allan i’r deml yn Jerwsalem gan dorf a geisiodd ei ladd. Y diwrnod wedyn, pan gafodd Paul ei ddwyn o flaen y Sanhedrin, bu bron iddo gael ei rwygo’n ddarnau gan ei elynion. (Act. 21:30-32; 22:30; 23:6-10) Yn y foment honno, efallai fod Paul wedi meddwl, ‘Faint mwy alla i oddef hyn?’

4. Sut defnyddiodd Jehofa Iesu i helpu Paul?

4 Pa help gafodd Paul? Y noson cyn i Paul gael ei arestio, safodd “yr Arglwydd,” Iesu, wrth ei ymyl a dweud: “Bydd yn ddewr! Mae’n rhaid i ti ddweud amdana i yn Rhufain, yn union fel rwyt ti wedi gwneud yma yn Jerwsalem.” (Act. 23:11) Am anogaeth amserol! Rhoddodd Iesu ganmoliaeth i Paul am y dystiolaeth a roddodd yn Jerwsalem. Ac addawodd y byddai Paul yn cyrraedd Rhufain yn ddiogel, lle byddai’n rhoi tystiolaeth bellach. Ar ôl clywed hynny, mae’n rhaid fod Paul wedi teimlo mor saff â phlentyn yn swatio yng nghesail ei dad.

Yn ystod storm fawr ar y môr, mae angel yn sicrhau Paul y bydd pawb ar y llong yn goroesi’r siwrnai beryglus (Gweler paragraff 5)

5. Sut defnyddiodd Jehofa angel i helpu Paul? (Gweler y llun ar y clawr.)

5 Pa heriau eraill wynebodd Paul? Tua dwy flynedd ar ôl y digwyddiadau hynny yn Jerwsalem, roedd Paul ar long i’r Eidal pan gododd storm mor wyllt roedd y criw a’r teithwyr yn ofni am eu bywydau. Ond eto, doedd gan Paul ddim ofn. Pam? Dywedodd wrth bawb ar y llong: “Safodd angel Duw wrth fy ymyl i neithiwr—sef y Duw biau fi; yr un dw i’n ei wasanaethu. A dyma ddwedodd, ‘Paid bod ag ofn, Paul. Mae’n rhaid i ti sefyll dy brawf o flaen Cesar. Ac mae Duw’n garedig yn mynd i arbed bywydau pawb arall sydd ar y llong.’” Defnyddiodd Jehofa angel i ailadrodd yr addewid roedd wedi ei roi i Paul ynghynt drwy Iesu. A do, fe gyrhaeddodd Paul Rufain.—Act. 27:20-25; 28:16.

6. Pa addewid gan Iesu all ein cryfhau ni, a pham?

6 Pa help rydyn ni’n ei gael? Bydd Iesu yn ein cefnogi ni, fel y gwnaeth yn achos Paul. Er enghraifft, mae Iesu’n addo i bawb sy’n ei ddilyn: “Bydda i gyda chi bob amser, nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Math. 28:20) Gall geiriau Iesu ein cryfhau. Pam? Am fod rhai dyddiau yn anodd inni ymdopi â nhw. Er enghraifft, pan fydd anwylyn yn marw, mae’n rhaid inni ddygymod â’r boen emosiynol nid am ychydig o ddyddiau yn unig, ond am flynyddoedd lawer. Mae eraill yn cael dyddiau anodd oherwydd henaint. Ac mae eraill eto yn cael dyddiau lle maen nhw’n cael eu llethu gan iselder. Er hyn i gyd, cawn y nerth i ddal ati oherwydd y gwyddon ni fod Iesu gyda ni bob  amser,” gan gynnwys dyddiau duaf ein bywydau.—Math. 11:28-30.

Mae angylion yn ein cefnogi ac yn ein harwain yn y gwaith pregethu (Gweler paragraff 7)

7. Yn ôl Datguddiad 14:6, sut mae Jehofa yn ein helpu ni heddiw?

7 Mae Gair Duw yn ein sicrhau bod Jehofa yn defnyddio ei angylion i’n helpu. (Heb. 1:7, 14) Er enghraifft, mae angylion yn ein cefnogi ac yn ein harwain wrth inni bregethu’r “newyddion da am deyrnasiad Duw” i “bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.”—Math. 24:13, 14; darllen Datguddiad 14:6.

HELP GAN BOBL MEWN AWDURDOD

8. Sut defnyddiodd Jehofa gapten milwrol i helpu Paul?

8 Pa help gafodd Paul? Yn ôl ym 56 OG, rhoddodd Iesu sicrwydd i Paul y byddai’n cyrraedd Rhufain. Ond, roedd rhai Iddewon yn Jerwsalem wedi cynllwynio i ymosod ar Paul a’i ladd. Pan glywodd y capten Rhufeinig Clawdiws Lysias am y cynllwyn, aeth ati i helpu Paul. Ar unwaith, anfonodd Clawdiws grŵp o filwyr i amddiffyn Paul a’i hebrwng i Gesarea, ar hyd ffordd oedd tua 65 milltir (105 km) o Jerwsalem. Yng Nghesarea, gorchmynnodd y Llywodraethwr Ffelics “fod Paul i gael ei gadw yn y ddalfa ym mhencadlys Herod.” Roedd Paul allan o gyrraedd y rhai oedd eisiau ei ladd.—Act. 23:12-35.

9. Sut gwnaeth y Llywodraethwr Ffestus helpu Paul?

9 Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Paul yn dal yn y carchar yng Nghesarea. Roedd Ffestus wedi cymryd lle Ffelics fel llywodraethwr. Erfyniodd yr Iddewon ar Ffestus i anfon Paul i Jerwsalem i sefyll ei brawf, ond gwrthododd Ffestus. Efallai roedd y llywodraethwr yn ymwybodol o gynllwyn yr Iddewon i “ymosod arno a’i ladd pan oedd ar ei ffordd.”—Act. 24:27–25:5.

10. Sut ymatebodd y Llywodraethwr Ffestus i apêl Paul i gael ei farnu gan Gesar?

10 Yn ddiweddarach, cafodd achos llys Paul ei gynnal yng Nghesarea. “Gan fod Ffestus yn awyddus i wneud ffafr i’r Iddewon, gofynnodd i Paul, ‘Wyt ti’n barod i fynd i Jerwsalem i sefyll dy brawf o’m blaen i yno?’” Gwyddai Paul y byddai yn fwy na thebyg yn cael ei ladd yn Jerwsalem, ond gwyddai hefyd beth allai wneud i achub ei fywyd, cyrraedd Rhufain, a pharhau i bregethu. Dywedodd: “Dw i’n cyflwyno apêl i Gesar!” Ar ôl siarad â’i gynghorwyr, meddai Ffestus wrth Paul: “Rwyt ti wedi cyflwyno apêl i Gesar. Cei dy anfon at Cesar!” Fe wnaeth penderfyniad ffafriol Ffestus achub Paul rhag ei elynion. Ymhen amser, byddai Paul yn Rhufain—ymhell o afael yr Iddewon oedd yn ceisio ei ladd.—Act. 25:6-12.

11. Pa eiriau calonogol gan Eseia wnaeth Paul feddwl amdanyn nhw, o bosib?

11 Tra oedd Paul yn disgwyl i ddechrau ei daith i’r Eidal, mae’n ddigon posib ei fod wedi myfyrio ar rybudd ysbrydoledig a roddodd y proffwyd Eseia i bobl sy’n gwrthwynebu Jehofa: “Cynlluniwch strategaeth—ond bydd yn methu! Cytunwch beth i’w wneud—ond fydd e ddim yn llwyddo. Achos mae Duw gyda ni!” (Esei. 8:10) Gwyddai Paul y byddai Duw yn ei helpu, ac mae’n rhaid fod hyn wedi rhoi’r nerth iddo wynebu’r treialon oedd i ddod.

Fel y gwnaeth yn y gorffennol, gall Jehofa gymell pobl mewn awdurdod heddiw i amddiffyn ei weision (Gweler paragraff 12)

12. Sut gwnaeth Jwlius drin Paul, a beth efallai roedd Paul wedi sylweddoli o ganlyniad?

12 Ym 58 OG, cychwynnodd Paul ar ei fordaith i’r Eidal. Ac yntau’n garcharor, cafodd ei roi dan awdurdod swyddog milwrol Rhufeinig o’r enw Jwlius. O hynny ymlaen, roedd gan Jwlius yr awdurdod i drin Paul yn wael neu i’w drin yn garedig. Sut byddai’n defnyddio’r awdurdod hwnnw? Y diwrnod wedyn, pan gyrhaeddon nhw’r lan, “dyma Jwlius, yn garedig iawn, yn caniatáu i Paul fynd i weld ei ffrindiau.” Yn nes ymlaen, gwnaeth Jwlius hyd yn oed achub bywyd Paul. Sut? Roedd y milwyr eisiau lladd pob un o’r carcharorion ar y llong, ond rhwystrodd Jwlius nhw rhag gwneud hynny. Pam? “Am ei fod eisiau i Paul gael byw.” Mae’n debyg fod Paul wedi sylweddoli bod Jehofa yn defnyddio’r swyddog caredig hwn i’w helpu a’i amddiffyn.—Act. 27:1-3, 42-44.

Gweler paragraff 13

13. Sut gall Jehofa ddefnyddio pobl mewn awdurdod?

13 Pa help rydyn ni’n ei gael? Pan fydd yn unol â’i bwrpas, gall Jehofa ddefnyddio ei ysbryd glân grymus i achosi i bobl mewn awdurdod wneud yr hyn mae’n ei ddymuno. Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Mae penderfyniadau’r brenin fel sianel ddŵr yn llaw’r ARGLWYDD; mae’n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.” (Diar. 21:1) Beth mae’r ddihareb hon yn ei olygu? Gall pobl agor ffos i droi dŵr o nant i gyfeiriad sydd yn siwtio eu cynlluniau. Mewn ffordd debyg, gall Jehofa ddefnyddio ei ysbryd i droi meddyliau rheolwyr i gyfeiriad sy’n unol â’i bwrpas. Pan fydd hynny’n digwydd, bydd pobl mewn awdurdod yn cael eu cymell i wneud penderfyniadau er lles pobl Dduw.—Cymhara Esra 7:21, 25, 26.

14. Yn unol ag Actau 12:5, dros bwy gallwn ni weddïo?

14 Beth gallwn ni ei wneud? Gallwn weddïo “dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod” pan fydd rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywyd Cristnogol a’n gweinidogaeth. (1 Tim. 2:1, 2; Neh. 1:11) Fel y gwnaeth Cristnogion y ganrif gyntaf, rydyn ninnau’n gweddïo’n daer am ein brodyr a’n chwiorydd sydd yn y carchar. (Darllen Actau 12:5; Heb. 13:3) Hefyd, gallwn weddïo dros y swyddogion carchar sy’n gyfrifol am ein brodyr a chwiorydd. Gallwn erfyn ar Jehofa i ddylanwadu ar feddyliau’r fath unigolion fel eu bod nhw’n cael eu cymell i weithredu fel Jwlius, a thrin ein cyd-gredinwyr yn y carchar “yn garedig iawn.”—Gweler y nodyn astudio ar Actau 27:3, NWT.

HELP GAN GYD-GREDINWYR

15-16. Sut defnyddiodd Jehofa Aristarchus a Luc i helpu Paul?

15 Pa help gafodd Paul? Yn ystod ei daith i Rufain, cafodd Paul help dro ar ôl tro gan Jehofa drwy gyfrwng ei gyd-gredinwyr. Gad inni ystyried rhai esiamplau.

16 Penderfynodd Aristarchus a Luc, dau o ffrindiau ffyddlon Paul, deithio gydag ef i Rufain. * Roedden nhw’n fodlon peryglu eu bywydau i fod gyda Paul, er nad ydy hi’n ymddangos bod y naill na’r llall wedi cael addewid gan Iesu y bydden nhw’n cyrraedd Rhufain. Dim ond wedyn, yn ystod y siwrnai anesmwyth, y cawson nhw wybod y byddai eu bywydau yn cael eu hachub. Felly, pan aeth Aristarchus a Luc ar fwrdd y llong yng Nghesarea, mae’n rhaid fod Paul wedi gweddïo ar Jehofa o’i galon, gan ddiolch iddo am yr help a roddodd drwy gyfrwng y ddau ffrind dewr hynny.—Act. 27:1, 2, 20-25.

17. Sut defnyddiodd Jehofa gyd-gredinwyr Paul i’w helpu?

17 Cafodd Paul help gan ei gyd-gredinwyr sawl gwaith ar hyd ei daith. Ym mhorthladd Sidon, caniataodd Jwlius i Paul “fynd i weld ei ffrindiau iddyn nhw roi iddo unrhyw beth oedd ei angen.” Ac yn hwyrach ymlaen, yn ninas Puteoli, daeth Paul a’i ffrindiau “o hyd i grŵp o gredinwyr yno, a chael gwahoddiad i aros gyda nhw am wythnos.” Wrth i’r Cristnogion yn y llefydd hynny ofalu am anghenion Paul a’i ffrindiau, mae’n rhaid eu bod nhw wrth eu boddau yn gwrando ar brofiadau calonogol Paul. (Cymhara Actau 15:2, 3.) Ar ôl yr ymweliad adeiladol hwnnw, parhaodd Paul a’i ffrindiau ar eu taith.—Act. 27:3; 28:13, 14.

Fel Paul, fe gawn ni help Jehofa drwy ein cyd-gredinwyr

(Gweler paragraff 18)

18. Beth achosodd i Paul gael ei galonogi a diolch i Dduw?

18 Wrth i Paul gerdded tuag at Rufain, mae’n rhaid ei fod wedi meddwl am yr hyn a ysgrifennodd at y gynulleidfa yn y ddinas honno dair blynedd ynghynt: “Dw i wedi bod yn dyheu am gyfle i ymweld â chi ers blynyddoedd.” (Rhuf. 15:23) Ond, wnaeth ef erioed ddisgwyl y byddai’n cyrraedd fel carcharor. Mae’n siŵr ei fod wrth ei fodd o weld brodyr Rhufain yn aros amdano ar hyd y ffordd i’w gyfarch! “Roedd gweld y bobl yma’n galondid mawr i Paul, a diolchodd i Dduw.” (Act. 28:15) Sylwa fod Paul wedi diolch i Dduw fod ei frodyr yn disgwyl amdano. Pam? Am fod Paul unwaith eto wedi gweld llaw Jehofa yn ei helpu drwy ei gyd-gredinwyr.

Gweler paragraff 19

19. Yn ôl 1 Pedr 4:10, sut gall Jehofa ein defnyddio ni i helpu’r rhai mewn angen?

19 Beth gallwn ni ei wneud? A wyt ti’n gwybod am frodyr a chwiorydd yn dy gynulleidfa sy’n dioddef oherwydd eu bod nhw’n sâl neu’n wynebu amgylchiadau heriol eraill? Neu hwyrach eu bod nhw wedi colli anwylyn. Os down ni’n ymwybodol bod rhywun angen help, gallwn ofyn i Jehofa ein helpu i ddweud neu wneud rhywbeth caredig a chariadus. Efallai y byddwn ni’n dweud neu’n gwneud yr union beth oedd ein brawd neu chwaer ei angen. (Darllen 1 Pedr 4:10.) * Drwy eu helpu nhw, efallai byddan nhw’n adennill eu hyder fod addewid Jehofa, “wna i byth eich siomi chi, na throi fy nghefn arnoch chi,” yn berthnasol iddyn nhw. Oni fyddai hynny’n codi dy galon?

20. Pam gallwn ni ddweud yn hyderus: “Jehofa ydy’r un sy’n fy helpu i”?

20 Fel yn achos Paul a’i gyfeillion, gallwn ninnau fynd drwy stormydd garw ar ein taith drwy fywyd. Ar yr un pryd, gwyddon ni ein bod ni’n gallu bod yn ddewr am fod Jehofa gyda ni. Mae’n defnyddio Iesu a’r angylion i’n helpu. Hefyd, os yw’n unol â’i bwrpas, gall Jehofa ddefnyddio pobl mewn awdurdod i’n helpu. Ac fel mae llawer ohonon ni wedi profi, mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i gymell ein brodyr a’n chwiorydd i’n helpu. Felly, fel Paul, mae gynnon ni reswm da dros ddweud yn llawn hyder: “Yr Arglwydd ydy’r un sy’n fy helpu i; fydd gen i ddim ofn. Beth all pobl ei wneud i mi?”—Heb. 13:6.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

^ Par. 5 Mae’r erthygl hon yn trafod tair ffordd wnaeth Jehofa helpu’r apostol Paul i ddelio â heriau anodd. Bydd atgoffa’n hunain o sut helpodd Jehofa ei weision yn y gorffennol yn cryfhau ein hyder y bydd Jehofa yn ein helpu ninnau heddiw wrth inni wynebu stormydd bywyd.

^ Par. 16 Roedd Aristarchus a Luc wedi bod yn teithio gyda Paul cyn hyn. Hefyd, arhosodd y dynion ffyddlon hyn gyda Paul yn ystod ei garchariad yn Rhufain.—Act. 16:10-12; 20:4; Col. 4:10, 14.