Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 48

“Edrych yn Syth o Dy Flaen” i’r Dyfodol

“Edrych yn Syth o Dy Flaen” i’r Dyfodol

“Edrych yn syth o dy flaen, cadw dy olwg ar ble wyt ti’n mynd.”—DIAR. 4:25.

CÂN 77 Goleuni Mewn Byd Tywyll

CIPOLWG *

1-2. Sut gallwn ni ddilyn cyngor Diarhebion 4:25? Rho esiampl.

DYCHMYGA’R sefyllfaoedd canlynol. Mae chwaer oedrannus yn hel atgofion melys am ei gorffennol. Er bod ei bywyd hi’n anoddach nawr, mae hi’n dal ati i wneud popeth yn ei gallu ar gyfer Jehofa. (1 Cor. 15:58) Bob dydd, mae hi’n dychmygu ei hun gyda’i hanwyliaid yn y byd newydd. Mae chwaer arall yn cofio ei bod hi wedi cael ei brifo gan gyd-grediniwr, ond mae hi’n dewis peidio â dal dig. (Col. 3:13) Mae brawd yn ymwybodol iawn o’i gamgymeriadau yn y gorffennol, ond mae’n canolbwyntio ar aros yn ffyddlon o hyn ymlaen.—Salm 51:10.

2 Beth sy’n gyffredin rhwng y tri Christion hyn? Mae pob un ohonyn nhw yn cofio beth ddigwyddodd yn eu gorffennol, ond dydyn nhw ddim yn aros yno. Yn hytrach, maen nhw’n ‘edrych yn syth o’u blaenau’ i’r dyfodol.—Darllen Diarhebion 4:25.

3. Pam mae hi’n bwysig edrych yn syth ymlaen i’r dyfodol?

3 Pam mae hi’n bwysig “edrych yn syth o dy flaen” i’r dyfodol? Yn union fel na all rhywun gerdded mewn llinell syth os yw’n edrych yn ôl o hyd, allwn ninnau ddim symud ymlaen yn ein gwasanaeth i Jehofa os ydyn ni’n edrych yn ôl i’n gorffennol o hyd.—Luc 9:62.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair magl a allai achosi inni fyw yn y gorffennol, * sef, (1) hiraeth, (2) dal dig, a (3) euogrwydd gormodol. Ym mhob achos, byddwn ni’n gweld sut gall egwyddorion y Beibl ein helpu i beidio â chanolbwyntio ar “beth sydd tu cefn” inni, ond i ganolbwyntio ar ‘beth sydd o’n blaenau.’—Phil. 3:13.

MAGL HIRAETH

Beth all ein rhwystro ni rhag edrych yn syth ymlaen i’r dyfodol? (Gweler paragraffau 5, 9, 13) *

5. Pa fagl mae Pregethwr 7:10 yn ein rhybuddio ni amdani?

5 Darllen Pregethwr 7:10. Sylwa fod yr adnod hon ddim yn dweud ei bod hi’n anghywir i ofyn: “Pam oedd pethau’n dda ers talwm?” Mae atgofion melys yn anrheg gan Jehofa. Yn hytrach, mae’n dweud: “Paid gofyn, ‘Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?’” Mewn geiriau eraill, y fagl yw cymharu ein hamgylchiadau gynt â’n rhai presennol, gan ddod i’r casgliad fod popeth yn waeth bellach. Mae cyfieithiad arall o’r Beibl yn trosi’r adnod fel hyn: “Paid byth â gofyn, ‘O, pam oedd pethau gymaint gwell yn y dyddiau a fu?’ Dydy hynny ddim yn gwestiwn call.”

Ar ôl gadael yr Aifft, pa gamgymeriad wnaeth yr Israeliaid? (Gweler paragraff 6)

6. Pam nad ydy hi’n beth doeth i feddwl o hyd roedd ein bywyd yn well yn y gorffennol? Rho esiampl.

6 Pam nad ydy hi’n beth doeth i feddwl o hyd roedd ein bywyd yn well yn y gorffennol? Gall hiraeth achosi inni gofio dim ond y pethau da o’n gorffennol. Neu, gall achosi inni wneud yn fach o’r anawsterau roedden ni’n arfer eu hwynebu. Er enghraifft, ystyria’r Israeliaid gynt. Yn fuan iawn ar ôl gadael yr Aifft, gwnaethon nhw anghofio pa mor anodd oedd eu bywyd yno. Yn hytrach, gwnaethon nhw ganolbwyntio ar y bwyd da roedden nhw wedi ei fwynhau. Dywedon nhw: “Yr ydym yn cofio’r pysgod yr oeddem yn eu bwyta yn rhad [heb gost] yn yr Aifft, a’r cucumerau, y melonau, y cennin, y wynwyn a’r garlleg.” (Num. 11:5, BCND) Ond a wnaethon nhw fwyta heb gost mewn gwirionedd? Naddo. Talon nhw bris uchel; bryd hynny, roedden nhw’n cael eu trin yn gas fel caethweision yn yr Aifft. (Ex. 1:13, 14; 3:6-9) Ond yn hwyrach, gwnaethon nhw anghofio am y caledi hynny a hiraethu am y gorffennol. Dewison nhw ganolbwyntio ar yr hen ddyddiau braf yn hytrach na’r pethau da oedd Jehofa newydd eu gwneud drostyn nhw. Doedd Jehofa ddim yn hapus â’u hagwedd nhw.—Num. 11:10.

7. Beth helpodd un chwaer i osgoi magl hiraeth?

7 Sut gallwn ni osgoi magl hiraeth? Ystyria esiampl chwaer a ddechreuodd wasanaethu yn Bethel Brooklyn ym 1945. Rai blynyddoedd wedyn, priododd hi frawd o’r Bethel, a gwasanaethon nhw yno gyda’i gilydd am lawer o flynyddoedd. Ond, ym 1976, aeth ei gŵr yn sâl. Pan sylweddolodd ef ei fod ar fin marw, rhoddodd gyngor da iddi i’w helpu i ymdopi â bod yn weddw. Dywedodd wrthi: “’Dyn ni wedi cael priodas hapus. Ddim pawb sy’n gallu dweud hynny.” Ond rhoddodd anogaeth iddi hefyd: “Paid â byw yn y gorffennol, er bod yr atgofion yn felys. Bydd amser yn helpu i leddfu dy boen. Paid â digalonni a theimlo bechod drostot ti dy hun. Bydda’n falch bod ni wedi cael amser mor dda yn gwasanaethu Jehofa gyda’n gilydd. . . . Mae atgofion yn rhodd gan Dduw.” Dyna iti gyngor da!

8. Sut gwnaeth ein chwaer elwa o beidio â byw yn y gorffennol?

8 Dilynodd ein chwaer gyngor ei gŵr. Gwasanaethodd Jehofa yn ffyddlon nes iddi farw yn 92 oed. Rai blynyddoedd ynghynt, dywedodd hi: “Wrth edrych yn ôl dros y 63 o flynyddoedd y bues i’n gwasanaethu Jehofa yn llawn amser, gallaf ddweud bod fy mywyd wedi bod yn un hapus dros ben.” Pam? Aeth ati i esbonio: “Yr hyn sy’n gwneud ein bywyd yn hapus yw’r ffaith ein bod yn rhan o deulu hyfryd o frodyr a chwiorydd, a’r gobaith sydd gynnon ni o fyw gyda nhw ar baradwys ddaear, yn gwasanaethu ein Creawdwr Mawr, yr unig wir Dduw, Jehofa, am byth.” * Am esiampl wych o rywun a edrychodd yn syth ymlaen i’r dyfodol!

MAGL DAL DIG

9. Yn ôl Lefiticus 19:18, pryd gallai fod yn arbennig o anodd inni beidio â dal dig?

9 Darllen Lefiticus 19:18. Mae’n gallu bod yn anodd weithiau i beidio â dal dig os mai cyd-grediniwr, ffrind agos, neu berthynas sydd wedi ein brifo. Er enghraifft, gwnaeth un chwaer gyhuddo chwaer arall o ddwyn arian oddi arni, ond yn hwyrach ymlaen, sylweddolodd y chwaer gyntaf ei bod wedi rhoi bai ar gam ac ymddiheurodd. Ond, roedd y chwaer gafodd ei chyhuddo wedi ei brifo i’r byw a pharhaodd i ganolbwyntio ar beth ddigwyddodd. A wyt ti erioed wedi teimlo felly? Hyd yn oed os nad ydyn ni wedi wynebu yr un sefyllfa, mae’n debyg fod y rhan fwyaf ohonon ni wedi dal dig yn erbyn rhywun ac wedi credu na allen ni byth faddau iddyn nhw.

10. Beth all ein helpu ni pan fyddwn yn dal dig?

10 Beth all ein helpu ni pan fyddwn yn dal dig? Un peth yw cofio bod Jehofa’n gweld popeth. Mae’n ymwybodol o bopeth rydyn ni’n ei wynebu, gan gynnwys unrhyw anghyfiawnder. (Heb. 4:13) Mae’n teimlo droston ni pan ydyn ni’n dioddef. (Esei. 63:9) Ac mae’n addo y bydd, yn y pen draw, yn cael gwared ar unrhyw boen a ddaeth o ganlyniad i anghyfiawnder.—Dat. 21:3, 4.

11. Sut mae peidio â dal dig o les inni?

11 Rydyn ni hefyd eisiau cofio y bydd maddau i eraill o les i ninnau. Dyna beth sylweddolodd y chwaer a gafodd fai ar gam. Ymhen amser, llwyddodd i gael gwared ar ei drwgdeimlad. Daeth hi i ddeall bod maddau i eraill yn golygu y bydd Jehofa yn maddau i ni. (Math. 6:14) Doedd hyn ddim yn golygu ei bod hi wedi esgusodi beth wnaeth y chwaer arall, ond dewisodd beidio â dal dig. O ganlyniad, roedd ein chwaer yn hapusach ac yn gallu canolbwyntio ar ei gwasanaeth i Jehofa.

MAGL EUOGRWYDD GORMODOL

12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o 1 Ioan 3:19, 20?

12 Darllen 1 Ioan 3:19, 20. Rydyn ni i gyd yn teimlo’n euog ar brydiau. Er enghraifft, mae rhai’n teimlo’n euog oherwydd y pethau wnaethon nhw cyn dysgu’r gwir. Mae eraill yn teimlo’n euog oherwydd camgymeriadau a wnaethon nhw ar ôl bedydd. Mae teimladau o’r fath yn gyffredin. (Rhuf. 3:23) Wrth gwrs, rydyn ni eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn. Ond, “dyn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.” (Iago 3:2; Rhuf. 7:21-23) Er nad ydyn ni’n mwynhau teimlo’n euog, gall fod o les inni. Sut? Oherwydd gall euogrwydd ein hysgogi i gywiro ein ffyrdd a bod yn benderfynol o beidio ag ailadrodd ein camgymeriadau.—Heb. 12:12, 13.

13. Pam mae’n rhaid inni warchod ein hunain rhag euogrwydd gormodol?

13 Ar y llaw arall, mae hi’n bosib teimlo euogrwydd gormodol—hynny yw, parhau i deimlo’n euog hyd yn oed ar ôl inni edifarhau ac ar ôl i Jehofa ddangos ei fod wedi maddau inni. Gall y math hwnnw o euogrwydd fod yn niweidiol. (Salm 31:10; 38:3, 4) Sut felly? Ystyria esiampl un chwaer a oedd yn brwydro teimladau o euogrwydd dros bechodau’r gorffennol. Dywedodd hi: “Waeth imi heb â gwneud ymdrech yng ngwasanaeth Jehofa oherwydd mae’n debyg ei bod hi’n rhy hwyr imi beth bynnag.” Mae llawer ohonon ni’n gallu uniaethu â theimladau’r chwaer. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gwarchod ein hunain rhag magl euogrwydd gormodol. Wedi’r cwbl, meddylia pa mor hapus fyddai Satan petasen ni ddim yn maddau i’n hunain ac yn colli gobaith, er bod Jehofa wedi maddau inni ac yn dal i’n caru.—Cymhara 2 Cor. 2:5-7, 11.

14. Sut gallwn ni fod yn sicr fod Jehofa wedi maddau inni?

14 Ond eto, gallen ni feddwl, ‘Sut alla i fod yn sicr fod Jehofa wedi maddau imi?’ Mewn ffordd, drwy ofyn y cwestiwn hwnnw, rydyn ni hefyd yn ei ateb. Ddegawdau yn ôl, dywedodd y Tŵr Gwylio: “Efallai byddwn ni’n baglu ac yn syrthio llawer o weithiau dros ryw arfer drwg sydd wedi treiddio’n ddyfnach i’n hen ffordd o fyw nag yr oedden ni’n sylweddoli. . . . Paid â digalonni. Paid â meddwl dy fod ti wedi gwneud rhywbeth na all Jehofa byth ei faddau. Dyna’n union beth mae Satan eisiau iti feddwl. Mae’r ffaith dy fod ti’n teimlo’n drist ac yn flin gyda dy hun yn brawf ynddo’i hun nad wyt ti wedi mynd yn rhy bell. Paid byth â blino ar weddïo yn ostyngedig ac yn daer ar Dduw, gan ofyn am faddeuant, am gydwybod lân, ac am help. Dos ato fel mae plentyn yn mynd at ei dad pan fydd mewn trafferth. Ni waeth pa mor aml rwyt yn mynd at Jehofa gyda’r un gwendid, bydd yn dy helpu di allan o’i garedigrwydd mawr.” *

15-16. Sut mae rhai wedi teimlo pan wnaethon nhw sylweddoli nad oedd Jehofa wedi cefnu arnyn nhw?

15 Mae llawer o bobl Jehofa wedi cael cysur o sylweddoli nad oedd Jehofa wedi cefnu arnyn nhw. Er enghraifft, rai blynyddoedd yn ôl, cafodd un brawd ei galonogi gan brofiad o’r gyfres “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.” Yn yr erthygl honno, gwnaeth chwaer gyfaddef bod y pethau drwg a ddigwyddodd yn ei bywyd wedi ei gwneud yn anodd iddi gredu y gallai Jehofa ei charu. Brwydrodd â’r teimladau hyn am flynyddoedd ar ôl ei bedydd. Ond wrth iddi fyfyrio ar y pridwerth, dechreuodd weld pethau yn wahanol. *

16 Pa effaith gafodd ei phrofiad ar y brawd? Ysgrifennodd: “Pan o’n i’n ifanc, o’n i’n gaeth i bornograffi, ac oedd hi’n anodd iawn imi stopio. Yn ddiweddar, llithrais yn ôl i’r hen arfer. Wnes i droi at yr henuriaid am help, ac erbyn hyn dw i’n agos at ennill y frwydr. Mae’r henuriaid wedi fy atgoffa o gariad a thrugaredd Duw. Ond eto, ar brydiau, dw i’n dal i deimlo’n ddiwerth, fel petai hi’n amhosib i Jehofa fy ngharu. Roedd darllen profiad y chwaer yn help mawr. Bellach, dw i’n sylweddoli, pan fydda i’n meddwl fy mod i tu hwnt i faddeuant Jehofa, fod hyn fel dweud nad ydy aberth ei Fab yn ddigon i faddau fy mhechodau. Dw i wedi torri’r erthygl allan fel y galla i ei darllen a myfyrio arni bryd bynnag dw i’n teimlo nad ydy Jehofa’n fy ngharu.”

17. Sut llwyddodd yr apostol Paul i osgoi’r fagl o euogrwydd gormodol?

17 Mae profiadau fel hyn yn ein hatgoffa o’r apostol Paul. Cyn iddo ddod yn Gristion, fe bechodd yn ddifrifol nifer o weithiau. Cofiodd Paul yr hyn roedd wedi ei wneud, ond doedd ef ddim yn meddwl amdano drwy’r amser. (1 Tim. 1:12-15) Roedd yn ystyried y pridwerth yn anrheg bersonol iddo ef. (Gal. 2:20) Felly, llwyddodd Paul i osgoi’r fagl o euogrwydd gormodol, a chanolbwyntiodd ar wneud ei orau i Jehofa o hynny ymlaen.

CANOLBWYNTIA AR Y BYD NEWYDD!

Gad inni fod yn benderfynol o ganolbwyntio ar y byd newydd (Gweler paragraffau 18-19) *

18. Beth rydyn ni wedi ei ddysgu yn yr erthygl hon?

18 Beth rydyn ni wedi ei ddysgu o drafod y maglau yn yr erthygl hon? (1) Mae atgofion melys yn fendith gan Jehofa; ond ni waeth pa mor dda oedd ein bywyd yn y gorffennol, bydd ein dyfodol yn y byd newydd gymaint yn well. (2) Efallai bydd eraill yn ein brifo, ond pan fyddwn ni’n dewis maddau, gallwn ni symud yn ein blaenau. (3) Gall euogrwydd gormodol ein rhwystro rhag gwasanaethu Jehofa yn llawen. Felly fel Paul, mae’n rhaid inni gredu bod Jehofa wedi maddau inni.

19. Sut rydyn ni’n gwybod na fydd y gorffennol yn pwyso’n drwm ar ein meddyliau yn y byd newydd?

19 Mae gynnon ni’r gobaith o fyw am byth. Ac ym myd newydd Duw, fydd y gorffennol ddim yn pwyso’n drwm ar ein meddyliau ni. Wrth sôn am yr adeg honno, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd pethau’r gorffennol wedi eu hanghofio.” (Esei. 65:17) Meddylia: Mae rhai ohonon ni wedi heneiddio yng ngwasanaeth Jehofa, ond yn y byd newydd, byddwn ni’n ifanc unwaith eto. (Job 33:25) Felly, gad inni fod yn benderfynol o beidio â byw yn y gorffennol. Yn hytrach, gad inni edrych i’r dyfodol a chanolbwyntio ar y byd newydd!

CÂN 142 Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith

^ Par. 5 Mae’n gallu bod yn beth da i gofio am ein gorffennol. Ond dydyn ni ddim eisiau canolbwyntio gymaint arno fel ein bod ni’n methu gwneud y mwyaf o’r presennol, neu’n anghofio beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Bydd yr erthygl hon yn trafod tair magl a allai achosi inni fyw yn y gorffennol. Byddwn ni’n ystyried sut gall egwyddorion Beiblaidd ac esiamplau ein brodyr a’n chwiorydd ein helpu i osgoi pob un o’r maglau hyn.

^ Par. 4 ESBONIAD: Yn yr erthygl hon, mae “byw yn y gorffennol” yn golygu hel atgofion am ein gorffennol—ein bod ni wastad yn siarad amdano, yn ei ail-fyw, neu’n meddwl roedd ein bywyd yn well yr adeg honno.

^ Par. 14 Gweler y Tŵr Gwylio Saesneg, Chwefror 15, 1954, t. 123.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae hiraeth, dal dig, ac euogrwydd fel beichiau trwm rydyn ni’n eu llusgo, ac sy’n ein rhwystro rhag cerdded yn ein blaenau ar hyd y ffordd i fywyd.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl inni ollwng ein gafael ar y teimladau beichus hyn, teimlwn yn hapus, yn llawn rhyddhad, ac rydyn ni’n adennill ein nerth. Yna, byddwn ni’n gallu edrych yn ein blaenau.