Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 47

Wyt Ti’n Barod i Roi Cyngor ar Waith?

Wyt Ti’n Barod i Roi Cyngor ar Waith?

“Ffrindiau annwyl, byddwch lawen! Newidiwch eich ffyrdd.”—2 COR. 13:11.

CÂN 54 “Dyma’r Ffordd”

CIPOLWG *

1. Yn ôl Mathew 7:13, 14, ym mha ystyr ydyn ni ar daith?

MAE pob un ohonon ni ar daith. Pen y daith honno, a’n nod, yw byw yn y byd newydd o dan reolaeth gariadus Jehofa. Bob diwrnod, rydyn ni’n ceisio dilyn y ffordd sy’n arwain at fywyd. Ond fel dywedodd Iesu, mae’r ffordd honno’n gul, ac ar brydiau’n anodd ei dilyn. (Darllen Mathew 7:13, 14.) Rydyn ni’n amherffaith ac mae’n hawdd inni grwydro oddi arni.—Gal. 6:1.

2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon? (Gweler hefyd y blwch “ Mae Gostyngeiddrwydd yn Ein Helpu i Wneud Newidiadau.”)

2 Os ydyn ni am aros ar y ffordd gul i fywyd, rhaid inni fod yn barod i gywiro ein ffordd o feddwl, ein hagwedd, a’n gweithredoedd. Anogodd yr apostol Paul y Cristnogion yng Nghorinth i ddal ati i ‘newid eu ffyrdd.’ (2 Cor. 13:11) Mae’r cyngor hwnnw yn berthnasol i ninnau hefyd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gall y Beibl helpu i gywiro ein camau a sut gall ffrindiau aeddfed ein helpu i aros ar y llwybr i fywyd. Byddwn ni hefyd yn ystyried beth gall ei gwneud hi’n anodd dilyn cyfarwyddyd cyfundrefn Jehofa. Byddwn ni’n gweld sut gall gostyngeiddrwydd ein helpu i wneud newidiadau heb golli ein llawenydd wrth wasanaethu Jehofa.

GAD I AIR DUW DY GYWIRO

3. Sut gall Gair Duw dy helpu di?

3 Pan geisiwn chwilio ein meddyliau a’n teimladau ein hunain, rydyn ni’n wynebu her. Mae ein calon yn dwyllodrus, a gall hynny ei gwneud hi’n anodd inni wybod i ba gyfeiriad mae’n ein harwain. (Jer. 17:9) Mae’n hawdd inni ‘dwyllo ein hunain’ â rhesymeg anghywir. (Iago 1:22) Felly, mae’n rhaid inni ddefnyddio Gair Duw i chwilio’n hunain yn fanwl. Mae Gair Duw yn datgelu’r hyn rydyn ni’n ei “feddwl ac yn ei fwriadu” yn ein calonnau. (Heb. 4:12, 13) Mewn ffordd mae Gair Duw yn debyg i beiriant pelydr-X sy’n galluogi ni i weld beth sydd ar y tu mewn. Ond mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig os ydyn ni am elwa ar y cyngor a gawn o’r Beibl neu gan gynrychiolwyr Duw.

4. Beth sy’n dangos bod y Brenin Saul wedi troi’n ddyn balch?

4 Mae esiampl y Brenin Saul yn dangos beth all ddigwydd os nad ydyn ni’n ostyngedig. Aeth Saul mor falch nad oedd yn fodlon cyfaddef, hyd yn oed iddo’i hun, fod ei ffordd o feddwl ac ymddwyn angen ei gywiro. (Salm 36:1, 2; Hab. 2:4) Daeth hyn yn amlwg pan roddodd Jehofa gyfarwyddyd penodol i Saul ynglŷn â beth i’w wneud ar ôl trechu’r Amaleciaid. Ond, wnaeth Saul ddim ufuddhau i Jehofa. A phan siaradodd Samuel ag ef ynglŷn â’r mater, gwrthododd Saul cydnabod ei gamgymeriad. Yn hytrach, ceisiodd gyfiawnhau ei weithredoedd drwy finimeiddio canlyniadau ei anufudd-dod a rhoi’r bai ar eraill. (1 Sam. 15:13-24) Roedd Saul wedi ymddwyn mewn ffordd debyg o’r blaen. (1 Sam. 13:10-14) Yn anffodus, caniataodd i’w galon droi’n falch. Wnaeth ef ddim cywiro ei ffordd o feddwl, felly cafodd ei geryddu a’i wrthod gan Jehofa.

5. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Saul?

5 Er mwyn dysgu oddi wrth esiampl Saul, byddai’n dda inni ofyn i ni’n hunain: ‘Pan fyddaf yn darllen cyngor yng Ngair Duw, ydw i’n edrych am esgusodion dros beidio â’i roi ar waith? Ydw i’n meddwl bod yr hyn dw i’n ei wneud ddim mor ddrwg â hynny? Ydw i’n dueddol o roi’r bai ar eraill am yr hyn dw i’n ei wneud?’ Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hynny, mae’n rhaid inni newid ein ffordd o feddwl a’n hagwedd. Fel arall, gall ein calon droi mor falch y bydd Jehofa yn ein gwrthod ni fel ffrind.—Iago 4:6.

6. Disgrifia’r gwahaniaeth rhwng y Brenin Saul a’r Brenin Dafydd.

6 Sylwa ar y gwahaniaeth rhwng y Brenin Saul a’r Brenin Dafydd, dyn a oedd “wrth ei fodd yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau.” (Salm 1:1-3) Gwyddai Dafydd fod Jehofa yn achub y rhai gostyngedig ond yn gwrthod y rhai balch. (2 Sam. 22:28) Felly, caniataodd Dafydd i gyfraith Duw gywiro ei ffordd o feddwl. Ysgrifennodd: “Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi; yn y nos y mae fy meddyliau’n fy hyfforddi.”—Salm 16:7, BCND.

GAIR DUW

Mae Gair Duw yn ein rhybuddio ni pan fyddwn ni’n crwydro oddi ar y llwybr. Os ydyn ni’n ostyngedig, rydyn ni’n caniatáu i Air Duw gywiro ein ffordd o feddwl anghywir (Gweler paragraff 7)

7. Beth byddwn ni’n ei wneud os ydyn ni’n ostyngedig?

7 Os ydyn ni’n ostyngedig, byddwn ni’n gadael i Air Duw gywiro unrhyw feddyliau anghywir cyn inni weithredu arnyn nhw. Bydd Gair Duw fel llais sy’n dweud: “Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!” Bydd yn ein rhybuddio pan fyddwn yn gwyro oddi ar y llwybr—i’r dde neu’r chwith. (Esei. 30:21) Byddwn ni ar ein hennill mewn nifer o ffyrdd os gwnawn ni wrando ar Jehofa. (Esei. 48:17) Er enghraifft, gwnawn ni osgoi’r cywilydd o gael ein cywiro gan rywun arall. Ac fe wnawn ni glosio at Jehofa am ein bod yn gwybod ei fod yn gofalu amdanon ni fel tad cariadus.—Heb. 12:7.

8. Yn ôl Iago 1:22-25, sut gallwn ni ddefnyddio Gair Duw fel drych?

8 Gall Gair Duw weithio fel drych inni. (Darllen Iago 1:22-25.) Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n edrych yn y drych bob bore cyn inni adael y tŷ. Dyna sut gallwn weld os oes raid inni dwtio’n hunain cyn i eraill ein gweld ni. Yn yr un modd, pan fyddwn yn darllen y Beibl bob dydd, byddwn yn gweld sut gallwn ni addasu ein ffordd o feddwl a’n hagwedd. Mae llawer yn ei gweld hi’n fuddiol i ddarllen testun y dydd bob bore cyn gadael y tŷ. Maen nhw’n gadael i’r hyn maen nhw’n ei ddarllen effeithio ar eu ffordd o feddwl. Yna, drwy gydol y diwrnod, maen nhw’n edrych am ffyrdd i roi cyngor Gair Duw ar waith. Hefyd, mae’n rhaid inni astudio a myfyrio ar Air Duw bob dydd. Efallai bod hyn yn swnio’n syml, ond mae’n un o’r pethau pwysicaf gallwn ei wneud i aros ar y llwybr cul i fywyd.

GWRANDA AR FFRINDIAU AEDDFED

FFRINDIAU AEDDFED

Efallai bydd brawd neu chwaer aeddfed yn rhoi rhybudd caredig inni. A ydyn ni’n ddiolchgar bod ein ffrind wedi bod yn ddigon dewr i ddweud rhywbeth? (Gweler paragraff 9)

9. Pam fyddai ffrind angen dy gywiro di?

9 Wyt ti erioed wedi dechrau crwydro oddi wrth Jehofa? (Salm 73:2, 3) Os oedd ffrind aeddfed yn ddigon dewr i dy gywiro di, a wnest ti wrando arno a rhoi ei gyngor ar waith? Os felly, fe wnest ti’r peth iawn, ac mae’n siŵr dy fod ti’n falch fod dy ffrind wedi dy rybuddio di.—Diar. 1:5.

10. Sut dylet ti ymateb os bydd ffrind yn dy gywiro di?

10 Mae Gair Duw yn ein hatgoffa ni: “Mae’n well cael eich brifo gan ffrind.” (Diar. 27:6) Beth mae hynny’n ei olygu? Ystyria’r eglureb hon: Dychmyga dy fod am groesi stryd brysur ac mae dy ffôn yn tynnu dy sylw. Rwyt ti’n camu i’r stryd heb edrych i fyny. A dyma dy ffrind yn cydio yn dy fraich ac yn dy dynnu di’n ôl ar y pafin. Mae’n cydio arnat ti mor dynn mae’n cleisio dy fraich, ond mae ei ymateb sydyn yn dy achub di rhag cael dy daro gan gar. Hyd yn oed os bydd y clais yn brifo am ddyddiau wedyn, a fyddet ti’n flin gyda dy ffrind am ei fod wedi gafael ynot ti? Na fyddet siŵr! Fe fyddet ti’n ddiolchgar am ei help. Mewn ffordd debyg, os bydd ffrind yn dy rybuddio di am fod dy eiriau neu dy ymddygiad ddim yn unol â safonau cyfiawn Duw, gall hyn dy frifo i gychwyn. Ond paid â digio wrth ei gyngor na phwdu. Byddai hynny’n beth ffôl i’w wneud. (Preg. 7:9) Yn hytrach, bydda’n falch fod dy ffrind wedi bod yn ddigon dewr i ddweud rhywbeth.

11. Beth all achosi i rhywun wrthod cyngor da gan ffrind?

11 Beth all achosi i rywun wrthod cyngor da gan ffrind cariadus? Balchder. Mae pobl falch yn hoffi clywed jest “beth maen nhw eisiau ei glywed.” Maen nhw’n “gwrthod beth sy’n wir.” (2 Tim. 4:3, 4) Yn eu tyb nhw, dydyn nhw ddim angen cyngor am eu bod yn meddwl eu bod yn ddoethach ac yn bwysicach nag eraill. Ond, ysgrifennodd yr apostol Paul: “Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain—dych chi’n neb mewn gwirionedd.” (Gal. 6:3) Daeth y Brenin Solomon i’r casgliad hwn: “Mae bachgen ifanc doeth o gefndir tlawd yn well na brenin mewn oed sy’n ffôl ac yn gwrthod derbyn cyngor.”—Preg. 4:13.

12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r esiampl a osododd yr apostol Pedr yn Galatiaid 2:11-14?

12 Sylwa ar yr esiampl a osododd yr apostol Pedr pan gafodd ei gywiro’n gyhoeddus gan yr apostol Paul. (Darllen Galatiaid 2:11-14.) Gallai Pedr fod wedi digio oherwydd y ffordd siaradodd Paul ag ef, ac am ei fod wedi gwneud hynny o flaen pobl eraill. Ond roedd Pedr yn ddoeth. Derbyniodd y cyngor a pheidio â dal dig yn erbyn Paul. Yn hytrach, cyfeiriodd at Paul yn nes ymlaen fel “brawd annwyl.”—2 Pedr 3:15.

13. Pa bwyntiau dylen ni gadw mewn cof wrth roi cyngor?

13 Os byddi di’n teimlo fod angen rhoi cyngor i ffrind rywbryd, pa bwyntiau dylet ti gadw mewn cof? Cyn iti siarad â dy ffrind, gofynna iti dy hun, ‘Ydw i’n “rhy siŵr ohono i fy hun,” neu’n rhy gyfiawn?’ (Preg. 7:16) Mae rhywun sy’n rhy gyfiawn yn beirniadu eraill, nid yn ôl safonau Jehofa, ond yn ôl ei safonau ei hun, a hynny heb fod yn rhyw drugarog iawn. Os ar ôl meddwl yn ofalus am dy resymau, rwyt ti dal yn teimlo bod angen siarad â dy ffrind, dyweda wrtho yn union beth yw’r broblem a defnyddia gwestiynau safbwynt i helpu dy ffrind i sylweddoli ei gamgymeriad. Gwna’n siŵr fod popeth rwyt ti’n ei ddweud yn seiliedig ar y Beibl, gan gofio bod dy ffrind yn atebol, nid i ti, ond i Jehofa. (Rhuf. 14:10) Dibynna ar ddoethineb Gair Duw, ac wrth iti roi cyngor i rywun, efelycha dosturi Iesu. (Diar. 3:5; Math. 12:20) Pam? Oherwydd bydd Jehofa yn ein trin ni fel y byddwn ninnau’n trin eraill.—Iago 2:13.

DILYNA GYFARWYDDYD ODDI WRTH GYFUNDREFN DUW

CYFUNDREFN DUW

Mae cyfundrefn Duw yn darparu cyhoeddiadau, fideos, a chyfarfodydd sy’n ein helpu i roi cyngor Gair Duw ar waith. Ar adegau, mae’r Corff Llywodraethol yn addasu’r ffordd mae’r gwaith yn cael ei drefnu (Gweler paragraff 14)

14. Beth mae cyfundrefn Duw yn ei ddarparu ar ein cyfer ni?

14 Mae Jehofa yn ein harwain ni ar hyd y ffordd i fywyd drwy gyfrwng rhan ddaearol ei gyfundrefn, sy’n darparu fideos, cyhoeddiadau, a chyfarfodydd sy’n helpu pob un ohonon ni i roi cyngor Gair Duw ar waith. Mae’r wybodaeth hon wedi ei seilio’n gadarn ar yr Ysgrythurau. Wrth benderfynu sut i fynd o gwmpas y gwaith pregethu yn y ffordd orau, mae’r Corff Llywodraethol yn dibynnu ar yr ysbryd glan. Ond eto, maen nhw’n adolygu’n rheolaidd eu penderfyniadau ynglŷn â sut mae’r gwaith yn cael ei drefnu. Pam? “Am fod y byd fel y mae yn dod i ben,” ac yn newid yn gyflym, felly mae’n rhaid i gyfundrefn Duw addasu i amgylchiadau newydd.—1 Cor. 7:31.

15. Pa her mae rhai cyhoeddwyr wedi ei wynebu?

15 Wrth gwrs, rydyn ni’n barod i ddilyn cyfarwyddyd Beiblaidd ynglŷn â materion athrawiaethol a moesol. Ond sut rydyn ni’n ymateb pan fydd cyfundrefn Duw yn gwneud newid sy’n effeithio ar agweddau eraill o’n bywydau? Er enghraifft, yn y blynyddoedd diweddaraf mae’r gost o adeiladu a chynnal addoldai wedi cynyddu’n fawr iawn. Felly, mae’r Corff Llywodraethol wedi rhoi cyfarwyddyd i bob Neuadd y Deyrnas gael ei defnyddio i’w llawn botensial. Dyna pam mae rhai cynulleidfaoedd wedi cael eu cyfuno, a rhai Neuaddau’r Deyrnas wedi cael eu gwerthu. Yna, mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu adeiladu neuaddau mewn ardaloedd sydd eu hangen fwyaf. Os wyt ti mewn ardal lle mae neuaddau’n cael eu gwerthu a chynulleidfaoedd yn cael eu cyfuno, efallai dy fod ti’n ei chael hi’n anodd addasu i’r amgylchiadau newydd. Mae rhai cyhoeddwyr nawr yn gorfod teithio ymhellach i’r cyfarfodydd. Efallai bydd eraill sydd wedi gweithio’n galed i adeiladu neu gynnal Neuadd y Deyrnas yn methu deall pam mae’r neuadd bellach yn cael ei gwerthu. Efallai eu bod nhw’n teimlo bod eu hamser a’u hegni wedi cael eu gwastraffu. Er hynny, maen nhw’n cydweithio â’r drefn newydd ac yn haeddu canmoliaeth.

16. Sut bydd rhoi cyngor Colosiaid 3:23, 24 ar waith yn ein helpu i gadw’n llawenydd?

16 Byddwn ni’n cadw ein llawenydd os byddwn ni’n cofio ein bod ni’n gweithio i Jehofa a’i fod yn arwain ei gyfundrefn. (Darllen Colosiaid 3:23, 24.) Gosododd y Brenin Dafydd esiampl dda wrth gyfrannu arian tuag at adeiladu’r deml. Dywedodd: “Ond pwy ydw i, a phwy ydy fy mhobl i, ein bod ni’n gallu cyfrannu fel yma? Y gwir ydy, oddi wrthot ti mae popeth yn dod yn y pen draw. Dŷn ni ddim ond yn rhoi yn ôl i ti beth sydd biau ti.” (1 Cron. 29:14) Pan fyddwn ni’n cyfrannu arian byddwn ninnau’n rhoi i Jehofa beth mae ef eisoes wedi ei roi i ni. Er hynny, mae Jehofa’n gwerthfawrogi’r amser, yr egni, a’r adnoddau rydyn ni’n eu cyfrannu i gefnogi ei waith ef.—2 Cor. 9:7.

ARHOSA AR Y LLWYBR CUL

17. Pam na ddylet ti ddigalonni os bydd angen iti newid dy ffyrdd?

17 Er mwyn aros ar y llwybr cul i fywyd, mae’n rhaid i bob un ohonon ni ddilyn esiampl Iesu yn agos. (1 Pedr 2:21) Os wyt ti’n meddwl dy fod ti angen newid dy ffyrdd, paid â digalonni. Mewn gwirionedd, gall hynny fod yn arwydd da sy’n dangos dy fod ti’n effro i arweiniad Jehofa. Cofia fod Jehofa yn gwybod ein bod yn amherffaith ar hyn o bryd, felly dydy ef ddim yn disgwyl inni ddilyn esiampl Iesu yn berffaith.

18. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cyrraedd ein nod?

18 Gad inni i gyd ganolbwyntio ar y dyfodol a bod yn fodlon newid ein ffordd o feddwl, ein hagwedd, a’n gweithredoedd. (Diar. 4:25; Luc 9:62) Gad inni aros yn ostyngedig ac yn llawen wrth inni gywiro ein ffyrdd. (2 Cor. 13:11) Os gwnawn ni hynny, “bydd y Duw sy’n rhoi cariad a heddwch perffaith gyda [ni].” Wedyn byddwn ni nid yn unig yn cyrraedd pen y daith, ond hefyd yn mwynhau’r siwrnai.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

^ Par. 5 Efallai y bydd rhai ohonon ni yn ei chael hi’n anodd gwneud newidiadau yn ein ffordd o feddwl, ein hagwedd, a’n gweithredoedd. Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam mae’n rhaid inni i gyd wneud newidiadau, a sut gallwn ni gadw ein llawenydd wrth wneud hynny.

^ Par. 76 DISGRIFIAD O’R LLUN: Wrth i’r brawd ifanc adrodd beth ddigwyddodd ar ôl iddo wneud penderfyniad gwael, mae’r brawd hŷn (ar y dde) yn gwrando heb gynhyrfu er mwyn penderfynu a oes angen rhoi cyngor neu beidio.